Neidio i'r prif gynnwy

Penderfyniad yn ofynnol

  1. Cytuno ar Strategaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg
  2. Cytuno bod y strategaeth a'r blaenoriaethau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 26 Medi
  3. Cytuno bod Gweinidogion yn cael diweddariad chwarterol ar waith yr Unedau

Crynodeb

1. Yn Rhaglen Lywodraethu 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i 'greu Uned Anghyfartalwch Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb i sicrhau sylfaen dystiolaeth gynhwysol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y llywodraeth’. Sefydlwyd tair uned tystiolaeth benodol sy'n gweithio gyda'i gilydd fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i arfogi Gweinidogion, Swyddogion a sefydliadau allanol â thystiolaeth a dadansoddiad o anghydraddoldebau i helpu i wneud penderfyniadau.

2. Erbyn mis Rhagfyr 2022, bydd tîm amrywiol, aml-ddisgyblaeth o bobl sydd â'r profiad a’r diddordeb angenrheidiol mewn tystiolaeth cydraddoldeb yn eu lle. Bydd 10 aelod o staff wedi cael eu recriwtio i'r Unedau, pob un â phrofiad bywyd sy'n berthnasol i hil, anabledd, rhywedd a LHDTC+ yn ogystal â'r sgiliau dadansoddi angenrheidiol.

3. Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar strategaeth yr Unedau a’r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg sydd yn Doc 1 a Doc 2. Mae'r rhain wedi cael eu datblygu'n agos gydag ystod o randdeiliaid, a bydd hynny yn parhau. Y bwriad yw cyhoeddi'r rhain ar wefan Llywodraeth Cymru ar 26 Medi 2022. Bydd y rhain yn ddogfennau byw ac maent yn debygol o ddatblygu o ganlyniad i drafodaethau pellach gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr yr Unedau.

4. Awgrymir bod diweddariad chwarterol yn cael ei ddarparu i'r holl Weinidogion ar y blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ac allbynnau allweddol o waith yr Unedau, a goblygiadau’r gwaith hwnnw.

Amcan y papur

5. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sefydlu'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn ei Rhaglen Llywodraethu ar gyfer 2021, mewn ymateb i'r angen am dystiolaeth gryfach i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru, a amlygwyd gan bandemig COVID-19. Mae'r papur hwn yn amlinellu'r cynnydd a wnaed ar sefydlu'r Unedau ac yn darparu gwybodaeth am strategaeth a blaenoriaethau tystiolaeth yr Unedau. 

6. Ym mis Ionawr 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru dair Uned wahanol, pob un â'i rhaglen dystiolaeth a’i harweinydd ei hun.

  • Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil
  • Yr Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd

Daeth y strwythur i'r amlwg o waith cwmpasu, cyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae'r Unedau'n cydweithio fel yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, gyda'u gwaith wedi'i siapio gan y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb gyffredinol i sicrhau cyd-weithio, effeithiolrwydd, effeithlonrwydd, cydlyniad ac, yn arbennig, croestoriadedd.

7. Ers mis Ionawr, rhoddwyd tipyn o amser ac ymdrech i recriwtio tîm amrywiol, aml-ddisgyblaeth â'r profiad a'r diddordeb angenrheidiol mewn tystiolaeth cydraddoldeb. Erbyn mis Rhagfyr 2022, bydd 10 aelod o staff wedi cael eu recriwtio a fydd â phrofiad bywyd perthnasol yn ogystal â'r sgiliau a'r wybodaeth ddadansoddol angenrheidiol. Cyflawnwyd hyn mewn sawl ffordd, megis trwy gynnal gweithgareddau allgymorth, cynnal gweminarau, comisiynu hysbysebion wedi'u targedu a darparu sesiynau unigol ar broses ymgeisio’r Gwasanaeth Sifil gydag ymgeiswyr cyn iddynt ddrafftio eu cais. Mae hynny wedi helpu’r Unedau i gyrraedd at gymunedau a rhwydweithiau amrywiol a gwella ansawdd y ceisiadau a gyflwynwyd. Nid yw’r gwaith o recriwtio tîm amrywiol wedi bod heb ei heriau. Mae llawer o wersi wedi'u dysgu o'r broses, sy'n cael eu rhannu ar draws y sefydliad.

8. Mae'r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb, a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid yr Unedau, yn disgrifio cwmpas, cylch gwaith a ffyrdd o weithio a'r nod yw cyhoeddi hon ar 26 Medi 2022. Datblygwyd blaenoriaethau'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb Hil ac Anabledd a'r bwriad yw cyhoeddi'r rhain ochr yn ochr â'r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb. Mae'r strategaeth yn nodi pwy yw'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd a sut y byddant yn gweithio. Mae'r ddogfen blaenoriaethau yn nodi beth fydd yr Unedau yn ei wneud i gyflawni eu nodau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy. Y bwriad yw y bydd y ddwy yn ddogfennau byw. Ni fwriedir i'r blaenoriaethau fod yn rhestr sefydlog o ymrwymiadau ar gyfer yr Unedau, a chaiff hyn ei nodi’n eglur yn y ddogfen. Maent yn debygol o newid wrth i grwpiau rhanddeiliaid ac atebolrwydd ddatblygu eu ffordd o feddwl a darparu cyfeiriad pellach.

9. Y bwriad yw cyhoeddi blaenoriaethau'r Unedau fel bod rhanddeiliaid yn ymwybodol ohonynt ac yn gallu cyfrannu atynt wrth iddynt esblygu, ac felly bod yr Unedau yn agored ac yn dryloyw am eu cynlluniau.

10. Mae'r blaenoriaethau hyn sy’n dod i’r amlwg yn cynnwys tasgau y mae angen eu cyflawni er mwyn sefydlu'r Unedau a’r blaenoriaethau ymchwil ac ystadegol allweddol. Fe'u datblygwyd gyda rhanddeiliaid ar sail gwaith cwmpasu cychwynnol i'r Unedau, ymrwymiadau a wnaed eisoes a gofynion sy’n dod i’r amlwg o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19, y Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft. Cafodd cynlluniau gweithredu a strategaethau eraill eu hystyried hefyd ar y cyd â'r prif gynlluniau cydraddoldeb hyn a chaiff y set gyflawn ei disgrifio yn nogfen y Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb yn Doc 1.

11. Mae'r ddogfen yn Doc 2 yn rhestru'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg, sydd naill ai'n croestorri ar draws y tair Uned neu’n ymwneud ag un Uned. Bydd hyd yn oed y blaenoriaethau sy'n ymwneud yn bennaf ag un Uned yn cynnig gwersi i'r Unedau eraill eu dysgu, a bydd yr Unedau’n cydweithio'n agos er mwyn dysgu cymaint â phosibl gan ei gilydd a gweithio mor effeithlon â phosibl.

12. Mae'r ymrwymiadau a'r gofynion ar gyfer pob Uned ar gamau gwahanol yn eu datblygiad a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y rhestr o flaenoriaethau. Datganiadau lefel uchel yw rhai gofynion tra bod rhai arall wedi'u cwmpasu'n llawn ac mae gwaith wedi dechrau arnynt yn barod.

13. Mae llawer o'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn canolbwyntio ar gefnogi ymrwymiadau penodol o’r Rhaglen Lywodraethu.

14. Mae'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg wedi'u datblygu mewn trafodaeth agos â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi er mwyn osgoi dyblygu gwaith a sicrhau cydweithio effeithiol ar brosiectau, lle bo angen. Bydd hyn yn parhau i ddigwydd. Maent hefyd wedi cael eu croesgyfeirio gyda rhaglenni tystiolaeth eraill, fel rhaglen waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, eto er mwyn osgoi dyblygu gwaith a sicrhau cyd-weithio.

15. Bydd yr unedau'n sicrhau eu bod mewn cysylltiad rheolaidd â chydweithwyr polisi ar draws meysydd portffolio gweinidogol, a chyda Chynghorwyr Arbennig perthnasol, lle mae blaenoriaethau neu ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg yn canolbwyntio ar feysydd portffolio gweinidogol penodol. Bydd yr Unedau yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar eu blaenoriaethau a'u hallbynnau sy'n dod i'r amlwg. O ystyried natur drawsbynciol gwaith yr Unedau awgrymir hefyd bod diweddariad chwarterol yn cael ei ddarparu i bob Gweinidog ar flaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg yn yr Unedau ac ar allbynnau allweddol o’u gwaith, a goblygiadau’r gwaith hwnnw.

16. Fel yr amlinellir yn y Strategaeth, mae'r Unedau wedi ymrwymo i weithio mor gydgynhyrchiol â phosibl ar lefel rhaglen a phrosiect. Maent wedi dechrau prosiect peilot sydd â'r nod o brofi cwestiynau sy'n berthnasol i'r model cymdeithasol o anabledd gan ddefnyddio dulliau cydgynhyrchiol. Byddant yn gwerthuso'r prosiect peilot hwn ac yn rhannu'r gwersi a ddysgwyd o ran cyd-gynhyrchu ac ymchwil o fewn Llywodraeth Cymru a chyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus.

Effaith

Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru

17. Bydd Strategaeth a Blaenoriaethau'r Unedau yn ein galluogi i gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i

"greu Uned Anghyfartalwch Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb i sicrhau sylfaen dystiolaeth gynhwysol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau yn y llywodraeth.”

18. Bydd rhaglen waith yr Unedau Tystiolaeth hefyd yn cefnogi ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i 'ddathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math’.

19. Mae'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn cefnogi gofynion tystiolaeth a data blaenoriaethau penodol y Rhaglen Lywodraethu, fel rhoi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

20. Cenhadaeth yr Unedau yw gwella argaeledd, ansawdd, manylder a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddeall yn llawn lefel yr anghydraddoldebau a'r mathau o anghydraddoldebau ledled Cymru. Bydd hyn yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau  gwell y gellir eu monitro a'u gwerthuso am eu heffaith. Yn ei dro, bydd hyn yn ein sbarduno tuag at ganlyniadau gwell i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig ac yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol, sef 'Cymru fwy cyfartal’.

Cerrig milltir cenedlaethol

21. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i geisio sicrhau cyfiawnder economaidd a chymdeithasol ac mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog yn elfen hanfodol o hynny. Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cyflog hefyd yn elfen allweddol yn ein gweledigaeth o Gymru o waith teg a’r gydnabyddiaeth bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith yn rhan annatod o'n hymrwymiad ehangach i waith teg ar gyfer holl weithwyr Cymru. Mae llawer o flaenoriaethau'r Uned yn ymwneud â chefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â gwaith teg. Mae hyn yn cynnwys data i gefnogi'r garreg filltir genedlaethol i ddileu'r bylchau cyflog rhwng y rhywiau, o ran ethnigrwydd ac o ran anabledd erbyn 2050.

Cydraddoldeb a hawliau dynol

22. Mae cydraddoldeb a hawliau dynol wedi'u hymgorffori yn y gweithgareddau a gynhelir gan y tîm polisi cydraddoldeb. Mae gan y tîm cydraddoldeb weithredoedd, prosiectau a pholisïau sy'n cefnogi'n uniongyrchol ac yn effeithio’n gadarnhaol ar y Ddeddf Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol (Deddf Cydraddoldeb 2010) a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy roi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da. Mae tystiolaeth ddibynadwy a defnyddiol yn hanfodol i ddeall yr anghydraddoldebau systemig y mae dinasyddion yng Nghymru yn eu hwynebu a mynd i'r afael â'r problemau, sy'n aml wedi'u gwreiddio'n ddwfn, sy'n cael effaith andwyol ar y rhai â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig. Mae data ystadegol yn aml yn cuddio gwahaniaethau penodol ac unigryw rhwng hunaniaethau lleiafrifol ac achosion pan fo dwy neu fwy o nodweddion yn croestorri. Mae'r unedau'n deall bod angen sicrhau bod tystiolaeth yn wirioneddol adlewyrchu profiadau bywyd y grwpiau y mae'n anelu at eu dal, ac mae hyn yn rhan o'u cylch gwaith.

Cyfathrebu a chyhoeddiadau

23. Y bwriad yw cyhoeddi'r Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb a Blaenoriaethau 2022-2027 ar wefan Llywodraeth Cymru ar 26 Medi 2022. Pwrpas hyn yw bod yn agored a thryloyw ynglŷn â chynlluniau'r Unedau fel eu bod yn glir i'r holl randdeiliaid, a rhoi cyfle iddynt ddarparu mewnbwn parhaus. Mae'n annhebygol y bydd diddordeb cyhoeddus sylweddol yn y cyhoeddiad hwn.

24. Mae swyddfa'r wasg yn awgrymu cyhoeddi hysbysiad i'r wasg i dynnu sylw at y dull traws-adrannol o sicrhau cydraddoldeb i bawb yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith parhaus gyda'r cyhoedd a rhoi galwad i weithredu i helpu i lunio'r Strategaeth. Os yw'n bosibl, bydd astudiaethau achos hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at bwysigrwydd yr Unedau i wahanol gymunedau ledled Cymru.

25. Argymhellir cyhoeddi'r papur hwn chwe wythnos ar ôl cyfarfod y Cabinet.

Argymhelliad

  1. Argymhellir bod y Cabinet yn cytuno ar Strategaeth yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg a nodir yn Doc 1 a Doc 2.
  2. Argymhellir bod y Cabinet yn cytuno bod y strategaeth a'r blaenoriaethau'n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar 26 Medi.
  3. Argymhellir rhoi diweddariad chwarterol i Weinidogion ar waith yr unedau.

Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Medi 2022