Neidio i'r prif gynnwy

Galw am dystiolaeth ac arbenigedd ar ddarparu addysg, sgiliau, hyfforddiant a datblygiad gyrfaoedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. 

Agor:           10 Ionawr 2024 

Cau:             2 Ebrill 2024

 

Cefndir

Mae’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, datblygu gweithlu medrus priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i weinidogion yn ôl yr angen. 

Sefydlodd Y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru ei Is-bwyllgor parhaol ar Ddatblygu Sgiliau a Hyfforddiant yn unol â Gorchymyn Panel Cynghori Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr undebau, academyddion ac arbenigwyr o bob rhan o'r diwydiant. Mae aelodau cynrychioliadol hefyd o'r Clwb Ffermwyr Ifanc a Lantra, fel y nodir yn y gorchymyn. Mae aelodau'n dod ag ystod eang o brofiad, gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion sgiliau a hyfforddiant y sector amaethyddiaeth gyda nhw, yn ogystal â'r gofynion ar gyfer cyfleoedd dilyniant gyrfa.

Gellir gweld Cylch Gorchwyl yr Is-bwyllgor 

Un o'r meysydd y mae'r Is-bwyllgor yn bwriadu datblygu gweledigaeth strategol integredig ar gyfer darparu addysg, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar ac wedi ystyried adroddiadau blaenorol gan gynnwys yr Adolygiad Annibynnol o Ddysgu a Ddarperir gan Golegau Addysg Bellach a Pherthnasedd y Ddarpariaeth honno mewn Cefnogi Busnesau Fferm yng Nghymru  a gynhaliwyd gan yr Athro Wynne yn 2015. Yn ogystal, rydym yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan grwpiau a sefydliadau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i waith blaenorol a pharhaus Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ac adroddiad 2023 gan y Grŵp Llywio ar gyfer yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru. 

Er mwyn llywio gwaith yr Is-bwyllgor, mae aelodau'r Is-bwyllgor yn awyddus i wahodd tystiolaeth i'w chyflwyno gan ystod eang o randdeiliaid a fydd yn galluogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i greu'r weledigaeth strategol ar gyfer y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru. 

Mae'r Is-bwyllgor wedi nodi bod pum cam allweddol lle mae angen ystyried sgiliau, datblygiad a hyfforddiant gyda'r sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth. Sef: 

  • ysgol
  • colegau (gan gynnwys prentisiaethau)
  • prifysgolion
  • dysgu gydol oes (datblygu proffesiynol parhaus)
  • trosglwyddo gyrfa/newydd-ddyfodiaid

Bydd anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan ym mhob un o'r pum cam uchod yn wahanol ac wrth ateb y cwestiynau a nodir isod gan y Cais am Dystiolaeth, rydym yn annog ymatebwyr i nodi pa un o'r pum cam hyn y mae'r ymateb yn ymwneud â nhw a darparu tystiolaeth mewn perthynas â phob un ohonynt. Mae angen hefyd ystyried sut mae pobl yn pontio rhwng camau ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym hefyd yn awyddus i dderbyn tystiolaeth arno.

1. Cwestiynau allweddol

  • Sut y gellir gwella proffil amaethyddiaeth fel gyrfa? 
  • Beth yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd i ymuno â'r diwydiant?
  • Sut y gellid gwella amrywiaeth o fewn y diwydiant?
  • Sut dylai cynllun dilyniant gyrfa o fewn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth edrych? Sut mae'n cael ei fesur?
  • Pa gyfleoedd sgiliau a datblygu y mae pobl yn chwilio amdanynt wrth ddewis gyrfa fewn neu du allan i’r sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth? 
  • Beth sydd ei angen o ran sgiliau, datblygiad a hyfforddiant i sicrhau bod y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru yn flaengar, yn arloesol ac yn edrych i'r dyfodol?

2. Sgiliau

  • Sut mae sgiliau yn cael eu gwerthfawrogi o fewn y diwydiant?
  • Pa sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gweithwyr yn y diwydiannau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth?
  • Beth yw'r lefelau sgiliau presennol ym mhob diwydiant a ble mae'r bylchau? Os ydych wedi nodi bylchau, sut yych chi'n meddwl y gellid llenwi'r rhain? 
  • A ddylai fod safon sgiliau sylfaenol wedi'u gosod ar gyfer pob gweithiwr yn y sectorau tir hyn? Os felly, pa nodweddion fyddai'r safon sgiliau sylfaenol honno?
  • Pa sgiliau sy'n ofynnol gan weithiwr amaethyddol i'w cyflawni yn erbyn y fframwaith Rheoli Tir Cynaliadwy newydd?
  • Beth ydych chi'n meddwl yw'r ffordd orau o annog y diwydiant i ddeall pwysigrwydd Datblygiad Proffesiynol Parhaus? 
  • Awgrymir y byddai'n ddefnyddiol i bob gweithiwr yn y sectorau tir hyn ymgymryd â Chynllun Datblygiad Personol o bryd i'w gilydd i nodi'r sgiliau sydd ganddynt, ond hefyd y rhai y mae angen iddynt eu datblygu. Sut ydych chi'n meddwl y dylid cynnal Cynllun Datblygu Personol? Pwy sydd yn y sefyllfa orau i ymgymryd â Chynllun Datblygu Personol o'r fath?
  • A oes sgiliau sy'n cael eu datblygu o fewn y diwydiant sydd o fudd i'w defnyddio y tu allan i'r diwydiant ac sy'n cyfrannu at yr economi wledig?

3. Hyffordiant

  • Rhowch dystiolaeth ar gynnwys, ansawdd, darpariaeth ac argaeledd yr hyfforddiant a gynigir ym mhob un o'r camau a amlinellir uchod yng Nghymru ar gyfer gweithwyr amaethyddol. 
  • Beth yw'r rhwystrau i ymgymryd â hyfforddiant yn y sectorau hyn yng Nghymru? 
  • Sut ydym yn denu ac annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid yn y sectorau hyn?
  • Beth yw'r dulliau o hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth sy'n gweithio orau yn y sectorau?
  • A oes modelau hyfforddi sy'n hyrwyddo dilyniant gyrfa mewn sectorau eraill y dylem fod yn eu mabwysiadu?
  • A oes angen hyfforddiant o'r tu allan i Gymru ar gyfer gweithwyr amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth? Os felly, pa hyfforddiant a pham?

4. Datblygu

  • A oes cyfleoedd i weithwyr amaethyddol ymarfer yr hyn maen nhw'n ei ddysgu ac ennill profiad gwaith defnyddiol a pherthnasol a lleoliadau gwaith cyflogedig?
  • Sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ddogfennu ac olrhain datblygiad? Oes gennych chi awgrymiadau ar sut y gellid defnyddio technoleg yn hyn o beth?
  • Beth yw'r ffyrdd gorau o achredu a gwirio datblygiad? A yw'r model Agrisgop o ddysgu gweithredol yn gweithio mewn amaethyddiaeth? A fyddai model Gwobr yn gweithio mewn amaethyddiaeth? 
  • Sut ydym ni'n cysylltu'r gwahanol gamau a nodwyd uchod yn nhaith gweithiwr amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth drwy gydol eu gyrfa? Oes gennych chi awgrymiadau ar sut y gellir gwella'r cysylltiadau hyn?
  • Pa ddulliau sy'n cael eu defnyddio i bersonoli a phroffesiynoli datblygiad? Oes gennych chi awgrymiadau am ddulliau eraill y gellid eu gweithredu? 
  • Pa ganllawiau sydd ar gael neu a ddylai fod ar gael yn eich barn chi i gefnogi datblygiad unigolyn o fewn y diwydiant ym mhob un o'r camau a amlygwyd uchod? 
  • Sut gellir hwyluso cydweithio a chydlynu rhwng gwahanol randdeiliaid yn y diwydiant i gefnogi taith datblygu gweithiwr?

5. Data

  • Cyfeiriwch at unrhyw adroddiadau ac adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf yr ydych yn eu hystyried yn berthnasol i waith yr Is-bwyllgor mewn perthynas â sgiliau, datblygiad a hyfforddiant.
  • Os ydych chi'n cyfeirio at unrhyw adroddiadau, a oes argymhellion yr adroddiadau hyn wedi'u gweithredu? Rhowch enghreifftiau, os gwelwch yn dda. 
  • Pa ddata sydd neu a allai fod ar gael mewn perthynas â gweithwyr amaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru eu sgiliau, hyfforddiant sy'n cael ei gynnal a datblygiad gyrfa? Os felly, lle mae'r data hwn ar gael a sut y gallai'r data hwnnw fod ar gael i'r Is-bwyllgor? 
  • Pa ddata ydych chi'n meddwl fyddai'n ddefnyddiol wrth lywio gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol? 

Rhestr termau

Roeddem o'r farn y byddai'n ddefnyddiol darparu ein dealltwriaeth o rai termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon i'ch cynorthwyo. 

Datblygiad proffesiynol parhaus

Proses barhaus o wella sgiliau a chymwyseddau yn aml i wella perfformiad yn y gweithle a datblygu gyrfa yn y dyfodol. 

Datblygiad

Ehangu a dyfnhau gwybodaeth yn unol â nodau datblygu rhywun.

Fframwaith Rheoli Tir Cynaliadwy

Y Fframwaith (sy'n cynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy) yw'r mecanwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy i:

  • cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy.
  • lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
  • cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu.
  • cadw a gwella cefn gwlad ac adnoddau diwylliannol, gan hyrwyddo mynediad 
  • cyhoeddus ac ymgysylltu â nhw.

Cynllun Datblygu Personol

Mae Cynllun Datblygu Personol (ar Busnes Cymru) yn un sy'n nodi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd gennych, ond hefyd y nodau tymor byr a hirdymor sydd gennych a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i gyflawni'r nodau hynny. 

Ymatebion

Anfonwch unrhyw sylwadau neu dystiolaeth ysgrifenedig ar y cwestiynau uchod erbyn 2 Ebrill 2024 os gwelwch yn dda.

Ebost:  AAP@llyw.cymru

Yn ysgrifenedig: Rheolwr Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth
Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Eich hawliau

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â materion yn ymwneud â'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion hefyd yn cael eu rhannu gyda'r Is-bwyllgor a'r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth, a phan fydd Llywodraeth Cymru neu'r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth, yna gall contractwyr trydydd parti wneud y gwaith hwn (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Gellir cyhoeddi'r ymatebion yn llawn i ddangos bod y Galw am Dystiolaeth wedi'i wneud yn iawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o'r cyfeiriad) y person neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os ydych am aros yn ddienw, nodwch eich dewis pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn yn dileu eich manylion cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r adroddiad cryno Galw am Dystiolaeth, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ran o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am fwy na 3 blynedd.

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC), mae gennych hawliau fel unigolyn mewn perthynas â'r ffordd y caiff eich data personol ei ddal a'i brosesu.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y RhDDC, gweler y manylion cyswllt isod: 

Swyddog Diogelu Data 

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Tŷ Wycliffe
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/