Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Cadeirydd i esbonio gwaith y panel.

Marciodd sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru datblygiad arwyddocaol yn dwyn at ei gilydd cynrychiolyddion weithiwr a chyflogwyr i ystyried cyfraddau isafswm cyflog ac amodau cyflogaeth eraill am weithwyr yn y sector amaethyddol yng Nghymru.

Yr un mor bwysig yw rôl y Panel wrth gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch y ffyrdd gorau i wella perfformiad busnes gan nodi ac ymateb i anghenion sgiliau pawb sy'n gweithio mewn amaethyddiaeth, gweithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau gweithwyr presennol trwy weithgareddau datblygu proffesiynol a sicrhau bod newydd-ddyfodiaid yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ymateb i heriau yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth am waith y panel, anfonwch e-bost atom ni slmenquiries@llyw.cymru.