Neidio i'r prif gynnwy
Kirsty o Casnewydd

Os oes gennych chi agwedd benderfynol a’r cymorth ariannol cywir y tu cefn i chi, gallwch astudio mewn modd sy’n gweddu i chi a’ch ymrwymiadau. Dwi mor falch fy mod wedi cymryd y cam hwn yn fy ngyrfa a chyn bo hir bydd gennyf radd a fydd yn agor drysau i mi allu gweithio yn y sector amgylcheddol.

Ar ôl gweithio mewn nifer o swyddi gweinyddol nad oeddent yn ei herio a lle nad oedd cyfleoedd i ddringo’r ysgol chwaith, darganfu Kirsty y cwrs gradd perffaith ar ei chyfer, mewn maes sy’n agos iawn at ei chalon.

Astudiodd Kirsty yn llawn amser am ddwy flynedd, ond oherwydd llwyddiant ei busnes glanhau ecogyfeillgar, penderfynodd newid i fod yn rhan-amser yn ei blwyddyn olaf er mwyn gallu neilltuo amser i’w busnes.

Yn ogystal ag astudio ar gyfer ei chwrs, mae Kirsty hefyd yn rhedeg ei busnes, yn gwneud gwaith cadwraeth ecolegol rhan-amser i gwmni ymgynghori ac yn gofalu am ei chi gwaith.

Dywedodd:

“Ar ôl gorffen fy ngradd, dwi’n gobeithio cael swydd ym maes cadwraeth er mwyn helpu bywyd gwyllt. Mae honno wedi bod yn uchelgais gennyf ers blynyddoedd lawer. Dwi eisiau gwneud cyfraniad i wyddoniaeth a gwneud gwahaniaeth wrth helpu i achub y blaned. Dwi mor falch fy mod bellach ar y trywydd cywir drwy astudio ar gyfer gradd.

“Roedd arian yn ystyriaeth fawr yn fy mhenderfyniad i wneud cais i brifysgol, yn arbennig oherwydd fy mod wedi gweithio mewn swyddi am gyflog isel ar y cyfan. Dwi’n dod o gefndir incwm isel, heb gymorth ariannol gan deulu, felly heb y cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, byddai wedi bod yn amhosib i mi wneud fy ngradd.”

Pan oedd Kirsty yn astudio’n llawn amser am ddwy flynedd cyntaf y cwrs, derbyniodd £4,000 y flwyddyn mewn grantiau i’w chefnogi gyda chostau byw. Ni fydd yn rhaid iddi dalu’r grantiau hyn yn ôl. Ers iddi fynd i astudio yn rhan amser, mae’n derbyn grant o £3,000 ar gyfer costau byw.

Mae Kirsty wedi rheoli ei harian yn ofalus iawn wrth astudio ac mae’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth sydd ar gael. Aiff ymlaen i ddweud:

“Ro’n i’n gwybod y byddwn yn byw ar gyllideb dynnach fel myfyriwr, ond dwi’n gallu talu am bopeth sydd ei angen arnaf, heb fynd i drafferthion ariannol. Dwi nawr yn ystyried gwneud cwrs Meistr, ond heb benderfynu’n iawn eto. Dwi’n gwybod bod yna gymorth ariannol ar gael i mi os bydda i’n dewis y llwybr hwnnw.

“Dwi mor falch fy mod wedi cymryd y cam hwn yn fy ngyrfa a chyn bo hir bydd gennyf radd a fydd yn agor drysau i mi allu gweithio yn y sector amgylcheddol. Gan fod gennyf ymrwymiadau eraill y tu hwnt i’r cwrs, dwi wedi gorfod strwythuro fy astudiaethau yn ofalus, ond dwi wedi llwyddo i wneud hynny. Cefais 91% yn fy aseiniad diwethaf, sydd yn farc gwych – felly dwi yn credu y gallwch gydbwyso eich ymrwymiadau os ydych chi’n benderfynol o wneud hynny.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio