Neidio i'r prif gynnwy
Jazz o Abertawe

Roedd gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer fy ngradd Meistr mor hawdd ac roeddwn i'n gallu gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl ar yr un pryd. Mae'n wych fy mod i'n dal i gael cymorth i helpu gyda chostau byw wrth i mi barhau i astudio.

Mae Jazz yn astudio Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl, ac yn gobeithio defnyddio ei phrofiadau ei hun o gael diagnosis o awtistiaeth ac ADHD i helpu eraill drwy yrfa ym maes ymchwil, rhywbeth na fyddai'n gallu ei wneud heb radd Meistr.

Dywed Jazz:

“Ar ôl mwynhau fy nghwrs israddedig, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau parhau i astudio ar gyfer gradd Meistr. Rwyf wrth fy modd yn dysgu mwy am seicoleg a deall sut mae meddyliau pobl yn gweithio. Roeddwn yn gwybod hefyd y byddai'n helpu fy rhagolygon gyrfa pan fyddaf yn graddio pe bawn i'n dal ati i astudio.

“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl, gan ddefnyddio rhai o'm profiadau fy hun o gael diagnosis o awtistiaeth ac ADHD yn hwyr o gymharu â phobl eraill. Mae gwneud gradd wedi fy helpu i'm paratoi i gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnaf ar gyfer swydd o'r fath, yn enwedig gan fod cynifer o'm modiwlau'n seiliedig ar ymchwil.”

Fel y cyntaf yn ei theulu i fynd i'r brifysgol, mae Jazz yn esbonio pa mor falch oedd ei theulu, a sut y llwyddodd i gael y cymorth ariannol yr oedd ei angen arni i'w helpu i dderbyn ei lle.

Aeth ymlaen i ddweud:

“Roedd bod y cyntaf yn fy nheulu i gael cynnig lle yn y brifysgol mor gyffrous, ac roedd pawb yn y teulu wedi gwirioni'n lân. Rwy'n dod o gefndir dosbarth gweithiol, a chenedlaethau o'm blaen heb allu fforddio mynd, er eu bod am wneud hynny. Heb y cymorth ariannol rwy'n ei gael o'm benthyciadau costau byw o dros £10,000 a'm grantiau o bron i £7,000 gan gynnwys y grant Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), yr un fyddai fy hanes i hefyd.

“Rwy'n gallu talu am fy llety a'm costau byw o ddydd i ddydd drwy fy menthyciad ac roeddwn i'n gallu gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl  ar ôl cael fy niagnosis. Cefais liniadur wedi'i addasu'n arbennig gyda rhaglenni meddalwedd sy'n fy helpu i gyfleu'r hyn rwyf am ei ddweud mewn ffordd fwy proffesiynol nag y byddwn yn gallu ei wneud fel arfer, sy'n help enfawr pan fyddaf yn cyflwyno darnau ysgrifenedig o waith.

“Mae gen i fentor prifysgol hefyd sy'n fy helpu i reoli fy amser sy'n rhywbeth sy'n gallu peri cryn drafferth i mi. Mae hi'n fy helpu i gynllunio fy wythnos fel y gallaf wneud yn siŵr fy mod i'n gwneud fy holl waith heb straen.

“Roedd gwneud cais am gymorth ariannol ar gyfer fy nghwrs Meistr mor hawdd, roeddwn i'n gallu gwneud cais gan ddefnyddio'r un manylion a'r un wefan ag y gwnes i ar gyfer fy ngradd israddedig ac mae'n wych fy mod i'n dal i gael cymorth i helpu gyda chostau byw wrth i mi barhau â'm hastudiaethau.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio