Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Y penderfyniad sy'n ofynnol. Gofynnir i'r Cabinet:

  • Nodi'r adroddiad Adolygiad o Gymorth Busnes yn Atodiad B a'r cylch gorchwyl yn Atodiad C.
  • Cymeradwyo'r argymhellion cryno ym mharagraff 13.

Crynodeb

1. Mae'r papur hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar yr Adolygiad o Gymorth Busnes mewnol (BSR), gan asesu'r ddarpariaeth cymorth busnes i gefnogi'r Genhadaeth Economaidd a phedair blaenoriaeth y Prif Weinidog. Mae'r adolygiad yn defnyddio dadansoddiad mewnol ac allanol, ymchwil desg, a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'n nodi cryfderau'r system bresennol, gan gynnwys y gallu i addasu, gweithio ar y cyd, a'r effaith gadarnhaol ar dwf busnes ac arloesedd. Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd i'w gwella ac yn cynnig cyfres o argymhellion. Mae'r BSR a'i argymhellion wedi'u halinio â'r adolygiad mewnol o'r strategaeth economi gylchol (CAB(25-26)10) ac yn eu cefnogi.

Y cefndir

2. Mae'r adolygiad yn asesu'r sefyllfa bresennol, gan nodi cryfderau a chyfyngiadau'r ddarpariaeth bresennol, ac yn nodi cyfleoedd i gymryd camau gweithredu ymarferol i gefnogi ein blaenoriaethau. Mae'n ategu ein gwaith ar Diwydiant Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a chyrff hyd braich eraill. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio i fod yn amserol ac yn gymesur, gan ganolbwyntio ar feysydd lle gellir gwneud gwelliannau ystyrlon mewn ffordd effeithlon. Mae'n cael ei ategu a'i lywio gan dystiolaeth, adborth gan randdeiliaid a chipolygon o astudiaethau mewnol ac allanol blaenorol. Mae hefyd yn cynnwys nifer o adolygiadau tymor byr a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2025 ar Gynhyrchiant Busnesau Bach a Chanolig a Deallusrwydd Artiffisial, Adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach ar y Sefyllfa Cymorth Busnes yng Nghymru ac adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) o 2024 ‘Regional Governance and Public Investment in Wales’.

3. Nid yw'n adolygiad o'r holl wasanaethau cymorth busnes ledled Llywodraeth Cymru. Byddai angen mwy o fewnbwn, amser ac adnoddau allanol ar gyfer dadansoddiad hirdymor mwy na'r hyn y mae'r adolygiad mewnol hwn yn ei ganiatáu, ond mae'n ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd nawr i gefnogi'r gwaith o gynnal gwerthusiadau manwl yn y dyfodol. Bydda'r rhain yn trin a thrafod pa mor dda y mae gwasanaethau yn cyd-fynd â'r strategaeth economaidd a nodi'r opsiynau gorau ar gyfer gwneud gwelliannau. Darperir adroddiad Adolygiad Cymorth Busnes yn Atodiad B, ochr yn ochr â'r cylch gorchwyl yn Atodiad C.

Darpariaeth cymorth busnes

4. Mae ein Cenhadaeth Economaidd, a ail-lansiwyd ym mis Tachwedd, yn nodi pedair blaenoriaeth:

  1. pontio cyfiawn a ffyniant gwyrdd
  2. platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant
  3. partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a'r economi bod dydd
  4. buddsoddi ar gyfer twf.

Mae'n cael ei ategu gan ystod o fwriadau polisi gyda'r nod o greu'r amodau a'r cyfleoedd i gyflawni'r pedair blaenoriaeth ynghyd ag ystod eang o wasanaethau cymorth wedi'u teilwra i anghenion busnesau a chymunedau Cymru, gan gynnwys:

  • Gwybodaeth, arweiniad a chyngor drwy Busnes Cymru a GwerthwchiGymru.
  • Mynediad at gyllid yn bennaf drwy Fanc Datblygu Cymru, a Chronfa Dyfodol yr Economi.
  • Cymorth ar gyfer digideiddio, ymchwil a datblygu a mabwysiadu technolegau newydd.
  • Gwasanaethau allforio a chymorth rhyngwladol sy'n cysylltu busnesau â chyfleoedd byd-eang.
  • Darparu rhaglenni yn benodol ar gyfer y sector bwyd, y sector creadigol, twristiaeth, adeiladu a'r economi sylfaenol.
  • Cymorth sgiliau ac arloesedd.

5. Mae'r gyllideb ar gyfer darpariaeth cymorth busnes yn Llywodraeth Cymru wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig oherwydd ein hymadawiad â'r UE a cholli mynediad at gyllid Ewropeaidd.

6. Hanfod ein darpariaeth cymorth busnes yw cynyddu cyflogaeth a chreu swyddi o safon, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau economaidd parhaus. Rydym hefyd yn ymroddedig i leihau'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gweddill y DU trwy fuddsoddi mewn arloesedd a datblygu sgiliau'r gweithlu. Mae ein blaenoriaeth 'rhagor o swyddi' yn ganolog i'r ymdrechion hyn. Mae'n dangos ein hymrwymiad i ehangu cyfleoedd cyflogaeth ledled Cymru.

7. Mae nifer o bolisïau a rhaglenni allweddol yn cyfrannu at gefnogi'r agenda 'rhagor o swyddi' megis Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru, Cronfa Dyfodol yr Economi, Croeso Cymru a Cyswllt Ffermio. Yn ogystal â hyn, mae rhaglenni fel Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi wedi'u cynllunio i ddatgloi potensial cyflogaeth hirdymor, cefnogi pontio i economi sero net a chreu'r amodau ar gyfer twf swyddi yn y dyfodol.

8. Mae gan Gymru ecosystem cymorth busnes cymhleth sy'n cynnwys partneriaid ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, lleol a phreifat. Mae polisi, mentrau a chyllid Llywodraeth y DU yn aml yn cael eu cynllunio gan ystyried Lloegr yn unig, ac mae hyn yn cymhlethu pethau'n fwy trwy beidio â mynd i'r afael yn benodol ag anghenion Cymru.

9. Mae'r llu o gymorth sydd ar gael wedi arwain at sefyllfa gymorth busnes ddigyswllt a chymhleth. Yn hytrach nag un system gyffredinol gyda mesurau perfformiad y cytunwyd arnynt, mae busnesau a sefydliadau bellach yn gorfod llywio amrywiaeth o fentrau ar wahân. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach alinio rhaglenni ac yn arwain at waith yn cael ei ailadrodd, tra'n ei gwneud hi'n anoddach sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.

Canfyddiadau allweddol o'r adolygiad

10. I grynhoi, mae cymorth busnes yng Nghymru yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ac mae wedi dangos gallu i addasu sylweddol mewn ymateb i heriau fel Brexit a phandemig Covid-19. Mae mabwysiadu modelau cyflenwi hybrid yn ystod y pandemig wedi gwella cyrhaeddiad ac effeithlonrwydd gwasanaethau cymorth busnes. Argymhellir cadw'r modelau hyn oherwydd eu heffaith gadarnhaol. Mae Busnes Cymru yn cael ei gydnabod fel siop un stop dibynadwy, gyda brand cryf a hygyrchedd uchel i entrepreneuriaid newydd a'r rhai sy'n anodd eu cyrraedd. Mae boddhad cleientiaid yn uchel (84% yn gyffredinol), yn enwedig o ran arbenigedd a didueddrwydd cynghorwyr.

11. Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni a adolygwyd yn rhagori ar eu targedau meintiol, yn enwedig ar gyfer arloesi, creu swyddi a diogelu swyddi. Fodd bynnag, mae'r fethodoleg ar gyfer diffinio creu swyddi a choladu data cysylltiedig yn anghyson. Mae'r anghysondeb hwn yn cyfyngu'r gallu i asesu gwerth am arian ac enillion ar fuddsoddiad. Lle mae data ar gael, mae'r canlyniadau'n galonogol gyda Busnes Cymru yn cynhyrchu amcangyfrif o hyd at £18 mewn gwerth ychwanegol gros (GYC) am bob £1 a fuddsoddwyd. Cynhyrchodd Rhaglenni Cymorth Allforio gymhareb o werth allforio gros i gostau rhaglen uniongyrchol o 20.5 (£20 am bob £1 a wariwyd) ac roedd rhaglen bwyd a diod Helix yn adrodd hyd at £15 am bob £1 a wariwyd.

12. Mae'r adolygiad yn nodi bod rhai busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn aml yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at gyllid a gallant fod ar ei hôl hi o ran arloesedd o'u chymharu â busnesau mwy. Mae mynediad at gyllid yn parhau i fod yn her sylweddol, gyda phrosesau ymgeisio yn cael eu hystyried yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser. Daeth hybu arloesedd a gwella sgiliau'r gweithlu i'r amlwg fel strategaethau hanfodol ar gyfer cau'r bwlch cynhyrchiant yng Nghymru.

Argymhellion

13. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhelliony manylir arnynt yn adran 8 o'r adroddiad BSR (yn Atodiad B). I grynhoi:

  1. Cyhoeddi cyfres o seminarau, rhwng nawr a diwedd tymor hwn y Senedd, gan ddod â'r prif ddarparwyr busnes at ei gilydd i egluro a symleiddio'r ystod o gymorth, osgoi ailadrodd gwaith a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth
  2. Mabwysiadu dull "dim drws anghywir" i gynyddu hygyrchedd drwy greu hyb ar-lein gan ddefnyddio datblygiadau technolegol mewn deallusrwydd artiffisial (AI) ac adeiladu ar byrth Busnes Cymru, Masnach a Buddsoddi a Croeso Cymru
  3. Cynnig pwynt cyswllt pwrpasol yn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi i gefnogi buddsoddwyr mawr ac ar gyfer yr holl fuddsoddwyr newydd arwyddocaol yng Nghymru
  4. Gwella ein swyddogaeth rheoli cyfrifon pwrpasol
  5. Gwella'r ffordd rydym yn casglu ac adrodd data ym mhob rhaglen a sefydlu fframwaith perfformiad cyffredinol ar gyfer pob ymyriad
  6. Ystyried mabwysiadu model perfformiad dwy haen ar gyfer creu a diogelu swyddi
  7. Parhau i wella'r camau gweithredu hynny sydd eisoes ar waith ac ystyried ymhellach y ffordd orau o weithio gyda Llywodraeth y DU i osgoi bylchau ac osgoi ailadrodd gwaith wrth ddarparu gwasanaethau
  8. Cryfhau cymorth pwrpasol i fusnesau newydd sy'n gweithio yn y Gymraeg
  9. Ehangu modelau cyflenwi digidol a hybrid i wella cyrhaeddiad ac effeithlonrwydd
  10. Parhau i gryfhau'r cydweithio rhwng Busnes Cymru, Cymru Greadigol, Croeso Cymru, awdurdodau lleol, Banc Datblygu Cymru a sefydliadau'r trydydd sector
  11. Datblygu llwybr clir a chymorth pwrpasol fel y gall busnesau bach a chanolig fabwysiadu AI
  12. Cynnig cymorth wedi'i dargedu ar gyfer sectorau penodol fel ynni (yn enwedig FLOW), y sector amddiffyn a'r sector niwclear
  13. Manteisio i'r eithaf ar frand Busnes Cymru ac ystyried dod â chymorth busnes Llywodraeth Cymru i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru o dan y faner hon
  14. Ystyried sut i symleiddio a datblygu cymorth sectorol penodol yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth a gwybodaeth o'r sector
  15. Cynnal adolygiad llawn o ddulliau cyflawni cymorth busnes
  16. Defnyddio mesurau data a pherfformiad cadarn i lywio penderfyniadau buddsoddi a chyflawni yn y Dyfodol
  17. Dylid ystyried canolbwyntio ar ystod lai eang o flaenoriaethau allweddol er mwyn defnyddio adnoddau yn well
  18. Mynd i'r afael â bylchau ffisegol (e.e. eiddo), ynni a seilwaith digidol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig
  19. Gwneud cymorth yn fwy cynhwysol i ardaloedd gwledig a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli a chynyddu cymorth wyneb i wyneb lle mae mynediad digidol yn gyfyngedig
  20. Datblygu dull strategol o gymorth brys ar gyfer argyfyngau yn y dyfodol a helpu busnesau i gynllunio ar gyfer cyfnodau o ansicrwydd
  21. Gwella'r cydlyniant rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau cymorth
  22. Cyd-ddylunio un strategaeth cymorth busnes genedlaethol gyffredinol
  23. Integreiddio cymorth busnes yn agosach â gwasanaethau sgiliau a chyflogadwyedd

Effaith ac aliniad

14. Bydd egluro a symleiddio'r ystod o gymorth, osgoi ailadrodd gwaith a nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, yn arwain at ymagwedd newydd wedi'i deilwra at fusnesau yng Nghymru.

15. Mae'r dull a awgrymir yn yr adolygiad yn cyd-fynd yn agos â'r Ddeddf Cenhadaeth Economaidd a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan helpu i feithrin economi fwy cynhyrchiol, gwydn a chynaliadwy.

Cyfathrebu a chyhoeddi

16. Bydd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu i sicrhau bod y gwelliannau yn cael eu cyfathrebu'n glir i fusnesau a'r cyhoedd ehangach. Mae datganiad llafar a chyhoeddi'r adolygiad wedi'i drefnu ar gyfer 18 Tachwedd.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet:

  • Nodi'r adroddiad Adolygiad Cymorth Busnes yn Atodiad B a'r cylch gorchwyl yn Atodiad C.
  • Cymeradwyo'r argymhellion cryno ym mharagraff 13.

Rebecca Evans AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio