Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y Panel.

  • Helpu Llywodraeth Cymru i ddeall anghenion defnyddwyr ystadegau swyddogol o'r trydydd sector a pha wybodaeth ystadegol sydd ganddynt a fyddai o ddiddordeb ehangach.
  • Darparu fforwm lle y gall cynrychiolwyr y trydydd sector roi eu barn ar gynlluniau ystadegol arfaethedig.
  • Rhoi cyfle i gynghori’r trydydd sector am ddatblygiadau ystadegol a gwahodd sylwadau ar y cynigion; gallai hyn gynnwys ymgynghori ar faterion penodol sy'n ymwneud ag ystadegau.
  • Annog cynrychiolwyr y trydydd sector i ddarparu adborth ar gynnwys neu fformat allbynnau neu wefannau ystadegol penodol.
  • Caniatáu i gynrychiolwyr y trydydd sector dynnu sylw at feysydd penodol o ddiddordeb ac awgrymu meysydd lle byddai briffio technegol manylach o ddiddordeb.
  • Datblygu perthynas rhwng ystadegwyr Llywodraeth Cymru a defnyddwyr y trydydd sector sydd o fudd i bawb. Gallai hyn gynnwys rhannu hyfforddiant neu gyfleoedd cysgodi a gwirfoddoli ystadegol.