Ein partneriaid
Bydd Panel Ymgynghorol Targets Bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru yn cynnwys arbenigwyr o amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â bioamrywiaeth.
Cynnwys
Cadeirydd annibynnol: Dr Fred Windsor
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi recriwtio Cadeirydd annibynnol ar gyfer y Panel. Cadeiriodd Dr Fred Windsor ein cyfarfod ym mis Hydref.
Dr Fred Windsor
Rwy'n Ddarlithydd Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae fy ngrŵp ymchwil, y Labordy Rhwydweithiau Dŵr Croyw, yn integreiddio ecoleg a gwyddoniaeth cymhlethdod i ddeall sut a pham mae ecosystemau yn ymateb i newid amgylcheddol. Mae prosiectau penodol yn y maes eang, rhyngddisgyblaethol hwn yn cynnwys deall patrymau newidiol bioamrywiaeth mewn systemau dŵr croyw, datblygu dulliau awtomataidd ar gyfer adnabod rhywogaethau a chanfod eu rhyngweithiadau, ac asesu goblygiadau ecolegol newid amgylcheddol a gweithgareddau dynol. Mae gan yr ymchwil rydyn ni'n ei gynhyrchu fel grŵp yn aml oblygiadau polisi, ac yn y gorffennol, rwyf wedi cynghori'r Senedd a Llywodraeth y DU, ochr yn ochr â sefydliadau rhyngwladol, ar heriau dybryd sy'n ymwneud â bioamrywiaeth, llygredd, a rheoli ecosystemau cynaliadwy.
Mae'n gyffrous ymuno â'r BTAP fel Cadeirydd, ac rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy hyfforddiant a'm gwybodaeth ryngddisgyblaethol i'n helpu i greu argymhellion cadarn, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Panel Cynghori Targedau Bioamrywiaeth Cymru
- ecoleg rhwydwaith a dŵr croyw: Prifysgol Caerdydd
- polisi bioamrywiaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru
- monitro bioamrywiaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru
- dangosyddion bioamrywiaeth a data gofodol: Y Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd
- data bioamrywiaeth: Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru
- defnydd tir: Canolfan Ecoleg a Hydroleg
- ecoleg, data a pholisi: annibynnol
- systemau cymdeithasol ac ecolegol: Prifysgol Bangor
- economeg amgylcheddol: Prifysgol Caerdydd
- economeg amgylcheddol: Prifysgol Aberystwyth
- polisi bioamrywiaeth rhyngwladol: Y Pwyllgor Cadwraeth Natur ar y Cyd
- cyfreithiol: Prifysgol Abertawe
- polisi morol: aelod o bwyllgor cenedlaethol y DU ar gyfer degawd gwyddoniaeth y cefnfor; aelod o raglen OARS (Ymchwil Asidedd Cefnfor ar gyfer Cynaliadwyedd), rhan o GOA-ON (Rhwydwaith Arsylwi Asidedd Cefnfor Byd-eang)
- pysgodfeydd cynaliadwy: Prifysgol Bangor
- ecoleg forol: Prifysgol Bangor
- dŵr croyw: Prifysgol Caerdydd
- iechyd planedol a lles dynol: Prifysgol Caerdydd
- tystiolaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru
- ffermio cynaliadwy: TABLE, Prifysgol Rhydychen
Mae ein partneriaid yn cynnwys:
