Opsiynau i'r dyfodol ar gyfer y cynllun cymhorthdal llaeth ysgol: crynodeb o’r asesaiad o’r effaith
Crynodeb o'r opsiynau gyda nodau ac effeithiau.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Bu'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol (Saesneg yn unig) ar waith ers 1977. Yn hanesyddol, mae'r Cynllun gwerth £3 miliwn sy'n cael ei arwain gan alw, wedi cael ei weinyddu gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r Cynllun presennol yn darparu llaeth am ddim i ddysgwyr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr ym mlwyddyn 3 i 6.
Er nad oes data am nifer y dysgwyr yn cael eu casglu'n rheolaidd drwy broses hawliadau'r Asiantaeth Taliadau Gwledig, gellir casglu tueddiadau o nifer yr hawliadau. Mae data ychwanegol ar niferoedd sy'n manteisio ar y Cynllun ar gael drwy'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD). Felly, mae'n bosibl amcangyfrif nifer y dognau llaeth a ddarperir bob blwyddyn. Mae data CYBLD yn dangos bod 81,374 o ddisgyblion yn derbyn llaeth ar ddiwrnod y cyfrifiad yn 2024 i 2025. Mae'r ffigur hwn yn cynrychioli tua 30.44% o'r 267,346 o ddisgyblion sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yng Nghymru.
Crynodeb o'r cynnig
Gan fod y trefniadau cyflwyno o'r cynllun presennol yn dod i ben, ochr yn ochr â'r ddarpariaeth sefydledig o brydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, prydau ysgol am ddim sy'n seiliedig ar brawf modd (eFSM), darpariaeth frecwast i blant cynradd, a chyflwyno Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025, mae'n briodol adolygu'r dull polisi yn y dyfodol ar gyfer darparu llaeth mewn ysgolion.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried naill ai:
- (Opsiwn 1): disodli’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, y gyfraith bresennol a gymathwyd, a weithredir drwy strategaeth ar y cyd rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac a weinyddir gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, gyda model a ariennir gan grant a ddarperir drwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, neu
- (Opsiwn 2): Dod â'r cynllun llaeth pwrpasol i ben, gan gydnabod y byddai llaeth yn parhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio ysgol i ddysgwyr sy’n cymryd rhan.
Dylid ystyried darpariaeth llaeth o fewn amgylchedd ehangach bwyd ysgol. Gyda'i gilydd, mae prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, eFSM a darpariaeth frecwast mewn ysgolion a'r Rheoliadau Bwyta'n Iach yn darparu fframwaith cynhwysfawr i gefnogi mynediad at fwydydd a diodydd maethlon yn ystod y diwrnod ysgol. Mae ysgolion yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo ymddygiadau bwyta iach ac annog bwyta bwyd a diodydd maethlon, gan gynnwys llaeth a chynhyrchion llaeth, trwy ddull ysgol gyfan o ymdrin â bwyd. Mae darpariaeth bwyd ysgol yn cyfrannu at iechyd a llesiant dysgwyr, yn cefnogi datblygiad arferion deietegol iach, ac yn helpu i wneud y gorau o gyfranogiad mewn rhaglenni bwyd maethlon.
Mae'r adolygiad yn gyfle i ystyried rôl darpariaeth llaeth ochr yn ochr ag amcanion polisi bwyd ysgolion ehangach, gan gynnwys gwella deiet plant, cefnogi iechyd a llesiant, hyrwyddo ymddygiadau bwyta iach a sicrhau dull cydlynol o ddarparu bwyd mewn ysgolion a gynhelir.
Sut mae'r pum ffordd o weithio wedi llywio datblygiad y polisi neu'r ddeddfwriaeth hon a'r broses o'u rhoi ar waith?
Hirdymor
Mae tirwedd bwyd ysgol yng Nghymru wedi newid yn sylweddol ers cyflwyno'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn 1977. Mae dysgwyr bellach yn cael budd o becyn cymorth bwyd ysgol ehangach, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i holl blant cynradd, eFSM, darpariaeth brecwast am ddim i blant cynradd, a chyflwyno Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025
Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn yn cefnogi mynediad at fwyd a diod maethlon yn ystod y diwrnod ysgol ac yn cyfrannu at amcanion ehangach sy'n ymwneud ag iechyd, llesiant, cyrhaeddiad addysgol a lleihau anghydraddoldebau.
Fel rhan o'r cynnig bwyd ysgol ehangach hwn, mae llaeth yn parhau i fod ar gael trwy ddarpariaeth brecwast a chinio a gyflawnir yn unol â safonau bwyd yr ysgol. O ganlyniad, nid yw mynediad at laeth am ddim bellach yn dibynnu'n llwyr ar gynllun llaeth ysgol pwrpasol.
Felly, nid a yw llaeth yn parhau i fod ar gael mewn ysgolion yw'r gwahaniaeth allweddol rhwng y ddau opsiwn, ond a oes angen dull pwrpasol i gefnogi a hyrwyddo ei ddefnydd yn yr hirdymor. Mae Opsiwn 1 yn darparu llwybr pwrpasol a chyson i ddarparu llaeth ochr yn ochr â rhaglenni bwyd ysgol presennol. Mae Opsiwn 2 yn dibynnu ar fynediad drwy'r cynnig bwyd ysgol ehangach. Er y byddai llaeth yn parhau i fod ar gael o dan Opsiwn 2, mae'r effeithiau'n ddarostyngedig i'r cyfyngiadau tystiolaeth a nodir yn yr adran Bylchau Allweddol mewn Tystiolaeth.
Atal
Mae ysgolion yn darparu amgylchedd bwyd cymharol ddiogel ac yn cynnig lleoliad pwysig ar gyfer hyrwyddo ymddygiadau bwyta iach a lleihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â bwyd a maeth drwy fynediad cyfartal at opsiynau bwyd a diod iachach.
Mae'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yn ceisio chwarae rôl ataliol wrth fynd i'r afael â rhai heriau iechyd a heriau cymdeithasol ac yn symud y ffocws ar ymyrraeth gynnar a lleihau'r galw yn y dyfodol ar wasanaethau cyhoeddus:
- Drwy gefnogi deietau iach yn gynnar mewn bywyd, mae'n cyfrannu at atal anghydraddoldebau iechyd hirdymor a'r costau cysylltiedig.
- Mae manteision ehangach (ymddygiad, cyrhaeddiad a llesiant gwell) yn helpu i atal datgysylltiad addysgol a chanlyniadau bywyd gwaeth.
- Nododd rhanddeiliaid fod cymhlethdod gweinyddol yn rhwystr i gyfranogiad. Felly, gall symleiddio gefnogi mwy o gyfranogiad, er bod graddfa unrhyw gynnydd yn ansicr.
Fel y disgrifiwyd yn yr adran hirdymor, gall llaeth barhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio, ond byddai mynediad a defnydd yn dibynnu ar ddysgwyr yn cymryd rhan yn y gwasanaethau hynny.
Mae prydau ysgol am ddim i holl blant cynradd, eFSM a darpariaeth frecwast yn cefnogi iechyd plant drwy sicrhau bod gan bob plentyn oedran cynradd fynediad at bryd ysgol maethlon sy'n bodloni'r Rheoliadau, gan helpu i hyrwyddo arferion a gweithgareddau bwyta iach a chefnogi llesiant, ymddygiad a pharodrwydd i ddysgu. Fel hawl gyffredinol, mae prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau drwy gael gwared ar rwystrau ariannol i gael mynediad at bryd o fwyd iach, lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â darpariaeth sy'n seiliedig ar brawf modd, a lleddfu pwysau cost byw ar deuluoedd.
Integreiddio
Mae Opsiwn 1 yn dangos integreiddio cryf ar draws amcanion polisi:
- Mae'n cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn enwedig Cymru iachach a mwy cyfartal.
- Mae integreiddio â phrydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a darpariaeth frecwast ysgol yn creu cynnig bwyd ysgol mwy cydlynol a chyson.
- Mae'n cyfrannu at nifer o amcanion ar yr un pryd, gan gynnwys:
- iechyd a maeth
- cyrhaeddiad addysgol
- lleihau anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol
- cefnogi sector llaeth Cymru
Mae'r cynnig hefyd yn cefnogi blaenoriaethau trawslywodraethol sy'n sicrhau nad yw'r polisi'n gweithredu ar ei ben ei hun ond yn cyfrannu at ddarpariaeth gydgysylltiedig ar draws addysg, iechyd, amaethyddiaeth a pholisi cymdeithasol.
Gallai Opsiwn 2, dod â'r cynllun i ben, effeithio ar sawl amcan ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Lleihau tlodi plant ac ansicrwydd bwyd.
- Cefnogi ymddygiadau bwyta iachach ymhlith plant.
- Gwella cyrhaeddiad addysgol a llesiant dysgwyr.
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ymyriadau ataliol.
- Cefnogi amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd a chymunedau gwledig Cymru.
- Cyflwyno pecyn integredig o gymorth bwyd ysgol drwy ysgolion.
Er na fyddai dod â'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol i ben yn dileu mynediad at laeth yn llwyr, gan y gallai llaeth barhau i fod ar gael drwy ddarpariaeth brecwast a chinio, byddai mynediad a defnydd yn dibynnu ar ddysgwyr yn cymryd rhan yn y gwasanaethau hynny fel yr amlinellir yn yr adran ar fylchau mewn tystiolaeth.
Gallai hyn gael effeithiau canlyniadol ar draws ystod o nodau llesiant, amcanion Llywodraeth Cymru ac amcanion cyrff cyhoeddus partner, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd, cydraddoldeb, tlodi plant a chefnogaeth i economïau gwledig.
Cydweithredu
Bu cydweithio yn rhan annatod o'r broses o ddatblygu'r ddau opsiwn. Mae'r cynllun presennol yn dibynnu ar amrywiaeth o bartneriaid cyflawni, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, cyflenwyr a'r Asiantaeth Taliadau Gwledig.
I lywio Opsiwn 1, bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Taliadau Gwledig, awdurdodau lleol a chyflenwyr i ddeall y trefniadau cyflawni presennol, i nodi rhwystrau i gyfranogiad ac i ddatblygu model newydd cynaliadwy.
Byddai trosglwyddo'r ddarpariaeth drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol yn cryfhau'r broses o gydweithio ymhellach drwy sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â threfniadau bwyd ysgol presennol awdurdodau lleol. Byddai gwaith ymgysylltu, monitro ac adolygu parhaus yn cefnogi gwelliant parhaus a chyfrifoldeb a rennir dros gyflawni ledled Cymru.
Pe bai Opsiwn 2 yn cael ei ddilyn, byddai angen cydweithio parhaus i ddeall a rheoli effeithiau posibl. Byddai hyn yn cynnwys gweithio gyda'r canlynol:
- Awdurdodau lleol a gwasanaethau arlwyo ysgolion i ddeall y goblygiadau ar gyfer darparu bwyd ysgol a chyfleoedd i hyrwyddo llaeth drwy raglenni presennol.
- Ysgolion a chyrff llywodraethu i asesu'r effeithiau posibl ar fynediad a niferoedd sy'n manteisio ar y cynllun.
- Cyflenwyr llaeth a sefydliadau cynrychioliadol i ddeall y goblygiadau i'r gadwyn cyflenwi llaeth ac economïau gwledig.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru a gweithwyr iechyd proffesiynol i ystyried effeithiau ar faeth, anghydraddoldebau iechyd ac amcanion bwyta'n iach.
- Plant a phobl ifanc, lle bo'n briodol, i ddeall profiadau a barn dysgwyr ar gael llaeth drwy ddarpariaeth bwyd ysgol amgen.
Cymryd rhan
Mae cyfranogiad rhanddeiliaid wedi chwarae rhan bwysig wrth lunio'r cynnig. Llywiodd y broses o ymgysylltu â'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ystyriaeth o drefniadau cyflawni yn y dyfodol ac amlygodd yr heriau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r cynllun presennol. Dylanwadodd eu hadborth yn uniongyrchol ar y broses o ddatblygu Opsiwn 1 a'r penderfyniad i fabwysiadu model grant sy'n cael ei arwain gan alw drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol.
Bydd cyfranogiad rhanddeiliaid yn parhau drwy gydol y broses o roi Opsiwn 1 ar waith i fonitro cyfranogiad, nodi rhwystrau a chefnogi gwelliant parhaus.
Os caiff Opsiwn 2 ei ystyried ymhellach, bydd angen ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid drwy ymgynghoriad wedi'i gynllunio cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol. Byddai hyn yn cynnwys:
- Ymgysylltu â phob awdurdod lleol i ddeall goblygiadau cyflenwi lleol.
- Ymgynghori ag ysgolion, cyflenwyr a chyrff cynrychioliadol ar effeithiau gweithredol, ariannol ac addysgol.
- Ystyried safbwyntiau dysgwyr a rhieni, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu'n fwy ar ddarpariaeth bwyd yn yr ysgol o bosibl.
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid gwledig ac amaethyddol i ddeall yr effeithiau posibl ar fusnesau llaeth a chadwyni cyflenwi lleol yng Nghymru.
- Cyfranogiad parhaus Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid cydraddoldeb i asesu'r effeithiau posibl ar ddysgwyr difreintiedig ac anghydraddoldebau iechyd.
Sut mae'r polisi yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy a chanlyniadau llesiant hirdymor?
Mae Opsiwn 1 yn cefnogi datblygu cynaliadwy drwy gynnal y mynediad presennol at laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal i ddysgwyr cymwys drwy fodel cyflenwi newydd. Gall llaeth gyfrannu at faeth plant a chanlyniadau iechyd ehangach fel rhan o ddeiet cytbwys. Drwy gynnal llwybr pwrpasol i ddarpariaeth, mae'n debygol y bydd yr opsiwn yn cyfrannu'n gadarnhaol at nodau llesiant Cymru Iachach a Cymru sy'n Fwy Cyfartal, yn enwedig i ddysgwyr a allai gael budd o fynediad cyson at ddarpariaeth bwyd yn yr ysgol.
Mae'r opsiwn hefyd yn cefnogi Cymru Lewyrchus drwy gynnal y galw o fewn cadwyn cyflenwi llaeth Cymru, gan gynnwys cynhyrchwyr, proseswyr a chyflenwyr gwledig. Mae cyflawni'r cynllun drwy'r Grant Addysg Awdurdod Lleol yn sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn agosach â rhaglenni bwyd ysgol ehangach, gan gefnogi dull mwy integredig a chynaliadwy o'i gyflawni.
Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun newydd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a ddylid cyfyngu cymhwysedd i ysgolion a gynhelir ac ysgolion arbennig, gan sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â pholisïau bwyd ysgol ehangach Llywodraeth Cymru. Mae ysgolion annibynnol yn gymwys o dan y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol presennol a bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn llywio unrhyw benderfyniad terfynol ar gymhwysedd yn y dyfodol. Dim ond un ysgol annibynnol y gwyddom sy'n ei hawlio o dan y cynllun ar hyn o bryd.
Gallai Opsiwn 2 gefnogi datblygu cynaliadwy drwy symleiddio gweinyddol a lleihau costau cyflawni. Byddai dysgwyr yn parhau i gael cyfleoedd i gael mynediad at laeth drwy’r cynnig bwyd ysgol ehangach, gan gynnwys brecwastau a chiniawau ysgol a ddarperir yn unol â Rheoliadau Bwyta’n Iach.
Mae'r asesiad yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau tystiolaeth a ddisgrifir yn yr adran ar Fylchau Allweddol mewn Tystiolaeth. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd Opsiwn 2 yn gwneud cyfraniad gwannach at nodau llesiant Cymru Iachach a Cymru sy'n Fwy Cyfartal nag Opsiwn 1. Gall hefyd arwain at lai o alw am laeth a gyflenwir i ysgolion, gydag effeithiau andwyol posibl ar rannau o sector llaeth Cymru ac economïau gwledig, gan arwain at gyfraniad gwannach at Cymru Lewyrchus.
Beth yw'r effeithiau allweddol (cyfleoedd cadarnhaol a negyddol) mewn perthynas â phob un o'r saith nod llesiant?
Nod llesiant: Cymru Lewyrchus
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Cynnal y galw am gynhyrchion llaeth Cymru a chefnogi cynhyrchwyr, proseswyr a chyflenwyr llaeth, gan gynnwys busnesau gwledig.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Gallai gostyngiad posibl yn y galw am laeth ysgol effeithio'n negyddol ar rai cyflenwyr ac economïau gwledig.
Mae Opsiwn 2 hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ailgyfeirio tua £3 miliwn y flwyddyn i flaenoriaethau addysgol, iechyd neu wrthdlodi amgen. Byddai manteision cymharol unrhyw ailddyraniad o'r fath yn dibynnu ar benderfyniadau Gweinidogol yn y dyfodol ac felly ni chânt eu hasesu yn yr Asesiad Effaith Integredig hwn.
Potensial i wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau cyhoeddus.
Cyfleoedd
Mae Opsiwn 1 yn cynnig cyfleoedd i awdurdodau lleol alinio caffael â phrosesau prynu bwyd ysgol ehangach a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol.
Nod llesiant: Cymru Gydnerth
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Effaith niwtral i raddau helaeth, er bod cefnogaeth barhaus i gynhyrchu bwyd Cymru yn cyfrannu'n anuniongyrchol at gadwyni cyflenwi lleol gwydn.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Gallai gostyngiad posibl yn y galw am gynhyrchion llaeth Cymru gael effaith andwyol fach ar wydnwch y gadwyn gyflenwi.
Cyfleoedd
Cyfleoedd i annog caffael cynaliadwy a lleol drwy drefniadau bwyd ysgol presennol.
Nod llesiant: Cymru Iachach
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Effaith gadarnhaol drwy fynediad parhaus at laeth, gan gefnogi maeth, twf iach, llesiant, gallu i ganolbwyntio a pharodrwydd i ddysgu. Gall y cynllun hefyd gyfrannu at amcanion llesiant ac amcanion addysgol ehangach drwy gefnogi mynediad at fwyd a diod maethlon o fewn amgylchedd yr ysgol.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Risg o ostyngiad yn y defnydd o laeth ymhlith rhai dysgwyr, yn enwedig y rhai nad ydynt yn manteisio ar glybiau brecwast na phrydau ysgol.
Mynediad parhaus drwy Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd a darpariaeth brecwast.
Cyfleoedd
Gallai mwy o integreiddio â phrydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a darpariaeth frecwast gryfhau'r cynnig bwyd ysgol cyffredinol a negeseuon bwyta'n iach.
Nod llesiant: Cymru sy'n Fwy Cyfartal
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Effaith gadarnhaol drwy gynnal mynediad at laeth am ddim a llaeth â chymhorthdal a chefnogi dysgwyr difreintiedig.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Risg o amrywiad cynyddol mewn mynediad a defnydd rhwng ysgolion a grwpiau dysgwyr, gan effeithio'n arbennig ar aelwydydd incwm is.
Cyfleoedd
Gallai targedu cymorth ymhellach drwy raglenni bwyd ysgol ehangach helpu i leihau anghydraddoldebau.
Nod llesiant: Cymru o Gymunedau Cydlynus
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Cefnogi mynediad cyson at ddarpariaeth bwyd ysgol a phrofiadau a rennir ledled Cymru.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Gallai amrywiad posibl yn y ddarpariaeth leol arwain at brofiadau dysgwyr gwahanol rhwng cymunedau.
Cynnig bwyd ysgol symlach ac integredig.
Cyfleoedd
Gallai cydweithio ag ysgolion ac awdurdodau lleol helpu i gynnal cysondeb ac ymgysylltiad cymunedol.
Nod llesiant: Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Effaith niwtral i gadarnhaol fach drwy barhau i rannu profiadau ysgol a chyfranogiad mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Effaith niwtral i raddau helaeth gan nad yw mynediad at laeth yn effeithio'n uniongyrchol ar y defnydd o'r Gymraeg.
Cyfleoedd
Gall rhaglenni bwyd ysgolion presennol barhau i gefnogi amgylcheddau Cymraeg a diwylliant bwyd lleol.
Nod llesiant: Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Opsiwn 1: cynllun llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
Cefnogi darpariaeth bwyd gyhoeddus gynaliadwy a defnydd parhaus o gadwyni cyflenwi bwyd sefydledig.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
Niwtral ar y cyfan, er y gallai galw llai am gynhyrchion llaeth gael goblygiadau anuniongyrchol i gynhyrchu a chaffael bwyd lleol.
Llai o brosesau gweinyddol a dyblygu.
Cyfleoedd
Cyfle i gryfhau dulliau caffael lleol a chynaliadwy drwy gontractau bwyd ysgolion ac amcanion polisi bwyd ehangach.
Pa dystiolaeth, gan gynnwys adroddiadau o dan y Ddeddf, sydd wedi llywio'r polisi, a sut y bydd yn cefnogi'r broses barhaus o wneud penderfyniadau?
Mae amrywiaeth o dystiolaeth wedi llywio ystyriaeth o'r ddau opsiwn, gan gynnwys:
- Ymgysylltiad rhanddeiliaid ag awdurdodau lleol, ysgolion, cyflenwyr a'r Asiantaeth Taliadau Gwledig, a nododd heriau gweinyddol a heriau o ran cyflawni sy'n gysylltiedig â'r model presennol sy'n seiliedig ar hawliadau.
- Tystiolaeth faethol ac iechyd sydd wedi'i chrynhoi yn yr Asesiad Effaith Iechyd.
- Polisi bwyd ysgol a fframweithiau deddfwriaethol presennol, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, darpariaeth brecwast ysgol a'r Rheoliadau Bwyta'n Iach.
- Yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb, yr Asesiad Effaith Hawliau Plant, yr Asesiad Effaith Iechyd a'r Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig a gynhaliwyd fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig hwn.
- Ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig nodau Cymru Iachach, Cymru sy'n Fwy Cyfartal a Cymru Lewyrchus.
Bydd y sail dystiolaeth yn parhau i lywio'r broses weithredu a'r penderfyniadau a wneir yn y dyfodol drwy ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid, monitro cyfranogiad a chyflawniad, a gwerthuso effeithiau ar ddysgwyr, grwpiau cydraddoldeb a chymunedau gwledig.
Risgiau, tybiaethau ac ansicrwydd
Opsiwn 1: cynllun cymhorthdal llaeth ysgol newydd drwy'r grant addysg awdurdod lleol
- Tybio y bydd awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y cynllun ac yn ei gyflawni'n effeithiol.
- Tybio y bydd cyd-fynd â phrosesau presennol y Grant Addysg Awdurdod Lleol yn lleihau'r baich gweinyddol.
- Mae ansicrwydd ynghylch y defnydd yn y dyfodol a chysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru.
- Mae data cyfyngedig ar gael i asesu effeithiau ar grwpiau gwarchodedig penodol.
- O dan yr opsiwn hwn, ni fyddai ysgolion annibynnol bellach yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Opsiwn 2: dod â'r cynllun cymhorthdal llaeth ysgol i ben
- Tybio y bydd dysgwyr yn parhau i gael mynediad at laeth drwy ddarpariaeth bwyd ysgol ehangach.
- Tybio y bydd ysgolion yn parhau i hyrwyddo a darparu llaeth trwy ddarpariaeth bwyd ysgol bresennol, gan gynnwys dewisiadau llaeth amgen addas yn ôl yr angen.
- Mae ansicrwydd ynghylch y defnydd o laeth yn y dyfodol os daw'r cynllun pwrpasol i ben.
- Mae tystiolaeth yn gyfyngedig ar effaith llai o welededd ac argaeledd llaeth ar ymddygiad a chanlyniadau dysgwyr.
Bylchau allweddol yn y dystiolaeth
Ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru dystiolaeth a fyddai'n ei galluogi i benderfynu a fyddai dysgwyr sy'n cael llaeth drwy'r Cynllun Cymhorthdal Llaeth ysgol yn yfed meintiau cyfatebol drwy ddarpariaeth bwyd ysgol amgen pe bai'r Cynllun yn dod i ben. O ganlyniad, ni ellir mesur yn sicr ar hyn o bryd beth fyddai effaith debygol Opsiwn 2 ar y defnydd o laeth, y cymeriant maethol a'r canlyniadau cysylltiedig.
Mae sawl bwlch arall mewn tystiolaeth yn cyfyngu ar sicrwydd yr asesiad:
- Ni chafwyd ymgysylltiad uniongyrchol â dysgwyr ar Opsiwn 1, gan ei fod yn ymwneud yn bennaf â newid mewn dull cyflawni yn hytrach na hawl.
- Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw data manwl ar y nifer sy'n manteisio ar y cynllun yn ôl nodwedd warchodedig.
- Mae tystiolaeth gyfyngedig ar gael ar effeithiau penodol y naill opsiwn neu'r llall ar ddysgwyr ag ADY.
- Nid yw'r effaith bosibl ar sector llaeth Cymru wedi'i mesur. Mae'r Cynllun Llaeth Ysgol yn cynrychioli marchnad benodol ar gyfer llaeth sy'n cael ei gyflenwi i ysgolion sy'n cymryd rhan, fodd bynnag, nid yw'r data cyhoeddedig sydd ar gael yn galluogi i'r cyfaint a gyflenwir drwy'r cynllun yng Nghymru gael ei fynegi'n ddibynadwy fel cyfran o farchnad laeth ehangach Cymru. Felly, mae'r effaith gyffredinol ar lefel sector yn ansicr. Serch hynny, efallai y bydd effeithiau mwy crynodedig ar gyflenwyr neu gynhyrchwyr unigol o Gymru lle maent yn cyflenwi llaeth drwy'r cynllun ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i'r sector llaeth a chyflenwyr ddarparu tystiolaeth ar raddfa a dosbarthiad posibl yr effeithiau hyn.
Eir i'r afael â'r bylchau hyn, lle bo modd, drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid, monitro a gwerthuso yn y dyfodol.
Casgliad
Byddai Opsiwn 1 yn cynnal yr hawliau llaeth presennol drwy fodel cyflawni newydd a ariennir gan y Grant Addysg Awdurdod Lleol. Disgwylir i'w effeithiau fod yn niwtral ar y cyfan, gyda manteision posibl o weinyddiaeth symlach ac integreiddio agosach â darpariaeth bwyd ysgol ehangach. Byddai Opsiwn 2 yn dileu'r cynllun pwrpasol. Er y gall llaeth barhau i fod ar gael trwy ddarpariaeth brecwast a chinio, fel yr amlinellir yn yr adran ar Fylchau Allweddol mewn Tystiolaeth.
Felly mae mwy o risgiau yn gysylltiedig ag Opsiwn 2, er nad ydynt wedi'u mesur ar hyn o bryd, i ddysgwyr difreintiedig a rhannau o gadwyn gyflenwi llaeth Cymru.
