Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniadau 2024 i 2025 sy'n gymwys i Brif Gynghorau

Cyflwyniad

Rhestr yw hon o'r holl benderfyniadau y mae'r Panel wedi'u gwneud am gyflogau a lwfansau sydd ar waith ar gyfer blwyddyn 2024 i 2025. Gellir dod o hyd i wybodaeth gefndir y Penderfyniadau hyn yn Adroddiadau Blynyddol y Panel ar gyfer 20232024.

Prif Gynghorau

Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig Prif Gynghorau

Mae'r cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ffigur Cymru gyfan ar gyfer enillion cyfartalog fel y nodir yn ASHE, sef yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd y cyhoeddiad perthnasol diweddaraf ar gyfer 2023, sef £18,666. (Penderfyniad 1, 2024)

Cyflogau sy'n daladwy i uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol Prif Gynghorau

Mae'r Panel wedi penderfynu ar uchafswm nifer y cyflogau sy'n daladwy i'r categori hwn o gynghorwyr ym mhob prif gyngor. Nodir hyn yn Atodiad 1, sy'n amlinellu'r ffigurau diweddaraf.

Cyflogau i Uwch-aelodau Prif Gynghorau

Mae cyflogau sy'n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau wedi’u hamlinellu yn Atodiad 2 (Penderfyniad 2, 2024), hynny yw cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £69,998. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill gan gyfeirio at hyn.

Cyfyngiadau ar Gydnabyddiaeth Ariannol Uwch-swyddi

Swyddi yn y prif gyngor (Penderfyniad 7, 2022):

  • ni ddylai aelod etholedig gael cydnabyddiaeth ariannol am fwy nag un uwch-swydd o fewn ei awdurdod ef neu hi
  • ni ddylid talu uwch-gyflog a chyflog dinesig i aelod etholedig
  • mae’r cyflog sylfaenol yn gynwysedig ym mhob uwch-gyflog a chyflog dinesig a delir
  • os yw cyngor yn dewis bod â mwy nag un dirprwy arweinydd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dylid rhannu’r gwahaniaeth rhwng uwch-gyflog y dirprwy arweinydd ac aelodau eraill o'r weithrediaeth â nifer y dirprwy arweinwyr a’i ychwanegu at uwch-gyflog aelodau eraill o'r weithrediaeth er mwyn cyfrifo’r uwch-gyflog sy’n daladwy i bob dirprwy arweinydd

Cyfyngiadau ar dalu am swyddi y tu allan i'r prif gyngor

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u penodi iddo. Mae ganddynt hawl o hyd i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Awdurdod Tân ac Achub. (Penderfyniad 8, 2022)

Ni all aelodau sy’n cael cyflog Band 1 neu Fand 2 dderbyn unrhyw dâl gan gyngor cymuned neu dref y maent yn aelod ohono. Maent yn dal yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth achyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 9, 2022)

Cefnogi gwaith aelodau etholedig prif gynghorau

Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod ei holl aelodau etholedig yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai pobaelod etholedig gael cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i’w galluogi i gael mynediad electronig at wybodaeth briodol. (Penderfyniad 10, 2022)

Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. Ni ddylai’r priod awdurdod ddidynnu symiau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at y costau cymorth y mae’r awdurdod wedi penderfynu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd aelodau. (Penderfyniad 11, 2022)

Uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol a chynorthwywyr y weithrediaeth

Gall prif gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn syrthio o fewn y Fframwaith presennol. (Penderfyniad 12, 2022)

Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth. (Penderfyniad 13, 2022)

Cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol ar y broses gwneud cais ym mis Ebrill 2014.

Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu

Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,333. (Penderfyniad 3, 2024).

Cyflog is-gadeirydd fydd £4,667 (Penderfyniad 3, 2024).

Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 Gyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys grwpiau o brif gynghorau. Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig swyddogaethau penodol sydd wedi’u nodi mewn Rheoliadau. Mae paragraff 4 Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) yn berthnasol i'r Panel.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi’i ddiwygio i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel awdurdodau perthnasol ar gyfer swyddogaethau’r Panel. Felly bydd yn rhaid i unrhyw daliadau a wneir i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu penderfynu gan y Panel.

Gan fod Cyd-bwyllgorau Corfforedig ar gamau cynnar y broses o'u sefydlu, mae’n rhy gynnar i’r Panel ystyried a ddylid rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig a, thros amser, caiff y rôl a'r cyfrifoldeb eu gwerthuso gan gynnwys unrhyw newidiadau i swyddogaeth a rôl aelodau Gweithredol y prif gyngor. Fodd bynnag, ymdriniwyd â'r cwestiwn o dalu cyfraniad at gostau gofal a theithio a chynhaliaeth i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig. 

Rhaid i swyddog priodol yn yr awdurdod nodi ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, fe delir ffi ar sail hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr. (Penderfyniad 40, 2022).

Rhaid talu ffioedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu. (Penderfyniad 41, 2022)

Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai cymorth o’r fath fod heb gostau i’r aelod unigol. (Penderfyniad 42, 2022)

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 

Bydd yr hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gymwys i holl aelodau etholedig cymwys o brif gynghorau. (Penderfyniad 16, 2022)

Darpariaethau Absenoldeb Teuluol i Aelodau Etholedig Prif Gynghorau

Yn yr adran hon, mae “absenoldeb teuluol” yn cyfeirio at absenoldeb mamolaeth, absenoldeb newydd-anedig, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant o fusnes swyddogol. 

Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol dan y rheoliadau gwreiddiol neu unrhyw ddiwygiad i’r rheoliadau, ni waeth beth oedd ei hanes presenoldeb yn union cyn dechrau’r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 17, 2022)

Pan fo deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn dal i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb. (Penderfyniad 18, 2022)

Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol. Bydd yr aelod etholedig dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny. (Penderfyniad 19, 2022)

Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo’n golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol iddo, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau’n uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor. Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath. (Penderfyniad 20, 2022)

Cafodd Cyngor Sir Ynys Môn ei gynnwys ym Mhenderfyniad 20, 2022 ond, o ganlyniad i newidiadau dilynol i nifer y cynghorwyr ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, nid oedd angen ei gynnwys yn yr eithriad hwn. 

Pan fo Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo yn ystod absenoldeb teuluol, rhaid hysbysu’r Panel o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y trefniant dirprwyo. (Penderfyniad 21, 2022)

Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y Cyngor i adlewyrchu goblygiadau’r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 22, 2022)

Taliadau Absenoldeb oherwydd Salwch ar gyfer Deiliaid Uwch-gyflogau mewn Prif Gynghorau

Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau penodol ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflog. Nodir y trefniadau hyn yn Atodiad 4.  

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APC) ac Awdurdodau Tân ac Achub (ATA)

Cynyddwyd cyflog sylfaenol aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn unol ag ASHE yn 2023. Caiff yr holl daliadau eu nodi yn y tabl canlynol. (Penderfyniad 4, 2024)

Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Awdurdodau Parciau CenedlaetholSwm
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin £5,265
Cadeirydd £14,598
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un)£9,005
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall £9,005
Taliadau i Awdurdodau Tân ac Achub
Awdurdodau Tân ac AchubSwm
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin £2,632
Cadeirydd £11,965
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un)£6,372
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall£6,372

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan APC. (Penderfyniad 27, 2022) 

Caiff uwch-gyflog APC ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol APC. (Penderfyniad 28, 2022) 

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw APC arall y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 29, 2022)

Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan ATA. (Penderfyniad 34, 2022)

Telir uwch-gyflog ATA gan gynnwys cyflog sylfaenol yr ATA a rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus. (Penderfyniad 35, 2022)

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 36, 2022)  

Cynghorau Cymuned a Thref

Bydd aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sydd gyfystyr â £3 yr wythnos) tuag at gostau ychwanegol (gan gynnwys gwresogi, goleuadau, pŵer a band eang) sy’n gysylltiedig â gweithio gartref. Rhaid i gynghorau hefyd naill ai dalu £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul y swyddfa sydd eu hangen er mwyn gwneud eu swydd, neu fel arall, rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gostau eu nwyddau traul swyddfa. (Penderfyniad 6, 2023).

Nodir y taliad i aelodau sy'n ymgymryd ag uwch-rôl yn Atodiad 3 (Penderfyniad 4, 2023)

Gall cynghorau cymuned a thref benderfynu talu costau teithio a/neu gynhaliaeth pob aelod ar gyfer mynychu dyletswyddau cymeradwy. Rhaid i daliadau o’r fath fod yn gostau gwirioneddol teithio ar gludiant cyhoeddus neu lwfansau milltiroedd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi fel y nodir o dan Costau Teithio a Chynhaliaeth uchod. (Penderfyniad 46 a 47, 2022)

Gall cynghorau cymuned a thref dalu iawndal am golled ariannol i bob un o’u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy fel a ganlyn: (Penderfyniad 7, 2024).

  • hyd at £59.81 am bob cyfnod nad yw’n fwy na 4 awr
  • hyd at £119.62 am bob cyfnod sy’n fwy na 4 awr ond nad yw’n fwy na 24 awr 

Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans mynychu i’r aelodau. Ni chaiff unrhyw daliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans mynychu ar gyfer yr un digwyddiad. (Penderfyniad 49, 2022)

Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i faer neu gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £1,500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â gweithio gartref a'r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 50, 2022, fel y'i diweddarwyd gan Adroddiad 2023)

Er eglurder, mae Cynghorau yn talu naill ai taliad maer neu gadeirydd o hyd at £1500 neu daliad uwch-gyflog o £500, ond nid y ddau. 

Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £156 ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â gweithio gartref a'r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 51, 2022, fel y'i diweddarwyd gan Adroddiad 2023)

Er eglurder, mae Cynghorau yn talu NAILL AI taliad dirprwy faer neu dirprwy gadeirydd o hyd at £500 NEU daliad uwch-gyflog o £500, ond nid y ddau. 

Nodir y ffordd y cymhwysir y Fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol yn ôl Grŵp perthnasol yn Atodiad 3. (Penderfyniad 52, 2022)

Mae'r Panel wedi penderfynu, o fis Medi 2024 ymlaen, mai dim ond cyfanswm y symiau a dalwyd mewn perthynas â’r taliadau gorfodol a nodir uchod sydd angen eu cynnwys yn y ffurflenni adrodd sy’n ofynnol gan yr holl Gynghorau Cymuned a Thref. Dyma’r cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r lwfans cyfradd sefydlog o £52 ar gyfer deunyddiau traul a'r costau teithio a chynhaliaeth a delir. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gyson â’r hyn a gaiff ei adrodd o ran costau gofal a lwfansau cymorth personol (Penderfyniad 8, 2024).

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr arweinydd, dirprwy arweinydd neu aelod o'r weithrediaeth) gael unrhyw daliad gan gyngor tref neu gymuned, ac eithrio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol. (Penderfyniad 53, 2022)

Penderfyniadau sy'n berthnasol i Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a Chynghorau Cymuned a Thref

Mae'r adran hon yn berthnasol i holl aelodau Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub ac aelodau cyfetholedig o'r awdurdodau hyn.  

Rhaid i Brif Gynghorau, APCau ac ATAau dalu’r ffioedd canlynol i aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio (Penderfyniad 37, 2022)

Ffioedd ar gyfer aelodau cyfetholedig (gyda hawliau pleidleisio)
RôlTaliad cyfradd fesul awrCyfradd talu hyd at 4 awrCyfradd talu 4 awr a throsodd

Cadeiryddion pwyllgorau safonau, a phwyllgorau archwilio

 

£33.50£134£268

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

 

£29.75£119£238

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio

 

£26.25£105£210

Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau

 

£26.25£105£210

Mae’r Panel wedi penderfynu y dylid caniatáu hyblygrwydd lleol i’r swyddog perthnasol benderfynu pa bryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd fesul diwrnod, cyfradd fesul hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd fesul awr pan fo’n synhwyrol cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Amlinellir y symiau yn y tabl uchod (Penderfyniad 5, 2024).

Rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol ar gyfer gofal am blant ac oedolion dibynnol (a roddir gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer anghenion cymorth personol fel a ganlyn:

  • costau gofal ffurfiol (wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu yn unol â thystiolaeth
  • costau gofal anffurfiol (heb gofrestru) i’w talu hyd at gyfradd uchaf sy’n gyfwerth â chyfraddau fesul awr y Cyflog Byw Gwirioneddol fel y’i diffinnir gan y Living Wage Foundation ar yr adeg pan aethpwyd i’r costau

Rhaid i hyn fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau i’w galluogi i gyflawni busnes swyddogol neu ddyletswyddau cymeradwy. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn gysylltiedig â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy, fel sy’n briodol. Ni ddylid gwneud taliadau nes bydd derbynebau gan y darparwr gofal wedi’u darparu. (Penderfyniad 43, 2022) 

Treuliau Teithio a Chynhaliaeth 

Dim ond yn ôl cyfraddau cyfredol Cyllid a Thollau EF (CThEF) y gall yr holl awdurdodau ad-dalu costau teithio eu haelodau sy’n ymgymryd â busnes swyddogol o fewn a/neu’r tu allan i ffiniau’r awdurdod.

Y cyfraddau uchaf ar gyfer taliadau cynhaliaeth isod ar sail hawliadau gyda derbynebau:

  • lwfans o £28 fesul cyfnod o 24 awr ar gyfer prydau bwyd, gan gynnwys brecwast pan na fydd wedi’i gynnwys
  • £200 Llundain dros nos
  • £95 rhywle arall dros nos
  • £30 aros gyda ffrindiau a/neu deulu dros nos

Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfodydd yn gymwys i’w gynnwys mewn hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig gall swyddog priodol benderfynu faint cyn y cyfarfod. (Penderfyniad 5, Adroddiad 2023)

Gellir cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol). (Penderfyniad 39, 2022)

Atodiad 1: uchafswm yr aelodau o gynghorau sy’n gymwys i gael uwch-gyfloguchafswm nifer y cyflogau sy'n daladwy i'r categori hwn o Gynghorwyr ym mhob Prif Gyngor

Uchafswm yr aelodau o gynghorau sy’n gymwys i gael uwch-gyflog 
Cyngor

Poblogaeth

 

Nifer y cynghorwyrUchafswm yr uwch-gyflogau sy'n daladwy
CaerdyddGrŵp A7919
Rhondda Cynon TafGrŵp A7519
AbertaweGrŵp A7519
Pen-y-bont ar OgwrGrŵp B5118
CaerffiliGrŵp B6918
Sir GaerfyrddinGrŵp B7518
ConwyGrŵp B5518
Sir y FflintGrŵp B6618
GwyneddGrŵp B6918
Castell-nedd Port TalbotGrŵp B6018
CasnewyddGrŵp B5118
Sir BenfroGrŵp B6018
PowysGrŵp B6818
Bro MorgannwgGrŵp B5418
WrecsamGrŵp B5618
Blaenau GwentGrŵp C3316
CeredigionGrŵp C3817
Sir DdinbychGrŵp C4817
Cyngor Sir Ynys MônGrŵp C3517
Merthyr TudfulGrŵp C3015
Sir FynwyGrŵp C4617
TorfaenGrŵp C4017

Cynghorau Grŵp A: poblogaeth o fwy na 200,000
Cynghorau Grŵp B: poblogaeth rhwng 100,000 a 200,000
Cynghorau Grŵp C: poblogaeth o hyd at 100,000 

Atodiad 2: cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol o Prif Gynghorau

Grŵp A

  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol o Prif Gynghorau: grŵp A
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £69,998
Band 1 Dirprwy Arweinydd£48,999
Band 2 Aelodau Gweithredol          £41,999
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£18,666
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£18,666

Grŵp B

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol o Prif Gynghorau: grŵp B
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £62,998
Band 1 Dirprwy Arweinydd£44,099
Band 2 Aelodau Gweithredol          £37,799
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£18,666

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol o Prif Gynghorau: grŵp C
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol (sy'n daladwy i bob aelod etholedig)£18,666
Band 1 Arweinydd   £59,498
Band 1 Dirprwy Arweinydd£41,649
Band 2 Aelodau Gweithredol          £35,699
Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (os y'u telir)£27,999
Band 4 Arweinydd y Grŵp Gwrthbleidiol Mwyaf£27,999
Band 5 Arweinydd Grwpiau Gwleidyddol Eraill (os y'i telir)£22,406
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£22,406
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£27,999
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£18,666

Atodiad 3: taliad costau ychwanegol gorfodol (fesul grŵp) ar gyfer holl aelodau Cynghorau Cymuned a Threffframwaith cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Taliadau i Gynghorau Cymuned a Thref
Math o daliadGrŵpGofyniad
Taliad costau ychwanegol1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol ar gyfer pob Aelod
Uwch rôl1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol: £500 ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 7
Maer neu Gadeirydd 1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Colled ariannol 1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth1 (Etholaeth dros 14,000)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol1 (Etholaeth dros 14,000)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 5
Maer neu gadeirydd 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Colled ariannol 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Dewisol
Costau cofal neu gynhorthwy personol2 (Etholaeth 10,000 i 13,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Colled ariannol 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol3 (Etholaeth 5,000 i 9,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Colled ariannol 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol4 (Etholaeth 1,000 i 4,999)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol5 (Etholaeth llai na 1,000)Gorfodol ar gyfer pob aelod
Uwch rôl5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol hyd at 3 aelod
Maer neu gadeirydd 5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd 5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans presenoldeb5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Colled ariannol 5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth5 (Etholaeth llai na 1,000)Dewisol
Costau gofal neu gynhorthwy personol5 (Etholaeth llai na 1,000)Gorfodol

Atodiad 4: taliadau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer deiliaid uwch-gyflogau mewn Prif Gynghorau

Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau penodol ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflog fel a ganlyn:

  • Caiff salwch hirdymor ei ddiffinio fel absenoldebau ardystiedig y tu hwnt i 4 wythnos. 
  • Uchafswm hyd absenoldeb oherwydd salwch o fewn y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf (ond os bydd yn cael ei ailbenodi bydd unrhyw ran o’r 26 wythnos sy’n weddill yn cael ei chynnwys). 
  • O fewn y terfynau hyn gall deiliad uwch-gyflog sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch barhau i gael cydnabyddiaeth ariannol am y swydd a ddelir os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny. 
  • Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol ond bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo yn gymwys i gael yr uwch-gyflog sy’n briodol i’r swydd.
  • Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol i’r awdurdod hwnnw, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. (Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod mwy na 50% o’r aelodaeth yn cael uwch-gyflog. Ni fyddai’n berthnasol ychwaith mewn perthynas ag aelod o weithrediaeth cyngor pe bai’n golygu bod y cabinet yn mynd y tu hwnt i 10 swydd yr uchafswm statudol). 
  • Pan fo’r Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo, rhaid hysbysu’r Panel, a hynny o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd disgwyliedig y trefniant dirprwyo. Rhaid diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdodau yn unol â hynny. 
  • Nid yw’n berthnasol i aelodau etholedig o brif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i gael cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth beth fo’u presenoldeb, a mater i’r awdurdod yw unrhyw estyniad y tu hwnt i’r raddfa amser hon. 

Manylion cyswllt

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 
Trydydd Llawr Dwyrain
Adeiladau'r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 616095
E-bost: irpmailbox@llyw.cymru