Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad gan y Cadeirydd

Yn y Strategaeth hon, mae’r Panel yn nodi ei amcanion allweddol ar gyfer y 3 blynedd nesaf i helpu rhanddeiliaid a’r cyhoedd i ddeall y cyd-destun yr ydym yn gwneud ein Penderfyniadau ynddo a’n nodau wrth gefnogi democratiaeth leol yng Nghymru.

Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall polisïau cydnabyddiaeth ariannol ei wneud at sicrhau bod democratiaeth leol yn gweithio’n effeithiol. Mae’n bwysig inni fod ein penderfyniadau’n cael eu hystyried yn rhai teg a rhesymol a’u bod yn cael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw.

Rydym wedi ystyried argymhellion yr Adolygiad 10 mlynedd diweddar o effeithiolrwydd y Panel a bydd ein ffordd o weithio’n parhau i roi gwerth ar benderfyniadau annibynnol ar sail ymchwil a thystiolaeth dda, ymgysylltu a gwrando cryf ac ymrwymiad i weithio gydag eraill i hyrwyddo democratiaeth leol.

Yn olaf, mae’r Panel yn deall bod ganddo rôl i hybu dealltwriaeth ehangach o waith aelodau cynghorau, annog cyfranogi mewn democratiaeth leol a gwella amrywiaeth ein cynghorwyr er mwyn cynrychioli amrywiaeth ein cymunedau lleol yn well. Edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd â rhanddeiliaid eraill ledled Cymru i gyflawni hyn.

Frances Duffy
Cadeirydd
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cip ar y Panel

Ein rôl

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gyfrifol am bennu lefel taliadau i aelodau etholedig cynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.

Ein huchelgais

Cefnogi democratiaeth leol, gan roi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogi.

Ein nodau

Dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol, yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn cael eu gwneud o fewn cyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.

Dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o ystod eang o gefndiroedd ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol rwystro cyfranogi.

Ein Hamcanion Strategol

  • penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • cyfathrebu clir a hygyrch
  • ymgysylltu ac ymgynghori rhagweithiol
  • fframwaith cydymffurfio ac adrodd symlach
  • gweithio ar y cyd

Yr Aelodau o'r Panel

Y Cadeirydd, Frances Duffy
Yr Is-gadeirydd, Saz Whilley
Aelodau, Bev Smith

Cyd-destun ein Gwaith

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y Mesur) yn nodi’r trefniadau ar gyfer taliadau a phensiynau aelodau o awdurdodau perthnasol a swyddogaethau a chyfrifoldebau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel).

Mae’r Panel yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol sy’n nodi ein Penderfyniadau ar gydnabyddiaeth ariannol a sail ein penderfyniadau. Fel sy’n ofynnol o dan y Mesur, cyhoeddir Adroddiad drafft i ymgynghori arno, cyn cyhoeddi’r Adroddiad Terfynol fis Chwefror bob blwyddyn. Mae’r Adroddiad Terfynol yn nodi’r taliadau sydd i’w gwneud i aelodau etholedig, a phan fo’n berthnasol aelodau cyfetholedig, ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hefyd yn darparu Canllawiau ar sut y dylid rhoi’r Penderfyniadau ar waith.

Model fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol presennol

Ar ddechrau’r tymor etholiadol presennol (2022 i 2027), ailsefydlodd y Panel y cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol aelodau prif gynghorau ac enillion eu hetholwyr. Mae’r Panel yn amcangyfrif mai ymrwymiad amser cyfartalog aelod yw tri diwrnod a bod Arweinwyr, Dirprwy Arweinwyr ac aelodau Gweithredol yn gweithio swm sy’n gyfwerth â phum diwrnod yr wythnos. Ymrwymiad amser cyfartalog aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yw 44 a 22 o ddiwrnodau yn y drefn honno.

Felly, gosodwyd y cyflog sylfaenol ar dair rhan o bump o enillion gros canolrifol cyflogeion amser llawn yng Nghymru fel y’u nodwyd yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ac eithrio ar gyfer aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref ac aelodau cyfetholedig, mae’r holl daliadau uwch a thaliadau eraill yn lluosyddion neu’n gyfrannau o’r taliad sylfaenol. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad amser, cyfrifoldeb a chymhlethdod ychwanegol eu rolau.

Telir cyfradd y dydd i aelodau cyfetholedig am gyfarfodydd ac amser teithio a gwaith paratoi rhesymol cysylltiedig, fel y rhagbennir gan y swyddog priodol.

Ceir fframwaith ar wahân ar gyfer taliadau Cynghorau Cymuned a Thref. Prif ddiben hyn yw sicrhau bod aelodau’n cael eu had-dalu am eu gwariant wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae gan aelodau â chyfrifoldebau ychwanegol hawl i daliad uwch.

Caiff pob aelod hawlio cyfraniad at Gostau Gofal a Chymorth Personol ac ad-daliad o gostau Teithio a Chynhaliaeth pan fyddant ar fusnes swyddogol. Tra mae pob taliad sylfaenol yn orfodol, caiff cynghorwyr ddewis yn unigol i ildio eu cydnabyddiaeth ariannol i gyd, neu ran ohoni.

Ein nodau a’n ffyrdd o weithio

Ein ffyrdd o weithio

Er mwyn cyflawni ein nodau, mae’r Panel wedi nodi set o egwyddorion ar gyfer sut y byddwn yn gweithio, gyda’n gilydd, gyda phartneriaid, gyda rhanddeiliaid a chyda’r cyhoedd.

Yr egwyddorion hyn yw:

  • Ein bod yn cael ein cydnabod fel arbenigwyr drwy ddefnyddio’r dystiolaeth, yr ymchwil a’r cymaryddion diweddaraf.
  • Ein bod yn adnabyddus am ein dull cydweithredol o weithio drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth inni gasglu tystiolaeth a sganio’r gorwel.
  • Ein bod yn gweithio ar y cyd ag eraill i hyrwyddo democratiaeth leol amrywiol, iach a ffyniannus ledled Cymru.
  • Ein bod yn bartner y gellir ymddiried ynddo sy’n darparu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol teg drwy fod yn dryloyw am ein penderfyniadau ac yn agored i adborth.
  • Ein bod yn atebol i gymunedau lleol drwy ein gwaith ymgysylltu a chyfathrebu a sicrhau bod ein penderfyniadau’n cael eu hystyried yn rhai teg, rhesymol a fforddiadwy.
  • Ein bod yn cael ein cydnabod am ein proffesiynoldeb yn ansawdd ein Hadroddiadau a’n Cyfathrebiadau.

Ein nodau

Dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol, yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn cael eu gwneud o fewn cyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.

Dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o ystod eang o gefndiroedd ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol rwystro cyfranogi.

Edrych ymlaen

Wrth ddatblygu ein Strategaeth, edrychodd y Panel ymlaen at y cyfnod rhwng nawr a’r etholiadau nesaf. Mae sawl mater o bwys sy’n debygol o effeithio ar waith y Panel ac y byddwn yn eu hystyried wrth wneud ein Penderfyniadau.

Canfyddiadau’r cyhoedd o ddemocratiaeth leol a rôl aelodau etholedig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o bapurau ymchwil ar gyfranogi ac amrywiaeth mewn democratiaeth leol. Mae’r rhain yn dangos bod lefel ymwybyddiaeth y cyhoedd o rôl aelodau etholedig, ac o’r cymorth ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol iddynt, yn isel. Maent hefyd yn dangos bod gwaith aelodau etholedig yn cynyddu a’i fod yn amrywiol. Gall y Panel chwarae rôl o ran hyrwyddo democratiaeth leol drwy ei waith ymgysylltu a chyfathrebu â’r cyhoedd yn ehangach.

Effaith y pwysau diweddar yn sgil costau byw/chwyddiant ar gyllidebau cynghorau ac aelodau etholedig unigol

Yn yr adborth i’n Hadroddiad Blynyddol a’n Penderfyniadau ar gyfer 2023, soniodd ymatebwyr am y pwysau cynyddol ar gyllidebau cynghorau, gan gydnabod y baich cynyddol ar aelodau unigol. Mae’r Panel yn ystyriol o’r effaith gyffredinol ar gyllidebau cynghorau ond mae’n parhau i hyrwyddo polisïau cydnabyddiaeth ariannol i annog a chefnogi grŵp amrywiol o bobl i sefyll am rolau etholedig.

Papur Gwyn a throsi i drefniadau llywodraethiant newydd

Croesawir y cynigion i drosglwyddo pwerau’r Panel i’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol. Serch hynny, mae’r Panel yn nodi y bydd angen cynllunio hyn yn ofalus ac y bydd angen cymorth trosiannol.

Newidiadau mewn patrymau gweithio ar ôl Covid a chydnabod manteision a heriau diwygio digidol

Mae’n amlwg bod newid sylweddol wedi bod yn y ffordd y mae aelodau etholedig yn cyflawni eu swyddogaethau. Gall polisïau cydnabyddiaeth ariannol fod yn ffordd bwysig o gefnogi’r newid hwn. Mae’r Panel ei hun yn parhau i groesawu ffyrdd digidol newydd o weithio.

Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r angen i ystyried y Newid yn yr Hinsawdd

Bydd gwaith y Panel yn cyfrannu at feithrin cymunedau lleol llewyrchus fel rhan o’i ymrwymiad i saith egwyddor y Ddeddf. Gall y pecynnau a’r polisïau cydnabyddiaeth ariannol gyfrannu at ein heriau o ran y newid yn yr hinsawdd drwy annog arferion teithio gwyrdd a gweithio digidol, megis cyfarfodydd ar-lein.

Amcanion Strategol

Dyma’r tro cyntaf i’r Panel osod ein Strategaeth gyda nodau ac amcanion wedi’u diffinio’n glir. Bydd ein dogfennau ategol, sef Cynllun Gwaith blynyddol, Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Chynllun Ymchwil a Thystiolaeth, yn nodi ein camau ar hyd y ffordd.

Mae’r Panel wedi cytuno ar bum amcan strategol a fydd yn cael eu cyflawni dros y 2 flynedd nesaf wrth inni drosi i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol newydd Cymru.

Amcan 1: penderfyniadau ar sail tystiolaeth

Byddwn yn adolygu ein fframwaith cydnabyddiaeth ariannol, ym mhob tymor etholiadol, i adlewyrchu rôl newidiol aelodau etholedig a helpu i gael gwared ag unrhyw beth sy’n rhwystro cyfranogi.

Amcan 2: cyfathrebu clir a hygyrch

Byddwn yn diweddaru ein gwefan, ein cyhoeddiadau, a’n canllawiau fel y byddant yn glir, yn hawdd eu defnyddio ac yn hygyrch i bawb.

Amcan 3: ymgysylltu ac ymgynghori rhagweithiol

Byddwn yn ymgysylltu â’n rhanddeiliaid i ddeall sut y mae ein penderfyniadau’n cael eu rhoi ar waith ac i ddysgu’n barhaus.

Amcan 4: fframwaith cydymffurfio ac adrodd symlach

Byddwn yn llunio fframwaith cydymffurfio ac adrodd symlach, un sy’n cefnogi ein cynllun ymchwil a thystiolaeth, gan gynnal prosesau cadw cydbwysedd priodol.

Amcan 5: gweithio ar y cyd

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo democratiaeth leol iach, ffyniannus ac amrywiol yng Nghymru.

Mesur Llwyddiant

Bydd gennym ffyrdd ansoddol a meintiol o fesur effaith ein Penderfyniadau.

Bydd y rhain yn cynnwys:

  • data a gesglir o’r ffurflenni blynyddol a gyflwynir gan gynghorau
  • adborth o’n gwaith ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid
  • ymchwil i ganfyddiadau’r cyhoedd o ddemocratiaeth leol
  • data ar amrywiaeth aelodau etholedig a lefelau cyfranogi

Byddwn yn agored ac yn dryloyw ac yn dangos ein bod yn gweithio’n effeithiol drwy adrodd ar ein cyflawniadau yn erbyn ein Strategaeth a’r canlynol:

  • Cynllun Gwaith Blynyddol
  • Strategaeth Gyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Cynllun Ymchwil a Thystiolaeth