Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau sy'n ymwneud â’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ("y panel") wedi'i restru yma.

Canllawiau ar Gyflogau Amaethyddol

Darllenwch y ddeddfwriaeth hon ochr yn ochr â’r canllawiau ar Gyflogau Amaethyddol.

Statws cyflogaeth gweithwyr amaethyddol: canllaw

Esboniad o statws cyflogaeth a hawliau ffermwyr (fel cyflogwyr) a gweithwyr amaethyddol.

Mae'r canllaw hwn yn grynodeb o'r gyfraith mewn perthynas â statws cyflogaeth gweithwyr amaethyddol. Dylid ceisio cyngor cyfreithiol proffesiynol ar faterion penodol.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 yn diffinio telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol.

Mae’r Gorchymyn yn gwneud y newidiadau canlynol i fframwaith yr Isafswm Cyflog Amaethyddol gan gynnwys:

  • cynyddu’r cyfraddau a’r lwfansau isafswm cyflog;
  • cynnwys gweithwyr asiantaethau a gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan feistri criwiau nad oes ganddynt gontract o wasanaeth yn uniongyrchol gyda’r cyflogwr;
  • diwygio’r geiriad ynghylch cyfnodau gwyliau blynyddol; ac yn
  • diwygio’r broses o gyfrifo tâl gwyliau i weithwyr sydd ag oriau amrywiol.

Mae hefyd yn parhau i ddiogelu cyflog gweithwyr amaethyddol a fyddai fel arall yn wynebu gostyngiad mewn cyflog o ganlyniad i newidiadau blaenorol i’r strwythur graddio.

Daeth i rym ar 1 Ebrill 2023. 

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022

Caiff Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 ei ddisodli a’i ddirymu gan Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

Caiff Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 ei ddisodli a’i ddirymu gan Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2020 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2022.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019 

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2019 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2020.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2018 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2019.

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016

Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddiaeth (Cymru) 2016 wedi ei ddisodli a'i ddirymu gan Orchymyn Cyflog Amaethyddiaeth (Cymru) 2017.

Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016

Mae Gorchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016 yn sefydlu'r panel fel corff cynghori annibynnol i Weinidogion Cymru. Swyddogaethau'r panel yw hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, paratoi gorchmynion cyflogau amaethyddol drafft, ymgynghori ar orchmynion o'r fath er mwyn eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â'r sector amaethyddol yng Nghymru.

Deddf y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014

Mae Deddf y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer:

  • sefydlu’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru
  • gorchmynion i osod telerau ac amodau ar gyfer pobl sydd wedi'u cyflogi yn y sector amaethyddol yng Nghymru (gweithwyr amaethyddol)
  • gorfodi’r telerau a’r amodau hynny