Neidio i'r prif gynnwy

Y penderfyniadau sy’n ofynnol

  1. Cytuno ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+ diwygiedig, y trefnwyd iddo gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2023, a
  2. Cymeradwyo lansiad y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar 7 Chwefror 2023 fel rhan o Fis Hanes LHDTC+ 2023. 

Crynodeb

1. Rydym am i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, ac i fod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu rhywedd, a’u mynegiant rhywedd, yn y cartref, yn y gwaith neu yn ystod gweithgareddau hamdden, heb deimlo dan fygythiad. Ymrwymodd y Rhaglen Lywodraethu i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, ac mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn cael ei ystyried yn gam pwysig tuag at gyrraedd y nod hwnnw.

2. Mae’r cynllun yn nodi’r fframwaith ar gyfer datblygu polisïau LHDTC+ ar draws y Llywodraeth a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw fel nhw eu hunain.

3. Mae swyddogion wedi cydweithio ag ystod eang o gynrychiolwyr o gymunedau LHDTC+ ynghyd â’r Panel Arbenigwyr LHDTC+ i lywio’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ (Dogfen 1). Mae hyn yn cynnwys dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r mewnbwn gan randdeiliaid ers cyhoeddi’r cynllun drafft ym mis Gorffennaf 2021. O ganlyniad, mae’r Cynllun yn cynnwys camau gweithredu pendant, graddol, ac y gellir eu mesur, a fydd yn cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar fywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru ac y cytunwyd arnynt â pherchnogion camau gweithredu ac arweinwyr polisi.

4. Awgrymir bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu yn flynyddol i bob Gweinidog ynghylch gweithredu’r Cynllun.

Amcan y papur

5. Mae Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru (Dogfen 1) wedi cael ei sefydlu i helpu i gydgysylltu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill. Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth gyffredinol i wella bywydau pobl LHDTC+ a chanlyniadau iddynt. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau polisi penodol sy’n ymwneud â hawliau dynol, addysg, gwella diogelwch, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, diwylliant, a hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Yn benodol, drwy’r Cynllun Gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd, a helpu’r cymunedau hynny i deimlo’n gyfforddus ac yn rhan o gymdeithas yng Nghymru.

Y prif feysydd o ddiddordeb

Addysg

6. Rydym yn galluogi addysg fwy cynhwysol, drwy ymrwymo i ddarparu canllawiau cenedlaethol i ysgolion erbyn haf 2023 er mwyn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i gefnogi disgyblion trawsryweddol i’r eithaf. Nododd Adroddiad Ysgol Cymru (Stonewall 2017) ymhlith myfyrwyr 11-19 oed yng Nghymru, fod 54% o fyfyrwyr LHDT a 73% o fyfyrwyr traws yn cael eu bwlio yn yr ysgol ynglŷn â’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd.

7. Camau allweddol yn y Cynllun: Rhoi canllawiau cenedlaethol ar faterion traws i ysgolion ac awdurdodau lleol. Mae swyddogion addysg wrthi’n llunio canllawiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol, er mwyn eu galluogi i gefnogi anghenion plant a phobl ifanc draws i’r eithaf (mae disgwyl i’r canllawiau gael eu cyhoeddi yn ystod haf/ym mis Medi 2023).
 

Iechyd

8. Er bod gan Gymru ei gwasanaeth rhywedd ei hun, dim ond darpariaeth i oedolion ydyw. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw wasanaethau rhywedd i blant na phobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Felly, maent yn aml yn cael eu cyfeirio at wasanaethau yn Lloegr. Mae adroddiad arolygu ar wasanaethau hunaniaeth rhywedd (Comisiwn Ansawdd Gofal 2019) wedi canfod bod Gwasanaethau Rhywedd i bobl ifanc yn annigonol o hyd yn Lloegr, gan ddweud:

“The service was difficult to access. There were over 4600 young people on the waiting list. Young people waited over two years for their first appointment.

9. Camau allweddol yn y Cynllun: Parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru; Adolygu’r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.

Diogelwch a rhyddid rhag gwahaniaethu

10. Drwy deimlo’n fwy diogel yng Nghymru bydd modd i bobl LHDTC+ ffynnu a byw heb ofn, yn eu bywyd personol ac mewn cymdeithas. Mae llawer o bobl LHDTC+ yng Nghymru yn parhau i deimlo’n anniogel ac mewn perygl mawr o gael eu cam-drin neu eu gwahaniaethu.

11. Mae’r camau allweddol yn yr adran hon o’r Cynllun sy’n ceisio mynd i’r afael â hyn a gwarantu diogelwch pobl LHDTC+ yng Nghymru yn cynnwys:

  • cael gwared ar rwystrau i bobl LHDTC+ rhag rhoi gwybod am droseddau casineb
  • parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni atal troseddau casineb ledled Cymru
  • gwella perthynas cymunedau LHDTC+ ag awdurdodau gorfodi’r gyfraith

Y Chwaraeon a diwylliant

12. Yn ddiweddar, gwelwyd cynnydd yn y polisïau chwaraeon nad ydynt yn cynnwys pobl draws yn gyfan gwbl, yn enwedig menywod traws, gan gyrff rhyngwladol a domestig. Mae perygl y bydd gwaharddiad llwyr ar bobl drawsryweddol ac anneuaidd yn anfon neges anghywir i bobl ifanc draws na allant gael yr un cyfleoedd â phlant eraill, ac i bob person ifanc fod yn rhaid iddynt ymgyflwyno mewn ffordd benodol er mwyn cael eu parchu am bwy ydynt.

13. Camau allweddol yn y cynllun:

  • Gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant, a chyfranogiad pobl LHDTC+ ym myd chwaraeon
  • Gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon.

Effaith

Y Rhaglen Lywodraethu

14. Mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys yr ymrwymiadau a ganlyn o’r Rhaglen Lywodraethu:

  • cefnogi sefydliadau Pride ledled Cymru
  • gweithio ar Gydnabod Rhywedd
  • gweithio ar wahardd arferion trosi

15. Mae Asesiad Effaith Integredig wedi’i gyflawni ar gyfer y Cynllun Gweithredu hwn.

16. Mae’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb a’u hymchwilwyr wedi gwneud asesiad gwerthusadwyedd o ran y Cynllun a gwaith rhagarweiniol tuag at werthuso ei effaith (mae’r Asesiad Gwerthusadwyedd a’r gwerthusiad ar gael yn Nogfen 2).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

17. Bydd creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lle mae gan bawb gyfle i gymryd rhan, i wireddu eu potensial a gallu cyfrannu’n llawn at yr economi, yn galluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac arloesol. Mae cysylltiadau amlwg rhwng y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r nod hwn, a nod ‘Cymru sy’n fwy cyfartal’. Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r ‘pum dull o weithio’ yn adran 5 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Yn bwysicach na dim, drwy gynnwys pobl LHDTC+ a chydweithio â nhw, mae eu profiad uniongyrchol yn ganolog i gynnwys y Cynllun.

Cerrig milltir cenedlaethol

18. Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder economaidd a chymdeithasol. Mae llawer o gamau gweithredu a gweithgareddau’r Cynllun yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth gymdeithasol, ond maent yn ymwneud hefyd â gofal iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol; addysg a sgiliau cynhwysol; cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli; a’r Gymraeg.

Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

19. Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi’u hymgorffori yng ngweithgareddau’r tîm polisi Cydraddoldeb. Mae gan y tîm Cydraddoldeb gamau gweithredu, prosiectau a pholisïau sy’n rhoi cefnogaeth uniongyrchol ac yn cael effaith gadarnhaol yng nghyswllt Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol, ac o ran Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Deddf Cydraddoldeb 2010) i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy roi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da.

20. O safbwynt rhyngwladol, sylfaen y Cynllun Gweithredu hwn yw’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau dynol a amlinellwyd gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig (CU) (UNSDG 2022) ac Arbenigwr Annibynnol y CU ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd (IESOGI) (OHCHR 2022b).

21. Bydd y Cynllun hwn hefyd yn cyfrannu’n fawr at waith Llywodraeth Cymru o gyflawni swyddogaethau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd yn gysylltiedig â gwaith ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau, anabledd, hil a nodweddion gwarchodedig eraill o dan y Ddeddf hon. Rydym yn cydnabod bod angen sicrhau bod ein Cynlluniau Gweithredu ym maes cydraddoldeb yn gweithio gyda’i gilydd.

Y Cytundeb Cydweithio

22. Mae’r Cytundeb Cydweithio yn cynnwys yr ymrwymiad a ganlyn:

Gwneud Cymru y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop a chefnogi cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Byddwn yn galw am ddatganoli’r pwerau i ddeddfu i wella bywydau a diogelu pobl drawsryweddol yng Nghymru.

Mae’r Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian AS, wedi chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gytuno ar y Cynllun a’i gwblhau.

23. Ar 12 Ionawr 2023, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Polisi, cytunodd yr Aelod Dynodedig a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn ffurfiol i gyhoeddi Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cytuno ar gynnwys y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (Dogfen 1) a’r Papur Cabinet hwn CAB (22-23) 41.

Cyfathrebu a chyhoeddiadau

24. Y bwriad yw i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol lansio’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drwy gyfrwng Datganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Chwefror 2023, ac yna iddo gael ei gyhoeddi ar unwaith ar wefan Llywodraeth Cymru. Bwriedir cynnal lansiad cyfyngedig ar yr un diwrnod yn y Senedd.

25. Hysbysiad i’r wasg i dynnu sylw at y dull traws-adrannol o sicrhau cydraddoldeb i bawb yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith parhaus gyda’r cyhoedd ac yn cyflwyno galwad i weithredu er mwyn helpu i roi’r Cynllun ar waith. Drwy lansio ym mis Chwefror, mae modd cyd-fynd ag amryw o ddigwyddiadau i nodi mis Hanes LHDTC+ a fydd yn tynnu sylw ymhellach at y Cynllun Gweithredu newydd.

Argymhelliad

  • Dylai’r Cabinet gytuno ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a geir yn Nogfen 1
  • Dylai’r Cabinet gytuno bod y Cynllun yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror fel rhan o Fis Hanes LHDTC+ 2023.

Hannah Blythyn AS
Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
18 Ionawr 2023