Cyfarfod, Dogfennu
Papur i'w nodi: diweddariad ar y Bil Hawliau Cyflogaeth
Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) nodi cynnwys y papur hwn.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 90 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Purpose
- Darparu diweddariad ar statws y Bil Hawliau Cyflogaeth (y Bil). Ar gyfer cefndir a chyd-destun pellach, dylai'r Cyngor gyfeirio at bapurau diweddaru blaenorol a ddarparwyd i'r Cyngor ar gyfer ei gyfarfodydd ym mis Rhagfyr 2024, Mawrth 2025, a Mehefin 2025.
Hynt Ddeddfwriaethol a Chydsyniad Brenhinol Disgwyliedig
- Mae'r Bil yn parhau â'i hynt seneddol ac yn agosáu at ddiwedd pob cam seneddol. Ers y papur diweddaru diwethaf i'r Cyngor ym mis Mehefin, cwblhaodd y Bil y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi cyn toriad Senedd y DU.
- Rydym yn disgwyl i Dŷ'r Arglwyddi orffen ei ddadl derfynol ar y Bil (y 3ydd Darlleniad) ar 3 Medi 2025. Ar ôl hynny, mae'n debygol y bydd yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin, a elwir yn 'ping-pong', i ddatrys unrhyw wahaniaethau. Efallai na fydd y broses hon yn cael ei chwblhau cyn i Dŷ'r Cyffredin dorri ar gyfer cynadleddau’r pleidiau ar 16 Medi. Y disgwyliadau diweddaraf yw bod y Bil yn annhebygol o basio ei holl gyfnodau a chael Cydsyniad Brenhinol cyn mis Tachwedd ar y cynharaf.
Gwelliannau
- Mae gwelliannau sylweddol i'r Bil a gyflwynwyd ers y papur diweddaru diwethaf i’r Cyngor ym mis Mehefin yn ymwneud â:
- gwaharddiad ar gymalau cyfrinachedd sy'n gysylltiedig ag aflonyddu neu wahaniaethu
- rheolau diswyddo ac ail-gyflogi diwygiedig sy'n gwneud diswyddiadau yn annheg yn awtomatig o dan rai amodau
- diweddariadau i'r drefn chwythu'r chwiban
- rheolau symlach ar gyfer gweithwyr dim oriau a gweithwyr asiantaeth
Hynt y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
- Ers y papur diweddaru diwethaf i’r Cyngor ym mis Mehefin, trafododd y Senedd bob un o'r pedwar Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Gorffennaf. Rhoddodd y Senedd ei chydsyniad gyda 27 pleidlais o blaid, 13 yn erbyn, a 10 yn ymatal. Mae cofnod o'r ddadl yn Y Cyfarfod Llawn 15/07/2025 - Senedd Cymru.
Gweithrediad
- Bydd Llywodraeth y DU yn cymryd dull fesul cam at weithredu'r Bil a gosod rheoliadau. Mae'r dull hwn wedi'i nodi yn y map trywydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2025 Implementing the Employment Rights Bill - Our roadmap for delivering change.
- Yr hydref hwn, byddwn yn gweithio gyda'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac eraill i drafod y gwaith sylweddol sydd ei angen cyn i ni fod mewn sefyllfa i sefydlu'r Corff Negodi Gofal Cymdeithasol.
DS: Mae'r papur hwn yn adlewyrchu’r sefyllfa yn gywir ar adeg ysgrifennu, 3 Medi 2025.
