Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet:

Summary

1. Yn dilyn yr adolygiad o argyfyngau sifil posibl a gomisiynwyd yn 2023, mae fersiwn drafft Fframwaith Gwydnwch Cymru yn nodi ein gweledigaeth, ein disgwyliadau a sut byddwn ni, fel llywodraeth, yn parhau i gefnogi ymatebwyr a Fforymau Gwydnwch Lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol a'r agenda argyfyngau sifil posibl ehangach er mwyn cryfhau gwydnwch Cymru yn erbyn proffil risg sy'n esblygu'n gyflym.

2. Cafodd y Fframwaith ei ddatblygu ar y cyd ag ymatebwyr brys a phedwar Fforwm Gwydnwch Lleol Cymru, a chaiff ei ategu gan Gynllun Cyflawni. Mae’r Cynllun Cyflawni yn cynnwys y camau gweithredu penodol y byddwn ni a'n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni'r blaenoriaethau a'r canlyniadau yn y Fframwaith. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod meddwl am wydnwch yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd ar fywyd a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Y Cyd-destun

3. Prif gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cadw pobl Cymru yn ddiogel. Mae diogelu ein cymunedau rhag argyfyngau mawr a heriau aflonyddgar yn gofyn am ddealltwriaeth glir o risgiau argyfyngau sifil posibl, rheoli risg yn rhagweithiol, trefniadau parodrwydd cadarn a chlir, a galluoedd ymateb ac adfer effeithiol. Rhaid i ni baratoi ar gyfer amrywiaeth eang ac sy’n esblygu o risgiau iechyd i’r cyhoedd ac anifeiliaid - peryglon naturiol fel llifogydd, tirlithriadau a sychder, ynghyd â bygythiadau diogelwch cenedlaethol ehangach a chan derfysgwyr - a gweithio i’w lliniaru.  

4. Mae pob un ohonom wedi gweld effeithiau dinistriol pandemig Covid 19 ar ein cymunedau, ac yn fwy diweddar, difrod Stormydd Bert a Darragh, ac effeithiau’r tarfu ar y cyflenwad dŵr yng Ngogledd Cymru. Cafodd trefniadau rheoli argyfwng Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith ar 30 achlysur gwahanol yn ystod 2024 i gefnogi'r ymateb i heriau ac argyfyngau llanw sy’n codi.

5. Gan ddysgu o ddigwyddiadau ac ymchwiliadau cyhoeddus diweddar, rydym eisoes wedi cymryd camau breision i gryfhau ein dull o baratoi ac ymateb. Fodd bynnag, gallwn wneud rhagor i roi arweinyddiaeth strategol i ymatebwyr brys ac i Fforymau Gwydnwch Lleol.

6. Fis Tachwedd diwethaf, cymeradwyodd y Cabinet Gofrestr Risg a Pharodrwydd Cymru - asesiad dadansoddol llawn o dros 100 o risgiau rydym yn eu hwynebu dros y ddwy i bum mlynedd nesaf. Mae'r gofrestr risg bellach yn cyfrannu at waith trawslywodraethol a phenderfyniadau polisi ar liniaru risg a pharodrwydd. Mae’r gofrestr hefyd yn helpu i flaenoriaethu gwaith cynllunio at argyfyngau, ymarfer a meithrin gallu ymatebwyr.

7. Yn ogystal â datblygu'r gofrestr risg, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy weithredu gwersi ac argymhellion sy'n deillio o ymchwiliadau cyhoeddus, gan gynnwys adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Covid-19 ac Ymchwiliad Arena Manceinion. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi cryfhau ein trefniadau llywodraethu a goruchwylio gwydnwch ein hunain drwy sefydlu Pwyllgor Risg a Pharodrwydd pwrpasol. Rydym wedi gwella peirianwaith rheoli argyfyngau Llywodraeth Cymru ac, am y tro cyntaf yn 2024-2025, rydym wedi rhoi cyllid craidd i bedwar Fforwm Gwydnwch Lleol Cymru i gydlynu gwaith gwydnwch aml-asiantaeth (fel y disgrifir yn y Cynllun Cyflawni).

8. Oherwydd bod y dirwedd risg yn esblygu drwy'r amser, gallwn wneud rhagor i sicrhau bod ymatebwyr brys a'r Fforymau Gwydnwch Lleol yn cael y cymorth a'r cyfeiriad strategol angenrheidiol i arwain gwaith gwydnwch. Felly, rwy'n bwriadu cyhoeddi Fframwaith Gwydnwch Cymru a'r Cynllun Cyflawni ategol, er mwyn ailddatgan ein hymrwymiad i'r agenda a nodi blaenoriaethau strategol a chanlyniadau tymor hir.  

9. Mae'r hyn a ddysgwyd o ddigwyddiadau ac ymchwiliadau diweddar, gan gynnwys Covid-19, Arena Manceinion a Thŵr Grenfell wedi dangos yn amlwg bod angen gwelliannau ar draws pob maes gwydnwch i sicrhau cysondeb o ran dulliau cynllunio, ymateb ac adfer yng nghyswllt argyfyngau, bod angen strwythurau symlach a bod angen cydlynu ymdrechion yn well.  Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu'r dysgu hwn ac yn cadarnhau ein dull o sicrhau'r gwelliannau hyn.

10. Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu'r cymhwysedd cyfunol ar gyfer gwydnwch yng Nghymru. Bydd y Cabinet yn nodi mai Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am arfer swyddogaethau gweithredol o dan Ran 1 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 mewn meysydd datganoledig, fel iechyd, gwasanaethau tân ac achub, yr amgylchedd, dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd, tra bo Llywodraeth y DU yn cadw swyddogaethau yng Nghymru ar gyfer materion a gedwir yn ôl, fel plismona, telathrebu, trosedd a threfn gyhoeddus, diogelwch gwladol a chyflenwad ynni. Fodd bynnag, mae unrhyw argyfwng mawr sy'n effeithio ar Gymru yn debygol o effeithio ar wasanaethau a swyddogaethau datganoledig i ryw raddau. Mae'r Fframwaith yn adlewyrchu'r angen i weithio mewn partneriaeth â'r gymuned o ymatebwyr, Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau dull cydgysylltiedig a chydlynol o reoli risg, cynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt.

Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni

11. Bydd gweithredu Fframwaith Gwydnwch Cymru yn cael ei gefnogi gan drefniadau llywodraethu gwell, dan arweiniad Fforwm Gwydnwch Cymru, i ddarparu gwell atebolrwydd a sicrwydd.  

12. Drwy'r Fframwaith, mae Llywodraeth Cymru yn argymell gweithio at ddull gweithredu 'cymdeithas gyfan', gydag ymdrech benodol i hyrwyddo gwydnwch cymunedol a gwell ffocws ar gefnogi pobl agored i niwed yn ystod argyfyngau. Mae'r Fframwaith yn tynnu sylw at yr angen i weithio mewn partneriaeth, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hynny, nid yn unig ledled Cymru ond hefyd gyda phartneriaid ledled y DU.

13. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae’r Fframwaith yn canolbwyntio ar bedwar amcan strategol i gynorthwyo’r gwaith o gyflawni’r canlyniadau a geisir:

  1. Rheoli risg yn well,
  2. Cryfhau arweinyddiaeth, llywodraethu a sicrwydd,
  3. Bod yn fwy parod a gallu ymateb ac adfer yn well,
  4. Cyfathrebu ac ymgysylltu’n well a bod yn fwy tryloyw (fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Fframwaith Gwydnwch Cymru).

14. Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Fframwaith yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau gwelliannau o ran sut mae Llywodraeth Cymru, a'n partneriaid, yn deall ac yn rheoli risg a'r angen i weithio gyda'n gilydd i fabwysiadu dull gweithredu 'Unwaith i Gymru' o feithrin ein gallu i baratoi ac i ymateb. Wrth galon y dull gweithredu hwnnw rhaid sicrhau ein bod yn gwreiddio’r hyn a ddysgir o ddigwyddiadau blaenorol a rhaid dangos ymrwymiad i welliant parhaus, sydd nid yn unig yn manteisio i’r eithaf ar bartneriaethau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ond sydd hefyd yn grymuso ein cymunedau a’r cyhoedd i fod yn fwy gwydn eu hunain. Mae’r Fframwaith yn cydnabod bod Cymru fwy gwydn yn golygu bod y DU yn fwy gwydn, ac mae ein hymdrechion ar y cyd yng Nghymru yn rhan annatod o wydnwch cyffredinol a threfniadau diogelwch gwladol y DU.

15. Mae'r Cynllun Cyflawni ategol, a ddatblygwyd ar y cyd ag ymatebwyr, yn nodi'r camau gweithredu penodol i helpu i gyflawni amcanion y Fframwaith. Mae’r camau gweithredu yn cael eu mapio dros y tymor byr (yn ystod y flwyddyn nesaf), y tymor canolig (hyd at 2030) a'r tymor hir (ar ôl 2030) naill ai gan Lywodraeth Cymru, asiantaethau ymateb unigol neu Fforymau Gwydnwch Lleol. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu a'i addasu lle bo angen er mwyn ystyried y dirwedd risg sy'n esblygu a newidiadau mewn amgylchiadau.

16. Mae'r Fframwaith wedi elwa o gyfraniadau gan nifer o adrannau, gan gynnwys yr astudiaethau achos sy'n ymddangos yn y ddogfen. Mae gwaith trawslywodraethol agos wedi cyfrannu at ddatblygu'r Fframwaith a'r Cynllun Cyflawni, gan gynnwys drwy'r Pwyllgor Risg a Pharodrwydd a'r Gweithgor Uwch Swyddogion cefnogol. Mae’r materion allweddol yn y naill ddogfen a’r llall wedi cael eu trafod yn y ddau grŵp, er mwyn canfod effeithiau trawsbynciol ac ymatebion cydgysylltiedig. Oherwydd natur drawsbynciol y camau gweithredu yn y Fframwaith a'r Cynllun Cyflawni, rwy'n annog holl aelodau'r Cabinet i ystyried y cysylltiadau yn eu portffolios a chefnogi'r weledigaeth i sicrhau bod meddwl am wydnwch yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd ar fywyd a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

17. Hoffwn dynnu sylw aelodau'r Cabinet at yr ymrwymiadau canlynol yn y Fframwaith a'r Cynllun Cyflawni, sy'n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Camau gweithredu i sicrhau cysondeb dulliau gweithredu ar draws Fforymau Gwydnwch Lleol i wella atebolrwydd a sicrwydd - mae hyn yn cynnwys Fforymau Gwydnwch Lleol yn darparu adroddiadau blynyddol i Weinidogion Cymru sy'n amlinellu cyflwr y gwydnwch ym mhob ardal.
  • Camau gweithredu i wella atebolrwydd cyhoeddus ar reoli risg i feithrin hyder y cyhoedd yn y camau gweithredu rydym yn eu cymryd - mae hyn yn cynnwys cyhoeddi Adroddiad Cyflwr Gwydnwch bob pedair blynedd (i'w osod gerbron y Senedd) ar lefelau parodrwydd ledled Cymru, a fydd yn ystyried asesiadau o lefelau sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd hyn yn cael ei ategu gan Ddatganiad Blynyddol i'r Senedd.
  • Camau gweithredu i wella dealltwriaeth y cyhoedd o risg a pharodrwydd i gynyddu gwytnwch a pharodrwydd ar draws aelwydydd a chymunedau - mae'r rhain yn cynnwys datblygu cofrestr risg gyhoeddus i Gymru, gofynion cryfach i gynhyrchu Cofrestrau Risgiau Cymunedol a chynhyrchion cyhoeddus eraill i wella cyfathrebu, ymgysylltiad a dealltwriaeth o rôl y cyhoedd mewn digwyddiadau ac argyfyngau mawr.
  • Camau gweithredu i wella ein dealltwriaeth o effaith argyfyngau ar unigolion a chymunedau agored i niwed - mae'r rhain yn cynnwys gwella data ac asesiadau pobl agored i niwed a mwy o gysondeb o ran dulliau gweithredu i sicrhau bod ein cymunedau mwyaf agored i niwed yn cael cymorth priodol wedi'i dargedu yn ystod argyfyngau, sy'n diwallu eu hanghenion penodol.
  • Camau gweithredu i wella galluoedd ymateb ac adfer drwy fynd ati gyda phartneriaid i ddatblygu system rheoli gwersi Cymru gyfan a rhaglen parodrwydd a gallu ar gyfer Cymru gyfan.
  • Ymrwymiad i barhau i feithrin ac i gynnal cysylltiadau rhynglywodraethol cryf sy’n cynorthwyo ei gilydd gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni ein nodau gwydnwch ar y cyd.

18. Rydym am i Gymru fod yn genedl lle mae meddwl am wydnwch yn cael ei integreiddio i bob agwedd ar fywyd. Mae cyflawni'r uchelgais hwn yn gofyn am ddull gweithredu cymdeithas gyfan ac ymrwymiad a chyfranogiad amrywiaeth o weithredwyr gan gynnwys y Llywodraeth, ymatebwyr, Fforymau Gwydnwch Lleol, y trydydd sector a'n cymunedau. Mae camau gweithredu’r Cynllun Cyflawni yn dangos yn glir ehangder yr her sydd o'n blaenau. Bydd cefnogaeth holl aelodau'r Cabinet yn hanfodol er mwyn iddo lwyddo.

Effaith

19. Mae cynnal ein gwydnwch a’n parodrwydd yn dod yn fwy heriol a chymhleth, ac mae’n hanfodol bod y strwythurau sydd gennym ar waith i gefnogi ein gallu i ymateb yn addas i’r diben. Bydd cyflawni camau gweithredu’r Fframwaith a'r Cynllun Cyflawni yn sicrhau y bydd gennym, fel cenedl, allu cryfach i asesu ac i ddeall yr amrywiaeth o risgiau rydym yn eu hwynebu, a systemau a strwythurau rhagweithiol, hyblyg a chadarn ar waith sy'n cefnogi anghenion penodol ein cymunedau yng Nghymru.

20. Mae egwyddorion craidd y Fframwaith a chamau gweithredu’r Cynllun Cyflawni yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau'r effeithlonrwydd a'r arbedion maint gorau posibl i wella parodrwydd ar bob lefel.

Cyfathrebu a chyhoeddi

21. Mae datganiad llafar wedi'i drefnu ar gyfer 13 Mai 2025 (y diwrnod cyhoeddi). Ceir cyhoeddi'r Papur Cabinet hwn unrhyw bryd ar ôl hynny.

Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS
Y Prif Weinidog
Ebrill 2025