Neidio i'r prif gynnwy

Gofynnir i Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) i: 

  • nodi’r diweddariad hwn i’r adnewyddiad o’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a'r drafft yn Atodiad 1

Trosolwg

  1. Mae'r papur hwn yn diweddaru'r Cyngor ar waith i adnewyddu'r Cod Ymarfer gwirfoddol ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae'n crynhoi'r newidiadau arfaethedig i'w gynnwys ac yn nodi llinell amser eang ar gyfer y gwaith.
     
  2. Mae'r Cod yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gwaith teg a chyflogaeth foesegol mewn cyflogaeth uniongyrchol a chadwyni cyflenwi byd-eang. Mae'n cyd-fynd â'r uchelgais yn Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru i "ddangos cyfrifoldeb ar lefel fyd-eang drwy gadarnhau’n henw da fel Cenedl Deg – sydd wedi ymrwymo i Fasnach Deg, Gwaith Teg, Chwarae Teg, yn arbennig o ran cydraddoldeb.”  Mae'r Cod hefyd yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y nod llesiant o 'Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang'. 
     
  3. Mae'r adnewyddiad i'r Cod yn adlewyrchu datblygiadau ers cyflwyno'r fersiwn gyfredol o'r Cod yn 2017. 

Cefndir

  1. Cyhoeddwyd y Cod yn 2017 fel rhan o ymateb Cymru i Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Roedd y Cod yn ymdrin ag ystod ehangach o bynciau ac yn gosod disgwyliad (ond nid oedd yn gorfodi) y dylai sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus ddod yn llofnodwyr, tra hefyd yn annog sefydliadau eraill sy'n gweithredu yng Nghymru i'w fabwysiadu fel mater o arfer da. Mae'r Cod yn ymdrin â materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig. Mae dros 900 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod, gyda oddeutu 50 yn cofrestru bob blwyddyn ar gyfartaledd. 
     
  2. Mae deuddeg ymrwymiad presennol y Cod yn cynnwys ystyried talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, sicrhau nad yw hunangyflogaeth ffug yn cael ei wneud, a pheidio â defnyddio cynlluniau ymbarél neu gontractau dim oriau yn annheg. Mae hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyrff cyhoeddus weithredu Cod y Gweithlu (dwy haen). 
     
  3. Mae cyfleoedd i ymgorffori'r Cod ymhellach mewn caffael cyhoeddus wedi'u hystyried fel rhan o'r gwaith ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cynnwys Cod y Gweithlu newydd yn ogystal â gofynion gosod amcanion ac adrodd ar gyfer cyrff cyhoeddus. Mae angen adnewyddu'r Cod i adlewyrchu'r newidiadau hyn. 
     
  4. At hynny, bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus sydd o fewn cwmpas y Ddeddf hefyd gyflwyno adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol flynyddol. Tra bod is-ddeddfwriaeth a chanllawiau yn cael eu datblygu, disgwylir, yn amodol ar ymgynghoriad, mai un o'r metrigau adrodd fydd cyfran y cyflenwyr sydd wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer.
     
  5. Bydd adrannau eraill o ganllawiau ar Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cyfeirio at y Cod, er enghraifft mewn perthynas â gosod amcanion, contractau adeiladu mawr ac adrodd blynyddol.

Adnewyddu

  1. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymchwil ac wedi cynnal tair sesiwn ymgysylltu gyda sefydliadau sydd wedi llofnodi, a rhanddeiliaid eraill. Gwahoddwyd partneriaid cymdeithasol. Cynhaliwyd y sesiynau hyn i gasglu barn ar sut y gellid adnewyddu'r Cod. Mynychodd tua 50 o unigolion y sesiynau hyn. 
     
  2. Cawsom adborth cadarnhaol ar gynigion i ddiweddaru a chryfhau rhai o'r ymrwymiadau, cael gwared ar ddyblygu, a gwella strwythur ac eglurder cyffredinol. Ni chafodd unrhyw bryderon sylweddol eu codi am y cynnwys, er bod awydd i gyfuno rhai ymrwymiadau, a bod mwy o gefnogaeth ar gael. 
     
  3. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o fathau o ymgysylltu, mae elfen o hunan-ddewis o ran pwy sy'n dewis mynychu a rhannu eu barn. Mae'n bosibl bod y rhai a gymerodd ran yn fwy tueddol o weld y Cod yn gadarnhaol, gyda'r posibilrwydd o duedd optimistiaeth. 
     
  4. Codwyd rhai materion ynglŷn â'r heriau o weithredu'r Cod ar draws cadwyni cyflenwi ac nid yn unig ar gyflogaeth uniongyrchol a chyflenwyr haen gyntaf.

Cynigion

  1. Yn seiliedig ar yr adborth a gawsom, rydym wedi cymryd sawl cam yn adnewyddiad drafft y Cod. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • Cadw nifer cyffredinol yr ymrwymiadau i ddeuddeg.  Fodd bynnag, rydym wedi eu trefnu mewn modd mwy rhesymegol ac wedi newid eu cynnwys, gan ychwanegu ymrwymiadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gwahaniaethu ac aflonyddu, iechyd a diogelwch, a defnyddio technoleg gan gynnwys AI.
  • Cryfhau'r ymrwymiad i’r Cyflog Byw Gwirioneddol.  Rydym yn gofyn i lofnodwyr dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr uniongyrchol, yn hytrach na dim ond "ystyried" gwneud hynny fel sy'n digwydd yn y fersiwn gyfredol o'r Cod.  

Llinell amser a ragwelir

  1. Bydd angen rheoli'r trawsnewidiad rhwng y fersiwn gyfredol o'r Cod i'r fersiwn newydd wedi'i hadnewyddu yn ofalus. Mae sawl opsiwn ar gyfer gwneud hyn a gall rhai gynnwys ymgynghori pellach a mwy ffurfiol ar adnewyddiad drafft y Cod. Byddwn yn paratoi cyngor i'r Gweinidog sy'n nodi'r opsiynau hynny yn y dyddiau nesaf. 

Atodiad 1: y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ymrwymiadau diwygiedig drafft

Byddwn yn gwneud y canlynol:

1. Datblygu a gweithredu polisi ar fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol 

  • Cynhyrchu a gweithredu polisi (neu bolisïau) ysgrifenedig i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth a recriwtio anfoesegol yn ein sefydliad ein hunain a'n cadwyni cyflenwi. Dylid cymeradwyo polisïau o'r fath ar lefel uwch a chynnwys gweithwyr rhyngwladol lle bo hynny’n berthnasol.

2. Darparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Hyfforddi staff perthnasol a, lle bo hynny’n bosibl, annog cyflenwyr i ddeall caethwasiaeth fodern, cyflogaeth anfoesegol a pholisïau ein sefydliad.

3. Asesu risgiau caethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol 

  • Cynhyrchu a diweddaru asesiad risg yn rheolaidd o gynhyrchion a gwasanaethau allweddol a allai gynnwys caethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth anfoesegol naill ai yn ein sefydliad neu yn ein cadwyni cyflenwi.

4. Mynd i'r afael â risgiau caethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Ymateb i'n hasesiadau risg trwy weithredu i leihau a lliniaru risgiau. Lle bo angen, gwneud yn iawn am niwed sy'n gysylltiedig â'n sefydliad a'n cadwyni cyflenwi.

5. Cofnodi ein gweithredoedd i leihau caethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cofnodi ein gweithredoedd, canfyddiadau, cynnydd a chanlyniadau allweddol, o fewn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi, a gwneud hyn yn destun rheolaidd o gyfarfodydd rheoli ac adolygu contractau. 

6. Cyhoeddi datganiadau blynyddol am ein gwaith ar gaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol

  • Cynhyrchu a chyhoeddi datganiad blynyddol sy'n esbonio'r hyn yr ydym wedi'i wneud a'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chyflogaeth anfoesegol yn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi. 

7. Talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol

  • Talu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol i bob gweithiwr uniongyrchol. Ystyried dod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig ac annog cyflenwyr y DU i dalu o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • Wrth brynu nwyddau a gwasanaethau dramor, canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n talu o leiaf cyflog byw rhanbarthol ar gyfer eu hardal ddaearyddol neu ddefnyddio ardystiadau sy'n canolbwyntio ar gyflog teg.

8. Darparu mynediad i undebau llafur

  • Gwneud yn siŵr bod undebau llafur yn gallu cael mynediad i'r gweithle a bod gweithwyr yn gallu ymuno a chymryd rhan mewn undebau llafur heb ofni gwahaniaethu. Sicrhau bod gweithwyr yn cael eu diogelu rhag triniaeth andwyol a chosbrestru wrth godi cwynion, gwneud cwynion ffurfiol neu chwythu'r chwiban. Sicrhau bod yr hawliau hyn wedi'u nodi'n glir mewn contractau cyflogaeth.
  • Canolbwyntio ar gyflenwyr, yn y DU ac yn fyd-eang, sy'n gallu dangos agwedd gadarnhaol a chydweithredol at weithio gydag undebau llafur.

9. Amddiffyn hawliau gweithwyr a diogelwch swyddi

  • Cwrdd â'r holl ddyletswyddau cyfreithiol i'n gweithwyr a sicrhau eu bod yn gwybod eu hawliau. Atal triniaeth annheg mewn perthynas â thâl, telerau ac amodau ac osgoi defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau, neu hunangyflogaeth ffug.
  • Cefnogi diogelwch swyddi gweithwyr cyflenwyr trwy dalu anfonebau yn brydlon, o fewn 30 diwrnod, a sicrhau nad yw pwysau cost ac amser diangen yn cael eu rhoi ar waith a allai arwain at driniaeth anfoesegol o weithwyr. 

10. Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  • Ymgorffori cyfleoedd cyfartal wrth recriwtio, yn ein gweithlu ac wrth drin eraill, a dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
  • Canolbwyntio ar gyflenwyr sy'n mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn weithredol ac annog cyflenwyr i barhau i wella arferion yn y meysydd hyn.
  • Gweithredu i atal pob math o wahaniaethu ac aflonyddu (gan gynnwys aflonyddu rhywiol) ac ymateb yn effeithiol pan fydd yn digwydd.

11. Cadw gweithwyr a gweithleoedd yn ddiogel

  • Sicrhau bod gan ein sefydliad fesurau iechyd a diogelwch effeithiol, a bod y rhain yn cael eu cyfleu a'u hadolygu'n rheolaidd mewn ymgynghoriad â gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur

12. Ystyried effaith technoleg ar weithwyr

  • Mewn ymgynghoriad â'r gweithlu, nodi a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o dechnoleg, gan gynnwys AI a thechnoleg rheoli pobl, yn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi.