Papur Cabinet: Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Arloesi
Papur Cabinet CAB(23-24)05
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Angen penderfyniad
- cymeradwyo Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Arloesi newydd er mwyn ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 16 Hydref 2023.
Crynodeb
Fel y nodwyd yn ein Strategaeth, Cymru'n Arloesi, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, mae'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig yn barod bellach i gael ei ystyried a'i gyhoeddi gan y Cabinet.
Mae Cymru'n Arloesi yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer creu diwylliant ffyniannus o arloesi er mwyn creu Cymru gryfach, decach a fwy gwyrdd. Er mwyn gwireddu hynny, tynnodd sylw at genadaethau mewn pedwar o feysydd allweddol ein cymdeithas:
- Addysg
- yr Economi
- Iechyd a Llesiant
- Hinsawdd a Natur.
Ar gyfer pob un o'r cenadaethau, mae'r Cynllun Cyflawni yn manylu ar y Nodau, y Camau Gweithredu, y Cerrig Milltir a'r Mesuriadau perthnasol y mae Llywodraeth Cymru – ar ôl iddi ymgynghori'n eang â'r cyhoedd am y strategaeth – yn awyddus i'w gweld yn cael eu cyflawni yn ystod y tymor canolig a'r tymor hwy.
Amcan y papur
Mae'r Cynllun Cyflawni hwn yn nodi camau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, mewn partneriaeth ag eraill yn aml, er mwyn gwireddu'r ymrwymiadau yn Cymru'n Arloesi. Cysylltwyd eto â rhanddeiliaid er mwyn trafod a phrofi syniadau a ddatblygwyd ar ôl y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori eang â wnaed â nhw ymlaen llaw cyn mynd ati i ddatblygu'r strategaeth.
Bwriedir i'r Cynllun Cyflawni fod yn ddogfen fyw, ddeinamig a fydd yn ddigon hyblyg i ymateb dros amser wrth i'r dirwedd wleidyddol ac economaidd a chyllidebol newid. Bydd ynddo hefyd ddigon o hyblygrwydd i fedru adnabod cyfleoedd gwahanol a chyfleoedd gwell mewn amgylchedd ariannu sy'n newid yn gyflym. Bydd cyllidebau'r dyfodol yn cael eu cynnwys wrth i'r trafodaethau am gyllidebau fynd rhagddynt, er mwyn sicrhau bod ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i'r cyd-destun ariannol heriol, yn ogystal ag i'r cyfleoedd i fanteisio ar gyllid sydd ar gael ar lefel y DU, megis y Gronfa Ffyniant Bro. Datblygwyd y cynllun yn gwbl unol â'r Cytundeb Cydweithredu ac mae'r Aelod Dynodedig wedi cytuno arno.
Fel y nodir yn yr Atodiad, gwnaed newidiadau i'r Cynllun ar draws adrannau Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried y cyd-destun ariannol heriol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan leihau ymrwymiadau ffurfiol a sicrhau'r hyblygrwydd gorau posibl o ran y Prif Grwpiau Gwariant. Un o egwyddorion arweiniol y Cynllun yw bod Llywodraeth Cymru yn helpu'r rheini sy'n rhan o'r byd arloesi yng Nghymru i fod yn fwy llwyddiannus wrth ennill ffynonellau cyllid cystadleuol o'r DU ac Ewrop. Mae hynny'n cyd-fynd â'r sefyllfa sy'n debygol o gael ei gweld yn y dyfodol lle bydd angen ceisio gwneud mwy â llai.
Mae'r Cynllun yn pennu rhai egwyddorion arweiniol:
- Mae ymrwymiadau sylfaenol i gydraddoldeb daearyddol a demograffig yn rhan annatod o bob un o'r cenadaethau; yn ogystal â diwylliant ffyniannus o arloesi; a gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig gan gydweithredu ag eraill.
- Y Tîm Arloesi fydd yn gyfrifol am ddod ag arweinwyr ym maes arloesi at ei gilydd i gydweithio ar draws adrannau a meysydd polisi Llywodraeth Cymru.
- Bydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac yn benodol ei Is-bwyllgor Ymchwil ac Arloesi, gyfraniad allweddol i'w wneud wrth gyflawni'r Cynllun, o gofio'r rôl arweiniol sydd ganddo wrth hyrwyddo arloesedd yng Nghymru.
- Bydd adrannau'n gwneud buddsoddiadau allweddol o’u cyllidebau ein hunain pan fydd hynny’n briodol. Bydd adrannau hefyd yn cydweithio mwy â Llywodraeth y DU i ddenu buddsoddiad i ecosystem Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Cymru, er mwyn sbarduno cynnydd ar yr amcanion sydd gennym yn gyffredin.
- Bydd adrannau'n dilyn hynt y cenadaethau, a ddatblygwyd drwy drafod â Phlaid Cymru o dan y Cytundeb Cydweithio, a byddant yn gwneud hynny o dan oruchwyliaeth Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (IACW).
- Bydd yr adrannau'n mynd ati ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf i adolygu’r cynnydd a fydd wedi'i wneud, gan edrych yn ôl ar yr hyn a fydd wedi newid ac ar sut y bydd ein hecosystem yn symud oddi wrth gyllid uniongyrchol yr UE ac yn newid i fodel Ymchwil, Datblygu ac Arloesi mwy dylanwadol a chystadleuol.
- Bydd y Tîm Arloesi yn cynnal gwerthusiadau strwythuredig ym mlynyddoedd tri a phump er mwyn gweld ym mha feysydd y bydd canlyniadau mesuradwy sy'n gysylltiedig â’n cenadaethau a’n nodau wedi cael eu cyflawni.
Effaith
Cafodd y cynllun ei ddatblygu gan arweinwyr polisi perthnasol ar draws Llywodraeth Cymru, a bydd yn cael ei weithredu yn unol â hynny er mwyn llywio'r camau y byddwn yn eu cymryd er mwyn gweithredu ar flaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu:
- Economi gryfach a fwy cydnerth.
- Gofal iechyd effeithiol a chynaliadwy.
- Safonau addysgol uwch, yn enwedig ym maes addysg drydyddol ac ymchwil.
- Ymateb i’r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ym mhopeth a wnawn.
Mae'r cynllun yn grymuso pob un o'r rhanddeiliaid i gydweithio er mwyn cyflawni
nodau cyffredin o ran arloesi, ac i ysgogi buddsoddiad arloesi o ffynonellau allanol, sef Llywodraeth y DU yn bennaf, er mwyn cyflawni'n blaenoriaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo ym Mhapur Gwyn y Deyrnas Unedig ar Ffyniant Bro i gynyddu gwariant ar Ymchwil a Datblygu domestig y tu allan i ardal De-ddwyrain Lloegr fwyaf. Nod y cynllun hwn yw sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran hi o'r gwariant uwch hwnnw. Er mwyn gwneud hynny, eir ati yn y Cynllun i amlinellu cyfeiriad strategol sydd am helpu rhanddeiliaid ym maes arloesi yng Nghymru i gydweithredu mwy er mwyn datblygu ceisiadau mwy o ran eu maint, a mwy uchelgeisiol, i ffynonellau cyllid cystadleuol a gynigir gan y DU ac Ewrop ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Y cam cyntaf er mwyn mynd i’r afael â hynny oedd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Innovate UK a lofnodwyd ym mis Ebrill 2023, a’r cytundeb cydweithredu sydd ar y gweill ac sy’n nodi sut y byddwn yn cydweithio ar yr agenda honno. Bydd y cytundeb hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn ystod Wythnos Technoleg Cymru ar 16 Hydref. Rydym yn edrych ar gyfleoedd i gryfhau'n perthynas ag adrannau eraill y DU sy'n buddsoddi mewn Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
Mae ymrwymiadau sylfaenol i gydraddoldeb daearyddol a demograffig yn rhan annatod o bob un o'r cenadaethau; yn ogystal â diwylliant ffyniannus o arloesi; a gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig gan gydweithredu ag eraill.
Cyfathrebu a chyhoeddi
Os bydd y Cabinet yn cytuno i gyhoeddi'r cynllun cyflawni, y bwriad yw y bydd hynny'n digwydd yn ystod yr wythnos a fydd yn dechrau ar 16 Hydref. Bydd Gweinidog yr Economi yn darparu Datganiad Ysgrifenedig. Cyngor y swyddogion yw y gellir cyhoeddi’r papur hwnnw chwe wythnos ar ôl cyfarfod y Cabinet.
Vaughan Gething AS
Gweinidog yr Economi
Medi 2023
