Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y panel a sut y bydd yn gweithio.

Cefndir

Roedd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu Corff Sgiliau Creadigol.

Penderfynodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip y câi’r corff hwn ei gyflawni’n fewnol drwy Cymru Greadigol gyda phanel cynghori craidd newydd i lywio’i waith ac adrodd i Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol.

Cylch gorchwyl

Bydd y Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol yn gwneud y canlynol:

  • cymeradwyo, monitro a chynghori ar gynllun gweithredu tair blynedd newydd Cymru Greadigol ar gyfer Sgiliau
  • cytuno ar feini prawf a strwythur Cronfa Sgiliau newydd Cymru Greadigol gyda blaenoriaethau a bennir gan y cynllun gweithredu tair blynedd
  • darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol yn chwarterol

Y panel

Bydd y Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol yn cynnwys:

  • cynrychiolydd diwydiant o’r sector sgrin
  • cynrychiolydd diwydiant o’r sector digidol
  • cynrychiolydd diwydiant o’r sector cerddoriaeth
  • cynrychiolydd o’r sector addysg uwch
  • cynrychiolydd o’r sector addysg bellach
  • cynrychiolydd darparwyr hyfforddiant
  • cynrychiolydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus
  • hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant
  • cynrychiolydd yr undebau
  • cynrychiolydd o Gogledd Creadigol
  • dau gynrychiolydd o Cymru Greadigol