Bydd grŵp arbenigol yn cyfarfod am y tro cyntaf i edrych ar sut y gellir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella gwasanaethau cyhoeddus i bawb sy'n byw yng Nghymru.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans yn cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori Strategol ar AI. Mae'r aelodau'n dod o feysydd busnes ac arloesi, y byd academaidd a chefndiroedd partneriaeth gymdeithasol.
Dywedodd Rebecca Evans:
Mae AI yn dod â newidiadau i'n bywydau i gyd. Mae ganddo'r potensial i wella ein gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddol, ond wrth wneud hynny mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn foesegol.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Prif Weinidog £2.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o AI; yn ogystal â chreu Swyddfa bwrpasol ar gyfer AI o fewn Llywodraeth Cymru.
Rydym eisoes yn lywodraeth sydd wedi ymrwymo i waith teg, ac mae Cymru yn genedl o ddatblygiadau arloesol ym maes technoleg. Rwyf am ddod â'r elfennau hyn at ei gilydd i ddatblygu safonau uchel ar gyfer AI ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Ymhlith aelodau'r grŵp mae:
- Yr Athro Diane Gutiw, Arweinydd y Ganolfan Ymchwil AI yn CGI
- Jeegar Kakkad, Cyfarwyddwr, Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang
- Ruth McGuinness, Pennaeth Data ac AI yn Kainos
- Gina Neff, Athro Deallusrwydd Al Cyfrifol, Prifysgol Queen Mary Llundain
- Walter Pasquarelli, Siaradwr, Awdur a Chynghorydd ar AI a Realiti Synthetig
- Marloes Pomp, Is-lywydd, Fforwm AI Ewrop
- Rachel Purchase, y Cyfarwyddwr Data a Dadansoddeg yn Admiral
- Shavannah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
- Santosh Takoor, Pennaeth Llwyfan Cwmwl ac AI ar gyfer y Sector Cyhoeddus, Microsoft UK
Aelodau o fewn sector cyhoeddus Cymru:
- Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru
- Helen Arthur, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
- Jas Pal Baydal, Prif Gynghorydd Gwyddonol, Llywodraeth Cymru
- Pennaeth y Swyddfa AI, Llywodraeth Cymru, i'w gadarnhau
- Harriet Green a Myra Hunt, Cyd-brif Swyddogion Gweithredol y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru
- Matt Lewis, Cadeirydd Grŵp Arweinyddiaeth AI Ar Draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru
- Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
