Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar y Cynllun Gweithredu HIV, ac am gymeradwyaeth i gyhoeddi'r cynllun terfynol yn gynnar ym mis Mawrth.

Crynodeb

1. Gwnaeth y Rhaglen Lywodraethu ymrwymiadau i "ddatblygu Cynllun Gweithredu HIV i Gymru" a "mynd i'r afael â'r stigma sy’n gysylltiedig â HIV".

  • Mae Cynllun Gweithredu HIV drafft i Gymru wedi'i ddatblygu gan Weithgor Cynllun Gweithredu HIV ac wedi'i gefnogi gan dri grŵp gorchwyl a gorffen.
  • Daeth aelodau'r grwpiau hyn o amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda HIV.
  • Lansiwyd y cynllun drafft ar 14 Mehefin a chynhaliwyd ymgynghoriad 12 wythnos o hyd arno.
  • Cafodd groeso brwd ac mae wedi'i ddiwygio i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
  • Bydd y Gweithgor yn ailymgynnull ar 09 Chwefror i gymeradwyo'r gwelliannau yn sgil yr ymgynghoriad.
  • Cynigir lansiad meddal o'r Cynllun Gweithredu HIV diwygiedig a therfynol ddechrau mis Mawrth.

Ystyriaethau

2. Mewn ymateb i ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, sefydlodd yr Is-adran Diogelu Iechyd Weithgor Cynllun Gweithredu HIV, wedi’i gefnogi gan dri grŵp gorchwyl a gorffen a oedd yn canolbwyntio ar: stigma; cymorth gan gymheiriaid a byw'n dda gyda HIV; a phroffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) ac atal.

3. Daeth aelodau'r grwpiau hyn o amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys byrddau iechyd, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, y byd academaidd a phobl sy'n byw gyda HIV. Gweithiodd pawb mewn ffordd gydweithredol gan gyfrannu cryn arbenigedd. Rydym wedi cydweithio'n agos â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru hefyd, yn enwedig arweinwyr polisi LHDTC+ sy'n datblygu Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru.

4. Ystyriodd yr Aelodau dystiolaeth ac arferion da cyfredol a'u perthnasedd i Gymru, ac maent wedi cyflwyno 26 o gamau gweithredu (ynghlwm yn Atodiad B, gyda diwygiadau yn sgil yr ymgynghoriad wedi’u huwcholeuo) i helpu i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth i ddileu HIV erbyn 2030 ac i fynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Roedd y grŵp yn cydnabod bod stigma tarddu i raddau helaeth o ofn ac anwybodaeth ac mae llawer o bobl yn dal i fod yn anymwybodol nad yw'r rhai sy'n byw gyda HIV ar driniaeth effeithiol yn risg i eraill, felly dylai pob ymdrech ganolbwyntio ar hysbysu ac addysgu. Bydd gan Lwybr Carlam Cymru a'r sector Addysg rôl allweddol wrth gefnogi hyn, ac yn ogystal bydd pawb sy'n darparu cymorth a gofal yn cael eu galluogi i ddarparu gofal holistaidd a thosturiol heb unrhyw wahaniaethu.

Amcanion y Cynllun Gweithredu HIV

5. Mae'r cynllun yn cynnwys pum maes blaenoriaeth i'w gweithredu:

  • Atal
  • Profi
  • Gofal clinigol
  • Byw'n dda gyda HIV
  • Mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

6. Yn sail i'r camau gweithredu roedd y tair egwyddor graidd ganlynol sydd â'r nod o ddileu unrhyw HIV yng Nghymru a sicrhau dim goddefgarwch i stigma sy'n gysylltiedig â HIV erbyn 2030:

  • Bydd dim goddefgarwch i stigma sy'n gysylltiedig â HIV
  • Bydd cynlluniau ar gyfer gweithredu mentrau a gwasanaethau newydd yn cael eu llywio gan bobl sy'n byw gyda HIV, neu'n cael eu datblygu gyda nhw. Law yn llaw â hyn bydd cydnabyddiaeth o wahaniaethau cyd-destunol yn ôl rhywioldeb, ethnigrwydd, oedran, rhywedd a lleoliad, er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Bydd yr holl fentrau a gwasanaethau newydd yn cael eu monitro a'u gwerthuso'n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r camau gweithredu a'r egwyddorion a nodir yn y cynllun.

Ymgynghoriad

7. Yn ogystal â'r rhanddeiliaid niferus a fu'n rhan o ddatblygu'r cynllun drafft cychwynnol, roedd swyddogion am sicrhau bod yr holl randdeiliaid, yn ogystal â'r cyhoedd, yn cael cyfle i gyfrannu at y cynllun hwn ar gyfer Cymru a dylanwadu arno. Ymgynghorwyd ar y cynllun am gyfnod o 12 wythnos. Cynhaliwyd tri digwyddiad rhanddeiliaid (dau rithwir ac un wyneb yn wyneb) yn ystod y cyfnod ymgynghori hefyd i geisio casglu safbwyntiau pellach.

8. Derbyniwyd 55 ymateb yn ystod yr ymarfer ymgynghori. Gan fod llawer o'r rhanddeiliaid allweddol wedi cael cyfle i siapio a dylanwadu ar y cynllun drafft, roedd y nifer hwn yn cyd-fynd yn fras â disgwyliadau'r swyddogion.  Roedd yr ymatebion yn gefnogol dros ben i'r cynllun a'r camau arfaethedig, ond fe wnaeth sawl ymateb dynnu sylw at rai bylchau yn y cynllun gwreiddiol a/neu feysydd y gellid eu gwella.

9. Mae'r swyddogion wedi diwygio'r cynllun i ystyried rhai o'r awgrymiadau a'r sylwadau a wnaed yn yr ymarfer ymgynghori. Mae nifer o'r camau gwreiddiol wedi'u diwygio ac mae pedwar cam gweithredu newydd wedi'u datblygu (gweler Atodiad B). Ni fydd angen cyllid ychwanegol ar y camau hyn ond yn hytrach mae disgwyliad y bydd gwasanaethau sy'n darparu gofal ar hyn o bryd yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn cynnig gwell profiad i gleifion o hyn ymlaen.

10. Cytunwyd ar y cynllun diwygiedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 07 Chwefror 2023. Bydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Grŵp Cynllun Gweithredu HIV wedi'i ailgynnull ar 09 Chwefror. Os yw'r Cabinet yn cytuno, bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn awr drwy lansiad "meddal" ddechrau mis Mawrth.

11. Y prif newidiadau arfaethedig wedi'r ymgynghoriad yw:

  • Amserlenni arfaethedig ar gyfer cwblhau llawer o'r camau allweddol wedi'u hychwanegu at y cynllun.
  • Mae ymrwymiad wedi'i ychwanegu y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad blynyddol i'r Senedd ar y cynnydd o ran gweithredu'r cynllun.
  • Mwy o bwyslais ar rôl gofal sylfaenol yng nghwrs bywyd HIV, bydd hyn yn cynnwys cymorth i fentrau atal, normaleiddio profion HIV, cefnogi darpariaeth ar gyfer PrEP a bod yn rhan o'r ymateb amlddisgyblaethol ar gyfer y rhai sy'n heneiddio ac sydd ag afiechydon eraill.
  • Cam gweithredu newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd ddangos tystiolaeth bod pob plentyn sy'n byw gyda HIV yn cael eu cynorthwyo gan dimau amlddisgyblaethol, a bod y broses o bontio i wasanaethau oedolion yn un ddi-dor.
  • Dau gam gweithredu newydd yn ymwneud â phobl sy'n heneiddio gyda HIV, yn tynnu sylw at y ffaith gan fod pobl â HIV yn byw'n hirach erbyn hyn, y byddant, fel yn achos pob poblogaeth sy'n heneiddio, yn datblygu cydafiacheddau ac mae'n hanfodol bod eu gofal yn cael ei gydlynu gyda chyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol rheolaidd.
  • Cam gweithredu newydd sy'n datgan y caiff y sail dystiolaeth a'r ymchwil gyfredol a wneir ym maes iechyd rhywiol a HIV ei hoptimeiddio a'i goruchwylio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Rhwydwaith Ymchwil o brifysgolion Cymru.
  • Mae camau gweithredu ar stigma wedi’u cryfhau, yn enwedig mewn perthynas â chartrefi gofal ac ysgolion.

Effaith

13. Mae'r Cynllun Gweithredu HIV drafft yn seiliedig ar yr egwyddor y dylai pob person dderbyn y casgliad llawn o wasanaethau HIV sydd eu hangen arnynt.  Bydd mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â HIV mewn sectorau amrywiol, yn arbennig, ond nid yn unig yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg, yn gam mawr tuag at gael gwared ar y gwahaniaethu a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl o bob oed sy'n byw gyda HIV wrth ddefnyddio gwasanaethau. Mae'r cynllun yn atgyfnerthu budd yr ymyriadau hynny sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cael yr effaith fwyaf ar draws continwwm gwasanaethau HIV hefyd, gan gynnwys gwasanaethau atal cyfunol, cynhwysfawr, profion HIV arloesol sydd wedi'u targedu, a darparu triniaeth a gofal sy'n canolbwyntio ar bobl. Dylai'r ymyriadau hyn sicrhau bod y rhai sydd â HIV, a'r rhai sydd mewn perygl o gael HIV, yn cael canlyniadau iechyd cadarnhaol ac ansawdd bywyd da. Bydd gwahaniaeth cadarnhaol yn cael ei wneud i fywydau pobl yng Nghymru sy'n byw gyda HIV hefyd ac wrth amddiffyn cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws.

14. Yn y Cynllun Gweithredu HIV mae camau gweithredu yn y pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu gyda'r nod o sicrhau gwelliannau sylweddol i ansawdd a hygyrchedd gwasanaethau HIV a stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Drwy wneud hynny, rhagwelir y bydd y cynllun, ar ôl ei weithredu, yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod cydraddoldeb (o ran profion HIV a mynediad at ofal) ac at gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig ei ffocws ar adeiladu Cymru iachach. Hefyd, mae cam gweithredu 22, sy'n ceisio sicrhau bod y rhai sy'n byw gyda HIV yn derbyn gofal holistaidd a thosturiol heb unrhyw wahaniaethu, yn cefnogi nod y Ddeddf o fod yn genedl dosturiol.

15. Bydd cynnydd ar weithredu'r camau a'r canlyniadau'n cael eu monitro, eu hadolygu a'u goruchwylio gan Grŵp Gweithredu a fydd yn cael ei sefydlu'n gynnar yn 2023.

Cyfathrebu a chyhoeddi

15. Gwnaed datganiad llafar ar y cynllun gweithredu drafft a'r ymgynghoriad ym mis Mehefin, ac yna cynhaliwyd lansiad yn y Senedd mewn digwyddiad a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i goffáu deugain mlynedd ers marwolaeth Terrence Higgins. Denodd y lansiad gryn sylw yn y cyfryngau a chafodd dderbyniad da gan mwyaf ar y cyfryngau cymdeithasol. O ystyried bod y newidiadau i'r cynllun gwreiddiol yn gymharol fach, mae'r swyddogion yn cynnig lansiad meddal ar ddechrau mis Mawrth, gyda datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar y camau ychwanegol arfaethedig, yn enwedig y camau hynny ar heneiddio'n dda gyda HIV, a phlant sy'n byw gyda HIV.   

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar y Cynllun Gweithredu HIV ac i'r cynllun terfynol gael ei gyhoeddi ddechrau mis Mawrth.

Atodiad A: Cynllun Gweithredu HIV Materion Statudol, Cyllid, Cyfreithiol a Llywodraethu

Gofynion Statudol 

Mae Asesiadau Effaith Integredig wedi'u cwblhau ar gyfer y Cynllun, gan ganolbwyntio'n benodol ar yr asesiadau cydraddoldeb, diogelu data ac iechyd sydd yn gadarnhaol i gyd.

Gofynion Cyllid a Goblygiadau Llywodraethu

Cytunwyd ar gyllid ar gyfer cam gweithredu allweddol yn y Cynllun Gweithredu HIV yn MA/EM/1932/22 – Parhau â'r profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) Ar-lein.  Cost y profion STI ar-lein yw £3.885m, a bydd yn cael ei chynnwys o fewn BEL 20, fel rhan o Gyllideb Ddrafft 2022. Gwnaed cyhoeddiad am y cyllid hwn yn lansiad y Cynllun Gweithredu HIV drafft ym mis Mehefin 2022. Amlygodd MA/EM/1931/22 y rhagwelwyd costau pellach er mwyn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu yn y Cynllun terfynol hefyd.

Nodir y camau gweithredu sy'n weddill gyda goblygiadau cost fel y cyfeirir atynt yn y paragraffau uchod, yn y tabl isod:

Cam Gweithredu

Costau

23-24 £m

24-25 £m

System Rheoli Achosion Cymru gyfan: Cyfalaf (Yn amodol ar gyngor pellach gan y gweinidog)

Tua £920k i gyd (cyfalaf a refeniw) ar gyfer datblygu'r system newydd

 

£500k – meddalwedd (cyfalaf)

 

0

0.5

System Rheoli Achosion Cymru Gyfan: Refeniw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n amcangyfrif amrediad o £300-420k i dalu am y personél a'r gwaith darganfod/ymchwil sydd eu hangen i ddatblygu platfform llwyddiannus.

 

Tua £500k ar gyfer cymorth a chynnal a chadw parhaus mewn blynyddoedd i ddod.

 

0.42 (uchaf)

0.5

Llwybr Carlam Cymru

£105k o gyllid rheolaidd

0.105

0.105

Cymorth gan Gymheiriaid

Tua £75k – £100k

0.075 i 0.1

0.075 i 0.1

Wythnos brofi

£50k

0.05

0.05

 

Cyfanswm Cyfalaf

0

0.5

 

Cyfanswm Refeniw

0.675 (uchaf)

0.755 (uchaf)

Yn ddiweddar, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y dyraniadau refeniw ar gyfer 23-24 a 24-25 yn MA/EM/3613/22. Bydd hyn yn cael ei ariannu o BEL 20 yn y Prif Grŵp Gwariant (MEG) IGC a bydd y trosglwyddiad cyllideb perthnasol yn dyrannu'r cyllid hwn i linell gyllideb newydd yn BEL 232 Diogelu Iechyd Wedi'i Dargedu. Nid yw'r cyllid cyfalaf o £0.5m ar gyfer System Rheoli Achosion Cymru Gyfan wedi'i gadarnhau eto (NH2023/8642).

Oherwydd gor-raglennu cyllidebau cyfalaf fel rhan o'n polisi cyllidebol a'n sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn newydd (a weithredwyd yn gyntaf trwy’r broses Cyllideb 2022-23 amlflwyddyn) ni fyddwn yn gallu darparu ar gyfer unrhyw geisiadau o gronfeydd wrth gefn. Bydd angen i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb cyllidebol am y gweithgaredd hwn sicrhau bod cyllid digonol ar gyfer pob gofyniad ariannol sy'n gysylltiedig â'r cais hwn.  Ar y sail hon, mae Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth wedi clirio'r papur hwn (BGB/0795/6).

Mae cydweithwyr yn yr Is-adran Polisi Digidol a Chyflawni yn ymwybodol o'r cynigion ar gyfer system rheoli achosion ac maent yn gefnogol. Yn yr un modd, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gefnogol a byddant yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y cyfnod datblygu/darganfod.

Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau eang o dan Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 ("Deddf 2006") i gyflwyno'r mentrau a'r gwasanaethau a awgrymir yn y Cynllun Gweithredu. O dan adran 1 o Ddeddf 2006 mae gan Weinidog Cymru ddyletswydd gyffredinol i ddarparu neu sicrhau darpariaeth gwasanaethau at ddiben hyrwyddo gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru, sy'n cynnwys sicrhau gwelliannau o ran atal, gwneud diagnosis a thrin salwch. Caiff Gweinidogion Cymru, o dan adran 2 o'r Ddeddf, wneud unrhyw beth yr ystyrir ei fod yn hwyluso, neu sy'n ffafriol neu'n gysylltiedig â chyflawni dyletswydd o'r fath. Yn ogystal, mae adran 3(1)(e) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau ledled Cymru, i'r graddau sy'n angenrheidiol yn eu barn nhw i fodloni unrhyw ofynion rhesymol, ar gyfer atal salwch fel sy'n briodol yn eu barn nhw fel rhan o'r gwasanaeth iechyd.

Ymchwil a/neu Ystadegau 

Nid oes unrhyw ymchwil nac ystadegau wedi'u cynnwys yn y papur hwn, ac felly nid oes angen ei glirio gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi. Mae'r holl ddata sydd wedi'i gynnwys gyda'r Cynllun Gweithredu HIV ei hun wedi'i ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwaith Cydgysylltiedig

Mae datblygu Cynllun Gweithredu HIV a mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV yn ddau o'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a lansiwyd yn ddiweddar. Mae swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Diogelu Iechyd wedi gweithio'n agos iawn gydag arweinwyr polisi LHDTC+ ar ddatblygu'r cynllun hwn ac roedd y swyddog polisi LHDTC+ yn aelod o'r Grŵp Cynllun Gweithredu HIV.

Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu sydd yn y cynllun yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd neu ofal iechyd. Mae un cam gweithredu sy'n canolbwyntio ar addysg yn y cynllun sy'n ymwneud â'r cwricwlwm. Fe'i datblygwyd ar y cyd â'r arweinydd polisi perthnasol yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a oedd yn aelod o'r Grŵp Cynllun Gweithredu HIV.

Atodiad b: rhestr lawn o'r camau gweithredu yn dilyn yr ymgynghoriad

Mae'r camau a ychwanegwyd yn dilyn yr ymgynghoriad wedi'u hamlygu mewn ffont trwm.

Rhif gweithredu

Disgrifiad

1.

Gan adeiladu ar lwyddiant y fenter Dinasoedd Llwybr Carlam yng Nghaerdydd a'r Fro, bydd Llwybr Carlam Cymru, corff ymbarél cenedlaethol newydd, yn cael ei sefydlu a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bydd y corff hwn yn darparu capasiti a ffocws strategol i randdeiliaid, grwpiau cymunedol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, mewn cydweithrediadau llwybr carlam lleol i helpu i roi'r Cynllun Gweithredu hwn ar waith a sicrhau bod yr holl bartneriaid allweddol yn cydweithio i gyflawni ein hamcanion.

Amserlen: sefydlu'n llawn erbyn mis Mawrth 2024

2.

Cynnwys grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Wrth roi'r cynllun hwn ar waith, bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cydweithio'n agos â sector gwirfoddol a chymunedol HIV.

3.

Bydd system fonitro rheoli achosion, a oruchwylir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cael ei hariannu a'i sefydlu i gefnogi rheolaeth glinigol a gwella gofal a rennir. Bydd yn hwyluso gwaith casglu data mewn amser real a chyhoeddi amserol, a bydd yn sicrhau y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau fesur eu cyflawniadau yn erbyn uchelgeisiau.

Amserlen: cyllid i fod ar gael yn gynnar yn 2023/2024 gyda gweithredu yn 2024/2025

4.

Bydd yn ofynnol i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd fanylu yn eu cynlluniau cyflawni ar y camau y maen nhw'n eu cymryd i roi camau gweithredu'r Cynllun Gweithredu HIV ar waith. Bydd hyn yn cynnwys tystiolaeth bod llwybrau gofal yn eu lle i sicrhau bod pawb sy'n byw gyda HIV o fabandod i henaint yn byw'n dda ac yn derbyn y gofal gorau bosibl.  Gellir adrodd ar gynnydd mewn cyfarfodydd Ansawdd a Chyflawni chwarterol rhwng Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd.

Amserlen: bydd adroddiadau ar y cynnydd yn dechrau yn haf 2023 gyda'r datganiad blynyddol Gweinidogol cyntaf i'r Senedd

5.

I gryfhau'r sail dystiolaeth, bydd rhwydwaith o ymchwilwyr yn y byd academaidd yng Nghymru, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cael ei sefydlu a bydd yn cydlynu ymchwil gyfredol ac ymchwil y dyfodol ym maes HIV ac iechyd rhywiol.

6.

Bydd Grŵp Goruchwylio Cynllun Gweithredu HIV, a fydd yn cynnwys yr holl randdeiliaid allweddol gan gynnwys byrddau iechyd, llywodraeth leol, clinigwyr, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol a phobl sy'n byw gyda HIV, yn cael ei sefydlu i fonitro cynnydd yn erbyn ein huchelgeisiau ac i gynghori Gweinidogion ar gynnydd ac unrhyw gamau pellach sydd eu hangen. Bydd y Grŵp yn rhoi diweddariad cynnydd blynyddol ar weithredu'r cynllun, ac yn dilyn hynny bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad blynyddol i'r Senedd.

Amserlen: y Grŵp Goruchwylio i gael ei sefydlu yn chwarter cyntaf 2023.

7.

Parhau i gyflawni, datblygu a gwerthuso'r rhaglen "Gofynnwch i mi am PrEP" yng Nghymru.

8.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gydweithio â rhwydweithiau cydweithredol Llwybr Carlam Cymru a'r sectorau gwirfoddol a chymunedol yn parhau i gefnogi defnydd ehangach o PrEP a mynediad amrywiol iddo (gan gynnwys y gwahanol reolaethau a'r fformwleiddiadau sy'n cael eu datblygu), drwy godi ymwybyddiaeth barhaus ar gyfer y cyhoedd a staff gofal iechyd.

9.

Dylai gofal sylfaenol a gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol ddatblygu a gweithredu model gofal a rennir i wella mynediad a darpariaeth PrEP. Bydd hyn yn golygu y gellir darparu PrEP ym mhob ardal bwrdd iechyd, gyda phwyslais arbennig ar ddarparu mewn ardaloedd gwledig ac mewn cymunedau na wasanaethir yn ddigonol. Hefyd dylai byrddau iechyd a chlystyrau gofal sylfaenol archwilio sut y gall sefydliadau cymunedol gefnogi PrEP er mwyn datblygu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion lleol.

Amserlen: y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i'w sefydlu er mwyn datblygu'r model gofal a rennir ac i gefnogi ei weithredu – erbyn mis Mawrth 2023.

10.

Mae angen i ni wneud y gorau o bob cysylltiad. Dylai profion ddilyn canllawiau profi HIV presennol BHIVA/BASHH/BIA ar gyfer  oedolion 2020 (HIV-testing-guidelines-2020.pdf (bhiva.org)).

Bydd profion sy'n cael eu darparu fel dull optio allan i gleifion sy'n mynychu lleoliadau gofal iechyd penodol yn cael eu monitro drwy archwiliad rheolaidd.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru'n darparu adroddiad ar amlder achosion o HIV mewn rhaglenni sgrinio a phrofi presennol ac yn gwneud argymhellion ar grwpiau poblogaeth penodol a fyddai'n elwa o astudiaeth serogyffredinrwydd. Gall y strategaeth brofi newid yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith hwn.

Amserlen: diwedd mis Mawrth 2023 ar gyfer derbyn yr adroddiad cychwynnol gan  Iechyd Cyhoeddus Cymru ar amlder achosion o HIV mewn rhaglenni sgrinio presennol.

11.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru'n sicrhau y bydd y profion ar-lein yn parhau i gael eu gwneud yn fwy hygyrch drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y gwasanaeth profi ar-lein presennol trwy gynnwys opsiwn ar gyfer profi cyflym a gwasanaethau "clicio a chasglu". Bydd y profion ar-lein yn cael eu hyrwyddo'n ehangach gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac i wella taith y defnyddiwr.

DS: Mae cyllid cynaliadwy wedi'i sicrhau bellach a bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar hygyrchedd ehangach yn awr. Bydd y Grŵp Goruchwylio'n cytuno ar drefniadau monitro yn y dyfodol.

12.

Bydd cynllun profi'n cael ei ddatblygu gyda Llwybr Carlam Cymru, byrddau iechyd a phartneriaid gwirfoddol a chymunedol er mwyn sicrhau na fydd unrhyw unigolyn na chymuned yn cael eu gadael ar ôl o ran profi. Bydd hyn yn cynnwys ystyried pecynnau profi HIV cymunedol drwy asedau a grwpiau cymunedol, cymunedau ffydd a gwasanaethau cymorth i ddiwallu anghenion poblogaethau na wasanaethir yn ddigonol.

Amserlen: haf 2024 i gwblhau'r cynllun

13.

Mewn cydweithrediad â byrddau iechyd a chlystyrau meddygon teulu, bydd y cynllun peilot "Texting for testing" meddygon teulu, sydd wedi gweithredu'n llwyddiannus mewn rhai ardaloedd yng Nghaerdydd, yn cael ei ymestyn yn ehangach ledled Cymru.

Dylai pob ymarferydd cyffredinol gefnogi mentrau atal HIV, normaleiddio profion HIV a sicrhau y gallant gyfeirio pobl at y gwasanaeth profi ar-lein o leiaf.

14.

Bydd wythnos profi HIV Cymru gyfan yn cael ei hariannu'n briodol gan Lywodraeth Cymru gydol y cynllun gweithredu hwn. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a phartneriaid gefnogi'r fenter hon.

Amserlen: cyllid blynyddol i gychwyn yn 2023/2024

15.

Bydd mynd i'r afael â diagnosis hwyr yn flaenoriaeth. Bydd yn orfodol i bob diagnosis HIV hwyr gael ei ymchwilio ac i ganlyniadau a gwersi a ddysgir gael eu hadrodd i'w bwrdd iechyd a'r Grŵp Goruchwylio HIV. Bydd y Grŵp Goruchwylio HIV yn ystyried canlyniadau'r ymchwiliadau ac yn cytuno ar y camau sydd i'w cymryd i geisio osgoi digwyddiadau pellach.

16.

Bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth HIV yn orfodol i staff gofal iechyd rheng flaen. Bydd modiwlau hyfforddi ar gyfer clinigwyr yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau  â dangosyddion penodol pan fydd yn rhaid cynnal profion HIV.

Amserlen: pecyn hyfforddi i'w ddatblygu erbyn hydref 2023

17.

Dylai pob gwasanaeth sy'n darparu gofal HIV yng Nghymru adolygu ei strwythur staffio, gan gefnogi a diogelu'r gweithlu HIV. Mae angen gweithlu medrus arnynt i ddarparu gofal i achosion mwy cymhleth, ail-ymgysylltu ag unigolion positif a gollwyd o'r system ofal a gallant estyn allan at boblogaethau na wasanaethir yn ddigonol.

Mae'n rhaid parhau i ganolbwyntio ar y rhai a gollwyd o'r system ofal neu y gellid eu colli yn ystod oes y cynllun. Bydd gofal yn cael ei ddarparu’n unol â Safonau Gofal Cymdeithas HIV Prydain (BHIVA) ar gyfer Byw gyda HIV a chanllawiau cenedlaethol BHIVA. Bydd hyn yn cynnwys ffyrdd arloesol o weithio, a chyd-gynhyrchu llwybrau gofal gyda phobl sy'n byw gyda HIV (PLWHIV) gan ganolbwyntio ar boblogaethau n wasanaethir yn ddigonol.

18.

Mae disgwyl i bob bwrdd iechyd ddangos tystiolaeth bod pob plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda HIV yn cael cymorth gan dimau amlddisgyblaethol a bod y broses o bontio i wasanaethau oedolion yn un ddi-dor iddynt.

Mae'n rhaid i fenywod beichiog sy'n HIV positif gael cymorth gan dîm amlddisgyblaethol hefyd.

19.

Gan fod pobl â HIV yn byw'n hirach erbyn hyn, byddant, fel yn achos pob poblogaeth sy'n heneiddio, yn datblygu cydafiacheddau. Mae'n hanfodol bod eu gofal yn cael ei gydlynu gyda chyfarfodydd rheolaidd o’r tîm amlddisgyblaethol. Bydd angen i ofal cymdeithasol fod yn rhan o'r ddeialog lle y bo hynny'n briodol. Gweler cam gweithredu 22 hefyd. 

20.

Dylai pob unigolyn sydd newydd gael diagnosis o HIV gael ei weld mewn gwasanaeth HIV arbenigol o fewn pythefnos i gael y diagnosis. Dylid cyfeirio pawb at gymorth gan gymheiriaid a'u cynorthwyo'n llawn i barhau mewn gofal clinigol, yn ogystal â chael mynediad at gymorth seicolegol.

Dylid gwneud pob ymdrech i gael gwybod pwy yw cysylltiadau agos unigolion HIV positif er mwyn iddynt gael cynnig profion o fewn pythefnos, a chymorth parhaus.

21.

Bydd y rhai sy'n byw gyda HIV yn cael eu grymuso i reoli eu hiechyd yn well drwy gymryd rhan yn y Rhaglen Hunanreoli Gadarnhaol (PSMP) a ddarperir gan Raglenni Addysg i Gleifion (EPP) Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Amserlen: haf 2023 ar gyfer integreiddio yn y rhaglen hon.

22.

Wrth i’r rhai sy'n byw gydag HIV heneiddio dros amser, mae'n bwysig eu bod yn derbyn gofal holistaidd a thosturiol heb unrhyw wahaniaethu, a bod pawb sy'n darparu gofal a chymorth yn cael eu cynorthwyo i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

23.

Bydd rhaglen genedlaethol cymorth gan gymheiriaid i Gymru yn cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cwblhau gwaith ymchwil a wnaed gan Brifysgol Caerdydd i egwyddorion a strwythurau posibl rhaglen o'r fath. Bydd y rhwydwaith cymorth cymheiriaid hwn yn rhoi cymorth i bawb sy'n byw gyda HIV sydd ei angen. Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i gynllunio'r rhaglen.

Amserlen: diwedd mis Mawrth 2023 i sefydlu'r grŵp.

24.

Dylai Llwybr Carlam Cymru a'i rwydweithiau lleol sy'n gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol gynorthwyo byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ymgysylltu'n ystyrlon â'r holl gymunedau amrywiol gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig a grwpiau ffydd fel bod profion am HIV yn cael eu derbyn, bod stigma'n cael ei leihau a bod y rhai sy'n byw gyda HIV yn cael eu cynorthwyo i fyw bywydau gwell.

25.

Bydd rhaglen hyfforddi ymwybyddiaeth HIV yn cael ei datblygu ar y cyd, i fynd i'r afael â chamddealltwriaeth a stigma yn y sector gofal iechyd, a bydd yn orfodol i bob darparwr gofal iechyd.

Amserlen: hydref 2023

26.

Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru'n addasu'r rhaglen hyfforddi hon i'w defnyddio yn y sector gofal cymdeithasol ac yn datblygu cynllun i'w chyflwyno i bob gweithiwr gofal cymdeithasol. Drwy godi ymwybyddiaeth fel hyn, dylai pob darparwr cartref gofal fod yn hyderus y gallant ddarparu ar gyfer anghenion y rhai sy'n byw gyda HIV ac na fydd unrhyw stigma ynghlwm wrth eu diagnosis na'u gofal.

Amserlen: hydref 2023

27.

Dylid hyrwyddo'r neges yn eang na all pobl sy'n byw gyda HIV ac sydd ar driniaeth effeithiol ei drosglwyddo i bartner a dylai pob modiwl hyfforddiant HIV fod yn gyson gyda'r neges hon.

28.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb gorfodol yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am achosion, symptomau ac effaith cyflyrau fel HIV. (Themâu trawsbynciol ar gyfer cynllunio eich cwricwlwm - Hwb (llyw.cymru)

Bydd adnoddau cwricwlwm o ansawdd uchel i ysgolion yn helpu dysgwyr gyda'r nod o fynd i'r afael â HIV, PrEP a stigma'n effeithiol. Rydym am i bob plentyn sy'n byw gyda HIV gael y cymorth sy'n diwallu ei anghenion heb unrhyw stigma ynghlwm â'i ddiagnosis.

Amserlen: y gwaith hwn i'w gomisiynu erbyn mis Mawrth 2024.

29.

Bydd Llwybr Carlam Cymru'n gweithio gyda sefydliadau sy'n cydweithredu a'r rhwydwaith eiriolaeth er mwyn sicrhau bod ymwybyddiaeth o stigma a'r gwaith o hyrwyddo negeseuon cadarnhaol fel anghanfyddadwy=anhrosglwyddadwy (U=U) a dim goddefgarwch yn elfen gyffredin a pharhaus yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

30.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda sefydliadau partner a phobl sy'n byw gyda HIV, yn cyflwyno ac yn hyrwyddo Arolwg Lles blynyddol o Bobl sy'n Byw gyda HIV i fonitro a lwyddwyd i sicrhau newid ac a yw'n effeithiol.

Amserlen: blwyddyn waelodlin 2023 / 2024 ar gyfer treialu arolwg a chasglu data llinell sylfaen.