Papur Cabinet: Diwygio Llywodraethu Gwasanaethau Tân ac Achub
Papur y Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ar Ddiwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y penderfyniad sy'n ofynnol
Gofynnir i’r Cabinet nodi:
- canlyniad yr ymgynghoriad ar Ddiwygio Trefniadau Llywodraethu a Chyllid y Gwasanaeth Tân ac Achub.
- y camau nesaf y bwriedir eu cymryd, gan gynnwys cyflwyno is-ddeddfwriaeth i newid gofynion aelodaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub a phrosesau gosod cyllideb.
Crynodeb
- Rhoddais ddiweddariad llafar ar Lywodraethu'r Gwasanaeth Tân ac Achub (FRS) i'r Cabinet ar 24 Tachwedd gan nodi y byddwn yn gohebu ymhellach gan roi rhagor o fanylion ynglŷn â'm cynlluniau ar gyfer diwygio mewn papur. Mae'r papur hwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw.
- Mae diffyg trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cadarn wedi cyfrannu at bryderon difrifol ynghylch perfformiad gweithredol a diwylliant camweithredol mewn Gwasanaethau Tân ac Achub y tynnwyd sylw atynt yn gyson mewn nifer o adroddiadau annibynnol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Rwyf wedi ymgynghori ar opsiynau ar gyfer diwygio llywodraethu y gellir eu rhoi ar waith yn nhymor presennol y Senedd. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i aelodaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub (FRA) i wella arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau, a chyflwyno tryloywder wrth bennu cyllidebau, a gwella prosesau arolygu.
- Mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu cytundeb cyffredinol bod rhesymau dros newid, ond bod safbwyntiau gwahanol o ran y manylion, yn enwedig mewn perthynas â maint aelodaeth FRA.
- Mae newid yn hanfodol i gefnogi'r gwelliant sydd ei angen ym mherfformiad a diwylliant yr FRS. Er gwaethaf adborth cymysg ar yr opsiynau ar gyfer newid, rwy'n bwriadu gwneud is-ddeddfwriaeth ym mis Mawrth i newid trefniadau aelodaeth a gosod cyllideb FRAs.
- Byddwn hefyd yn cymryd camau i wella arolygiad statudol y gwasanaethau tân ac achub i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael ar gyfer y gwaith, a bod arolygiadau'n amlwg yn annibynnol, yn dryloyw ac yn gynhwysfawr.
Perfformiad a Diwylliant FRA
1. Mae tystiolaeth yn dangos nad yw'r FRSs ledled Cymru yn perfformio mor effeithiol ag y dylent, boed yn gorfforaethol neu'n weithredol. Mae nifer o adroddiadau hefyd wedi bod ynghylch diwylliannau ac ymddygiadau camweithredol yn y gweithle, gyda gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu a ffafriaeth yn ymddangos fel petaent yn gyffredin. Mae diffyg trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd cadarn wedi cyfrannu at y sefyllfa hon, gan nad yw'r Gwasanaethau yn cael eu cyfarwyddo, eu herio na'u cefnogi'n ddigonol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub (FRAs). Roedd yr ymyriad yn achos Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn arbennig wedi'i seilio ar fethiant yr FRA i ddangos arweinyddiaeth ddigonol na dwyn uwch reolwyr i gyfrif.
2. Felly, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau y gellir eu gwneud drwy is-ddeddfwriaeth yn nhymor y Senedd hon. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod trefniadau llywodraethu cryfach ar waith ar draws y tri FRS, yn fwyaf uniongyrchol yn FRS De Cymru lle ymyrrodd Gweinidogion Cymru yn 2024, gan ddisodli aelodau'r FRA gyda phedwar Comisiynydd sy'n gyfrifol am wella arweinyddiaeth, diwylliant a pherfformiad gweithredol y gwasanaeth. Bydd y Comisiynwyr eu hunain yn asesu pan fyddant wedi gwneud y gwelliannau angenrheidiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu parhau â'i daith at wella heb eu cefnogaeth a'u cyfarwyddyd hwy, ac yn argymell y gellir dychwelyd y Gwasanaeth i drefniadau llywodraethu lleol. Rydym yn disgwyl i hynny fod yn ystod 2026, ac rydym yn gweithio gyda'r Comisiynwyr ar y trefniadau manwl.
3. Gellid ystyried diwygiadau mwy radical sy'n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol (megis byrddau cwbl annibynnol ag aelodau a benodwyd, un FRS ar gyfer Cymru, Prif Swyddogion Tân yn cael annibyniaeth weithredol neu FRAs yn cael pwerau praeseptio) ond nid yw newidiadau o'r fath yn bosibl o fewn y pwerau presennol, a byddant yn fater i'r Senedd nesaf.
Cynigion yr ymgynghoriad a dadansoddiad
4. Buom yn ymgynghori am 8 wythnos rhwng 29 Awst a 24 Hydref ar opsiynau â'r nod o wella arweinyddiaeth a phrosesau gwneud penderfyniadau'r FRA, cyflwyno tryloywder wrth osod cyllidebau, a dull mwy cadarn o arolygu. Roedd cefnogaeth gyffredinol i amcanion y diwygio, er bod rhai ymatebwyr yn credu y dylai'r newidiadau fynd ymhellach.
5. Aelodaeth– Ar hyn o bryd mae gan FRAs rhwng 24 a 28 o aelodau, wedi'u henwebu gan eu hawdurdodau cyfansoddol. Yn wahanol i awdurdodau lleol, nid yw swyddogaethau gweithredol a chraffu wedi'u gwahanu, ac ni ellid eu gwahanu heb gael mandad etholiadol yn sail iddo. Mae hyn yn creu awdurdodau sy'n anhylaw ac mewn lle gwael i ddarparu arweinyddiaeth strategol effeithiol neu atebolrwydd clir. Roedd yr opsiynau yn yr ymgynghoriad yn cynnwys lleihau nifer yr aelodau i 1 fesul awdurdod lleol, penodi aelodau o gabinetau awdurdodau lleol (er ein bod wedi codi pryderon am gapasiti), a phenodi aelodau annibynnol gyda'r awgrym bod dwy ran o dair yn benodiadau gan yr awdurdodau lleol ac un rhan o dair yn annibynnol. Gwnaethom hefyd ofyn pwy ddylai benodi aelodau annibynnol ac a ddylai fod Cadeiryddion annibynnol.
6. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn cefnogi lleihau nifer yr aelodau. Roedd llai o gefnogaeth i leihau aelodaeth awdurdodau lleol i 1 fesul awdurdod lleol gyda CLlLC a nifer o rai eraill yn codi'r angen am gydbwysedd gwleidyddol, a chynrychiolaeth gyfrannol wedi'i seilio ar boblogaeth awdurdod lleol. Crybwyllwyd pryderon hefyd am gapasiti ac amrywiaeth aelodau. Roedd cefnogaeth gryfach i benodi aelodau annibynnol. Roedd ymateb cymysg i'r cwestiwn a ddylai aelodau annibynnol ffurfio traean o'r aelodaeth a chael eu penodi fel aelodau llawn yn hytrach nag mewn rôl graffu yn unig. Roedd dros hanner yr ymatebwyr yn cytuno â'r ddau opsiwn ond roedd rhai yn anghytuno. Roedd llai o gefnogaeth i'r pŵer penodi fod yn nwylo Gweinidogion Cymru, nac ar gyfer penodi Cadeiryddion annibynnol.
7. Gosod cyllidebau - Mae FRAs yn cael eu cyllid craidd trwy godi ardoll ar eu hawdurdodau cyfansoddol fel y gwelant yn dda. Yn ymarferol, mae FRAs yn ymgynghori ag awdurdodau lleol ac maent yn dweud eu bod yn ystyried y setliad llywodraeth leol a'r angen am ddoethineb ariannol ac effeithlonrwydd yn unol â gweddill y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r cynnydd yn yr ardoll yn aml wedi rhagori ar gynnydd yng nghyllid awdurdodau lleol; ac nid oes gan yr awdurdodau lleol na Llywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros y broses. Amlinellodd yr ymgynghoriad dri opsiwn: ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, praesept treth gyngor neu gryfhau'r trefniant presennol fel bod yn rhaid i FRAs ymgynghori â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol er mwyn dod i gytundeb ar eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yr unig opsiwn ymarferol yn y tymor byr yw'r olaf o'r rhain ac roedd cefnogaeth gyffredinol iddo, er bod rhai amheuon ynghylch amserlenni a datrys anghydfodau. Cafwyd cefnogaeth gan CLlLC a sawl Awdurdod Lleol a rhai eraill ar gyfer model praeseptio yn y tymor hwy.
8. Arolygu - ar hyn o bryd mae hyn yn nwylo'r Prif Gynghorydd Tân ac Achub a'r Arolygydd, sy'n ymgymryd â'r rôl ar ei ben ei hun heb unrhyw drefn arferol ar gyfer cymorth. Mae'r ymgynghoriad yn nodi'r egwyddorion ar gyfer rhaglen arolygu well gan gynnwys yr angen iddi fod yn annibynnol, y gofyniad i gwmpasu holl swyddogaethau FRA, symud i ddyfarniadau graddedig y gellir eu deall gan yr holl randdeiliaid a'r cyhoedd, a'r angen iddi gael adnoddau priodol. Ni nodwyd model cyflawni a ffefrir ar gyfer hyn. Roedd y mwyafrif o'r ymgyngoreion yn cytuno â'r egwyddorion ar gyfer arolygu da a bod angen dilyn dull gwahanol o arolygu yng Nghymru, er nad oedd barn gyson ar beth fyddai natur hyn.
Y camau nesaf
9. Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth eang o'r angen am newid, a'r gefnogaeth gyffredinol i'r syniad bod angen newidiadau mewn nifer o feysydd allweddol gan gynnwys aelodaeth, cyllid ac arolygu FRAs. Er nad oedd cefnogaeth gyson ar y manylion, yn enwedig mewn perthynas ag aelodaeth FRA, mae'r ddadl dros newid yn glir. Mae diffyg llywodraethu ac atebolrwydd cadarn yn sail i bryderon eang ynghylch perfformiad a diwylliant camweithredol yn y gwasanaeth ac mae angen newid hyn ar frys ac yn gadarn. Mae hynny'n arbennig o bwysig yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel bod trefniadau priodol a chadarn ar waith pan fydd y Comisiynwyr yn gadael.
10. Felly, rydym yn bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol ym mis Mawrth i wneud y canlynol:
- Lleihau nifer aelodau FRA i un fesul Awdurdod Lleol cyfansoddol, ac i aelodau ddod o gabinetau awdurdodau lleol yn ddelfrydol – bydd hyn yn darparu dego aelodau o awdurdodau lleol yn FRA De Cymru, a chwech yn un yn FRAs y Canolbarth a Gorllewin, a'r Gogledd.
- Penodi aelodau annibynnol i'r FRAs a fydd yn draean o'r aelodaeth gyffredinol - Bydd hynny'n golygu pum aelod annibynnol yn FRA'r De a thri yr un yn FRAs y Canolbarth a Gorllewin, a'r Gogledd, gan roi aelodaeth gyffredinol o bymtheg, naw a naw yn y drefn honno.
- Sefydlu gofynion ymgynghori ffurfiol yn y broses o osod cyllideb FRA – gofyniad statudol i FRAs ymgynghori ag awdurdodau lleol cyn gosod eu cyllideb, gyda'r bwriad o ddod i gytundeb, a chynnwys rhai manylebau ynghylch tystiolaeth o effeithlonrwydd a bodloni risg gymunedol. Bydd pryderon a godwyd gan aelodau ynghylch dyddiadau cau ar gyfer gosod cyllidebau a datrys anghydfodau lle na cheir cytundeb yn cael eu hystyried yn y trefniadau manwl.
11. Bydd hyn yn rhoi'r dull mwyaf cadarn i ni o arweinyddiaeth a phroses gwneud penderfyniadau gwybodus, effeithlon ac effeithiol o fewn cyfyngiadau deddfwriaethol presennol. Rydym yn bwriadu rhoi newidiadau i aelodaeth ar waith o fis Mai 2026 ymlaen, gan ddarparu ar gyfer dychwelyd i lywodraethiant lleol yn Ne Cymru yn 2026 a threfniadau newydd yn y Canolbarth a Gorllewin ac yn y Gogledd i ddod i rym yn ffurfiol o 2027 ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol. Gellir monitro ac adolygu unrhyw faterion ynghylch capasiti aelodau Cabinet awdurdodau lleol yn rhan o'r gwaith o ystyried diwygio mwy eang yn nhymor nesaf y Senedd.
12. Mae gwaith ar wahân eisoes yn mynd rhagddo gyda CLlLC i gynhyrchu rhaglen gynhwysfawr ar gyfer hyfforddi a datblygu aelodau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Bydd hyn yn rhoi eglurder am rolau a chyfrifoldebau aelodau, y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â'u rôl, a'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fod yn effeithiol. Bydd yn ategu ac yn cefnogi newidiadau i aelodaeth y FRAs.
13. Bydd lleihau maint FRAs yn lleihau cymhlethdodau ac yn hwyluso gwneud penderfyniadau mwy effeithiol. Bydd cynnwys aelodau o Gabinetau awdurdodau lleol yn cryfhau arweinyddiaeth strategol a chysylltiadau â gwasanaethau eraill. Mae'r achos dros benodi aelodau annibynnol yr un mor gryf ac fe'i cefnogwyd yn helaeth. Gallant ddod â medrau arbenigol a allent fod yn brin ymhlith y cynghorwyr a enwebwyd, ac sy'n arbennig o bwysig wrth ddarparu arweinyddiaeth ar faterion sy'n aml yn dechnegol iawn a hefyd ddwyn uwch swyddogion i gyfrif ynghylch cyflawni.
14. Roedd awdurdodau lleol yn tueddu i gefnogi gwneud penodiadau annibynnol eu hunain. Fodd bynnag, credaf ei bod yn briodol bwrw ymlaen â phroses benodi ar y cyd gyda Gweinidogion Cymru yn penodi'r aelodau annibynnol ar ôl cystadleuaeth deg ac agored, ond gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill yn rhan lawn o'r broses ddethol. Mae hwn yn gyfaddawd rhesymol rhwng penodiadau gwirioneddol annibynnol a rhoi llais i bartneriaid yn y broses.
15. Yn yr un modd, ac yn amodol ar gyngor cyfreithiol pellach, rwy'n rhagweld proses benodi ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion a fyddai'n cynnwys yr aelodau eraill ochr yn ochr â chynghorydd o Lywodraeth Cymru.
16. Byddwn hefyd yn mynd ar drywydd model gwell o arolygu sy'n annibynnol a chynhwysfawr ar gyfer Cymru, o dan y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub dros Gymru a benodir, gyda chysylltiadau cryf â'r arolygaethau eraill ledled y DU, a'r Coleg Tân newydd pan gaiff ei gyflwyno. Byddwn yn newid teitl y Prif Gynghorydd ac Arolygydd (CFRAI) i'w gwneud yn fwy eglur i bartneriaid a'r cyhoedd bod y rôl yn canolbwyntio'n bennaf ar arolygu ac i bwysleisio annibyniaeth y swyddogaeth – newid y mae'r deiliad presennol yn ei gefnogi'n llawn. Bydd manylion, gan gynnwys datblygu meini prawf arolygu newydd sy'n ehangach, rhaglenni arolygu a mecanweithiau adrodd yn ôl, yn cael eu datblygu gan y Prif Arolygydd mewn ymgynghoriad â FRAs, Undebau a rhanddeiliaid eraill. Nid oes angen is-ddeddfwriaeth ar newidiadau o'r fath.
Effaith
17. Yn ogystal â'i rôl greiddiol draddodiadol, mae'r FRS yn wynebu heriau sylweddol sy'n deillio o newidiadau yn y cyd-destun risg strategol, gan gynnwys demograffig sy'n heneiddio, newid yn yr hinsawdd, diogelwch byd-eang, datblygiadau technolegol a newidiadau mewn deunyddiau ac arferion adeiladu. Mae mynd i'r afael â'r heriau hynny, a chadw pobl a chymunedau'n ddiogel, yn galw am arweinyddiaeth, llywodraethu ac atebolrwydd clir ac effeithiol. Mae hynny'n brin ar hyn o bryd, a nod y cynnig yn y papur hwn yw cywiro hynny.
Cyfathrebu a chyhoeddi
18. Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad a chyflwyno is-ddeddfwriaeth yn y flwyddyn newydd. Byddaf yn gwneud datganiad i Senedd Cymru ym mis Rhagfyr yn datgan fy nghynlluniau. Gellir cyhoeddi'r papur hwn ar ôl i'r datganiad hwnnw gael ei wneud.
Jayne Bryant AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Tachwedd 2025
