Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru: 20 Ebrill 2026
Cofnodion y Panel Ymgynghorol Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2026.
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
Yn bresennol wyneb yn wyneb
- Mike Connolly (cyd-Gadeirydd) (MC), Llywodraeth Cymru (CSD)
- Karin Phillips (cyd-Gadeirydd) (KP), Aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Paula Williams (PW), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Darren Trollope (DT), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Sasha Yilmaz (SY), Llywodraeth Cymru (CSD)
- Lynzi Jarman (LJ), Llywodraeth Cymru (JPD)
- James Gerard (JG), Llywodraeth Cymru (JPD)
- Fallon Gallagher (FG), HMPPS
- Martyn Gunter (MG), Llywodraeth Cymru (ECWL)
- Padraig McNamara (PM), Llywodraeth Cymru (Iechyd)
- Louise Lawrence (LL), HMPPS
- Tim Melville (TM), Fforwm Cadeiryddion Panel Ieuenctid Ynadon Cymru
- Dafydd Llywelyn (DLl), Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
- Eleri Thomas (ET), Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent
- Megan Pryor (MP), Llywodraeth Cymru (KAS)
- Julia Allan (JA), Llywodraeth Cymru (Galluogi Pobl)
- Paul Lewis (PA), Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru
- Philip O’Connell (PO’C) ar ran DCC Nicola Brain
Yn ymuno ar Teams
- Mark Bradley (MB), Llywodraeth Cymru (Iechyd)
- Alison Lott (AL), Llywodraeth Cymru (CSD)
- Michelle Davies (MD), Cynrychiolydd iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Phillip Bowen (PBo), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Rachel Morgan (RM), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)
- Alan Webster (AW), Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Gwen James (GJ), Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Julie Davies (JD), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS)
- James Warr (JW), Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru
- Kirsty Davies (KD), Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Mark Brace (MBrace), Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel
- Stephen Wood (SW), Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Helen Davies (HD), HMIP
- Kate Williams (KW), Cynrychiolydd Academaidd
- Honor Bailey (HB), Y Swyddfa Gartref
- Thomas Hills (TH), Y Swyddfa Gartref
- Hugh Currie (HC), Y Swyddfa Gartref
Ymddiheuriadau
- Sally Rees, Llywodraeth Cymru (Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio)
- Daniel Jones, Uned Atal Trais Cymru (VPU)
- Stephanie Roberts-Bibby, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- DCC Nicola Brain, Heddlu Gwent
- Christine Harley, HMPPS
- Lucy Peates, HMPPS
- Andrea Brazier, Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi
- Emma Williams, Llywodraeth Cymru (Cyfarwyddwr Cyffredinol ECWL)
- Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru
- Jay McCabe, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
- Martina Feilizer, Cynrychiolyddd Academaidd
- Surinder Randhawa, GLlTEF
- Tom Cartright, Llywodraeth Cymru (KAS)
- Gill Adams, Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru (YMC)
Crynodeb o gamau
Yr holl gamau i’w cwblhau cyn gynted â phosibl, ond dim hwyrach na 29 Mai 2026 oni nodir dyddiad arall.
- Cam Gweithredu 1: Adborth a ddarperir gan y Panel i’w fwydo i’r trafodaethau parhaus rhwng y Weinyddiaeth Gyfi awnder a Llywodraeth Cymru ynghylch trosglwyddo cyllideb y GCI i Gymru. (Arweinydd Cydweithwyr Troseddau a Chyfiawnder a Pholisi Cyfiawnder Llywodraeth Cymru ac Uned Polisi Cyfiawnder Ieuenctid y Weinyddiaeth Gyfiawnder)
- Cam Gweithredu 2: Gwaith mapio pellach i’w gwblhau gan swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn deall yn well sut mae goruchwylio plant yn cael ei reoli yng Nghymru. (Arweinydd Cydweithwyr Troseddau a Chyfiawnder Llywodraeth Cymru)
- Cam Gweithredu 3: SW i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Llywio ar gyfer Dad-droseddoli Plant sydd â Phrofiad o Ofal mewn cyfarfod yn y dyfodol. (Arweinydd SW)
- Cam Gweithredu 4: Swyddogion Llywodraeth Cymru i ailedrych ar y gwaith ar Blant yn Nalfa’r Heddlu a’r camau nesaf gydag Uned Gyswllt yr Heddlu. (Arweinydd Cydweithwyr Troseddau a Chyfiawnder Llywodraeth Cymru a PLU)
- Cam Gweithredu 5: Aelodau’r panel i rannu sylwadau ar y cwestiynau dadansoddi system gyfan gyda’r ysgrifenyddiaeth. (Arweinydd Pob un)
- Cam Gweithredu 6: DLl i ddarparu papur Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i’r Panel ar lywodraethu’r Heddlu yng Nghymru. (Arweinydd DLl)
- Cam Gweithredu 7: DLl i drefnu i KP ac MC fynd i gyfarfod yn y dyfodol gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.(Arweinydd KP a MC)
- Cam Gweithredu 8: DT a PO’C i rannu cynllun cerrig milltir dangosol OoCR â’r Panel. (Arweinydd DT a PO’C)
- Cam Gweithredu 9: Cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i roi adborth ym Mhanel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru nesaf ar ôl mynd i gyfarfod Cyfarwyddwyr Gweithredol AHP a thrafodaethau’n ymwneud â’r SLC gyda’r GCI. (Arweinydd LJ a MBrad)
- Cam Gweithredu 10: PM i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am flwyddyn gyntaf y Strategaeth Iechyd Meddwl a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed gan y Bwrdd Sicrwydd Gweinidogol gyda’r Panel ar ôl ei chyhoeddi. (Arweinydd PM)
- Cam Gweithredu 11: Cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref i rannu cyflwyniad ar y rhaglen Atal Dyfodol Ifanc gyda’r Panel. (Arweinydd TH a HC)
Eitem 1 ar yr agenda: croeso a chyflwyniadau
Croesawodd MC yr aelodau i gyfarfod Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
Dywedodd MC wrth yr aelodau y byddai’r cyfarfod yn cael ei recordio ac y dylent godi eu dwylo pe bai ganddynt unrhyw wrthwynebiadau. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau.
Croesawodd MC Philip Bowen, a benodwyd yn ddiweddar yn Gadeirydd dros dro y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a siaradwyr gwadd o’r Swyddfa Gartref, Honor Bailey, Hugh Currie a Thomas Hills.
Nodwyd yr ymddiheuriadau.
Dywedodd MC fod Llywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn-etholiadol a bod gwaith yn cael ei wneud i ddadansoddi ymrwymiadau’r maniffesto.
Tynnodd MC sylw at gyhoeddi Ymchwiliad Southport ddydd Llun 13 Ebrill 2026 a dywedodd fod gwaith y Panel yn cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i ddadansoddi canfyddiadau’r adroddiad ochr yn ochr â’r goblygiadau i Lywodraeth Cymru, gan barhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU.
Eitem 2 ar yr agenda: System Cyfiawnder Ieuenctid Fodern
Nododd AW yr ymrwymiadau ym Mhapur Gorchymyn Llywodraeth y DU ‘System Cyfiawnder Ieuenctid Fodern’ a gyhoeddwyd ar 12 Chwefror 2026. Roedd y rhain yn cynnwys ymrwymiad i gynnig cyllid grant tair blynedd yn Lloegr ar gyfer Turnaround, taliadau Remandio a grant Craidd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Dyrannwyd pum miliwn ychwanegol dros dair blynedd i ddewisiadau eraill yn lle remandio yn y ddalfa, gan ganolbwyntio’n benodol ar feithrin a diwygio rôl y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Eglurodd AW fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau i weithio gyda’r BCI wrth iddi ailffocysu ei safbwynt sefydliadol ac ymgymryd â’r rôl o wella’r system cyfiawnder ieuenctid yn barhaus.
Rhannodd AW y bwriad i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynllun trawslywodraethol ar gyfer y GCI a fyddai’n nodi cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer meysydd fel dedfrydu, remandio, cofnodion troseddol a chystodaeth. Cydnabod nad yw’r GCI yn eistedd ar ei ben ei hun ac y bydd yn ystyried gwaith arall sy’n cael ei wneud mewn perthynas â theuluoedd, plant, dioddefwyr a chymunedau.
Eglurodd AW fod y sefyllfa ariannol yng Nghymru yn wahanol i Loegr a bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar drefniadau ariannol. Fel y nodir yn y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar 25 Mawrth, bydd cyllid Remand a Turnaround yn aros yr un fath ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027, a bydd gwaith yn cael ei wneud i gwblhau’r broses o drosglwyddo cyllid ar gyfer 2027 ymlaen. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i edrych ar rôl ehangach Llywodraeth Cymru ym maes Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru.
Esboniodd JG y bu sawl trafodaeth cyn cyhoeddi’r papur gorchymyn a’r datganiad ar y cyd a bu heriau oherwydd y cylch etholiadol yng Nghymru a oedd wedi golygu nad oedd gwasanaethau yng Nghymru yn gallu cael yr un sicrwydd â’u cymheiriaid yn Lloegr. Ychwanegodd y bydd yn rhaid i’r Gweinidogion newydd benderfynu sut y dyrannwyd cyllid ar gyfer Remand a Turnaround.
Ailadroddodd PB fod y BCI wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddiwygio rôl y BCI a bod cyfraniadau KP a phartneriaid eraill at drafodaethau wedi bod yn amhrisiadwy i sicrhau bod trefniadau yn y dyfodol yn gweithio yng Nghymru.
Gofynnodd JD a SW gwestiwn yn ymwneud â chyllid, a gofynnodd a oedd Llywodraeth y DU wedi ystyried darparu adnoddau ychwanegol o gyllid i Lywodraeth Cymru i sicrhau nad oedd y GCI yng Nghymru yn cael gostyngiad mewn cyllid nac adnoddau oherwydd costau gweinyddu Llywodraeth Cymru. Atebodd AW nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol a bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ag ef.
Roedd adborth pellach gan y Panel yn cynnwys:
- Gofyn i Reolwyr y GCI am gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy gydol y broses o drosglwyddo’r gyllideb i Gymru.
- Llywodraeth newydd Cymru yn rhoi cyfle i adolygu dull gweithredu strategol plant yng Nghymru yn Llywodraeth Cymru.
- Ystyried yr effaith y gallai newidiadau eraill ei chael ar wasanaethau cyfiawnder ieuenctid, fel diwygio’r Heddlu.
- Ystyried neilltuo cronfeydd a oedd yn cael eu gweinyddu i’r GCI yng Nghymru ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Cododd TM bryderon ynghylch effaith rhianta mewn perthynas ag ymddygiad troseddol plant a’r ymddygiad negyddol yr oedd rhai dynion ifanc yn ei ddangos i ferched. Awgrymodd weithio gyda chydweithwyr addysgol i helpu i fynd i’r afael â’r materion. Ymatebodd SY fod Swyddogion wedi nodi hyn ac y byddai trafodaethau pellach yn cael eu cynnal ar draws Llywodraeth Cymru i ddarparu dull gweithredu cydgysylltiedig. Cyfeiriodd SY hefyd at yr argymhellion sy’n ymwneud â rhianta yn Ymchwiliad Southport a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chroesawodd sgwrs gyda TM ar ymylon y cyfarfodydd. Ychwanegodd PW fod cyfarfod o Grŵp Llys Ieuenctid Cymru wedi’i gynnal ym mis Mawrth a oedd yn cynnwys trafodaethau ynghylch sut y gellid cynnwys rhieni yn amlach tra bo’r llysoedd yn gweithio gyda phlant.
Cam gweithredu 1: Adborth a ddarperir gan y Panel i’w fwydo i’r trafodaethau parhaus rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Llywodraeth Cymru ynghylch trosglwyddo cyllideb y GCI i Gymru.
Eitem 3 ar yr agenda: dadansoddiad o’r system gyfan
Rhoddodd DT drosolwg o themâu allweddol dadansoddiad y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys:
- Roedd y rhan fwyaf o’r plant a oedd wedi dod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid yn cael eu rheoli yn y gymuned, gyda 3% o blant o Gymru yn mynd i’r ddalfa.
- Y rhan fwyaf o’r mathau o droseddau a gofnodwyd oedd trais yn erbyn unigolyn.
- Roedd ystadegau Blynyddol y BCI yn dangos gostyngiad yn nifer y rhai sy’n ymuno am y tro cyntaf (FTE) a gostyngiad yn nifer yr arestiadau.
- Nododd data ciplun DPA fod 23% o blant yn y garfan cyfiawnder ieuenctid wedi cael eu nodi ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
- Cwblhaodd 81% o blant eu Datrysiad y Tu Allan i’r Llys (OoCR) a oedd yn gadarnhaol.
I ymateb i’r cwestiynau a nodwyd yn y dadansoddiad system gyfan, awgrymodd JD y dylid ystyried y berthynas â gwasanaethau plant fel maes blaenoriaeth, ychwanegodd fod diwygiadau ehangach yn cael eu gwneud gyda gwasanaethau plant yng Nghymru a rhaglen ddiwygio ynghylch maethu yng Nghymru. Ychwanegodd KP ei bod yn bwysig deall sut mae goruchwylio plant yn cael ei reoli yn Llywodraeth Cymru – gan gyfeirio’n ôl at y pwynt gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.
Cam gweithredu 2: Gwaith mapio pellach i’w gwblhau gan swyddogion Llywodraeth Cymru er mwyn deall yn well sut mae goruchwylio plant yn cael ei reoli yng Nghymru.
Ychwanegodd MP fod data ar gael ar blant, yn enwedig plant mewn gofal, a chynigiodd weithio gyda chydweithwyr pe bai hyn yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth.
Dywedodd SW wrth y Panel fod y Grŵp Llywio ar gyfer Dad-droseddoli Plant sydd â Phrofiad o Ofal wedi cael ei ailsefydlu. Ychwanegodd fod y grŵp eisoes wedi datblygu Protocol Cymru Gyfan ar gyfer Dad-droseddoli Plant sydd â Phrofiad o Ofal ac wedi casglu data. Gofynnodd MC i SW adrodd yn ôl i’r Panel ar waith y grŵp.
Cam gweithredu 3: SW i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Llywio ar gyfer Dad-droseddoli Plant sydd â Phrofiad o Ofal mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Tynnodd ET sylw, ochr yn ochr â gwaith dad-droseddoli Plant sydd â Phrofiad o Ofal, at y ffaith bod gwaith wedi cael ei wneud ar Blant yn Nalfa’r Heddlu nad oedd wedi cael ei ddatblygu hyd yma.
Cam gweithredu 4: Swyddogion Llywodraeth Cymru i ailedrych ar y gwaith ar Blant yn Nalfa’r Heddlu a’r camau nesaf gydag Uned Gyswllt yr Heddlu.
Croesawodd MC sylwadau pellach ar y cwestiynau yn y cyflwyniad ac iddynt gael eu rhannu gyda’r ysgrifenyddiaeth.
Cam gweithredu 5: Aelodau’r panel i rannu sylwadau ar y cwestiynau dadansoddi system gyfan gyda’r ysgrifenyddiaeth.
Eitem 4 ar yr agenda: Blaenoriaethau Strategol Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru
Partneriaeth â Phlismona
Dywedodd DLl wrth y Panel nad oedd modd cynnal y cyfarfod Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Plentyn a drefnwyd ar gyfer 7 Ebrill 2026. Tynnodd sylw at y ffaith bod rhai anghysondebau o hyd o ran arweinyddiaeth strategol mewn perthynas â Phlismona sy’n Canolbwyntio ar Blant yn y pedwar heddlu ledled Cymru.
Eglurodd DLl fod y ddau grŵp Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys (OoCR) dan gadeiryddiaeth DT a PO’C wedi uno. Roedd y grŵp yn dod yn ei flaen yn dda, gydag ymgysylltiad cryf â rhanddeiliaid. Ychwanegodd fod gwaith cadarnhaol yn cael ei wneud fel lleihau nifer y bobl sy’n cael eu dal a’u harestio gan yr heddlu, ac mae gan heddluoedd ledled Cymru swyddog awdurdodi ar waith erbyn hyn.
Cytunodd DLl i ddarparu papur ffurfiol gyda ffocws ar lywodraethu’r heddlu mewn cyfarfod yn y dyfodol. Croesawodd KP y diweddariad ar lywodraethu’r heddlu a chytunodd y byddai’n fuddiol iddi hi a MC mynd i un o gyfarfodydd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn y dyfodol. Tynnodd KP sylw at bwysigrwydd pennu amserlenni ar gyfer gwaith yr OoCR. Dywedodd DT fod disgwyl i’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen gyflwyno eu dulliau gweithredu Cymru Gyfan arfaethedig ar gyfer y Gweithgor ar 18 Mehefin. Byddai cynllun cerrig milltir dangosol yn cael ei ddatblygu ar ôl cyfarfod y gweithgor a’i rannu â’r Panel yn barod ar gyfer y cyfarfod ar 6 Gorffennaf.
Cam gweithredu 6: DLl i ddarparu papur i’r Panel ar lywodraethu’r Heddlu yng Nghymru.
Cam gweithredu 7: DLl i drefnu i KP ac MC fynd i gyfarfod yn y dyfodol gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Cam gweithredu 8: DT a PO’C i rannu cynllun cerrig milltir dangosol OoCR â’r Panel.
Partneriaeth gydag Iechyd
Rhoddodd MBrad ddiweddariad ar bwynt gweithredu 1 y cyfarfod blaenorol: MB i godi’r heriau o ran SLCN yn ystod ei gyfarfod nesaf gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol AHP a Gwyddor Gofal Iechyd. Cadarnhaodd ei fod wedi codi heriau yn y cyfarfod ar 13 Chwefror 2026. Roedd y Cyfarwyddwyr yn cydnabod ei bod yn her sylweddol ac er bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar angen clinigol, mae gwasanaethau plant yn flaenoriaeth i bob Bwrdd Iechyd. Estynnodd y grŵp wahoddiad i Arweinydd Polisi Cyfiawnder Llywodraeth Cymru ddod i’r cyfarfod ar 5 Mehefin, ac mae wedi rhannu manylion cyswllt yr holl Arweinwyr Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu o bob un o’r Byrddau Iechyd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru er mwyn codi materion lleol yn uniongyrchol.
Mewn perthynas â phwynt gweithredu 2: Cytunodd MB i gael trafodaethau pellach gyda’r GCI i edrych ar atebion posibl mewn perthynas ag SLCN ac adrodd yn ôl yng nghyfarfod y Panel ym mis Ebrill. Cynhaliwyd cyfarfod i drafod papur Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru 26 01 26 09 gyda chyfarfod pellach wedi’i drefnu a bydd adborth yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
O ran Safonau Gofynnol, nododd MBrad fod adroddiad arolygu diweddar gan HMIP ar GCI Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael sgôr ragorol a nododd fod ganddynt fynediad da iawn at Therapyddion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Dywedodd mai’r bwriad oedd adolygu’r adroddiad a meysydd eraill o arfer da yng Nghymru.
Cyfeiriodd SW at fodel Gwasanaeth Ymgynghori Fforensig y Glasoed (FACS) ar gyfer Rheoli Achosion Uwch ac Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma ac awgrymodd y gellid creu model tebyg ar gyfer Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yng Nghymru.
Mewn perthynas ag Iechyd Meddwl, rhoddodd PM wybod i’r Panel am y bwriad i ddarparu diweddariad ar flwyddyn gyntaf y Strategaeth Iechyd Meddwl a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed i Fwrdd Sicrwydd y Gweinidog. Cytunodd PM i rannu’r diweddariad â’r Panel ar ôl ei gyhoeddi.
Cam gweithredu 9: Cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i roi adborth ym Mhanel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru nesaf ar ôl mynd i gyfarfod Cyfarwyddwyr Gweithredol AHP a thrafodaethau’n ymwneud â’r SLC gyda’r GCI.
Cam gweithredu 10: PM i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am flwyddyn gyntaf y Strategaeth Iechyd Meddwl a’r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed gan y Bwrdd Sicrwydd Gweinidogol gyda’r Panel ar ôl ei chyhoeddi.
Partneriaeth ag Addysg
Yn ogystal â’r wybodaeth a nodir ym mhapur Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru 26.04.26.03, tynnodd MG sylw at y gwaith a wnaed gyda phrifysgolion gan gynnwys Wrecsam, De Cymru a Bangor i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ymgysylltu â rhieni’n uniongyrchol. Roedd gwaith wedi’i wneud rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Addysg ar ganfod plant carcharorion. Cynhaliwyd Adolygiad Thematig ESTYN ar y gwasanaeth lles addysg. Eglurodd MG fod y Canllawiau Gwahardd a Chadw wrthi’n cael eu cwblhau gyda chynlluniau i’w cyhoeddi yn y dyfodol agos.
Eitem 5 ar yr agenda: Y diweddaraf am raglen Partneriaeth Atal Dyfodol Ifanc y Swyddfa Gartref
Rhoddodd TH drosolwg o’r rhaglen Partneriaeth Atal Dyfodol Ifanc. Esboniodd mai pwrpas y rhaglen oedd ymyrryd yn gynnar, er mwyn sicrhau bod plant sy’n cael eu denu at droseddu yn cael eu nodi ac yn cael cynnig cefnogaeth ddargyfeiriol gadarnhaol.
Mae dwy elfen allweddol i’r rhaglen, sef Canolfannau Dyfodol Ifanc sy’n cael eu harwain gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a’r Partneriaethau Atal Dyfodol Ifanc sy’n cael eu harwain gan y Swyddfa Gartref.
Sefydlodd Canolfan Dyfodol Ifanc y cyntaf o wyth canolfan mabwysiadu cynnar a oedd yn mynd yn fyw yn ystod mis Ebrill, gyda 42 arall i fod i gael eu cyflwyno erbyn 2029.
Mae’r Partneriaethau Atal wedi cynnal adolygiad o’r dirwedd atal troseddu ac ymyrryd yn gynnar ymysg pobl ifanc ledled Cymru a Lloegr, wedi sefydlu cynlluniau peilot panel ac wedi parhau i weithio gyda’r Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol.
Mae Paneli Dyfodol Ifanc yn seiliedig ar arferion da a nodwyd ym Manceinion Fwyaf. Y prif nod oedd canfod ac ymyrryd yn gynharach gyda phlant nad oedd eu hanghenion yn cael eu diwallu cyn y gallai canlyniadau andwyol ddatblygu.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf o gyflawni rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, derbyniodd yr 20 Uned Lleihau Trais gyllid ychwanegol a gofynnwyd iddynt dreialu o leiaf un Panel Dyfodol Ifanc. Mewnwelediadau o ddarpariaeth blwyddyn un:
- 53 o Baneli Dyfodol Ifanc wedi’u sefydlu ledled Cymru a Lloegr. Un panel yn ne Cymru a dau yng ngogledd Cymru.
- Trafodwyd dros 2,500 o blant mewn Panel.
- Cyfeiriwyd dros 1,500 o’r plant hynny at gymorth cadarnhaol.
Gan fod y rhaglen chwe mis i mewn i gynllun peilot profi a dysgu 18 mis, bydd parhad yn parhau i fod yn thema allweddol yn ail flwyddyn y rhaglen Dyfodol Ifanc. Gyda hynny mewn golwg, ni fu unrhyw newidiadau mawr i’r ffordd y bydd Paneli Dyfodol Ifanc yn cael eu darparu yn 2026 i 2027.
Cam gweithredu 11: Cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref i rannu cyflwyniad ar y rhaglen Atal Dyfodol Ifanc gyda’r Panel.
Eitem 6 ar yr agenda: Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSEA) mewn amgylcheddau gemau
Rhoddodd HB drosolwg o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â Cham-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant mewn amgylcheddau gemau. Gyda 90% o blant yn chwarae ar-lein, roedd risgiau gwirioneddol iddynt, ac nid oedd y fframweithiau presennol yn adlewyrchu niwed sy’n benodol i chwarae gemau yn llawn. Rhannodd HB fod 90% o blant dan oed ar lwyfannau gemau yn ymgysylltu â phobl ddieithr ac roedd 10% o chwaraewyr gemau yn eu harddegau yn cael eu holi am ddelweddau anweddus.
Er mwyn mynd i’r afael â’r risgiau, mae’r Prif Swyddog wedi lansio cyfarfod bwrdd crwn yn y sector gemau a fydd yn cyfarfod bob pedwar mis. Mae’r broses ymgysylltu wedi cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau gorfodi’r gyfraith, y diwydiant gemau a’r trydydd sector. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Awstralia a Chanada.
Tynnodd HB sylw at y cynnydd yn nifer y plant sy’n troi eu deunydd cam-drin rhywiol eu hunain yn werth ariannol drwy arian chwarae gemau, a bod gwaith wrthi’n cael ei wneud gyda phrosesau talu.
Croesawodd HB aelodau’r Panel i gysylltu â hi i gael rhagor o wybodaeth.
Eitem 7 ar yr agenda: Diweddariad ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer atal ac ymateb i gam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru 2026 i 2036
Ni chyrhaeddwyd yr eitem ar yr agenda. Cyfeiriwch at bapur Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru 20.04.26.06.
Eitem 8 ar yr agenda: cofnodion a chamau gweithredu o’r cyfarfod ar 26 Ionawr 2026
Cytunodd y Panel fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y camau gweithredu. Dywedwyd wrth y Panel y byddai’r cofnodion yn cael eu paratoi i’w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Eitem 9 ar yr agenda: unrhyw fater arall
Dywedodd MC fod cyfarfod nesaf Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru wedi’i drefnu ar gyfer 6 Gorffennaf 2026 am 11:00 yn swyddfa Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful. Er y byddai’r cyfarfod yn un hybrid, anogwyd aelodau i fod yn bresennol wyneb yn wyneb.
