Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rheoliadau aros gartref yn parhau’n gadarn yn eu lle i ddiogelu iechyd pobl. Mae hyn yn golygu bod teithio i Gymru at ddibenion hamdden yn amhosibl o hyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae safleoedd gwersylla, gweithgareddau awyr agored ac atyniadau i dwristiaid ynghyd â llawer o lwybrau cerdded ac ardaloedd o harddwch poblogaidd, megis Eryri, yn dal i fod ar gau i’r cyhoedd er mwyn cadw pobl yn ddiogel a diogelu’r GIG.

Nid yw’r newidiadau i’r gyfraith yn Lloegr sy’n caniatáu i bobl fynd allan at ddibenion hamdden yn yr awyr agored yn berthnasol i Gymru.

Yng Nghymru, mae’r rheolau aros gartref wedi’u llacio fel bod pobl yn gallu gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored fwy nag unwaith y dydd. Rhaid i’r ymarfer corff hwnnw gael ei wneud yn lleol.

Mae Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn cyhoeddi nodyn pwysig i atgoffa unrhyw un sy’n ystyried teithio i Gymru.

Ble bynnag yr ydym yn byw, rydym i gyd yn wynebu bygythiad y Coronafeirws. Mae ein neges yng Nghymru yn parhau i fod yn glir iawn. Arhoswch gartref os gwelwch yn dda.

Mae hynny’n mynd yn groes i’n natur groesawgar arferol, ond am nawr peidiwch ag ymweld â ni.

Byddem wrth ein bodd petawn yn gallu croesawu ymwelwyr i fwynhau ein golygfeydd a’n hatyniadau hyfryd ond i ddiogelu ein GIG ac i gadw pobl yn ddiogel wrth inni ymdrin â’r Coronafeirws, arhoswch gartref ac yn lleol.

Byddai cael gwared ar y cyfyngiadau nawr yn gallu lledaenu’r feirws a gallai hynny beryglu mwy o fywydau ac achosi problemau a chaledi hirdymor i’n diwydiant twristiaeth. 

Os ydych yn teithio pellter sylweddol i Gymru neu o fewn Cymru at ddibenion hamdden, gallech gael eich stopio gan yr heddlu a chael dirwy o dan gyfraith Cymru. Peidiwch â pheryglu eich hun nac eraill, ac am nawr peidiwch ag ymweld â ni.

Edrychaf ymlaen at gyhoeddi neges wahanol iawn yn y dyfodol agos. Edrychaf ymlaen at estyn ‘croeso i bawb’, ond yn nes ymlaen fydd yr amser am hynny.