Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru: 20 Hydref 2025
Cofnodion y Panel Ymgynghorol Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
Mynycheion yn bersonol
- Mike Connolly (Cyd-gadeirydd) (MC), Llywodraeth Cymru (CSD)
- Karin Phillips (Cyd-gadeirydd (KP), Aelod Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Mark Cox (MC), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Paula Williams (PW), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Sasha Yilmaz (SY), Llywodraeth Cymru (CSD)
- Lynzi Jarman (LJ), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (JPD)
- Surinder Randhawa (SR), GLlTEF
- Tim Melville (TM), Ynadon Ieuenctid
- Louise Lawrence (LL), HMPPS
- James Gerard (JG), Llywodraeth Cymru (JPD)
- Tom Cartwright (TC), Llywodraeth Cymru (KAS)
- Christine Harley (CH), HMPPS
- Jamie Williams (JW), HMYOI Parc, wedi'i secondio i'r Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa
Yn mynychu ar TEAMS
- Darren Trollope (DT), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Andrea Brazier (AB), HMIP
- Michelle Davies (MD), Cynrychiolydd y Bwrdd Iechyd
- Rhian Hills-Moss (RHM), Llywodraeth Cymru (Iechyd)
- Martyn Gunter (MG), Llywodraeth Cymru (Addysg)
- Stephanie Roberts-Bibby (SRB), Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
- Kirsty Davies (KD), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
- Paul Morris (PM), Uned Cyswllt yr Heddlu (PLU)
- Rachel Morgan (RM), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)
- Stephen Wood (SW), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
- Jay McCabe (JM), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
- Gill Adams (GA), Rheolwyr YOT Cymru (YMC)
- Eleri Thomas (ET), PCC Dirprwyol Gwent
- Alan Webster (AW), Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- DCC Nicola Brain (NB), Heddlu Gwent
- Mark Brace (MB), Y Rhwydwaith Cymunedau Diogelach
- James Warr (JW), Rheolwyr YOT Cymru
- Rocio Cifuentes (RC), Comisiynydd Plant Cymru
- Katie Hughes (KH), Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Dafydd Llywelyn (DLl), PCC Dyfed Powys
- Gwen James (GJ), Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
- Kate Williams (KW), Cynrychiolydd academaidd
Ymddiheuriadau
- Stephen Vickers, Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE)
- Daniel Jones, Uned Atal Trais Cymru (VPU)
- Lucy Peates, HMPPS
- Alison Lott, Llywodraeth Cymru (CSD)
- Sarah Day, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS)
- James White, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg yng Nghymru (ADEW)
Crynodeb o'r gweithredoedd
Pob gweithrd i'w gwblhau cyn gynted â phosibl ond heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd 2025 oni bai y nodir dyddiad arall.
- Pwynt gweithredu 1: ar ôl cwblau dylai'r ysgrifenyddiaeth gylchredeg papur yr Adolygiad Glasbrint, a grëwyd gan YJB fel arweinydd prosiect i'r panel. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 2: roedd y cwestiynau herio'n cynnwys y dull system gyfan chwemisol i'w gynnwys fel rhan o'r ddogfen ddiweddaru adrannol chwemisol. (Arweinydd: YJB)
- Pwynt gweithredu 3 Y panel i gyflwyno adborth ar y cyflwyniad dull system gyfan ac awgrymu gwelliannau ar gyfer cyflwyniadau'r dyfodol. (Arweinydd: Pob un)
- Pwynt gweithredu 4: y themâu dilynol i'w hystyried fel eitemau agenda'r dyfodol, gan asesu effeithiau:
- cynyddu polareiddio cymdeithasol a gwleidyddol pobl ifanc
- trais domestig ar bobl ifanc (Arweinydd: Mike Connolly/Karin Phillips)
- Pwynt gweithredu 5: yr adroddiad Thematig HMIP cyhoeddedig 'Effeithiolrwydd gwyrdroi plant o'r system gyfiawnder troseddol: bodloni anghenion, sicrhau diogelwch, ac atal aildroseddu' i'w rannu gyda'r Panel. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 6: gofynnodd MG i'r Panel rannu'r dudalen we 'cadw'n ddiogel ar-lein' gyda rhanddeiliaid perthnasol. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 7: ar ôl ei gwblhau, y tabl addysg blaenoriaeth strategol WYJAP i'w rannu gyda'r Panel (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 8: y Panel i anfon awgrymiadau pwnc iechyd i'r ysgrifenyddiaeth erbyn 28 Tachwedd. (Arweinydd: pob un)
- Pwynt gweithredu 9: Miller Research i ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparu canfyddiadau interim mewn cyfarfod yn y dyfodol. (Arweinydd: Miller Research, Nick Morgan / ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 10: ysgrifenyddiaeth i rannu cyflwyniad rhaglen Ymchwil Cyfiawnder Cymru. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 11: diweddariad cyllid Y Weinyddiaeth Gyfiawnder i'w ychwanegu at agenda'r dyfodol. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 12: ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion WYJAP cymeradwy ar gyfer cyfarfod 14 Gorffennaf ar wefan Llywodraeth Cymru. (Arweinydd: ysgrifenyddiaeth)
- Pwynt gweithredu 13: cyd-gadeiryddion i rhoi ystyriaeth ar fformat a hyd cyfarfodydd y dyfodol. (Arweinydd: Mike Connolly/Karin Phillips)
Eitem 1 yr agenda: croseo a chyflwyniadau
Fe wnaeth MC groesawu aelodau i gyfarfod y Panel Cynghori Cyfiawnder Ieuenctid Cymru (WYJAP).
Fe wnaeth MC hysbysu aelodau y byddai'r cyfarfod yn cael ei recordio ac i godi llaw os oedd unrhyw wrthwynebiad. Nid oedd unrhyw wrthwynebiad.
Fe wnaeth MC groesawu'r aelodau newydd Andrea Braizer, Pennaeth y Rhaglen Arolygu Ieuenctid, Prawf HMI. Jamie Williams, Y Gwasanaeth Ieuenctid yn y Ddalfa a Tim Melville, cynrychiolydd y Llys Ieuenctid.
Fe wnaeth MC groesawu'r gwesteion Nick Morgan o Miller Research UK. Martyn Gunter, Tom Cartwright a Rhian Moss-Hill o Lywodraeth Cymru.
Nodwyd ymddiheuriadau.
Eitem 2 yr agenda: diweddariad glasbrint cyfiawnder ieuenctid
Fe wnaeth SY amlygu, o Ebrill 2025 fod Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid wedi pontio i Busnes fel Arfer. Yr uchelgais yw comisiynu adolygiad o'r Glasbrint, er mwyn adeiladu ar y fframwaith presennol a pharhau i ymgorffori arfer gorau. Mae papur opsiynau, yn nodi dulliau posibl o gynnal yr adolygiad hwn, wedi'i rannu gyda rhanddeiliaid perthnasol i gael eu sylwadau.
Fe wnaeth DT esbonio, o ystyried rôl reoli prosiect YJB yn y Glasbrint, ei fod wedi drafftio papur 'gwersi a ddysgwyd' a oedd yn cynnwys yr adoddiadau cau ffrwd gwaith a'r arolwg a oedd wedi'i gwblhau gan bartneriaid. Roedd y gwersi a oedd yn dod i'r amlwg a ddysgwyd yn cynnwys yr angen am adnoddau digonol, derbyniad cryf, cyfathrebu clir, a ffiniau rhwng newid gwaith a busnes fel arfer. Roedd cyflawniadau'n cynnwys datblygu arfer seiliedig ar drawma yn y gymuned a'r ddalfa, dulliau Adsefydlu Adeiladol wedi'u hymgorffori ledled Cymru a chyhoeddi fframwaith atal Llywodraeth Cymru.
Wrth symud ymlaen bydd yr YJB yn parhau eu goruchwyliaeth ar wasanaethau'r system gyfiawnder ieuenctid er mwyn deall anghenion y plant yn y system a'r gwaith sy'n gysylltiedig â chysondeb dulliau ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys (OoCD) ledled Cymru.
Fe wnaeth SRB holi ai'r bwriad oedd rhannu'r papur 'gwersi a ddysgwyd' gyda'r Panel ac a oedd cyfeiriad at ddatganoli ynddo. Atebodd DT, er na chynhwyswyd datganoli, roedd posibilrwydd o gynnwys gwersi allweddol rhaglen newid ar raddfa fawr. Ychwanegodd LJ fod yr adroddiad yn arddangos dull unigryw Cymru ar gyfer cyfiawnder ieuenctid gan amlygu cryfderau system bresennol a sut i adeiladu a dysgu, a fyddai'n helpu i lywio datganoli gwaith cyfiawnder ieuenctid i Gymru. Fe wnaeth MC gadarnhau y byddai'r papur 'gwersi a ddysgwyd' yn cael ei rannu gyda'r Pnel.
Pwynt gweithredu 1: ar ôl cwblhau, yr ysgrifenyddiaeth i gylchredeg y papur Adolygiad Glasbrint, a grëwyd gan YJB fel arweinydd prosiect i'r panel.
Eitem 3 yr agenda: dadansoddiad system gyfan
Fe wnaeth DT gyflwyno dadansoddiad system gan ddefnyddio data YJB, cudd-wybodaeth goruchwyliaeth a diweddariadau adrannol o'r Panel.
Roedd canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Tueddiadau cynyddol mewn anghenion gofal a chymorth, absenoldeb a gwaharddiadau parhaus mewn cyfraddau Addysg Hyffordiant a Chyflogaeth 16 i 18 (ETE).
- Presenoldeb well yn yr ysgol, liferoedd llai o blant sy'n byw mewn tlodi.
- Cyfraddau stopio a chwilio cynyddol (ac eithrio Gwent), arestiadau a rhybuddiadau, ond llai o ddyfodiaid tro cyntaf oherwydd dargyfeirio cyn y llys.
- Mae anghymesuredd mewn canlyniadau yn dal i beri pryder, er nod niferoedd yn fach.
- Roedd niferoedd yn y ddalfa yn aros yn isel, gyda'r rhan fwyaf o blant yn cael eu lleoli yn agos i'w cartref.
- Roedd cyfraddau aildroseddu wedi cynyddu ymhlith carfan lai, mae'n debygol bod hyn oherwydd dargyfeirio plant â risg is.
Cryfderau:
- Dargyfeirio cryf cyn y llys, cyfraddau isel yn y ddalfa, diwylliant cydweithredol.
Gwendidau/bygythiadau:
- Ymgysylltu anghyson gan yr heddlu, gwaharddiadau cynyddol yn yr ysgol, oedi wrth i'r heddlu wneud penderfyniadau, ansicrwydd ynghylch cyllid, bylchau staffio.
- Angen arfer a heriau cyson sy'n ystyriol o drawma mewn prosesau llys.
Cyfleoedd:
- Gwaith i ddwyn cysondeb i OoCD, fframwaith atal Llywodraeth Cymru, Siarter Cyfiander Ieuenctid newydd a cysylltiadau cryfach gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol.
Fe wnaeth DT ofyn cwestiynau ynghylch sut y gallai'r Panel fynd i'r afael â materion a godwyd i fwyafu'r cyfleoedd i wella'r systemau neu ganlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru.
Roedd adborth gan y Panel yn cynnwys:
- Dylid rhoi ystyriaeth i'r gwaith ynghylch Glasbrint Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).
- I fonitro'r nifer gynydol o Blant â Phrofiad o Fod mewn Gofal gan fod y ffigurau yn cynrychioli'r plant o fewn y system gyfiander ieuenctid a gallai'r niferoedd gynyddu oherwydd bod plant yn dychwelyd i'r awdurdod lleol gartref yn dilyn cael eu lleoli yn Lloegr.
- Cais am gymharu oedran y boblogaeth gyffredinol rhwng 10 i 17 o fewn y tabl ethnigrwydd Dyfodiaid Tro Cyntaf (FTE) i nodi anghymesurdd.
- Dylid rhoi ystyriaeth i ganlyniadau eraill nid Canlyniad 22 yn unig.
- Cais am gynnwys cwestiynau herio o fewn y cyflwyniad dadansoddiad system cyfan yn y diweddariad chwemisol adrannol WYJAP.
- Mwy o fanylion dwfn ynghylch Stopio a Chwilio a Rhybuddiadau, gan asesu a oes unrhyw themâu neu resymau sylfaenol.
- Gwybodaeth ynghylch dioddefwyr neu blant a oedd yn ddioddefwyr eu hunain a dioddefwyr eu troseddu i'w chynnwys yn y diweddariad chwemisol.
- Posibilwydd o ganolbwyntio ar ddau neu dri maes penodol yn niweddariadau'r dyfodol.
Fe wnaeth RC amlygu'r materion cynyddol o bolareiddio cymdeithasol a gwleidyddol a bod plant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio fel dioddefwyr, cyflawnwyr posibl a dioddefwyr camwybodaeth. Fe wnaeth hi holi ble gallwn ni gynnwys hyn fel ffocws am y sgyrsiau hyn. Cefnogwyd hyn gan y Panel.
Fe wnaeth MC ddiolch i'r Panel am eu cyfraniad a gofyn am adborth pellach ar y cyflwyniad ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau.
Pwynt gweithredu 2: roedd y cwestiynau herio yn cynnwys bod y dull system gyfan chwemisol yn cael ei gynnwys fel rhan o'r ddogfen ddiweddaru adrannol chwemisol.
Pwynt gweithredu 3: dylai'r Panel gyflwyno adborth ar y cyflwyniad dull system gyfan ac awgrymu gwelliannau ar gyfer cyflwyniadau'r dyfodol.
Pwynt gweithredu 4: dylid ystyried y themâu dilynol fel eitemau'r agenda yn y dyfodol, gan asesu effeithiau: Polareiddio cymdeithasol a gwleidyddol cynyddol ymhlith pobl ifanc; a, Trais domestig ar bobl ifanc.
Eitem 4 yr agenda: blaenoriaethau strategol WYJAP
Partneriaeth gyda phlismona
Fe wnaeth DL hysbysu'r Panel, ers ei gyfarfod diwethaf fod y ddau weithgor a oedd wedi'u sefydlu i safoni dulliau OoCD ledled Cymru wedi cyfarfod.Fe wnaeth gyfeirio at y sylw blaenorol ynghylch presenoldeb yr Heddlu mewn Byrddau Rheoli YJS gan gadarnhau bod rhywfaint o welliant wedi bod.
Gwnaed y Panel yn ymwybobol o'r adroddiad Thematig Prawf HMI ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF cyhoeddedig areffeithiolrwydd dargyfeirio plant o'r system gyfiawnder troseddol: bodloni anghenion, sicrhau diogelwch, ac atal aildroseddu. Fe wnaeth ef nodi bod yr argymhellion o fewn yr adroddiad yn darparu cyfle i gadw momentwm ar y gwaith ar OoCD.
Fe wnaeth NB adrodd adborth cadarnhaol o'r cyfarfod Plismona Rhanbarthol yn Canolbwyntio ar y Plentyn. Roedd pwyntiau allwedol o'r cyfarfod yn cynnwys alinio strwythurau llywodraethu, canolbwyntio ar atal a datblygu dashfwrdd data i alinio data'r pedwar Heddlu yng Nghymru.
Fe wnaeth KP ddiolch cydweithwyr Plismona am y cynnydd cadarnhaol a wnaed hyd yn hyn. Fe wnaeth hi atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau bod llywodraethu'n gywir ar bob lefel o fewn Plismona ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod cynrychiolaeth gyson gan yr Heddlu mewn Byrddau Rheoli Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ar lefel strategol.
Mewn ymateb fe wnaeth AW gynnig cysylltu ag arweinwyr Plismona yng Nghymru er mwyn trafod a symud ymlaen yr argymhellion o fewn yr adroddiad thematig.
Fe wnaeth SW holi a oedd cynrychiolaeth o'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar ffrwd gwaith Adolygiad Arfer yr Heddlu. Fe wnaeth ef ddweud y byddai eu cyfranogiad yn sicrhau bod y cymorth yn cael ei ddarparu mewn ffordd a oedd yn canolbwyntio ar y plentyn ac a oedd yn ystyriol o drawma. Fe wnaeth ET gytuno i ymuno ag SW er mwyn sicrhau alinio.
Pwynt gweithredu 5: yr adroddiad Thematig HMIP cyhoededig effeeithiolrwydd dargyfeirio plant o'r system gyfiawnder troseddol: bodloni anghenion, sicrhau diogelwch, ac atal aildroseddu i'w rannu gyda'r Panel.
Partneriaeth ag addysg
Fe wnaeth MG ddarparu diweddariad ers ei bresenoldeb yn y cyfarfod diwethaf. Roedd pwyntiau allweddol yn cynnwys:
- Roedd tueddiadau cadarnhaol wedi bod mewn presenoldeb yn yr ysgol.
- Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn bwriadu gwneud diweddariad ar waith y Fforwm Ataliadau a Gwaharddiadau a'r fforwm Ffonau Symudol.
- Roedd gwaith adolygu'r canllawiau ymddygiad ar waith a byddai'n croesawu mewnbwn o'r Panel r ôl cael ei ddatblygu ymhellach.
- Roedd gwaith yn symud ymlaen ar brotocol Arfau ac Ysgolion Cymru Gyfan.
- Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn awydus i ffurfioli perthnasoedd rhwng yr heddlu ac ysgolion, roedd trafodaethau wedi digwydd gyda phartneriaid Plismona.
Fe wnaeth MG ofyn i'r Panel rannu'r ddolen i adran cadw'n ddiogel ar-lein y llwyfan Hwb gyda'u rhanddeiliaid.
Wrth gyfeirio at bwynt gweithredu 4 o'r cyfarfod ar 14 Gorffennaf, cynhyrchu crynodeb o faterion cyfiawnder ieuenctid, er bod gwaith wedi'i ddatblygu ar hyn gofynnodd SW am amser ychwanegol i boblogeiddio mwy o wybodaeth cyn rhannu gyda'r Panel.
Pwynt gweithredu 6: fe wnaeth MG ofyn i'r Panel rannu'r dudalen we 'cadw'n ddiogel ar-lein' gyda rhanddeiliaid perthnasol.
Pwynt gweithredu 7: ar ôl ei gwblhau, dylid rhannu'r tabl addysg blaenoriaeth strategol WYJAP gyda'r Panel.
Partneriaeth gydag Iechyd
Fe wnaeth MC ddweud y byddai'r cyfarfod WYJAP nesaf a gynlluniwyd ar gyfer mis Ionawr yn canolbwyntio ar iechyd. Gofynnwyd i aelodau'r Panel gyflwyno materion gysylltiedig ag iechyd i'w trafod, megis lleferydd, iaith, iechyd meddwl, a niwroamrywiaeth i'r ysgrifenyddiaeth erbyn diwedd mis Tachwedd.
Pwynt gweithredu 8: dylai aelodau'r Panel anfon awgrymiadau pwnc iechyd i'w hystyried yng nghyfarfod mis Ionawr i'r ysgrifenyddiaeth erbyn diwedd mis Tachwedd.
Eitem 5 yr agenda: diweddariad ar ddatganoli
Fe wnaeth JG ddarparu diweddariad ar y gwaith parhaus ynghylch ymrwymiad Llywodraeth y DU i archwilio datganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru. Yn dilyn cyfarfod y Dirprwy Prif Weinidog gyda'r Arglwydd Ganghellor cytunwydy byddai swyddogion yn y ddwy Lywodraeth yn cydweithio i archwilio opsiynau ble gellid ailalinio cyfrifoldebau yn y system gyfiawnder ieuenctid. Roedd hyn yn cynnwys goruchwyliaeth strategol, trefniadau partneriaeth a llywodraethu a chyllido gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid fel pwyntiau cychwyn.
Fe wnaeth NW gyflwyno ar bwyntiau allweddol rhaglen Ymchwil Cyfiawnder Cymru:
- Byddai'r ymchwil gyntaf yn canolbwyntio'n bennaf ar gyllido cyfiawnder ieuenctid a chapasiti a gallu cyfiawnder ieuenctid.
- Cafodd cwestiynnau ymchwil lefel uchel eu datblygu'n fframweithiau ymchwil cynhwysfawr, wedi'u hailadrodd rhwng Llywodraeth Cymru a'r consortiwm.
- Roedd rhywfaint o adnoddau wedi'i rhoi o'r neilltu ar gyfer meysydd ymchwil ychwanegol a allai godi ym Mlwyddyn Un.
- Adroddiad ar ganfyddiadau i ddod rhwng Mawrth a Mai 2026.
Fe wnaeth NW awgrymu y gallai cydweithwyr gysylltu ag aelodau'r Panel a chytunodd i adrodd canfyddiadau interim yn ôl mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Pwynt gweithredu 9: Miller Research i ymgysylltu â rhanddeiliaid a darparu canfyddiadau interim mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Pwynt gweithredu 10: yr ysgrifenyddiaeth i rannu cyflwyniad rhaglen Ymchwil Cyfiawnder Cymru.
Eitem 6 yr agenda: MoJ diweddariad cyllid grant
Darparwyd y diweddariad hwn gan MoJ ar ôl y cyfarfod. Cytunwyd y caiff yr eitem hon o'r agenda ei chwmpasu yn y cyfarfod nesaf.
Fe wnaeth MoJ (gyda chymorth o YJB) gynnal cyfres o grwpiau ffocws ym mis Awst a mis Medi gyda chynrychiolwyr o'r sector, Penaethiaid Gwasanaeth a Chadeiryddion Byrddau Rheoli i drafod fformiwla gyllido newydd posibl i ddosbarthu cyllid MoJ i YOTs. Mynegwyd rhai pryderon yn ystod y sesiynau hyn ynghylch y ffactorau a gynhwysir yn nyluniad y fformiwla arfaethedig a'r effaith bosibl ar wasanaethau a allai weld gostyngiad mewn cyllid oherwydd unrhyw newid. Hefyd mae YMC ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi ysgrifennu at Weinidogion i siarad am bryderon ynghylch y fformiwla gyllido newydd bosibl a'r effaith ar YOTs Cymru.
Ar ôl y grŵp ffocws, fe wnaethom gydnabod fod rhywfaint o ddrysu ynghylch defnyddio FTE yn y fformiwla. Felly fe wnaethom ysgrifennu at holl fynychwyr y sesiynau i gadarnhau na fyddai cyfradd yr FTE’s yn pennu faint o gyllid y byddai YOT yn ei dderbyn. Defnyddiwyd FTE fel rhan o'r broses yn unig i nodi pa ffactorau allai ddarparu ffordd fwy cynrychiadol o ddeall yr awrywio na ellio ei osgoi yn lefel yr angen am wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Hefyd ysgrifennodd Alan Webster (Dirprwy Cyfarwyddwr dros Bolisi Cyfiawnder Ieuenctid) at YMC mewn ymateb i'r pryderon a godwyd ganddynt gyda'r Gweinidog Dakin (y llythyr i'w rannu gydag WYJAP).
Mae MoJ hefyd wedi bod yn ystyried cydgrynhoi'r grant craidd YOT ar gyfer YOTs yn Lloegr i gronfa ehangach i blant fel rhan o ymgyrch MHCLG i symleiddio cyllid ar gyfer awdurdodau lleol.
Nid yw gweinidogion wedi penderfynu eto ar gydgrynhoi grant a'r fformiwla gyllido a byddwn yn rhoi diweddariad i'r sector tra'n aros am ganlyniad penderfyniadau gweinidogol.
Pwynt gweithredu 11: Diweddariad Cyllid Grant y Weinidogaeth Gyfiawnder i'w ychwanegu at agenda yn y dyfodol.
Eitem 7 yr agenda: cofnodion a gweithrdoedd o'r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2025
Fe wnaeth y Panel gytuno bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd gweithredoedd.
Fe wnaeth MC hysbysu'r Panel y byddai'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Pwynt gweithredu 12: yr Ysgrifnyddiaeth i gyhoeddi cofnodion WYJAP cymeradwy 14 Gorffennaf 2025 ar wefan Llywodraeth Cymru.
Eitem 8 yr agenda: unrhyw fusnes arall
Fe wnaeth MC hysbysu bod y cyfarfod nesaf o WYJAP wedi'i drefnu ar gyfer 26 Ionawr 2026 am 13:00, ag opsiwn cinio gweithio ar gael.
Fe wnaeth TM awgrymu ymestyn hyd y cyfarfod er mwyn caniatáu am drafodaeth ddyfnach.Cytunodd MC i ystyried yr opsiwn.
Gwnaed y sylw cloi gan SW i'w ystyried gan y Panel. Sut y bydd datganoli'n gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc yn hytrach na newid cyfrifoldeb yn unig.
Pwynt gweithredu 13: dylai cyd-gadeiryddion roi ystyriaeth i fformat a hyd cyfarfodydd yn y dyfodol.
