Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Croeso i adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n pennu’r Penderfyniadau ar gyflogau, treuliau a buddiannau ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i'w gweithredu o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Dyma fy Adroddiad cyntaf fel Cadeirydd y Panel, ar ôl cael fy mhenodi ym mis Mehefin eleni. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i John Bader, y cyn-gadeirydd, am ei wasanaeth dros nifer o flynyddoedd. Fe arweiniodd y Panel drwy ddau ddarn pwysig o waith y llynedd - Adolygiad Annibynnol 10 Mlynedd o'r Panel, a’r gwaith o adfer y cysylltiad rhwng cyflogau aelodau etholedig ac enillion cyfartalog yng Nghymru. Diolch hefyd i Joe Stockley am ei wasanaeth ac mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Bev Smith wedi’i phenodi ym mis Mehefin eleni. Mae Saz Willey, Is-Gadeirydd, a Ruth Glazzard wedi parhau i arwain gwaith y Panel yn ystod y cyfnod hwn o newid ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gefnogaeth maen nhw wedi rhoi i Bev a minnau, fel aelodau newydd.

Eleni, mae'r Panel wedi parhau i ganolbwyntio ar yr argymhellion o'r Adolygiad Deng Mlynedd a'u gweithredu. Mae pedwar llinyn allweddol i'r gwaith hwn, adolygu'r ffordd rydym ni'n gweithio, gosod strategaeth dair blynedd i'r panel, gwella sut rydym ni'n cyfathrebu ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio penderfyniadau.

Rydym wedi dechrau ar yr Adolygiad Effeithiolrwydd a argymhellir o'r ffordd rydym yn gweithio ac wedi dechrau datblygu ein strategaeth tymor hwy gyda Diwrnod Datblygu Panel ym mis Awst. Rydym wedi cytuno y dylai ein cenhadaeth gynnwys cyflwyno fframwaith gwobrwyo teg ac atebol i gymunedau Cymru, fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn ein democratiaeth. Byddwn yn defnyddio'n harbenigedd a'n proffesiynoldeb i feithrin partneriaethau cynaliadwy, dibynadwy, i lywio'n gwaith a gwneud y newidiadau sydd eu hangen ar Gymru.

Ein nod yw gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â'n rhanddeiliaid uniongyrchol a'r cyhoedd. Fel cam cyntaf rydym nawr yn cyhoeddi crynodeb o'n cyfarfodydd misol ar ein gwefan, ond yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud. Ein nod yw gwella hygyrchedd a rhwyddineb ein gwefan a'i datblygu'n adnodd mwy defnyddiol i bobl. Rydym yn bwriadu iddi fod yn storfa hawdd ei defnyddio o wybodaeth am ein Penderfyniadau, a, gan adeiladu ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin cyfredol, datblygu ein Canllawiau ar sut y dylid cymhwyso pob penderfyniad.

Er mai corff annibynnol ydym ni, byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y digwyddiadau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i rannu gwybodaeth, profiad, ac arfer gorau ar draws ystod o bynciau sy'n ymwneud â rôl cynghorydd i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o sut y gallwn weithredu ar y cyd i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol.

Cyn hir, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwaith ymchwil fydd yn edrych ar y rhwystrau i sefyll ar gyfer swyddi etholedig a rôl newidiol y cynghorydd, ac mae’n datblygu rhaglen waith ynghylch rôl y cynghorau cymuned a thref.

Mae'r Panel wedi penderfynu y bydd eleni’n flwyddyn o atgyfnerthu. Cafodd newidiadau mawr eu rhoi ar waith y llynedd, a chytunwyd ar godiad sylweddol yn lefelau cyflog. Hoffem ganiatáu amser i Benderfyniadau'r llynedd ymwreiddio ac i ganiatáu i'r Panel barhau i ddatblygu sylfaen ymchwil a thystiolaeth i lywio penderfyniadau'r dyfodol a symud i gylch cynllunio mwy hirdymor. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried strwythur ein hadroddiadau a sut y gallwn eu gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Daethom i'r casgliad bod llawer o'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn efelychu blynyddoedd blaenorol, yn aml heb newid sylweddol. Ar gyfer yr adroddiad hwn penderfynom ganolbwyntio ar y newidiadau a wnaed o ganlyniad i'r cynigion. Rydym felly wedi penderfynu y bydd mwyafrif y cynnwys a nodir mewn adroddiadau blaenorol yn cael ei ddileu o'r adroddiad a’i osod ar wefan y Panel. Byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu mynd ar y wefan.

Mae’r newid hwn wedi lleihau maint yr adroddiad yn sylweddol a'i wneud yn fwy hylaw i lywio drwyddo. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'n hymdrechion i barchu'r heriau sy'n ein hwynebu wrth ddiogelu ein planed.

Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a byddai gennym ddiddordeb yn eich barn am y dull hwn ac felly rydym wedi gofyn yn benodol am rywfaint o adborth fel rhan o'n cwestiynau Ymgynghori ar ddiwedd yr Adroddiad.

Aelodau’r Panel

  • Frances Duffy, Cadeirydd
  • Saz Willey, Is-gadeirydd
  • Ruth Glazzard
  • Bev Smith

Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau ar y wefan: gwefan Panel

Rôl a chyfrifoldebau'r Panel

Rôl y Panel

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu'r lefelau a'r trefniadau ar gyfer tâl aelodau'r sefydliadau canlynol:

  • prif gynghorau: cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol
  • cynghorau cymuned a thref
  • awdurdodau parciau cenedlaethol
  • awdurdodau tân ac achub
  • cyd-bwyllgorau corfforaethol

Mae'r Panel yn gorff annibynnol ac mae'n gallu gwneud penderfyniadau am y canlynol:

  • y strwythur cyflog sy’n pennu tâl yr aelodau
  • y math o lwfansau a natur y lwfansau hynny sydd i'w talu i aelodau
  • p'un a yw'r taliadau'n orfodol neu'n caniatáu lefel o hyblygrwydd lleol
  • trefniadau o ran absenoldeb teuluol
  • trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel

Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod weithredu'r penderfyniadau a wnânt.

Mae’r Panel hefyd yn ymgynghorai ar gyfer newidiadau arfaethedig i dâl Prif Weithredwyr prif gynghorau.

Egwyddorion

Yn sail i waith y Panel mae set o egwyddorion sy'n llywio ei ddull gweithredu, ei fethodoleg a sut y mae’n gwneud penderfyniadau, sef:

  • cynnal ymddiriedaeth a hyder: mae dinasyddion yn iawn i ddisgwyl bod pawb sy'n dewis gwasanaethu mewn awdurdodau lleol yn cynnal yr ymddiriedaeth gyhoeddus drwy gofleidio'r gwerthoedd a'r foeseg ymhlyg mewn gwasanaeth cyhoeddus o'r fath
  • symlrwydd: mae'r Fframwaith yn glir ac yn ddealladwy
  • tâl Cydnabyddiaeth: mae'r Fframwaith yn darparu ar gyfer taliad i aelodau awdurdodau sy'n gyfrifol am wasanaethu eu cymunedau. Ni ddylai lefel y taliad fod yn rhwystr i ymgymryd â'r swydd neu barhau yn y swydd
  • amrywiaeth: mae democratiaeth yn cael ei chryfhau pan fydd aelodau’r awdurdodau yn adlewyrchu’n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau y mae awdurdodau o'r fath yn eu gwasanaethu
  • atebolrwydd: mae gan drethdalwyr a dinasyddion yr hawl i dderbyn gwerth am arian o arian cyhoeddus sydd wedi’i ymrwymo i fod yn dâl i’r bobl sy'n cael eu hethol, eu penodi neu eu cyfethol i wasanaethu er budd y cyhoedd
  • tegwch: bydd modd cymhwyso'r Fframwaith yn gyson i aelodau o bob awdurdod o fewn cylch gwaith y Panel fel modd o sicrhau bod lefelau tâl yn deg, yn fforddiadwy ac yn dderbyniol ar y cyfan
  • ansawdd: mae'r Panel yn cydnabod bod y cyfuniad cymhleth o lywodraethu, craffu a dyletswyddau rheoleiddio sy'n ddyletswydd ar aelodau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd rhan mewn proses o wella ansawdd yn barhaus
  • tryloywder: mae bod yn dryloyw ynghylch tâl aelodau er budd y cyhoedd

Crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau

Methodoleg

Bob blwyddyn mae'r Panel yn ymgysylltu ag aelodau'r cyrff y mae'n pennu lefelau tâl ar eu cyfer, swyddogion o fewn y sefydliadau hynny, clercod, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Mae'n gwneud hyn trwy ystod o gyfarfodydd sydd, ar hyn o bryd, yn parhau i gael eu cynnal ar-lein yn bennaf. Bydd y Panel yn parhau â’r trafodaethau hyn. Maent yn rhoi cyfle i'r Panel archwilio barn am y trefniadau presennol, yr effaith y mae penderfyniadau'n eu cael ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithredu'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi. Mae hefyd yn gyfle i drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y gallai fod angen i'r Panel eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.

Caiff yr adroddiad drafft ei gyhoeddi’n eang a chaiff aelodau’r cyhoedd eu hannog i ddarparu adborth gwerthfawr, ac maent wedi gwneud hyn ac rydym yn ei groesawu.

Mae'r Panel hefyd yn ystyried adborth ar ôl cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol yn y flwyddyn flaenorol. Mae'n ymddangos bod y newidiadau a wnaed yn Adroddiad y llynedd, yn enwedig y codiad yn y cyflog sylfaenol, wedi cael derbyniad da gan randdeiliaid. Mae'r materion a godwyd gyda'r Panel i gyd yn canolbwyntio ar fanylion y Penderfyniadau, gan ofyn am arweiniad ar sut y dylid eu cymhwyso neu’n gofyn am eglurhad lle roedd testun yr Adroddiad yn aneglur.

Felly, mae'r Panel wedi cytuno i adolygu fformat a strwythur y prif Adroddiad ac i wneud gwell defnydd o wefan y Panel er mwyn darparu gwybodaeth a chanllawiau.

Mae gan y Panel ddyletswydd i osod taliadau sy'n deg ac sy'n annog a galluogi cyfranogiad democrataidd. Rhaid iddo hefyd ystyried fforddiadwyedd a derbynadwyedd.

Wrth wneud ei benderfyniadau ar gyfer yr Adroddiad Drafft hwn, ystyriodd y Panel ystod o feincnodau, gan gynnwys mynegeion blaenorol, cyfredol a rhagamcanol a ffigurau gwirioneddol a’r graddau a’r effaith hysbys ac a ragwelir o nifer o ffactorau economaidd a chymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys amgylcheddau gwaith ar ôl Brexit a COVID a chostau byw, ynni ac argyfyngau hinsawdd.

Ymgynghorwyd ar gynigion y Panel, ac ar ôl ystyried y safbwyntiau a gafwyd mewn ymateb i'w ymgynghoriad, mae'r Panel yn gwneud ei benderfyniadau terfynol a gyhoeddir bob blwyddyn yn ei Adroddiad Blynyddol.

Penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2023 i 2024

Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau: penderfyniad 1

Mae'r cyflog sylfaenol, sy'n cael ei dalu i bob aelod etholedig, yn dâl am y cyfrifoldeb o gynrychioli’r gymuned a chymryd rhan yn y gwaith craffu, rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig llywodraethu lleol. Mae'n seiliedig ar swm sydd gyfwerth â thri diwrnod llawn yr wythnos. Mae'r Panel yn adolygu'r ymrwymiad amser hwn yn rheolaidd, ac ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2023 i 2024.

Y llynedd, ailbennodd y Panel y cyflog sylfaenol i gyd-fynd ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2020 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd hyn yn lleihau'r anghydbwysedd oedd wedi codi rhwng cyflog sylfaenol aelodau o brif gynghorau a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Daeth y newid i rym o etholiadau lleol Mai 2022 ymlaen. Mae'r rhesymeg dros y cam arwyddocaol hwn i'w weld yn Adroddiad Blynyddol y llynedd ac mae papur esboniadol manwl yn nodi'r cyd-destun hanesyddol a'r dadansoddiad ar gael ar wefan y Panel.

Gan adeiladu ar y penderfyniad hwn, mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, ei fod yn iawn i gadw cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn cyd-fynd gyda thair rhan o bump o ASHE Cymru gyfan 2021, y ffigur diweddaraf sydd ar gael wrth ddrafftio. Y cyflog fydd £17,600. Bydd hyn yn gynnydd o 4.76% yn y cyflog sylfaenol.

Cyflogau a delir i aelodau Uwch, dinesig a llywyddol y prif gynghorau: penderfyniad 2

Bydd y cyfyngiad ar nifer y cyflogau uwch sy'n daladwy (“y cap”) yn aros yn ei le. Yn etholiadau lleol 2022 fe wnaeth adolygiadau ffiniau newid nifer yr aelodau i rai cynghorau. Addasodd y Panel y cap cyflog uwch ar gyfer y cynghorau hyn yn ei Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023. Gan nad oes newidiadau pellach ar gyfer 2023 i 2024, mae'r uchafswm o gyflogau uwch sy'n daladwy o fewn pob cyngor yn parhau fel y nodir yn Adroddiad 2022 i 2023.

Mae’r holl gyflogau uwch yn cynnwys y taliad cyflog sylfaenol. Mae'r gwahanol lefelau o gyfrifoldeb ychwanegol rhwng pob rôl yn cael ei gydnabod mewn fframwaith bandiau. Cafodd y fframwaith ei ddiwygio'r llynedd ar ôl adolygiad o wahaniaethau a chymaryddion marchnad. Does dim newidiadau i fandiau yn cael eu cynnig eleni. Yn gynnar y flwyddyn nesaf bydd y Panel yn casglu tystiolaeth gan y prif gynghorau i archwilio a yw'r llwyth gwaith aelodau etholedig wedi newid a sut y mae wedi newid.

Mae'r cynnydd sy’n gysylltiedig ag ASHE 2021 yn berthnasol i elfen rôl cyflogau Band 1 a Band 2, arweinydd, dirprwy arweinydd ac aelodau gweithredol.

Er mwyn cwblhau gwaith y llynedd o ailalinio’r fframwaith, bydd y rheini sy’n derbyn cyflog Band 3 a Band 4 yn derbyn cynnydd bach i elfen rôl eu tâl a bydd elfen rôl taliad Band 5 yn parhau wedi’i rewi. Ni fydd y cynnydd mewn cyflog sylfaenol yn gymwys.

Felly, £66,000 fydd cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A). Mae'r holl daliadau eraill wedi'u penderfynu wrth gyfeirio at hyn ac maent wedi'u nodi yn Nhabl 1

Tabl 1:cyflogau sy'n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch, dinesig a llywydd y prif gynghorau

Grŵp A
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Disgrifiad

 

Tâl Cydnabyddiaeth

Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig)

£17,600

Band 1: arweinydd

£66,000

Band 1: dirprwy arweinydd

£46,200

Band 2: aelodau gweithredol

£39,600

Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig, aelod Lllywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth)

£26,400

Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf

£26,400

Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill/dirprwy bennaeth dinesig

£21,340

Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) £17,600
Grŵp B
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
Disgrifiad
  Tâl Cydnabyddiaeth

Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig)

£17,600

Band 1: arweinydd

£59,400

Band 1: dirprwy arweinydd

£41,580

Band 2: aelodau gweithredol

£35,640

Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig, aelod Lllywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth)

£26,400

Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf

£26,400

Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill/dirprwy bennaeth dinesig

£21,340

Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) £17,600
Grŵp C
  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Disgrifiad
  Tâl Cydnabyddiaeth

Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig)

£17,600

Band 1: arweinydd

£56,100

Band 1: dirprwy arweinydd

£39,270

Band 2: aelodau gweithredol

£33,660

Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig, aelod Lllywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth)

£26,400

Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf

£26,400

Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill/dirprwy bennaeth dinesig

£21,340

Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) £17,600

Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a dalwyd i aelodau etholedig ac felly mae pob Penderfyniad arall o 2022 i 2023 yn dal i sefyll a dylid eu cymhwyso yn 2023 i 24, gan gynnwys y rhai sy'n cwmpasu:

  • teithio a chynhaliaeth
  • gofal a chynhorthwy personol
  • absenoldeb salwch
  • cyd-bwyllgorau corfforaethol
  • cynorthwywyr i'r weithrediaeth
  • cyflogau ychwanegol a threfniadau rhannu swyddi
  • aelodau cyfetholedig

Cyflogau ar gyfer cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu: penderfyniad 3

Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn £8,800.

Bydd cyflog Is-Gadeirydd yn £4,400.

Ni cheir unrhyw newidiadau eraill.

Taliadau tuag at gostau a threuliau aelodau cynghorau cymuned a thref: penderfyniad 4

Y llynedd fe wnaeth y Panel gynnal adolygiad mawr o'r fframwaith taliadau ar gyfer cynghorau cymuned a thref gan gynnal ymarfer ymgynghori cynhwysfawr gyda'r sector. Diweddarwyd y Fframwaith bryd hynny ac eleni mae'r Panel wedi penderfynu gwneud newidiadau cyfyngedig ond pwysig.

Mae’r Panel yn cydnabod bod pob aelod o gynghorau cymuned a thref o reidrwydd yn treulio amser yn gweithio o adref ar fusnes y cyngor. Roedd hyn yn wir cyn ac yn ystod COVID ac mae'n parhau. O ganlyniad, mae gan aelodau gostau domestig ychwanegol ac mae angen nwyddau traul swyddfa arnynt hefyd.

Mae'r Panel o'r farn na ddylai aelodau fod allan o boced am gyflawni eu dyletswyddau. Felly, mae'n cynnig y canlynol.

Taliad sylfaenol ar gyfer y costau ychwanegol o weithio gartref

Rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w haelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol (yn cynnwys gwresogi, goleuadau, pŵer a band eang) sy’n gysylltiedig â gweithio gartref.

Taliad penodol am nwyddau traul

Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mae'n fater i bob cyngor wneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y gwneir y taliadau a ph’un a ydynt yn cael eu talu'n fisol, bob blwyddyn neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd ddatgan a ddylid adennill unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol, a sut i adennill.

Mae lefel y taliadau wedi'u nodi yn Nhabl 2.

Tabl 2: taliadau i gynghorau cymuned a thref
Math o daliad Grŵp

 Gofyniad    

Taliad costau ychwanegol

1 (Etholaeth dros 14,000)

Gorfodol ar gyfer pob aelod

Uwch rrôl

1 (Etholaeth dros 14,000)

Gorfodol ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 7

Maer neu gadeirydd

1 (Etholaeth dros 14,000)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy Faer neu ddirprwy gadeirydd

1 (Etholaeth dros 14,000)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans presenoldeb

1 (Etholaeth dros 14,000)

Dewisol

Colled ariannol

1 (Etholaeth dros 14,000)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

1 (Etholaeth dros 14,000)

Dewisol

Costau gofal neu gynhorthwy personol

1 (Etholaeth dros 14,000)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Gorfodol ar gyfer pob aelod

Uwch rrôl

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Gorfodol ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 5

Maer neu gadeirydd

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy Faer neu ddirprwy gadeirydd

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans presenoldeb

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Dewisol

Colled ariannol

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Dewisol

Costau gofal neu gynhorthwy personol

2 (Etholaeth 10,000 to 13,999)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Gorfodol ar gyfer pob aelod

Uwch rrôl

3 (Etholaeth dros 5,000 to 9,999)

Dewisol hyd at 3 aelod

Maer neu gadeirydd

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy Faer neu ddirprwy gadeirydd

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans presenoldeb

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Dewisol

Colled ariannol

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Dewisol

Costau gofal neu gynhorthwy personol

3 (Etholaeth 5,000 to 9,999)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Gorfodol ar gyfer pob aelod

Uwch rrôl

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol hyd at 3 aelod

Maer neu gadeirydd

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy Faer neu ddirprwy gadeirydd

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans presenoldeb

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol

Colled ariannol

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Dewisol

Costau gofal neu gynhorthwy personol

4 (Etholaeth 1,000 to 4,999)

Gorfodol

Taliad costau ychwanegol

Etholaeth llai na 1,000

Gorfodol ar gyfer pob aelod

Uwch rrôl

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol hyd at 3 aelod

Maer neu gadeirydd

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500

Dirprwy Faer neu ddirprwy gadeirydd

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol: hyd at uchafswm o £500

Lwfans presenoldeb

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol

Colled ariannol

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol

Teithio a chynhaliaeth

Etholaeth llai na 1,000

Dewisol

Costau gofal neu gynhorthwy personol

Etholaeth llai na 1,000

Gorfodol

Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a delir i aelodau etholedig ac felly mae pob Penderfyniad arall o 2022 i 2023 yn dal yn berthnasol, a dylid eu cymhwyso yn 2023 i 24, gan gynnwys y rhai sy'n cynnwys:

  • taliadau am gyflawni uwch rolau
  • cyfraniadau tuag at gostau gofal a chynhorthwy personol
  • ad-daliadau am gostau teithio a chynhaliaeth
  • Iawndal am golled ariannol
  • lwfans presenoldeb
  • aelodau cyfetholedig

Taliadau i awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub: penderfyniad 5

Cafodd y tri pharc cenedlaethol yng Nghymru - Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri eu ffurfio i warchod tirweddau ysblennydd a darparu cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer pob parc.

Mae awdurdodau'r Parc Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebwyd gan y prif gynghorau yn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru ac aelodau sydd wedi'u henwebu gan y Cyngor eu trin yn gyfartal mewn perthynas â thaliadau.

Ffurfiwyd y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru: Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y Prif Gynghorau o fewn pob ardal gwasanaeth tân ac achub.

Bydd y taliadau'n cynyddu o ganlyniad i'r codiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau. Felly, bydd codiad o 4.76% hefyd yn yr elfen cyflog sylfaenol.

Bydd y tâl i Gadeiryddion yn parhau i fod yn gysylltiedig ag uwch-gyflog Band 3 prif gynghorau. Felly ceir cynnydd bach yn elfen rôl eu taliad. Bydd Dirprwy Gyfarwyddwyr, Cadeiryddion Pwyllgorau a phobl mewn uwch-swyddi eraill yn parhau ar Fand 5. Felly, bydd elfen rôl eu taliad yn parhau wedi’i rewi. Bydd y cynnydd mewn cyflog sylfaenol yn gymwys. Mae manylion llawn am lefelau tâl i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, wedi'u nodi yn Nhabl 3.

Tabl 3: taliadau i awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub
Awdurdodau parciau cenedlaethol
  Tâl Cydnabyddiaeth

Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin

£4,964

Cadeirydd

£13,764

Dirprwy gadeirydd (os penodir un)

£8,704

Cadeirydd pwyllgor neu uwch-swydd arall

£8,704

Awdurdodau tân ac achub
  Tâl Cydnabyddiaeth

Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin

£2,482

Cadeirydd

£11,282

Dirprwy gadeirydd (os penodir un)

£6,222

Cadeirydd pwyllgor neu uwch-swydd arall

£6,222

Bydd pob penderfyniad arall ar gyfer 2022 i 2023 yn dal yn berthnasol a dylid ei gymhwyso yn 2023 i 2024, gan gynnwys y rheini sy’n cwmpasu:

  • cyfraniadau tuag at gostau gofal a chynhorthwy personol
  • ad-daliadau am gostau teithio a chynhaliaeth
  • Iawndal am golled ariannol
  • aelodau cyfetholedig
  • cyfyngiadau ar dderbyn ad-daliadau dwbl pan fo aelod yn dal mwy nag un swydd