Neidio i'r prif gynnwy

Angen penderfyniad

Gofynnir i'r Cabinet gytuno ar:

  • fersiwn ddrafft y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol ar gyfer ymgynghoriad
  • y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio ar gyfer ymgynghoriad
  • ymgynghoriad estynedig (16 wythnos) i sicrhau y gall rhanddeiliaid gymryd rhan ystyrlon yn yr ymgynghoriad ar gyfer y ddwy strategaeth.

Crynodeb

1. Ym mis Gorffennaf 2023 cytunodd y Cabinet ar y trywydd ar gyfer y strategaethau a fyddai’n olynu Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2 (CAB (22-23)87).

2. Er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd i ddarparu cymorth iechyd meddwl, mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yn strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd, gyda threfniadau goruchwylio Gweinidogol ar y cyd.

3. Yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth, ac ymarfer ymgysylltu cyn ymgynghori a gynhaliwyd yn ystod haf 2023, mae'r strategaethau drafft wedi'u hail-lunio cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

4. Datblygwyd y strategaethau a'r camau gweithredu lefel uchel mewn sefyllfa o bwysau ariannol digynsail a'r nod yw rhoi cyfarwyddyd i wasanaethau a phartneriaid i sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu ar sail gwerth ac nad ydynt yn gofyn am ymrwymiadau cyllid newydd. Mae asesiadau effaith ategol hefyd wedi cael eu drafftio.

5. Bydd y strategaethau'n cael eu hategu gan ymrwymiadau presennol gan gynnwys y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol a'r Rhaglen Strategol newydd ar gyfer Iechyd Meddwl.

6. Mae'r ddwy strategaeth yn seiliedig ar waith trawslywodraethol parhaus a chamau gweithredu i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl, ac i leihau'r risg o hunanladdiad a hunan-niweidio.

Cefndir

7. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sawl adolygiad i ymgysylltu ag ystod o wasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid i helpu i lunio blaenoriaethau ar gyfer iteriad nesaf y strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2. Mae hyn yn cynnwys yr Adolygiad Annibynnol o Strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2 (2012-2022) a oedd yn cydnabod ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd dros y deng mlynedd diwethaf, ond hefyd yn cydnabod bod “peth ffordd i fynd” gan nodi bod y canlyniadau yr ydym yn ceisio eu cyflawni (sy'n gofyn am newid cymdeithasol) yn debygol o fod yn rhai hirdymor neu hyd yn oed yn rhywbeth a fydd yn cymryd cenhedlaeth.

8. Mae'r gwerthusiad wedi'i osod yng nghyd-destun rhaglen waith ehangach i feddwl yn gynnar am themâu a blaenoriaethau ar gyfer ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac rydym hefyd wedi ystyried yr argymhellion penodol a wnaed gan Bwyllgorau'r Senedd.

9. Gyda'i gilydd, mae'r wybodaeth hon wedi dwyn ynghyd safbwyntiau pobl â phrofiad byw, gofalwyr, ymarferwyr, gwasanaethau a'r cyhoedd i roi cipolwg cynhwysfawr ar lywio cynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym wedi defnyddio hyn i ddatblygu themâu/gweledigaethau a gwerthoedd ar gyfer y strategaethau newydd.

10. Mae gwrando ar y bobl a effeithiwyd gan y penderfyniadau a wnaed yn y strategaeth hon wedi bod yn hanfodol. Mae'r ymgysylltiad cyn ymgynghori (a oedd yn cynnwys dros 260 o ymatebion i arolwg ar-lein) wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu’r datganiadau gweledigaeth a'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer y strategaethau, yn ogystal â chefnogi amcanion, polisïau a chamau gweithredu. Mae'r datganiadau gweledigaeth hefyd yn sail i'r Ddamcaniaeth Newid ar gyfer y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol (2024-2034).

Cyd-destun strategaethau newydd

11. Iechyd meddwl yw'r maes clinigol sy'n derbyn y lefel uchaf o wariant gan y GIG yng Nghymru o hyd. Mae’r pwysau ar y system yn ddifrifol, gyda gwasanaethau’n parhau i adrodd am gynnydd yng nghymhlethdod ac aciwtedd yr atgyfeiriadau a dderbynnir. Mae hyn yn digwydd yng nghyd-destun lefelau uchel o swyddi gwag gyda gwasanaethau’n ei chael hi’n anodd denu a chadw staff addas.

12. Mae'r pwysau ariannol presennol yn ddigynsail, ac mae'r strategaethau wedi'u datblygu yn y cyd-destun hwn. Roedd ffocws allweddol y gwaith ymgysylltu yn seiliedig ar ddarparu cyfeiriad ar gyfer y system i gefnogi’r defnydd darbodus o adnoddau yn hytrach nag ymrwymo i ddarparu gwasanaethau newydd neu ychwanegol. Bydd y buddsoddiadau ehangach sydd eisoes yn y system yn darparu'r capasiti a'r adnoddau i gymell camau gweithredu sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth yn y strategaethau – yn enwedig drwy weithredu Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, a Rhaglen Strategol Gweithrediaeth y GIG ar gyfer Iechyd Meddwl.

13. Cadarnhaodd yr ymgysylltiad cyn ymgynghori fod angen y ddwy strategaeth ac fe nododd y Cabinet y rhesymeg dros hyn, a chytuno arni, ym mis Gorffennaf 2023 CAB (22-23)87. Mae hyn ar y sail:

  • Bod y rhai sy’n marw trwy hunanladdiad yn cael eu nodi’n llai aml fel rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl, ac mae rhesymau niferus a chymhleth pam y gall person benderfynu rhoi diwedd ar ei fywyd y tu hwnt i faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu ymgysylltiad â’r gwasanaeth iechyd meddwl.
  • Mae camsyniad cyffredinol bod pobl sy’n marw trwy hunanladdiad yn dioddef problem neu salwch iechyd meddwl, ac mae hyn yn cynnal camwybodaeth a stigma, nad ydynt yn gweddu’n dda i faterion sy’n ymwneud â phrofedigaeth, er enghraifft. Byddai strategaeth ar wahân yn helpu i osgoi’r cyfuniad hwn, ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu nodi ac yn cael eu cyfeirio’n ehangach, a hynny yn y mannau cywir.
  • Byddai peidio â chael strategaeth ar wahân yn gwyro oddi wrth y dull sydd wedi’i fabwysiadu ym mhob un o wledydd eraill y DU.

14. Datblygwyd y strategaethau trwy ddwy broses a grwpiau drafftio ar wahân i adlewyrchu'r angen am eu gwahanu.

15. Mae datblygiad y ddwy strategaeth wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad a chanlyniadau. Edrychodd ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru ar y mater hwn mewn manylder, gan dynnu sylw at y rhai yn y boblogaeth sydd â'r risg fwyaf o anghydraddoldeb iechyd meddwl, sut y gall gwahanol grwpiau a chymunedau brofi'r anghydraddoldeb hwn, gan wneud nifer o argymhellion sydd wedi llywio datblygiad y strategaethau.

16. Mae pwysigrwydd dull sy'n seiliedig ar hawliau hefyd wedi bod yn nodwedd o'r ymgysylltiad cyn ymgynghori ac mae hyn yn sail i waith y strategaethau. Mae'r blaenoriaethau yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd yn ymwneud ag:

  • ymgorffori camau gweithredu ar y cyd i ddiogelu iechyd meddwl
  • grymuso pobl i wybod am eu hawliau, a theimlo y gallant eu hawlio
  • gwrando ar anghenion pobl er mwyn llunio a llywio'r gwasanaethau a'r gofal a gânt
  • rhoi systemau ar waith sy'n galluogi mynediad a chanlyniadau teg i bawb, yn ddieithriad
  • cynyddu gallu ac atebolrwydd unigolion a sefydliadau sy'n gyfrifol am barchu, diogelu a chyflawni hawliau pobl.

Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol: Datganiadau gweledigaeth lefel uchel

17. Y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol yw:

“Bydd pobl yng Nghymru yn byw mewn cymunedau sy’n eu hannog, yn eu cefnogi ac yn eu grymuso i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant meddyliol, a hynny heb stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau er mwyn sicrhau bod gan bawb yr iechyd meddwl gorau posibl.

Bydd system gymorth gysylltiedig ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac yn ehangach, lle gall pobl gael gafael ar y gwasanaeth iawn, ar yr adeg iawn, ac yn y lle iawn. Bydd gofal a chymorth yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn dosturiol ac yn rhoi’r ffocws ar adferiad, gyda phwyslais ar wella ansawdd, diogelwch a mynediad.

Bydd gofal a chymorth yn cael eu darparu gan weithlu sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac sydd â’r gallu, y cymhwysedd a’r hyder i ddiwallu anghenion amrywiol pobl Cymru.”

18. Bydd y datganiadau gweledigaeth canlynol yn cefnogi cyflawni'r weledigaeth gyffredinol:

Datganiad gweledigaeth 1

Mae pobl yn meddu ar yr wybodaeth, yr hyder a'r cyfleoedd i ddiogelu a gwella iechyd meddwl a llesiant meddyliol.

Datganiad gweledigaeth 2

Mae gweithredu'n digwydd ar draws y Llywodraeth i ddiogelu iechyd meddwl a llesiant meddyliol cadarn.

Datganiad gweledigaeth 3

Mae system gysylltiedig lle bydd pawb yn cael y lefel briodol o gymorth ble bynnag y maent yn ei geisio.

Datganiad gweledigaeth 4

Mae pobl yn cael gwasanaethau iechyd meddwl sy’n ddi-dor – yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cael eu harwain gan angen ac yn cyfeirio at y cymorth cywir y tro cyntaf yn ddi-oed.

Hunanladdiad a Hunan-niweidio – Datganiad ac amcanion gweledigaeth lefel uchel

19. Y weledigaeth gyffredinol ar gyfer y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio yw:

"Bydd pobl yng Nghymru yn byw mewn cymunedau heb yr ofn a’r stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad a hunan-niweidio – cymunedau sy’n cael eu grymuso a’u cefnogi i geisio a chynnig cymorth yn ôl yr angen."

20. Ochr yn ochr â hyn, mae gan y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio chwe amcan allweddol:

  1. Sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru, gan bwyso ar ystod o ddata, ymchwil a gwybodaeth; a datblygu seilwaith cadarn i hwyluso’r gwaith o ddadansoddi a rhannu gwybodaeth i ganolbwyntio adnoddau, llunio polisïau a sbarduno gweithredu.
  2. Cydgysylltu gweithredu ar draws y Llywodraeth ac ar draws sectorau sydd, ar y cyd, yn mynd i’r afael â sbardunau hunanladdiad, ac yn lleihau mynediad at ddulliau hunanladdiad. 
  3. Darparu camau atal, ymyrraeth a chymorth cyflym ac effeithiol i’r grwpiau hynny mewn cymdeithas sydd fwyaf agored i hunanladdiad a hunan-niweidio drwy’r lleoliadau y maent yn ymwneud â nhw fwyaf.
  4. Cynyddu sgiliau, ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith y cyhoedd, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau a allai ddod i gysylltiad â phobl sy’n wynebu risg o hunanladdiad a hunan-niweidio.
  5. Sicrhau bod ymateb priodol a thosturiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei gynnig i bawb sy’n hunan-niweidio, sy’n meddwl am hunanladdiad, neu sydd wedi’u heffeithio neu wedi dioddef profedigaeth oherwydd hunanladdiad, gan hybu adferiad effeithiol a lleihau stigma.
  6. Dull cyfrifol o ran cyfathrebu, adroddiadau yn y cyfryngau, a defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â hunan-niweidio, hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol.

Gweithio trawslywodraethol

21. Mae Grwpiau Swyddogion Trawslywodraethol presennol ar gyfer Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, ac ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio, wedi bod yn sail i'r gwaith trawslywodraethol i gefnogi datblygiad y strategaethau. Mae hyn wedi galluogi eu cysoni â datblygiadau polisi eraill gan gynnwys y Strategaeth Tlodi Plant newydd. Mae'r gwaith hefyd wedi cael ei lywio gan waith parhaus megis y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar addysg uwch ac addysg bellach, y Rhaglen Iechyd a Chyflogadwyedd ar y Cyd a'r Dull Ysgol Gyfan Cyd-Weinidogol.

22. Mae swyddogion wedi cadarnhau trwy'r trefniadau hyn fod y camau gweithredu trawslywodraethol a nodir yn y ddwy strategaeth yn adlewyrchu’r ymrwymiadau cyfredol ac y cytunwyd arnynt fel rhai fforddiadwy y gellir eu cyflawni.

23. Mae swyddogion wedi cymryd rhan weithredol mewn gwaith trawslywodraethol a fyddai'n effeithio ar iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niweidio gan gynnwys Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol; y Cynllun Gweithredu LHDTC+; camau gweithredu yn ymwneud â chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches; gweithio gyda chydweithwyr iechyd y cyhoedd; a chydweithio ag Addysg, Tai a Threchu Tlodi. Mae Is-adran Iechyd y Cyhoedd wedi arwain ar ddatblygu'r camau gweithredu yn y Strategaeth Iechyd Meddwl i gefnogi llesiant meddyliol y boblogaeth ac mae hyn wedi sicrhau integreiddio â'r Fframwaith Rhagnodi Cymdeithasol.

24. Ein bwriad oedd cynnwys dangosyddion trawslywodraethol yn unig i olrhain gwaith i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niweidio a pheidio â chynnwys cyfeiriad manwl at gynlluniau a chamau gweithredu eraill. Fodd bynnag, heriwyd y dull hwn trwy'r broses ymgysylltu. Yr adborth oedd bod y dull yn teimlo'n ddiystyr heb y cyd-destun ehangach hwn, ond yn bwysicaf oll, roedd hefyd yn tanseilio'r perthnasoedd a'r gwaith trawslywodraethol effeithiol sydd eisoes wedi'u sefydlu. Er enghraifft, ar gyfer tai a digartrefedd, roedd rhanddeiliaid yn teimlo'n gryf bod angen adlewyrchu manylion y cydweithio rhwng iechyd meddwl a thai. Yn ogystal, mae barn gref gan randdeiliaid bod angen i ni gynnwys y manylion yn y ddogfen yn hytrach na chyfeirio at neu gysylltu â pholisïau/strategaethau eraill.

25. Felly, mae'r ddwy strategaeth yn rhoi mwy o fanylion am y meysydd hyn, ond ein bwriad hefyd yw cyhoeddi fersiwn gryno o'r datganiadau gweledigaeth a'r camau gweithredu.

26. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, byddwn yn cynnal cyfarfodydd dwyochrog â Gweinidogion i drafod heriau gweithredol a chyfleoedd ar gyfer synergedd ar draws portffolios, wedi'u llywio gan yr ymatebion ymgynghori ffurfiol. Bydd y canlyniad yn cael ei grynhoi ar gyfer y Cabinet pan gyflwynir y strategaethau terfynol ar gyfer cytundeb terfynol.

Ymgynghori

27. Bydd y cyfnod arferol o 12 wythnos yn cwmpasu'r gwyliau hanner tymor a chyfnod y Pasg. Oherwydd hyn, a'r ffaith ein bod yn cyhoeddi dwy strategaeth a fydd o ddiddordeb i randdeiliaid sy'n gorgyffwrdd, mae swyddogion yn cynnig cyfnod ymgynghori estynedig o 16 wythnos.

Effaith

28. Bydd y strategaethau’n gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru trwy ddarparu eglurder ynglŷn â’r weledigaeth a’r blaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl, llesiant ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Maent yn nodi sut y byddwn yn gweithio ar draws sectorau i gydlynu camau gweithredu a gwella trefniadau atal, cefnogi a gwasanaethau (a chanlyniadau). Bydd cyfres o gynlluniau cyflawni 3-5 mlynedd, sy’n nodi’r camau penodol y byddwn yn eu cymryd, yn sylfaen i’r strategaethau. Bydd hyn yn ein galluogi i fynegi’n glir sut rydym yn bwriadu defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i weithio tuag at nodau cyffredin. Bydd y cynlluniau cyflawni hefyd yn ein galluogi i flaenoriaethu'r camau hynny a fydd yn sicrhau effaith fwyaf posibl yr adnoddau a fydd yn hanfodol yn y cyd-destun ariannol presennol.

29. Gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i olrhain cynnydd yn erbyn cyfres o ddangosyddion a fydd yn cael eu cyhoeddi gyda'r strategaethau terfynol. Mae datblygiad y strategaethau yn seiliedig ar broses “theori newid” a bydd gwerthusiad annibynnol o weithrediad y strategaethau yn cael ei gomisiynu ar yr adeg briodol.

30. Mae'r strategaethau hefyd yn nodi'r angen i adolygu ac adnewyddu'r trefniadau Llywodraethu i gefnogi'r gwaith o gyflawni a gweithredu. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod ymgynghori. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi cryfhau'r Oruchwyliaeth Weinidogol ar gyfer y strategaethau gyda threfniadau goruchwylio ar y cyd rhwng y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

31. O ran cyflawni amcanion y llywodraeth, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i flaenoriaethu cyllid ar gyfer iechyd meddwl, sydd wedi’i fodloni. Mae’r strategaethau hyn yn darparu gweledigaeth o’r newydd ar gyfer yr hyn y bydd y cyllid hwnnw’n ei ddarparu. Bydd yn galluogi cyd-weddu gwariant yn well â blaenoriaethau’r llywodraeth, a chydlynu gweithredu ar draws portffolios y llywodraeth.

Cyfathrebu a chyhoeddi

32. Rydym yn bwriadu cyhoeddi'r ddwy strategaeth ar gyfer ymgynghoriad ar 20 Chwefror. Mae'r cynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad yn cynnwys gweithgarwch penodol i ddenu pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ymgynghori.

33. Bydd fersiwn plant a phobl ifanc a fersiwn hawdd ei darllen o'r ddwy strategaeth yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r ymgynghoriad, ochr yn ochr â fersiynau drafft o'r Asesiadau o'r Effaith ar Hawliau Plant, yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, a'r Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg. Byddwn yn defnyddio'r cyfnod ymgynghori i gasglu rhagor o dystiolaeth o effeithiau a chyhoeddi asesiadau effaith diwygiedig yn ddiweddarach eleni.

Lynne Neagle/Julie Morgan/ Eluned Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant/Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol/Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Ionawr 2024