Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet nodi'r cynigion i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat drwy gyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol; gwelliannau i bwerau gorfodi; a threfniadau gwell ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol.

Gofynnir i'r Cabinet nodi y bydd y rhain yn cael eu hamlinellu mewn papur gwyn, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

Crynodeb

1. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat (CHPau) yn chwarae rôl hanfodol yn ein system drafnidiaeth, gan ddarparu gwasanaeth drws i ddrws hyblyg yn ogystal â'r gallu i integreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn gallu gweithredu yn ystod oriau pan nad yw bysiau, er enghraifft, ar gael. Mae hyn yn eu gwneud yn hanfodol ar gyfer economi'r nos, ac maent yn hynod bwysig i bobl sydd ag anawsterau symudedd. Maent yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu trafnidiaeth ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a chleifion nad ydynt yn achosion brys. Mae hefyd gan dacsis a CHPau rôl allweddol i'w chwarae mewn perthynas â newid dulliau teithio mewn ardaloedd trefol a gwledig, gan ei bod yn bosibl y bydd gwasanaethau dibynadwy, diogel a hygyrch yn lleihau'r defnydd o ail geir.

2. Mae hyn yn sector sy'n datblygu'n gyflym ac a arweinir gan dechnoleg, ond mae'r fframwaith deddfwriaethol ar ei gyfer yn hynafol. Er ein bod am i'r ddeddfwriaeth newydd fod yn barod at y dyfodol, ar hyn o bryd nid ydym yn gallu diffinio'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer technolegau sy'n dod i'r amlwg, fel cerbydau awtonomaidd – felly mae'r Bil yn canolbwyntio ar nifer o broblemau hirdymor y mae angen mynd i'r afael â nhw nawr, i sicrhau bod gennym ddarpariaeth fwy diogel, decach a gwyrddach yng Nghymru. Mae'r problemau hirdymor hyn yn cynnwys safonau anghyson ar gyfer gyrwyr, gweithredwyr a cherbydau ledled Cymru; swyddogion gorfodi awdurdodau lleol nad oes ganddynt yr hawl i gymryd camau gorfodi yn erbyn gyrwyr sy'n gweithredu yn eu hardaloedd os ydynt wedi cael eu trwyddedu mewn mannau eraill; a lefelau isel o wybodaeth yn cael eu rhannu rhwng awdurdodau lleol, sy'n rhwystro gorfodi.

3. Bydd y Papur Gwyn, sydd ynghlwm yn Atodiad B, yn cael ei gyhoedd yn yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Mawrth, a bydd yn cynnwys cynigion i fynd i'r afael â'r problemau hirdymor hyn ac i gyflawni'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i 'ddeddfu i foderneiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat, a mynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â hurio trawsffiniol'. Rydym yn gweithio gydag Uned y Rhaglen Ddeddfwriaethol a'i Llywodraethiant i ystyried y cydgysylltiadau rhwng y Bil Tacsis a'r Bil Bysiau, a rhoddir rhagor o gyngor ar y mater hwn maes o law.

Amcan y papur

4. Nod y cynigion a amlinellir yn y Papur Gwyn drafft yw sicrhau darpariaeth tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru sy'n fwy diogel, yn decach ac yn wyrddach. Ar hyn o bryd mae trwyddedau tacsis/CHPau yn amrywio ledled Cymru, gan fod pob awdurdod lleol yn pennu ei bolisïau a'i amodau ei hun. Mae hyn yn arwain at ofynion trwyddedu a safonau gwahanol ledled y wlad. Mae hyn yn arwain ar wasanaethau anghyson a'r hyn a elwir yn ‘hurio trawsffiniol’, pan fydd gyrwyr yn cael trwydded mewn ardal lle mae'r gofynion trwyddedu'n llai llym, ac wedyn ymgymryd â gwaith wedi'i drefnu ymlaen llaw mewn trefi neu ddinasoedd lle mae'r galw am wasanaethau'n uwch.

Cynigion deddfwriaethol

Safonau gofynnol cenedlaethol

5. Mae ymdrechion eisoes wedi cael eu gwneud i gyflwyno safonau cyson yn wirfoddol, ond ni welwyd llawer o lwyddiant yn hyn o beth. Ym mis Mawrth 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen gysoni â'r nod o sicrhau cysondeb mewn rhai meysydd polisi tacsis / CHPau ledled Cymru, ond nid yw'r polisïau hyn wedi cael eu mabwysiadu gan bob awdurdod lleol.

6. Byddai cyflwyno 'safonau gofynnol cenedlaethol' yn golygu y byddai'r un gwiriadau'n cael eu cynnal ar bob gyrrwr a gweithredwr ledled Cymru – h.y. byddai dull cyson ar gyfer gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriadau cofnodion troseddol tramor, gwiriadau meddygol – yn ogystal â'r un dull ar gyfer profi cerbydau, terfynau oedran cerbydau / polisïau allyriadau a gofynion penodol fel goleuadau to ar gyfer tacsis yn unig.

7. Bydd sicrhau cysondeb yn helpu i wella diogelwch ar gyfer teithwyr am ei fod yn codi'r bar ar gyfer yr arferion gorau ymhlith yr awdurdodau lleol. Mae hefyd yn sicrhau tegwch ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr am y bydd pawb yn gweithio o dan yr un rheolau, a fydd yn golygu y bydd cost cydymffurfio'n fwy cyfartal. Rydym yn credu bod hyn yn hanfodol wrth fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â hurio trawsffiniol, gan y bydd yn atal gyrwyr wedi'u trwyddedu mewn ardaloedd eraill rhag tanseilio prisiau gyrwyr lleol.

8. Elfen bwysig o'r cynigion ar gyfer safonau gofynnol cenedlaethol yw y byddai angen i'r rhai sy'n gwneud cais am drwydded ennill cymhwyster a reoleiddir a fydd yn cynnwys pynciau allweddol fel: ymwybyddiaeth o ddiogelu plant ac oedolion; Deddf Cydraddoldeb 2010 ac ymwybyddiaeth o anableddau; ymwybyddiaeth o iechyd meddwl; ymwybyddiaeth o ddementia, ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV): ymwybyddiaeth o ffiniau siroedd, ymwybyddiaeth o fasnachu pobl.

Caniatáu swyddogion gorfodi i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw yrrwr/cerbyd/gweithredwr, yn hytrach na'r rhai wedi'u trwyddedu yn eu hardal nhw yn unig

9. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn cyfyngu ar y gallu i gymryd camau gorfodi yn erbyn gyrwyr neu gerbydau sy'n mynd i ardal awdurdod lleol, os ydynt wedi cael eu trwyddedu mewn ardal arall. Yn aml, prin yw'r wybodaeth sydd gan swyddogion awdurdod lleol am y gofynion ar gyfer cerbydau mewn ardaloedd arall.

10. Byddai'r gallu i gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw yrrwr wedi'i drwyddedu yng Nghymru yn golygu y byddai awdurdodau lleol yn gallu gorfodi'r rheolau mewn modd cyson, a sicrhau nad yw gyrwyr o ardaloedd eraill yn gallu anwybyddu'r rheolau. Bydd hyn, ynghyd â'r mesurau eraill sy'n cael eu cynnig, yn gwneud gweithredu trawsffiniol yn llai buddiol ac yn sicrhau tegwch. Bydd cymryd camau gorfodi yn erbyn gyrwyr / cerbydau o ardaloedd eraill yn haws, gan y byddant wedi'u trwyddedu yn unol â'r un safonau.

Cyflwyno pwyntiau cosb a Hysbysiadau Cosb Benodedig ledled Cymru

11. Mae polisïau gorfodi'r gwahanol awdurdodau lleol yn amrywio. Er y byddai Hysbysiadau Cosb Benodedig yn newydd, mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn defnyddio systemau pwyntiau ar gyfer gyrwyr a pherchnogion cerbydau wedi'u trwyddedu o fewn eu hardal nhw.

12. Prif nod cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig fyddai lleihau'r pwysau ar lys yr ynadon ar gyfer rhai troseddau llai difrifol. Mewn modd tebyg byddai system pwyntiau cosb yn cael ei chyfyngu i droseddau llai difrifol, a byddai'n gweithredu ledled Cymru. Byddai hyn yn golygu y byddai gyrrwr yn cronni pwyntiau bob tro mae’n cyflawni’r drosedd.

Diffiniadau / terminoleg gliriach ar gyfer tacsis a CHPau ynghylch yr hyn y gallant ei wneud a'r hyn na allant ei wneud

13. Un gwahaniaeth pwysig rhwng tacsis a CHPau yw mai dim ond tacsis a gaiff stopio yn y stryd ar gais rhywun neu ddefnyddio safleoedd tacsis. O dan y ddeddfwriaeth bresennol mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt, ac mae hyn yn arwain at achosion llys am 'chwilio am fusnes'. Gall hyn beri dryswch ar gyfer teithwyr ynghylch a yw cerbyd ar gael i'w hurio neu beidio.

14. Gallai deddfwriaeth newydd ddarparu diffiniadau clir o'r ddau fath o gerbyd i helpu gyda gorfodi ac i helpu teithwyr i ddeall y gwahaniaeth rhwng tacsis ac CHPau. Yn bwysig rydym yn cynnig diffiniadau o hurio 'yn y man a'r lle' i sicrhau ei bod yn hawdd gorfodi troseddau sy'n gysylltiedig â gyrwyr CHPau sy'n 'chwilio am fusnes'. Mae hyn yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â hurio trawsffiniol, oherwydd y byddai'n ei gwneud yn haws sicrhau nad yw gyrwyr wedi'u trwyddedu i yrru CHP mewn un ardal yn ymgymryd â gweithgareddau nad oes ganddynt drwydded ar eu cyfer mewn ardal arall.

Trefniadau gwell ar gyfer rhannu gwybodaeth

15. Er mwyn hwyluso camau gorfodi, mae angen trefniadau gwell ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol, am fod eu systemau, ar hyn o bryd, yn wahanol. Un ffordd o hwyluso gwneud hyn fyddai sefydlu cronfa ddata genedlaethol, ond mae'n bosibl y bydd opsiynau eraill mwy cost effeithiol ar gyfer gwneud yr un peth. Byddwn yn gweithio gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i archwilio'r opsiynau, gan gyfeirio at yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Ymdrin â hurio trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr

16. Os ydym yn cyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer Cymru, gall gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr gael eu trwyddedu yn Lloegr yn unol â safonau is, ac wedyn gweithredu yma. Rydym yn cynnig ystyried dau opsiwn yn y Papur Gwyn ar gyfer ceisio barn ar y dull a ffefrir i atal cerbydau o Loegr rhag gweithredu'n bennaf yng Nghymru, er mwyn osgoi safonau cenedlaethol.

Pŵer i bennu dyddiad pan fydd angen i bob cerbyd fod yn Gerbyd Di-allyriadau

17. Mae cymhellion ar gyfer cerbydau di-allyriadau a pharhau â threialon am ddim yn debygol o gynyddu nifer y cerbydau di-allyriadau sy'n cael eu trwyddedu, ond mae cyfyngiadau i gynlluniau o'r fath. Byddai pŵer deddfwriaethol i bennu dyddiad yn ategu'r cymhellion ac yn helpu i gynyddu cyflymder y newid. Ond byddai angen i'r ddau fynd law yn llaw. Mae'n annhebygol y byddai polisi ar Gerbydau Di-allyriadau ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei gyflawni'n wirfoddol.

Effaith

18. Bydd y cynigion yn y Papur Gwyn yn cyflawni'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ddeddfu i foderneiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat, a mynd i'r afael â phroblemau mewn perthynas â hurio trawsffiniol a gwireddu’r weledigaeth a amlinellir yn Llwybr Newydd: Hoffem sicrhau bod ein system trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn addas ar gyfer Cymru fodern, yn hyrwyddo diogelwch ar gyfer teithwyr a gyrwyr, yn cyfrannu at amgylchedd glanach, yn gwella profiad cwsmeriaid ac yn hygyrch i bawb.

19. Bydd gyrwyr a gweithredwyr yn elwa ar ragor o gysondeb ledled Cymru, gan gael gwared ar rai o'r problemau sy'n gysylltiedig â hurio trawsffiniol, drwy sicrhau nad yw gyrwyr cerbydau hurio preifat yn gallu cael trwydded mewn un ardal lle mae'r safonau'n is ac wedyn gweithio mewn ardal arall.

20. Bydd teithwyr yn elwa ar wasanaeth mwy cyson y gallant ddibynnu arno, a fydd yn ei dro yn eu gwneud yn fwy tebygol o ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy, am y byddant yn hyderus y gallant wneud cysylltiadau rhwng gwahanol mathau o drafnidiaeth. Bydd hyn yn helpu gyda'n targedau ar gyfer newid dulliau teithio. Yn bwysig, bydd pob gyrrwr yn cael ei hyfforddi ar faterion allweddol gan gynnwys diogelu; ymwybyddiaeth o anableddau, VAWDASV a ffiniau siroedd, gan sicrhau y gall gyrwyr ddarparu unrhyw gymorth penodol a all fod ei angen, yn ogystal â chadw llygad ar unrhyw broblemau sy'n codi yn y gymuned.

21. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar bwerau gorfodi gwell a mwy effeithlon – ac ar gyfer y rhai sydd eisoes â safonau trwyddedu uchel, yn ogystal â sicrhau tegwch bydd cyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol hefyd yn ei gwneud yn haws cymryd camau yn erbyn gyrwyr sydd wedi cael eu trwyddedu mewn ardal arall sydd wedyn yn gweithredu yn eu hardal nhw.

22. Bydd dinasyddion yn gyffredinol ar eu hennill o ganlyniad i'r newid graddol i gerbydau mwy effeithlon, ac yn y pen draw i gerbydau di-allyriadau, gan wella ansawdd aer a chyfrannu at dargedau newid hinsawdd.

Cyfathrebu a chyhoeddi

23. Cynigir bod y Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi ar yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Mawrth. Mae awdurdodau lleol a CLlLC wedi bod yn gweithio ers cryn amser ar ddiwygio'r gyfundrefn drwyddedu, ac mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cwrdd â nhw a'r undebau i amlinellu'r sail resymegol ar gyfer y cynigion sydd ar y gweill. Dywedodd yr awdurdodau lleol eu bod yn fodlon ar gynnwys cyffredinol y Papur Gwyn. Roedd yr undebau'n glir y byddai angen rhoi digon o gyfnod pontio ar gyfer unrhyw newid sy'n cynnwys costau, ac er ein bod ni wedi ystyried achosion hurio trawsffiniol, byddai'n well ganddyn nhw pe bai rheolau llym ar waith sy'n cyfyngu ar lle mae CHPau yn gweithredu. Rydym o'r farn y byddai hynny'n arwain at ddarpariaeth lai hyblyg a llai o wasanaethau ar gyfer teithwyr. Ein bwriad yw rhoi copi o'r Papur Gwyn i’r awdurdodau lleol, CLlLC a'r undebau perthnasol ymlaen llaw, o dan embargo.

24. Rhoddir datganiad ysgrifenedig i holl aelodau'r Senedd ar fore lansio'r ymgynghoriad. Bydd datganiad llafar yn cael ei gyhoeddi ar 28 Mawrth, a bydd hyn yn darparu cyfle arall i dynnu sylw at yr ymgynghoriad ac i adolygu'r ymatebion cychwynnol.

Argymhelliad

Gofynnir i'r Cabinet nodi'r cynigion i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat drwy gyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol; gwelliannau i bwerau gorfodi; a threfniadau gwell ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol.

Gofynnir i'r Cabinet nodi y bydd y rhain yn cael eu hamlinellu mewn papur gwyn, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Mawrth.

Lee Waters
Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Chwefror 2023

Atodiad A: Materion statudol, ariannol, cyfreithiol a llywodraethol

Gofynion statudol

1. Wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer y Papur Gwyn a'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol Drafft, mae'r nodau a'r ffyrdd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael eu hystyried. Mae swyddogion yn gweithio gyda swyddogion llywodraeth lleol a CLlLC.

2. Mewn perthynas â'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, un o brif amcanion diwygio deddfwriaethol yw sicrhau bod darpariaethau ar gyfer tacsis a CHPau yn gyson ledled Cymru, er budd pob cymuned. Bydd hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer y rhai sy'n dibynnu arnynt ar adegau pan nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael – fel y rhai sy'n gweithio yn economi'r nos. Bydd hefyd yn sicrhau darpariaeth ddibynadwy a diogel ar gyfer y rhai sy'n defnyddio tacsis a CHPau i gyrraedd gofal cymdeithasol, addysg ac apwyntiadau iechyd nad ydynt yn rhai brys.

Gofynion ariannol

3. Ni fydd y ddeddfwriaeth ei hun yn arwain at gostau, ond bydd creu pŵer i gyflwyno safonau cenedlaethol yn arwain at gostau yn y dyfodol mewn perthynas â datblygu a chynnal y safonau hyn (Llywodraeth Cymru a/neu gorff arall); ar gyfer awdurdodau lleol wrth iddynt addasu i'r gyfundrefn newydd; ac ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr mewn perthynas â chydymffurfio â'r gyfundrefn newydd.

4. Mae swyddogion wedi drafftio'r cynigion gyda'r nod o gadw cost eu rhoi ar waith mor isel ag y bo modd. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn amlinellu'r amcangyfrifon o oblygiadau ariannol rhoi'r cynigion ar waith:

  • Y sector tacsis a CHPau
  • Awdurdodau lleol
  • Llywodraeth Cymru

5. Mae swyddogion yn disgwyl cael syniad cliriach o gost rhoi'r cynigion ar waith drwy'r broses ymgynghori. Oherwydd bod pob awdurdod lleol yn gweithio yn unol â safonau gwahanol ar hyn o bryd, bydd costau i'r diwydiant yn amrywio ledled Cymru, h.y. lle mae safonau eisoes yn uchel, mae'n debygol bydd costau i'r sector yn is neu efallai na fydd unrhyw gostau o gwbl.

6. Isod mae'r costau ychwanegol posibl ar gyfer y sector tacsis a CHPau:

  • Gall safonau arwain at gostau ychwanegol i yrwyr tacsis / CHPau, gweithredwyr a pherchnogion cerbydau yn rhai mannau o Gymru lle bydd yr amodau trwyddedau newydd yn berthnasol: Er enghraifft, hyfforddiant gorfodol cenedlaethol a reoleiddir, gofynion ar gyfer oedran cerbydau neu allyriadau a’r geiriau gorfodol ar gyfer goleuadau to.
  • Mae'n bosibl y bydd cyflymu'r broses o newid i gerbydau di-allyriadau yn arwain at gostau ychwanegol ar gyfer perchnogion cerbydau, os yw Gweinidogion yn defnyddio'r pwerau a gynigir yn y Bil. Byddai lefel y gost hon yn dibynnu ar yr adeg y mae’r pwerau'n cael eu defnyddio a chyflwr y farchnad ar y pryd.

7. Er ei bod yn debygol y bydd costau ar gyfer y sector tacsis a CHPau yn cynyddu, bydd sicrhau safon uchel sy’n gyson ledled Cymru yn rhoi'r hyder i deithwyr ddefnyddio tacsis a CHPau yn fwy rheolaidd, ac o ganlyniad yn cynyddu enillion posibl ar gyfer y sector.

8. Mae'n annhebygol y bydd costau i awdurdodau lleol yn cynyddu, ac mae'n bosibl y byddant yn gostwng hyd yn oed o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth. Pe bai costau'n cynyddu, byddai'r rhain yn cael eu hadennill drwy'r ffioedd maent yn eu codi am y trwyddedau.

9. Ar ôl i'r cynigion gael eu rhoi ar waith, bydd gan Lywodraeth Cymru rôl wrth oruchwylio'r safonau cenedlaethol, ond bydd y rôl hon yn cael ei rheoli â staff presennol.

10. Mae swyddogion yn archwilio opsiynau mewn perthynas â gwella trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau lleol ac â theithwyr. Bydd swyddogion yn cyflwyno rhagor o gyngor, gan gynnwys opsiynau ac amcangyfrifon o gostau. Bydd amrediad o opsiynau'n cael eu hystyried, o'r opsiwn dim cost, sef gwneud dim, i brosiectau TG mwy sylweddol a allai arwain at gryn gostau. Bydd swyddogion yn darparu dadansoddiadau cost-manteision o'r opsiynau hyn. Mae'n bosibl hefyd y bydd opsiynau ar gyfer perchen ar unrhyw systemau a ddatblygir ac ar gyfer ariannu unrhyw waith parhaus, fel defnyddio ffioedd trwyddedu tacsis / CHPau i ariannu costau refeniw. Rhoddir rhagor o gyngor yn hyn o beth.

11. Mae'r papur hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y Grŵp Cyllid (rhif cymeradwyo ET/CF/22/315) a Grŵp y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth (rhif cymeradwyo BGB/0789/6).

12. Nid oes unrhyw broblemau o ran cydymffurfedd.

Gofynion cyfreithiol

13. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol wedi darparu cyngor ar ddrafftiau o'r Papur Gwyn, ond ar adeg ystyried y Papur Cabinet hwn nid oeddent wedi gweld y drafft terfynol.

14. Mae cyhoeddi papur gwyn er mwyn ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol yn rhoi'r cyfle ar gyfer herio cyfreithiol gan barti sy'n gymwys i wneud hynny. Mae nifer o resymau posibl dros gyflwyno her gyfreithiol, ond yn aml maent yn ymwneud â materion gweithdrefnol a methu cydymffurfio ag Egwyddorion Gunning a ddylai fod yn sail i'r ymgynghoriad. Mae'r egwyddorion hyn yn ceisio sicrhau'r canlynol:

  1. mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal pan fydd y cynnig yn dal i fod yn ei gamau ffurfiannol
  2. cyflwynir rhesymau digonol ar gyfer y cynnig i ganiatáu ystyriaeth ac ymatebion deallus
  3. rhoddir digon o amser ar gyfer ystyried ac ymateb
  4. mae canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried mewn modd cydwybodol.

15. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol o'r farn bod y Papur Gwyn amlinellu'r cynigion polisi gyda digon o fanylder er mwyn hwyluso ymgynghori a thrafodaethau ystyrlon â rhanddeiliaid. O ran y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn, mae Gwasanaethau Cyfreithiol wedi gweithio gyda swyddogion polisi i ddarparu cyngor cyfreithiol cychwynnol, sydd wedi llywio'r cynigion hyd yn hyn. Ar lefel uchel, mae sail cymhwysedd i ymgynghori ar y cynigion deddfwriaethol a nodir yn y Papur Gwyn; fodd bynnag, bydd Gwasanaethau Cyfreithiol yn parhau i weithio gyda swyddogion wrth i gynigion gael eu datblygu, gan roi cyngor ynghylch unrhyw broblemau o ran cymhwysedd pan fydd y cynigion wedi cael eu datblygu'n ddigon i ganiatáu dadansoddiadau.

16. Er na fydd y risg o her gyfreithiol byth yn mynd yn gyfan gwbl, mae Gwasanaethau Cyfreithiol o'r farn bod y dull ar gyfer ymgynghori a chynnwys y Papur Gwyn yn lleihau’n ddigonol y risg o her, er mwyn sicrhau bod y risg o’r cynigion yn cael eu herio’n llwyddiannus yn gymharol isel.