Neidio i'r prif gynnwy

Y penderfyniadau sydd i’w gwneud

  1. Cytuno ar y camau gweithredu a nodir yn y cynllun.
  2. Cytuno bod y Cynllun yn cael ei gyhoeddi drwy ddatganiad ysgrifenedig cyn gynted ag y mae'r cyfieithiad BSL wedi’i gwblhau.

Crynodeb

1. Rwy'n ymroi i gyhoeddi'r cynllun hwn i gefnogi ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i ehangu'r ddarpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau a'r sector preifat a sicrhau urddas mislif mewn ysgolion. Mae gan Gymru gyfle unigryw i weithio ar y cyd gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid er mwyn sicrhau Cymru sy’n falch o’r mislif, a gwneud hyn heb fod angen deddfwriaeth sef y llwybr a ddilynwyd yn yr Alban. Drwy ddefnyddio'r Cynllun hwn, rwy'n hyderus y gall Cymru gyflawni urddas mislif heb fod angen deddfu.

2. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cyllid drwy awdurdodau lleol yng Nghymru ers 2018 er mwyn galluogi ysgolion, sefydliadau addysg bellach a lleoliadau cymunedol i ddarparu cynnyrch mislif am ddim i ddysgwyr a'r rhai sydd ar incwm isel. I ddechrau, ymdrech i ddileu tlodi mislif oedd hyn ond mae wedi datblygu i fod yn amcan ehangach i sicrhau urddas mislif ar draws Cymru. 

3. Rwy'n cadeirio Bwrdd Crwn Urddas Mislif a sefydlwyd yn 2019 i ddatblygu dealltwriaeth o anghenion y rhai sy'n defnyddio nwyddau mislif a'r anghenion addysgol a chyfathrebu ehangach sy'n gysylltiedig â’r mislif. Nod yr addysg a’r cyfathrebu sy'n gysylltiedig â’r mislif yw dileu’r stigma a sicrhau gwell dealltwriaeth o’r mislif gan bawb - a thrwy hynny annog y defnydd o’r nwyddau.

4. Cafodd y cynllun ei ddrafftio gyda mewnbwn sylweddol gan randdeiliaid yn gynnar yn 2020. Oherwydd dechrau'r pandemig Covid ym mis Mawrth 2020, cafodd y cynllun ei ohirio er mwyn cyfeirio adnoddau at ddelio â'r argyfwng uniongyrchol. Wrth i'r ymateb i'r argyfwng uniongyrchol lacio, cafodd y cynllun ei baratoi ar gyfer ymgynghoriad ysgrifenedig ffurfiol ym mis Hydref 2021, a wnaeth ddod i ben ym mis Ionawr 2022.

5. Penodwyd Ymchwil Arad Research i ddarparu dadansoddiad ffurfiol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cafodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o 250 o ymatebion i'r ymgynghoriad, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth o themâu, ac fe’u crynhoir isod.

  • Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â'r weledigaeth ar gyfer urddas mislif, ac roeddent yn cefnogi mwy o ymdrechion i sicrhau urddas mislif yng Nghymru.
  • Cododd traean o'r ymatebwyr bryderon am y diffyg tybiedig o gyfeiriadau at fenywod a merched yn y cynllun. Roedd y pryderon hyn yn ymwneud â disgrifio materion iechyd sy'n gysylltiedig â rhyw biolegol, pryder bod menywod yn cael eu dad-ddyneiddio drwy ddefnyddio 'iaith ehangach, fel 'pobl â mislif’ ac er mwyn hwyluso dealltwriaeth i'r rhai nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg / Saesneg neu sydd ag anawsterau dysgu. Roedd y cynllun drafft yn cyfeirio at fenywod a merched ond gan amlaf yn defnyddio'r ymadrodd 'pobl sy'n cael mislif neu bobl â mislif’.
  • Un thema fawr yn yr atebion i bob cwestiwn oedd yr angen i godi ymwybyddiaeth a chynnwys urddas mislif fel rhan o addysg i bawb; codwyd hyn mewn ychydig llai na chwarter yr ymatebion. Roedd y thema hon yn cynnwys pwyntiau a wnaed am yr hyn sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion a'r cysylltiadau â'r cwricwlwm. 
  • Fe wnaeth tua deg y cant o'r ymatebwyr sôn am hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i ymarferwyr iechyd. Fe wnaeth rhai ymatebwyr hefyd rannu eu profiadau o ymdrin â gweithwyr iechyd proffesiynol ac adegau lle na wnaethant dderbyn y cyngor neu'r driniaeth yr oedd eu hangen arnynt. Cafwyd argymhellion ynghylch mynediad at arbenigedd, mwy o ymchwil i iechyd mislif a sicrhau bod meddygon teulu'n gyfredol yn eu dealltwriaeth o faterion iechyd menywod, gan gynnwys y mislif.
  • Nododd tua phumed o'r ymatebwyr fod angen gweithredu i leihau'r embaras a'r stigma sy'n gysylltiedig â’r mislif ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd nifer fach (rhyw ddwsin o ymatebwyr) yn teimlo bod yn rhaid i gyflogwyr fod yn fwy gwybodus a chael dealltwriaeth well o’r mislif er mwyn sicrhau urddas mislif, a bod angen gweithredu i newid polisi yn y gweithle ar y mislif. 
  • Y thema olaf oedd pwysigrwydd cael gafael ar nwyddau am ddim lle bo angen. Aeth yr ymatebwyr ymlaen i ofyn bod unrhyw nwyddau am ddim yn ystyried gwahaniaethau diwylliannol, y dewis o nwyddau a ffefrir gan unigolion a chynhyrchion di-blastig a / neu gynhyrchion ailddefnyddiadwy yn ogystal ag anghenion pobl anabl. Fe wnaeth prosiect a gynhaliwyd gan Women Connect First a Mela Cymru fel rhan o'r ymgynghoriad nodi'r gwahaniaeth ethnig o ran hyd ac amrywioldeb y cylch mislif yn ogystal â’r gwahaniaethau o ran barn a phrofiadau.

6.    Er mwyn ymateb i'r themâu hyn, mae'r newidiadau canlynol wedi’u gwneud i’r cynllun:

  1. Diwygiwyd themâu'r cynllun i adlewyrchu themâu'r broses ymgynghori.
  2. Diwygiwyd a datblygwyd y camau gweithredu ar addysg a bydd gwaith yn dechrau'n gynnar yn y broses o weithredu’r cynllun i ddatblygu’r adnoddau addysgol sydd eu hangen ynghylch lles mislif gyda rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau bod y deunyddiau hyn yn adlewyrchu anghenion dysgwyr amrywiol ledled Cymru.
  3. Byddwn hefyd yn gweithio i sicrhau bod yr adnoddau addysgol yn integreiddio i ddeunyddiau cyfathrebu ehangach, gan gynnwys ymgyrch genedlaethol ar urddas mislif a fydd yn cynnwys addysg a chodi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd.
  4. Bydd y cynllun yn cyfeirio at fenywod, merched a phobl sy'n cael mislif.

7. Ers cyhoeddi drafft cychwynnol o’r Cynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif at ddibenion ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Iechyd Menywod. Roedd llawer o awgrymiadau penodol yn yr ymatebion yn cyfeirio at iechyd, gan gynnwys argymhellion ar gyfer hyfforddiant, ymchwil, newid arferion a seilwaith newydd. Gofynnodd yr ymgynghoriad hefyd lle’r oedd yr ymatebwyr yn credu y dylid mynd i'r afael â materion iechyd ehangach sy'n gysylltiedig ag urddas mislif. Roedd adborth ar hyn yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai’r materion ehangach hyn fod mewn dogfen wahanol. Rydym yn awgrymu bod y Cynllun Iechyd Menywod yn gyfrwng priodol ar gyfer y rhan fwyaf o'r materion hyn; mae'r cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ yn gwneud cysylltiadau â'r cynllun sydd ar y gweill a'r Datganiad Ansawdd. Mae'r holl ymatebion perthnasol i'r ymgynghoriad hefyd wedi'u darparu i'r rhai sy'n datblygu’r Cynllun Iechyd Menywod er mwyn iddynt eu hystyried a’u cynnwys lle bo’n briodol.

8. Mae mynediad at nwyddau yn parhau’n flaenoriaeth i lawer o ymatebwyr. Ochr yn ochr â lansiad y cynllun hwn, rydym wedi cynyddu'r grant Urddas Mislif i £3.7 miliwn yn 2022-2023 i dargedu nwyddau at y rhai sydd fwyaf mewn angen ar draws ysgolion a chymunedau yng ngoleuni'r argyfwng costau byw. Comisiynwyd MEL Research i ymgymryd â gwerthusiad o'r Grant Urddas Mislif. Fe ddechreuodd y cytundeb ym mis Tachwedd 2022 ac mae disgwyl i ganfyddiadau terfynol yr ymchwil gael eu cyflwyno ym Medi 2023.

Amcan y papur

9. Mae'r Cynllun yn nodi camau gweithredu penodol ar gyfer meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol.

10. Mae ymgyrch genedlaethol yn cael ei ddatblygu i gefnogi nod y cynllun o ddileu'r cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig â’r mislif ac annog pobl i deimlo'n hyderus yn trafod y mislif, waeth a ydynt yn cael mislif ai peidio. Y bwriad drwy gael y sgyrsiau hyn yn agored yw y bydd mwy o bobl yn trafod unrhyw bryderon gyda'u meddyg teulu ac yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn am nwyddau a chefnogaeth, bod nwyddau ar gael mewn mwy o leoliadau a bod mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth.

11. Mae swyddogion ym maes Cydraddoldeb, Addysg ac Iechyd yn cydweithio'n agos ar y nodau polisi cyffredin hyn - gan gynnwys trwy wefan Mislif Fi GIG Cymru, yr ymrwymiad i les mislif fod yn rhan o'r cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a'r Grant Urddas Mislif. Mae’r wefan Mislif Fi wedi'i anelu at blant 11-14 oed. Bydd y cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ a’r ymgyrch a fydd yn cyd-fynd ag ef yn ategu ac yn ehangu cyrhaeddiad Mislif Fi i bob grŵp oedran yng Nghymru.

12. Gan fod y cynllun yn gofyn am weithredu a chefnogaeth ar draws y llywodraeth i gyflawni ei gweledigaeth o Urddas Mislif i bawb erbyn 2027, mae'n hanfodol bod y cynllun yn derbyn cefnogaeth gan y Cabinet i'w gyhoeddi.

Effaith

13. Mae llawer o'r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun yn cyfrannu at gyflawni nodau ac uchelgeisiau polisi ehangach Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae’r cynllun yn cefnogi ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i sefydlu urddas mislif mewn ysgolion ac ehangu ein ddarpariaeth o nwyddau mislif am ddim mewn cymunedau ac yn y sector preifat. Mae hefyd yn cyfrannu at yr amcan yn ymwneud â thlodi plant yn y Strategaeth Tlodi Plant i leihau anghydraddoldebau economaidd drwy wella canlyniadau'r i'r tlotaf. 

14. Mae annog dealltwriaeth o nwyddau y gellir eu hailddefnyddio neu nwyddau di-blastig yn nod arall yn y cynllun. Mae hyn yn cynyddu'r dewis i'r defnyddiwr ac mae hefyd yn cyd-fynd â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddeddfu i ddiddymu'r defnydd o ddeunydd plastig untro sy’n cael eu taflu’n sbwriel yn aml a’r ymrwymiad i ddileu plastigau untro diangen yn ein Strategaeth Economi Gylchol.

15. Bydd y rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynllun yn cael eu harwain gan swyddogion sy'n gweithio yn y tîm Cydraddoldeb. Lle mae camau'n cael eu cefnogi neu eu harwain gan adrannau eraill, mae'r priod arweinwyr polisi wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddrafftio'r camau hynny. Fel y nodwyd uchod, mae'r camau gweithredu'n cyfrannu tuag at flaenoriaethau presennol y llywodraeth ac mae'r cynllun yn cyfleu'r hyn sy'n digwydd ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau urddas mislif - o addysg, iechyd, chwaraeon a diwylliant i'r amgylchedd, cyflogaeth a threchu tlodi.

16. Mae'r cynllun yn nodi pa gamau sydd eu hangen i ddod yn Gymru sy’n falch o’r mislif ac i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer urddas mislif i bawb erbyn 2027. Bydd cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn y cynllun yn cael ei fonitro drwy'r Bwrdd Crwn Urddas Mislif ac adroddiad diweddaru blynyddol iddynt.

Cyfathrebu a chyhoeddiadau

17. Bydd y penderfyniad polisi'n cael ei gyfathrebu drwy gyhoeddi'r cynllun drwy ddatganiad ysgrifenedig. Mae fersiynau o’r cynllun wedi’u drafftio sy’n hawdd ei deall ac yn addas i bobl ifanc. Ni ellir creu cyfieithiad BSL o'r cynllun nes bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo’n derfynol. Bydd hyn yn cymryd dwy i dair wythnos i'w gwblhau.

18. Bydd y gwaith cyfathrebu i hyrwyddo cyhoeddi'r cynllun yn cynnwys sefydlu tudalen ymgyrchu fydd yn cysylltu i’r cynllun, adnoddau a gwybodaeth am y grant. Mae fideo wedi’i animeiddio hefyd yn cael ei ddatblygu i dynnu sylw at nodau'r polisi, ynghyd â fideos o brofiadau byw sy'n cynnwys merched yn siarad yn agored am eu profiad o gael mislif mewn ymgais i normaleiddio'r sgwrs ac annog eraill i ddechrau'r sgwrs a bod yn falch o’r mislif. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Women Connect First, Fair Treatment for the Women of Wales, ysgolion, Pêl-rwyd Cymru ac eraill i greu’r ffilmiau hyn.

19. Dylai'r papur hwn gael ei gyhoeddi chwe wythnos ar ôl i Gyfarfod y Cabinet gael ei gynnal.

Argymhellion

  • Dylai'r Cabinet gytuno i'r camau a nodir yn y Cynllun (yn Atodiad B) a
  • Dylai'r Cabinet gytuno bod y Cynllun yn cael ei gyhoeddi drwy ddatganiad ysgrifenedig cyn gynted ag y mae'r cyfieithiad BSL wedi’i gwblhau.

Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol 
Rhagfyr 2023

Atodiad A: Materion statudol, cyfreithiol, cyllid a llywodraethu - gofynion statudol

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ystyried sut y bydd eu polisïau’n effeithio ar y rhai a warchodir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. O dan yr adran honno, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gyflawni eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy'n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rhai sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rannu
  • meithrin cydberthnasau da rhwng y rhai sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rheini nad ydynt yn ei rannu.

Byddai'r cynllun yn cefnogi cyflawni'r tri phwynt uchod.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae gan Weinidogion Cymru hefyd ddyletswyddau perthnasol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Mae'r cynllun yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl gan Lywodraeth Cymru i naw allan o ddeg o'n hamcanion llesiant, gan gynnwys i:

  • ddarparu gofal iechyd effeithiol, safonol a chynaliadwy
  • parhau â'n rhaglen diwygio addysg hirdymor er mwyn lleihau anghydraddoldebau addysgol a chodi safonau.
  • diogelu, ail-adeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed.
  • dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math
  • adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio.
  • gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.

Bydd gweithredu'r camau yn y cynllun yn cyflawni yn erbyn yr holl nodau llesiant.

Safonau’r Gymraeg

Nid oes unrhyw effaith wedi’i nodi yn ymwneud â’r Gymraeg.

Gofynion ariannol a goblygiadau o ran llywodraethu

Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol newydd yn deillio o'r cyngor hwn. Cafodd y cynlluniau ariannol ar gyfer y Cynllun yn 2022-23, ar gyfer £200,000, eu cymeradwyo trwy MA/JH/1077/22. Mae hyn yn ychwanegol at y £3.7 miliwn o gyllid sydd eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer darparu nwyddau mewn ysgolion, colegau a chymunedau. Caiff unrhyw gost ychwanegol ei thalu o gyllidebau sy'n bodoli eisoes.

Bydd y Bwrdd Crwn Urddas Mislif, dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac sy'n cynnwys arweinwyr polisi mewnol yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, yn goruchwylio’r broses o weithredu’r cynllun a’i atebolrwydd. Bydd camau'n cael eu gweithredu gan bob un o'r arweinwyr polisi cyfrifol a byddant yn cael eu goruchwylio'n fewnol gan swyddogion o’r tîm Cydraddoldeb.