Neidio i'r prif gynnwy

Gofynion Statudol

1. Bydd newidiadau i drefniadau aelodaeth a gosod cyllideb yr FRA yn gofyn am ddiwygio Gorchmynion Cyfuno FRA drwy is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.  Bydd angen ystyried diwygiadau deddfwriaethol canlyniadol eraill hefyd unwaith y bydd cyfarwyddiadau drafftio llawn yn cael eu rhoi i'r Gwasanaethau Cyfreithiol. Bwriedir cyflwyno'r diwygiadau i Orchmynion Cyfuno FRA ym mis Mawrth i ddarparu ar gyfer gweithredu newidiadau i aelodaeth FRA De Cymru yn 2026 ac yn y ddau FRA arall yn 2027 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. 

2. Cynhaliwyd asesiad effaith integredig ochr yn ochr â datblygu cynigion i ymgynghori arnynt ac mae ar gael yma: Asesiad Effaith Integredig

Gofynion Ariannol a Goblygiadau o ran Llywodraethiant

3. Mae'r trefniadau cyllido presennol ar gyfer FRAs yn golygu eu bod yn codi cyfraniadau ar eu hawdurdodau lleol cyfansoddol; nid ydynt yn derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru.  Mae cyfraddau'r cyfraniadau yn ôl disgresiwn pob Awdurdod Tân ac Achub ac nid oes gennym ni nac awdurdodau lleol unrhyw reolaeth dros y penderfyniadau hyn.  Fel y nodwyd yn y prif bapur, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn bwriadu ychwanegu gofyniad i FRAs ymgynghori'n ffurfiol ac yn ystyrlon ag Awdurdodau Lleol fel rhan o'u prosesau gosod cyllideb.

4. Mae goblygiadau cost o £300,000 i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag unrhyw welliant i raglen arolygu FRA ar gyfer Cymru.  Diben y ddarpariaeth honno yw talu am gost cymorth wrth arolygu i'r Prif Arolygydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru a benodwyd gan y Goron, gan gynnwys cost comisiynu cymorth ychwanegol ad hoc ar gyfer y broses arolygu gan arbenigwyr pwnc.  Mae'r gost hon wedi'i chynnwys yn y dyraniad dangosol o £3.119 miliwn i'r Gwasanaethau Tân ac Achub BEL 1265 (refeniw) yng Nghyllideb Ddrafft 2026-27.

5. Mae arbedion a chostau eraill yn gyfrifoldeb i'r FRAs.  Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (DBCC) yn pennu'r cyfraddau ar gyfer aelodau'r FRA sydd wedi'u henwebu, ac wedi'u penodi gan Weinidogion Cymru drwy'r broses benodi cyhoeddus.  Ar hyn o bryd ni all aelodau awdurdod lleol sy'n cael cyflog uwch Band 1 neu Band 2 (sef Arweinydd / Dirprwy Arweinydd ac aelod o'r Cabinet) dderbyn cyflog gan unrhyw FRA y maent wedi'u penodi iddo, er eu bod yn parhau i fod yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chael cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr NPA neu'r FRA.
  • Byddwn yn crybwyll ein newidiadau arfaethedig gyda'r DBCC i'w galluogi i adolygu'r cyfraddau cyfredol ar gyfer FRAs yng ngoleuni'r rhain.  Tan hynny nid yw'n bosibl nodi a fydd arbedion ariannol o ran aelodau, na faint fyddant os oes rhai, o ganlyniad i'r gostyngiad yn nifer aelodau'r FRA.   
  • Mae costau gweinyddol ychwanegol posibl i FRAs sy'n gysylltiedig â darparu a chynnal rhaglen hyfforddi a datblygu well i aelodau ynghyd â bod yn destun rhaglen arolygu ehangach.  Efallai y bydd costau hefyd yn gysylltiedig â gweithredu gwelliannau sy'n deillio o arolygiadau.  Bydd angen i'r rhain gael eu hysgwyddo gan FRAs.

6. Nid oes materion llywodraethu penodol yn deillio o'r papur hwn.

7. Mae'r papur hwn wedi'i glirio gan Dîm Gweithredu LGH&CCRA (HLGP/25/108), Tîm Gweithredu Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg (ECWL/JB/13/25) a chan yr Is-adran Cyllideb a Busnes y Llywodraeth (BGB/2060/6).

Ymchwil a / neu Ystadegau

8. Nid oes unrhyw ystadegau a gyflwynir yn y papur hwn sy'n gofyn am eu clirio gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Gweithio mewn Ffordd Gydgysylltiedig

9. Nid oes unrhyw faterion traws-bortffolio sy'n gysylltiedig â'r cynnig yn y papur hwn.