Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet:

  • gytuno ar y fersiwn ddrafft o Gynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 (Atodiad B) i'w lansio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwyliau'r haf.
  • nodi y caiff y Cynllun terfynol ei fabwysiadu fel y strategaeth genedlaethol ar seinweddau sy'n ofynnol o dan Ran 2 o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ym mis Rhagfyr 2023.

Crynodeb

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgynghori ar Gynllun Sŵn a Seinwedd pum mlynedd newydd. Y Cynllun hwn fyddai'r strategaeth genedlaethol statudol gyntaf ar seinweddau o dan Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

2. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu ar reoli seinweddau. Mae hyn yn mynd ymhellach na mesurau rheoli sŵn traddodiadol, gan ei fod yn ystyried y seiniau ategol sy'n cyfrannu at lesiant pobl yn ogystal â mynd i'r afael ag effeithiau niweidiol sŵn diangen. Mae trefniadau rheoli seinweddau da yn gwneud cyfraniad hanfodol at gyflawni un o amcanion ein Rhaglen Lywodraethu, sef sicrhau bod ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.

3. Mae Cynllun drafft wedi cael ei baratoi yn Atodiad B i'r Cabinet ei ystyried cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus y cynigir ei lansio cyn gwyliau'r haf. Nid yw'n gwneud ymrwymiadau gwario newydd ond, yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar brosesau gwneud penderfyniadau gwell yn y dyfodol, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a chan ddilyn y pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).

Amcan y papur

4. Cyflwynwyd y papur hwn i'r Cabinet am ei fod yn ymwneud ag ymgynghoriad ar gynllun neu strategaeth sy'n berthnasol i sawl portffolio gweinidogol. Disgwylir y bydd gan yr ymgynghoriad hwn broffil uwch na rhai blaenorol yn y maes pwnc hwn oherwydd ei gysylltiadau â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), sy'n destun craffu yn y Senedd ar hyn o bryd.

5. Mae diffiniadau o dermau megis “sŵn”, “seinwedd” a “seinwedd briodol” i'w gweld yn y rhestr termau yng nghefn y Cynllun drafft. Caiff effeithiau sŵn ar iechyd a llesiant eu crynhoi ym Mhennod 2.

6. Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn ar gyfer prif ffyrdd, prif reilffyrdd ac ardaloedd trefol mawr, gan eu hadolygu, a'u diwygio os bydd angen, bob pum mlynedd, gan ddechrau yn 2008. Nid yw Rheoliadau 2006 yn pennu mewn termau rhifiadol beth y dylai'r cynlluniau hyn geisio ei gyflawni o ran lleihau sŵn.

7. Yn 2013, cyflawnodd Gweinidogion Cymru eu rhwymedigaethau mewn perthynas â chynlluniau gweithredu ynghylch sŵn ar ffurf un cynllun gweithredu cynhwysfawr ynghylch sŵn i Gymru, a oedd yn ehangach ei gwmpas, yn ddaearyddol ac o ran pwnc, na'r cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn penodol sy'n ofynnol gan Reoliadau 2006.

8. Yn 2018, cyflwynodd Gweinidogion Cymru Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd 2018-2023 yn lle'r cynllun hwn, gan ail-lunio polisi sŵn yng Nghymru o ran y ffyrdd o weithio yn Neddf 2015. O ganlyniad i hyn, cafodd Cymru ei chydnabod fel y wlad gyntaf i gynnwys seinweddau mewn polisi cenedlaethol, a chyfeiriwyd at hyn yn adroddiad Frontiers 2022 Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

9. Mae Rheoliadau 2006 yn gosod gofynion ar awdurdodau cyhoeddus i drin y cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hynny fel polisi. Fodd bynnag, dim ond i ffynonellau sŵn penodol o fewn cwmpas y Rheoliadau y mae'r disgwyliad hwn yn berthnasol. Gan gydnabod y synergeddau rhwng llygredd aer a llygredd sŵn yn yr awyr, penderfynodd Gweinidogion Cymru fod Bil Aer Glân (Cymru) yn gyfle i osod y cynllun newydd, sef Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028, gan gynnwys y rhannau hynny nas cwmpesir gan Reoliadau 2006, ar sail statudol.

10. Felly, cafodd cwmpas y Bil Aer Glân (Cymru) ei ehangu i gynnwys sŵn a seinweddau a chyflwynwyd y Bil dan enw newydd, sef Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (“y Bil”). Os caiff ei ddeddfu, bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio strategaeth genedlaethol gyffredinol ar seinweddau, sy'n rhywbeth rydym wedi'i wneud yn wirfoddol ers 2018 ar ffurf y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd.

11. Er i rai fynegi syndod ynghylch y newid i deitl y Bil, mae'r ymatebion cychwynnol gan sefydliadau allanol i'r ffaith bod y darpariaethau seinwedd wedi cael eu cynnwys yn y Bil wedi bod yn gadarnhaol dros ben.

12. Lluniwyd y Cynllun drafft ar sail drawslywodraethol ac ar y cyd â phartneriaid allanol dibynadwy. Pan gaiff y Bil ei basio'n ddeddfwriaeth, y Cynllun hwn fydd y strategaeth genedlaethol statudol gyntaf ar seinweddau a bydd yn parhau i gyflawni ein rhwymedigaethau mewn perthynas â chynlluniau gweithredu o dan Reoliadau 2006.

13. Mae Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 yn cadw ac yn mireinio negeseuon craidd y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd, sy'n cynnwys:

  • ein huchelgais i sicrhau seinweddau priodol, sy'n golygu'r amgylchedd sain priodol yn y lle cywir ar yr adeg gywir
  • ein hymrwymiad i wreiddio'r pum ffordd o weithio yn Neddf 2015
  • ein hymrwymiad i gydgysylltu camau gweithredu ynghylch sŵn ac ansawdd aer ble bynnag y bydd hynny'n gwneud synnwyr.

14. Mae'r Cynllun yn ymdrin â phynciau newydd sydd wedi dod i'r amlwg dros y pum mlynedd diwethaf, megis materion yn ymwneud â gweithio o bell, amrywiaeth glywedol, pympiau gwres ffynhonnell aer, newidiadau i derfynau cyflymder, a thân gwyllt. Mae hefyd yn nodi'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys gwaith lliniaru sŵn a gwblhawyd ar y rhwydwaith cefnffyrdd, a gwaith cwmpasu i sicrhau na ddaw sŵn yn rhwystr rhag cyflwyno pympiau gwres ffynhonnell aer domestig.

15. Mae datblygiadau ym maes polisi a chanllawiau cynllunio, yn enwedig y gwaith i gyhoeddi'r TAN 11 newydd a'r canllawiau cysylltiedig ar ddylunio seinweddau a'u rhoi ar waith, y gwnaethom ymgynghori arnynt yn ddiweddar, yn ogystal â gwybodaeth wedi'i diweddaru o'n mapiau sŵn strategol diweddaraf (nad ydynt wedi cael eu hychwanegu at y Cynllun drafft eto) ac Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22.

16. Mae Cynllun drafft 2023 bellach yn 81 o dudalennau o hyd gan gynnwys yr Atodiadau, sydd gryn dipyn yn fyrrach na'r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd a gyhoeddwyd yn 2018, a oedd yn 127 o dudalennau o hyd, ond mae'n dal yn ddogfen sylweddol. Mae'r ddogfen yn cyflawni sawl diben. Rhaid iddi gynnwys yr holl elfennau y mae'n ofynnol i gynlluniau gweithredu ynghylch sŵn eu cynnwys yn ôl Rheoliadau 2006. Mae'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau. Mae'n cynnwys polisïau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth ar bynciau penodol y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried dros y pum mlynedd nesaf wrth gyflawni swyddogaethau a fydd yn debygol o effeithio ar seinweddau yng Nghymru.

17. Bydd cyfle i wneud newidiadau i'r Cynllun drafft yn yr hydref cyn iddo gael ei fabwysiadu'n derfynol. Fel rhan o hyn, bydd swyddogion yn adolygu strwythur y ddogfen ac yn ystyried a fyddai'n fuddiol cwtogi'r adrannau craidd a rhoi mwy o'r manylion yn yr Atodiadau.

Effaith

18. Fel y strategaeth seinweddau genedlaethol o dan y Bil, rhaid i'r Cynllun Sŵn a Seinwedd gynnwys polisïau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag asesu a rheoli seinweddau yng Nghymru, a'n polisïau ar gyfer asesu a gostwng lefelau llygredd sŵn.

19. Mae'r Cynllun yn cefnogi'r amcan yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt yn gryf. Roedd y Rhaglen Lywodraethu'n cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, ac mae'r Ddeddf hon bellach yn cynnwys y strategaeth genedlaethol ar seinweddau.

20. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, y prif nod y gellir ei gyflawni'n realistig yng Nghynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 fydd sicrhau y caiff sŵn a seinwedd eu hystyried yn briodol wrth i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau yn ystod y pum mlynedd nesaf. I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu y bydd adrannau'n dod o hyd i sefyllfaoedd lle y gallai eu polisïau newid amgylcheddau sain mewn ffyrdd sy'n cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar iechyd a llesiant pobl, ac ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn gyson â'r ffyrdd o weithio yn Neddf 2015, er mwyn osgoi creu problemau sŵn newydd, a sicrhau'r manteision mwyaf posibl yn sgil unrhyw gyfleoedd a ddaw i'r amlwg i ostwng lefelau sŵn presennol a hyrwyddo seinweddau iachach.

21. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn yn digwydd nawr o fewn y portffolio Newid Hinsawdd mae'r ffaith bod swyddogion ynni a chynllunio Llywodraeth Cymru yn ystyried goblygiadau polisïau i sŵn a seinweddau wrth adolygu'r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer yng Nghymru, a bod swyddogion trafnidiaeth yn gwneud hynny wrth ddiwygio canllawiau Llywodraeth Cymru ar bennu terfynau cyflymder lleol.

22. Mae'r ymgynghoriad ar y Cynllun drafft yn gyfle i Weinidogion ac adrannau ym mhob rhan o'r Llywodraeth fyfyrio ar y ffordd y gallai polisïau yn eu hardaloedd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar lesiant pobl yng Nghymru drwy eu hamgylcheddau sain. Er enghraifft, effaith seiniau yn yr ystafell ddosbarth ar y ffordd y mae plant yn dysgu, gan gynnwys y rhai a all fod yn arbennig o sensitif i sŵn; effaith amgylcheddau sain ar allu pobl i weithio gartref; neu effaith y seiniau mewn wardiau ysbytai ar lesiant cleifion a staff.

23. Bydd dinasyddion Cymru yn profi manteision y newid o fesurau rheoli sŵn traddodiadol i ddull mwy cynhwysol sy'n seiliedig ar seinweddau pan fyddant yn gallu gweld cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried safbwyntiau cymunedau lleol ar eu hamgylcheddau sain, o ran yr hyn sy'n werthfawr iddynt a'r hyn y maent yn credu y mae angen ei wella, wrth gyflawni swyddogaethau a allai effeithio ar eu hansawdd bywyd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen parhau i weithio gyda chyrff proffesiynol dros y pum mlynedd nesaf er mwyn gwreiddio dulliau seinwedd cyfranogol mewn arferion gwaith penodol, megis helpu awdurdodau lleol i roi'r TAN 11 newydd ar waith a chreu disgwyliad i gynnwys gwaith dylunio seinwedd da mewn cynigion ar gyfer datblygiadau newydd.

24. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir o dan y strategaeth ymateb i ddigwyddiadau a datblygiadau polisi mewn meysydd eraill. Yn 2018, ni allai'r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd fod wedi rhagweld cyfyngiadau symud 2020/1 a'r cynnydd cyflym mewn gweithio gartref yn sgil hynny. Nid oedd ychwaith yn hysbys ar y pryd beth fyddai'r sefyllfa o ran syniadau polisi bum mlynedd yn ddiweddarach mewn perthynas â materion fel ein Bil Aer Glân, terfynau cyflymder, tân gwyllt a thechnolegau newydd megis pympiau gwres ffynhonnell aer. Fodd bynnag, mae'r egwyddorion arweiniol a'r ffyrdd o weithio cyffredinol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun wedi bod yn ddilys ac yn berthnasol i'r holl bethau hynny a disgwylir iddynt barhau i fod yn berthnasol dros y pum mlynedd nesaf.

25. Bydd gosod y Cynllun ar sail gyfreithiol fwy cadarn fel y strategaeth seinweddau genedlaethol yn codi ei broffil a'i effeithiolrwydd o ran arwain prosesau gwneud penderfyniadau cytbwys.

Cyfathrebu a chyhoeddi

26. Rydym eisoes wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i ymgynghori ar Gynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 yn ystod yr haf hwn yn y Datganiad o Fwriad Polisi a gyhoeddir ar yr un pryd â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Yn amodol ar gytundeb y Cabinet, rydym yn cynnig cyhoeddi'r ymgynghoriad hwn cyn gwyliau'r haf, ar y cyd â Datganiad Ysgrifenedig byr.

27. Mae ymwybyddiaeth o bolisi sŵn a seinwedd Llywodraeth Cymru, a diddordeb ynddo, ar lefel y DU yn uwch ar hyn o bryd nac mewn blynyddoedd blaenorol, o ganlyniad i'r ymgynghoriad diweddar ar TAN 11 a chyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), sydd ill dau'n mynd ymhellach na gwledydd eraill y DU. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriadau cadarnhaol at bolisi Llywodraeth Cymru mewn tystiolaeth lafar a gymerir gan ymchwiliad presennol Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ'r Arglwyddi i effeithiau iechyd golau artiffisial a sŵn.

28. Gall y papur hwn gael ei gyhoeddi chwe wythnos ar ôl cyfarfod y Cabinet, gan hepgor y drafft cysylltiedig o'r Cynllun Sŵn a Seinwedd ei hun a fydd, yn amodol ar gytundeb y Cabinet, yn cael ei gyhoeddi ar wahân cyn gwyliau'r haf, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar dudalennau gwe ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet:

  • gytuno ar y fersiwn ddrafft o Gynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 (Atodiad B) i'w lansio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus cyn gwyliau'r haf.
  • nodi y caiff y Cynllun terfynol ei fabwysiadu fel y strategaeth genedlaethol ar seinweddau sy'n ofynnol o dan Ran 2 o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ym mis Rhagfyr 2023.

Julie James AS
Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Mai 2023

Atodiad A: Materion statudol, cyllidol, cyfreithiol a llywodraethu

Gofynion statudol

Mae Rheoliad 17 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu eu cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn ar gyfer prif ffyrdd, prif reilffyrdd a chrynodrefi, a'u diwygio os bydd angen, o fewn pum mlynedd iddynt gael eu mabwysiadu. Cafodd Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd i Gymru 2018-2023, sy'n cwmpasu'r cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn cyfredol o dan Reoliadau 2006, ei fabwysiadu ar 4 Rhagfyr 2018. Mae Rheoliad 20 o Reoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau yr ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch cynigion ar gyfer cynlluniau gweithredu.

Fel y'i cyflwynwyd, mae adran 22(1) o Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (“y Bil”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n cynnwys eu polisïau mewn perthynas ag asesu a rheoli seinweddau yng Nghymru. Mae adran 22(2) yn dweud ei bod yn rhaid i'r strategaeth gynnwys polisïau ar gyfer asesu a gostwng lefelau llygredd sŵn.

O dan adran 22(8), os bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy'n bodloni gofynion adrannau 22(1) a 22(2) cyn i adran 22 ddod i rym, dylid trin y strategaeth honno fel y strategaeth a baratowyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 22(1).

Paratowyd y fersiwn ddrafft o Gynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 i weithredu fel y strategaeth genedlaethol ar seinweddau o dan y Bil, a hefyd i gwmpasu cynnwys y cynlluniau gweithredu ynghylch sŵn diwygiedig sy'n ofynnol o dan Reoliadau 2006.

Mae'r cyngor yn y papur hwn yn seiliedig ar yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r asesiad effaith integredig sy'n cyd-fynd â'r Bil. Roeddent yn cynnwys ystyriaeth i'r canlynol:

  • y pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Safonau'r Gymraeg
  • rhwymedigaethau CCUHP
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn yr un modd â Chynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd 2018-2023, mae Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd sy'n sicrhau mai ei neges graidd yw glynu wrth y pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gofynion cyllid a'r goblygiadau o ran llywodraethu

Nid oes goblygiadau ariannol newydd yn deillio o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun drafft. Nid yw'r Cynllun yn cyhoeddi unrhyw wariant newydd gan Lywodraeth Cymru ac, yn hytrach, mae'n canolbwyntio ar brosesau gwneud penderfyniadau gwell, gan ystyried effeithiau newidiadau i seinweddau ar lesiant Cymru. Byddai unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ar gyllid ar gyfer mesurau lliniaru sŵn ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn ystod y cyfnod 2023-2028 yn cael eu gwneud ar wahân, yn seiliedig ar yr egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun, y cytunwyd arnynt gydag Is-adran y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, yn amodol ar fforddiadwyedd.

Fel y'i cyflwynwyd, byddai adran 23 o'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried y polisïau yn y strategaeth a gyhoeddir o dan adran 22 wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus a allai effeithio ar seinweddau yng Nghymru. Nid yw'r Cynllun drafft, y bwriedir iddo weithredu fel y strategaeth genedlaethol ar seinweddau, yn gofyn i awdurdodau lleol wneud mwy nag yr oedd y cynllun blaenorol, sef Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd 2018-2023, yn gofyn iddynt ei wneud. Y disgwyliad allweddol yw y bydd cyrff cyhoeddus yn dilyn y pum ffordd o weithio wrth gyflawni swyddogaethau o'r fath.

Serch hynny, os oes rhan o awdurdod lleol nad yw'n ystyried polisïau cenedlaethol ar sŵn a seinweddau wrth gyflawni swyddogaeth sy'n effeithio ar seinweddau yng Nghymru ar hyn o bryd, byddai adran 23 o'r Bil bellach yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny. Mae'n bosibl y gallai costau sy'n deillio o'r gofyniad statudol hwn ar gyfer rhan o awdurdod lleol nad yw'n ystyried polisïau cenedlaethol ar hyn o bryd gael eu gwrthbwyso gan arbedion i dîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod hwnnw yn sgil gwell prosesau gwneud penderfyniadau gan osgoi creu problemau sŵn newydd. Ni allwn feintioli costau a manteision o'r fath ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y daw enghreifftiau i'r amlwg yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun a'r gwaith craffu ar y Bil.

Disgwylir i'r costau i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn sgil ymgynghori ar Gynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028, ei gyhoeddi, ei roi ar waith a'i adolygu ar ôl pum mlynedd aros yn gyson â'r asesiad effaith rheoleiddiol sy'n cyd-fynd â'r Bil a'r cyngor cysylltiedig y cytunodd Gweinidogion arno ym mis Chwefror 2023 (cyfeiria MA/JJ/0286/23 at hyn).

Ymchwil a/neu ystadegau

Nid oes gwaith ymchwil nac ystadegau newydd wedi'u cynnwys yn y papur hwn. Mae'r Cynllun drafft yn Atodiad B yn cyfeirio at amrywiaeth eang o ganfyddiadau ymchwil sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys crynodeb o ganlyniadau cwestiynau sŵn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22 a luniwyd ar ein cyfer gan Knowledge and Analytical Services (KAS). Yn ogystal â gwaith ymchwil sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd, bydd Atodiad A y Cynllun drafft (sy'n cael ei gwblhau ar hyn o bryd) yn cynnwys canlyniadau ymarfer mapio sŵn strategol 2022.

Gweithio cydgysylltiedig 

Paratowyd y papur hwn gan swyddogion sy'n atebol i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sef y Gweinidog arweiniol ar gyfer polisi sŵn a seinwedd ac ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Paratowyd Cynllun Sŵn a Seinwedd drafft 2023-2028 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus mewn trafodaethau â swyddogion polisi o bob rhan o Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ansawdd aer, trafnidiaeth, cynllunio, iechyd, ynni, gweithio o bell, lles anifeiliaid a diogelwch cymunedol, a phartneriaid allanol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Gymdeithas Lleihau Sŵn, y Sefydliad Acwsteg a Rhwydwaith Acwsteg y DU (UKAN+), a chyda chyfraniadau ganddynt.