Neidio i'r prif gynnwy

Mae Sinema Cymru, cydweithrediad rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy GCmru Greadigol, wedi cyhoeddi enillwyr ei ail rownd o gyllid, cynllun sy'n anelu at ddatblygu sawl cysyniad ffilm yn y Gymraeg gyda'r bwriad o symud o leiaf un ymlaen i gyllid cynhyrchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan Ffilm Cymru Wales, yn neilltuo hyd at £30,000 ar gyfer prosiectau unigol sydd â'r potensial i fod yn barod i'w cynhyrchu o fewn 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod datblygu, gyda dyfarniadau llai o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau mewn camau cynharach.

Mae chwe phrosiect wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer datblygu ffilm yn yr ail rownd hon:

Mogi, gan yr awdur/cyfarwyddwr Mared Swain, cynhyrchwyd gan Jessica Gardner yn Divergence Pictures: Yn profi galar a phwysau bod yn fam newydd, mae Meg yn dechrau bwyta gwaith celf ei diweddar fam i deimlo'n gysylltiedig â hi, ond mae'r dull hwn o ymdopi yn torri ei synnwyr o realiti, gan ei thynnu i frwydr rhithwir dros ei babi, ei hunaniaeth, a'i phwyll.

Awen, gan yr awdur Teleri Hughes: Yn Wrecsam yn yr 1980au, mae dwy chwaer dalentog yn dianc o'u hen dref lofaol am y llwyfan rhyngwladol, ond a yw llwyddiant byd-eang yn werth yr hyn maen nhw'n geisio ei adael ar ôl?

Llyfr Glas Nebo, gan yr awdur Manon Steffan Ros, cynhyrchwyd gan Hannah Thomas yn Severn Screen: Yn addasiad o lyfr Manon Steffan Ros gyda'r un teitl, mae Llyfr Glas Nebo yn stori ôl-apocalyptaidd dyner am fam a mab sy'n adeiladu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar iaith, cof a gobaith yng nghefn gwlad Cymru ar ôl cwymp gwareiddiad modern.

Cwlwm, gan yr awdur/cyfarwyddwr Tom Chetwode-Barton, cynhyrchwyd gan Adam Knopf yn Riot Time Pictures: Mae galar, brad a gwrthwynebiad yn gwrthdaro pan fydd Iwan yn darganfod bod ei famiaith yn cael ei chynaeafu gan yr union dechnoleg a oedd i fod i achub ei gymuned.

Whale Fall, gan yr awdur Hannah Daniel, y cyfarwyddwr Marc Evans, cynhyrchwyd gan Ffion Williams ac Adam Partridge yn Fiction Factory (cyd-gynhyrchiad gyda Samson Films, Iwerddon): Yn addasiad o nofel gyntaf emosiynol Elizabeth O'Connor, mae Whale Fall yn stori dod i oed am berthyn a brâd, wedi'i gosod ar ynys anghysbell yng Nghymru ym 1938 yn erbyn cefndir byd ar fin newid.

Daffodil, gan yr awdur/cyfarwyddwr Yassa Khan, cynhyrchwyd gan Nora Ostler Spiteri yn Triongl: Mae Daffodil yn ffilm amrwd a thelynegol gan yr awdur-gyfarwyddwr Yassa Khan. Wedi'i lleoli yng Nghaernarfon yn ystod diwedd yr 80au a'r 90au, mae'n olrhain brwydr bachgen ifanc am hunaniaeth a hunan-werth wrth dyfu i fyny yng nghysgod ei dad, lleidr banc enwog. Tyner, dirdynnol ac yn drafodaeth ddofn o'r natur ddynol, mae'r ffilm yn ymdrin â'r cyfnod pan fo plentyn yn dechrau deall pwy allai fod yn y pen draw, a’r hyn mae'n gwrthod fod.

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol, mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.

Yn y rownd hon, anogwyd geisiadau gan brosiectau ar gam cynharach yn y broses ddatblygu, gan gydnabod pwysigrwydd datblygu talent sinematig yn yr iaith Gymraeg.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:

Mae'r chwe phrosiect eithriadol hyn yn dangos dyfnder y dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. O straeon pwerus am hunaniaeth a pherthyn i drafodaethau beiddgar o alar a gwytnwch, mae pob ffilm yn arddangos cryfder a bywiogrwydd adrodd straeon yn y Gymraeg. 

Rwy'n falch ein bod drwy Sinema Cymru yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau i ddod â'r lleisiau Cymreig unigryw hyn i sgriniau sinemau ledled y byd.

Mae llwyddiant yr ail rownd hon yn adeiladu ar y cyllid cyntaf, a welodd bedwar prosiect yn cael eu dewis ar gyfer datblygu ffilm yn 2024/5: Gorllewin Gwyllt, Pijin, Lluest ac Estron.

Meddai Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle:

Mae cyhoeddi'r enillwyr yn ail rownd y cynllun hwn yn foment o falchder; mae'n brawf o gryfder ein gwneuthurwyr ffilmiau, a phŵer straeon yn y Gymraeg i gynulleidfaoedd ym mhob man.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu a Chynhyrchu Ffilm Cymru Wales, Gwenfair Hawkins:

Rydym yn falch iawn o weithio eto drwy Sinema Cymru gyda thalent eithriadol o Gymru ar y chwe phrosiect ffilm cyffrous newydd hyn. Maen nhw i gyd yn trafod nodweddion unigryw a hardd ein hiaith a'n diwylliant, trwy archwilio straeon sydd ag apêl a pherthnasedd byd-eang.