Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp o wledydd sy'n cydweithio er mwyn gwarchod yr amgylchedd morol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

 

15 o wledydd o fewn rhanbarth Gogledd-ddwyrain Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio OSPAR. Cafodd ei ffurfio o'r canlynol:

  • Confensiwn Oslo 1972 ynghylch atal llygredd y môr o longau ac awyrennau
  • Confensiwn Paris 1974 ynghylch atal llygredd y môr o'r tir

Mae OSPAR yn ymwneud llawer iawn â Strategaeth Forol y DU, ac mae'r DU yn arwain ar sawl un o'r meysydd polisi allweddol hyn sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd. Mae'n ymwneud â phum thema allweddol o dan Strategaeth Amgylcheddol Gogledd-ddwyrain Cefnfor Iwerydd:

  • amrywiaeth fiolegol ac amrywiaeth o fewn ecosystemau
  • sylweddau peryglus
  • sylweddau ymbelydrol
  • ewtroffigedd (gall maethynnau gormodol yn y dwr a achosir gan weithgarwch pobl arwain at ddiffyg ocsigen)
  • diwydiant ar y môr

Mae'n allweddol sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio er mwyn gwarchod ein hamgylchedd morol.