Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o bwrpas y panel adolygu ffyrdd.

Cyd-destun

Mae Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Trafnidiaeth yng Nghymru i gyflawni ein hymrwymiadau o ran newid yn yr hinsawdd a diogelu cenedlaethau'r dyfodol. Dim ond os gwnawn ni bethau'n wahanol y gellir ei gyflawni.

Wrth symud ymlaen, bydd fframwaith Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd yn sicrhau bod yr holl brosiectau trafnidiaeth unigol a ariennir gennym yn cyd-fynd â chyflawni uchelgeisiau a blaenoriaethau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, mae angen inni adolygu ein cynlluniau presennol o fuddsoddi ar y ffyrdd er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy newydd sy'n blaenoriaethu buddsoddi mewn teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. 

Yn y dyfodol, yn unol â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, bydd y flaenoriaeth a'r ffocws ar gyfer buddsoddi ar y ffyrdd ar:

  • Osgoi gweithredu sy'n cynyddu allyriadau carbon o weithredu, cynnal a gwella'r rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn y 15 mlynedd nesaf;
  • Ailddyrannu'r gofod ffyrdd presennol er mwyn symud i fathau cynaliadwy o drafnidiaeth;
  • Addasu'r seilwaith ffyrdd presennol i ymdopi â'r newid yn yr hinsawdd;
  • Buddsoddi sy'n cynnal diogelwch a gwasanaeth y rhwydwaith ffyrdd presennol yn unol â dyletswyddau statudol, a
  • Gwella bioamrywiaeth ochr yn ochr â llwybrau trafnidiaeth mawr.

Amcanion

Yr amcanion ar gyfer yr Adolygiad Ffyrdd hwn yw:                                                                                                                

  1. Sicrhau bod buddsoddiad ar y ffyrdd yn cyd-fynd yn llwyr â chyflawni; Uchelgeisiau a blaenoriaethau Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru Mehefin 2021 (RhL) ac i'r ail gynllun cyflawni carbon isel sydd i ddod – Sero Net Cymru;
  2. Datblygu cyfres o feini prawf sy'n nodi amgylchiadau priodol lle y dylid gwario cronfeydd Llywodraeth Cymru ar ffyrdd, gan ystyried yr uchod.
  3. Defnyddio'r meini prawf hyn i wneud argymhellion ar ba un o'r cynlluniau presennol o brosiectau buddsoddi ar y ffyrdd y dylid eu cefnogi, eu haddasu neu y dylai cymorth gan Lywodraeth Cymru gael ei dynnu yn ôl;
  4. Darparu canllawiau ar gyfer ailddyrannu gofod ffyrdd ar rannau o'r rhwydwaith ffyrdd a allai elwa yn y dyfodol o wariant gwella; a
  5. Ystyried sut y gellid dyrannu unrhyw arbedion, er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â phroblemau ar y rhwydwaith ffyrdd, ac yn benodol gwneud argymhellion ar sut i fynd i’r afael â’r holl waith cynnal a chadw ffyrdd sydd wedi cronni.

Cwmpas yr Adolygiad

Mae Gweinidogion Cymru yn dymuno i hyn fod yn ymarfer mor eang â phosibl fel y gall ddatblygu meini prawf sy'n berthnasol i bob cynllun yn y dyfodol. Cwmpas cyffredinol yr adolygiad yw cynnwys yr holl fuddsoddiad ffyrdd arfaethedig, boed yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) neu'n anuniongyrchol drwy grant ar y Rhwydwaith Ffyrdd Lleol (LRN), yn amodol ar y canlynol:

  1. Cynnal gwaith gweithredol a cynnal a chadw rheolaidd i sicrhau diogelwch a gwasanaeth yr SRN yn parhau yn ystod cyfnod yr adolygiad hwn. Bydd yr holl ddyletswyddau statudol a'r rhwymedigaethau cytundebol presennol yn parhau i gael eu cadw;
  2. Bydd cynlluniau a ariennir yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ble mae’r gwaith adeiladu wedi mynd yn rhy bell i’w ddirwyn i ben y tu allan i gwmpas yr adolygiad; a
  3. Bydd ffyrdd mynediad sydd â'r prif ddiben o gysylltu safle neu fangre ar gyfer diwydiant trwm â'r briffordd gyhoeddus, neu o fewn ffin safle datblygu diwydiant trwm, yn cael eu heithrio o'r adolygiad. Dylid oedi o ran ffyrdd mynediad gyda'r prif ddiben o wasanaethu datblygiadau preswyl, manwerthu a swyddfeydd / diwydiant ysgafn yn y porth penderfynu nesaf i'w galluogi i gael eu hystyried gan y panel adolygu.

Gwneir cais penodol mewn perthynas â ffordd fynediad Llanbedr.  O ystyried bod brys i wneud penderfyniad ar hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gofyn i Gadeirydd y Panel roi barn benodol ar y cynllun hwn o fewn 4 wythnos i'w benodi. Caiff hyn ei drin yn wahanol i'r prif adolygiad. Cydnabyddir efallai na fydd y farn gyflym hon yn elwa o fewnbynnau'r panel llawn gan nad ydynt efallai wedi eu casglu eto. At hynny, yng ngoleuni'r ffaith na fydd y Panel wedi penderfynu ar eu methodoleg arfarnu erbyn y pwynt hwn, gofynnir i farn y Cadeirydd gael ei strwythuro o amgylch y cwestiynau allweddol canlynol:

  1. A roddwyd digon o ystyriaeth i atebion nad ydynt yn rhai trafnidiaeth ac atebion ar wahân i'r rhai sy'n cynyddu capasiti ceir preifat ar y rhwydwaith ffyrdd?
  2. A roddwyd digon o ystyriaeth i weld a fydd y cynnig ar gyfer ffordd yn arwain at fwy o allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu'n achosi rhwystr sylweddol i gyflawni ein targedau datgarboneiddio?

Gwneir cais penodol pellach mewn perthynas â Gwelliannau Cyffordd 14/15 a 16/16A yr A55.  O ystyried yr angen dybryd am wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid mynd â'r prosiect hwn ymlaen i Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus ai peidio, gofynnir i'r Panel roi eu barn ar y prosiect hwn fel blaenoriaeth ar ôl cytuno ar y meini prawf gwerthuso wedi cyfnod o oddeutu 3 mis.

Methodoleg

Bydd adolygiad o aliniad amcanion buddsoddiad arfaethedig yn erbyn gweledigaeth, nodau ac amcanion Strategaeth Trafnidiaeth Cymru ac ymrwymiadau y Rhaglen Lywodraethu yn cael ei gynnal gan Banel Adolygu Ffyrdd a benodir gan Weinidogion Cymru.

Gofynnir i'r Panel Adolygu Ffyrdd ddarparu opsiynau ac enghreifftiau o sut y gellid ailgyfeirio'r gyllideb tuag at gynnal y rhwydwaith ffyrdd strategol ac ailddyrannu gofod ffyrdd ar y rhwydwaith ffyrdd strategol i annog nodau polisi ehangach fel newid moddol.

Adrodd

Bydd y Panel Adolygu Ffyrdd yn gwneud adroddiad cychwynnol o fewn 3 mis i'w benodi, gan nodi sut y mae'n bwriadu cynnal yr Adolygiad a'r buddsoddiad arfaethedig ar y ffyrdd y mae'n ystyried sydd o fewn cwmpas y Cylch Gorchwyl hwn, i'w gymeradwyo gan Weinidogion. O fewn 9 mis i benodi'r Panel Adolygu Ffyrdd, bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei ddarparu i Weinidogion gan nodi canfyddiadau'r adolygiad.