Neidio i'r prif gynnwy

Galwad ffôn yn newid bywyd

Siaradwch am roi organau: Dominic Morgan

Cafodd Dominic Morgan ddiagnosis diabetes Math 1 yn 10 oed, wedi’i etifeddu drwy nam genetig, a oedd yn golygu y byddai’n treulio ei fywyd yn monitro ei lefelau glwcos yn y gwaed ac yn chwistrellu inswlin hyd at bedair gwaith y dydd.

Meddai:

Cefais fy annog i fod yn annibynnol gyda’r diabetes ar unwaith fwy neu lai - ac fe wnes i hynny. Roeddwn i’n hoffi dysgu pethau newydd fel plentyn a doeddwn i ddim yn swil am gymryd cyfrifoldeb dros fy ngofal fy hun. Rwy’n cofio dysgu sut i chwistrellu fy hun gydag inswlin, gan ymarfer ar oren.

Roedd iechyd Dominic i fyny a lawr tan ei ugeiniau hwyr.

Yn 2013, dechreuodd popeth fynd o’i le yn gyflym ac roedd Dominic, sy’n byw gyda’i bartner, Louise, yn gwybod bod rhywbeth o’i le gyda’i iechyd.

Meddai:

Doedd gen i ddim symptomau hollol amlwg – ond roedd Louise a minnau yn amau bod rhywbeth ddim yn iawn. Mae byw drwy flynyddoedd o lefelau glwcos gwaed anghyson yn gwneud rhywun yn ymwybodol iawn o’r newidiadau lleiaf yn eich corff, felly penderfynais fynd i gael mesur fy mhwysedd gwaed, ac roedd yn uchel. Ar ôl ymweliad â’r meddyg teulu, cadarnhawyd drwy brofion gwaed bod fy arennau yn methu.

Ym mis Hydref 2016, syrthiodd gweithgarwch arennau Dominic i’r fath raddau ei fod wedi ei roi ar rhestr aros am drawsblaniad. Ar ôl dim ond chwe mis ar y rhestr, â dialysis ar y gorwel, ym mis Mawrth 2017 derbyniodd Dominic yr alwad a fyddai’n newid ei fywyd - roedd aren a phancreas ar gael.

Rydw i mor ddiolchgar i deulu’r rhoddwr am ddewis rhoi’r organau’r person oedd yn annwyl iddyn nhw, oherwydd heb y penderfyniad hwnnw, efallai na fyddwn i wedi bod mor lwcus. Ar ôl y trawsblaniad, profais rywfaint o drallod emosiynol, gan gynnwys meddwl am fy rhoddwr a’r rhodd a gefais. Mae’n gyfnod anodd dygymod ag ef yn eich bywyd, felly dechreuais ganu’r piano i fy helpu i ganolbwyntio, fel ffordd o ymdopi drwy’r cyfnod anodd hwn.

Mae wedi bod yn dair blynedd ers fy nhrawsblaniad a dydw i ddim wedi cael cymhlethdodau difrifol gyda fy organau na fy llygaid. Rydw i hefyd wedi sefyll fy arholiad piano cyntaf a chefais anrhydedd ar lefel gradd 2.

Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau

Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.