Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyfarfodydd.

Lleoliad

Cynhelir cyfarfodydd naill ai yn swyddfeydd Parc Cathays Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd neu yn lleoliadau’r trydydd sector, os cânt eu henwebu gan aelodau.

Dyddiadau ac amseroedd y cyfarfod

Cynhelir cyfarfodydd dwy awr yn y Gwanwyn a'r Hydref. Os oes angen, caiff isgrwpiau penodol neu grwpiau gorchwyl a gorffen eu cyflwyno ar gyfer gweithgareddau sydd â therfyn amser i adrodd yn ôl i'r Panel.

Cadeirydd

Bydd cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru neu ddirprwy enwebedig.

Agenda

Croesewir unrhyw aelod o'r Panel i gyflwyno eitem ar yr agenda. Y Cadeirydd fydd yn cytuno ar yr agenda derfynol.

Papurau a chyfieithu

Bydd papurau ar gael ar y wefan cyn pob cyfarfod; ni ddarperir papurau printiedig yn y cyfarfod. Byddwn yn ymgynghori’n rheolaidd ar y gofynion iaith a chyfieithu. Bydd y cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a ddarperir yn dibynnu ar y nifer sy'n dymuno cyfrannu drwy gyfrwng y Gymraeg (yn unol â’r Safonau Iaith).