Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb gweithredol

Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 gyda’r nod o wneud argymhellion er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg. Bydd argymhellion terfynol y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi ar ffurf adroddiad erbyn mis Awst 2024. Mae’r Papur Safbwynt hwn yn archwilio rhai canfyddiadau cychwynnol yn y maes. Ei nod yw trafod egwyddorion a syniadau.

Ffenomen yw iaith a arferir rhwng pobl, ac mae arferion ieithyddol yn gysylltiedig â chyd-ymwneud siaradwyr yn hytrach nag yn nodwedd yn unig ar siaradwyr ar eu pennau eu hunain. I’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg felly, craidd cynllunio ieithyddol yw cyfnerthu cyd-destunau ac amodau cymdeithasol sy’n hwyluso caffael a defnydd iaith. Un o’r cyd-destunau pwysicaf ar gyfer hynny yw cymunedau Cymraeg.

Mae’r Comisiwn yn pwysleisio mai iaith genedlaethol yw’r Gymraeg. Mae iddi nifer o nodweddion cyfanfydol a dylai polisi iaith adlewyrchu hyn. Er enghraifft, dylai hawliau iaith yng Nghymru fod yn gyfanfydol: maen nhw’n perthyn i bob un o ddinasyddion Cymru lle bynnag maen nhw’n byw yn y wlad.

Er mwyn cefnogi’r Gymraeg fel iaith genedlaethol, mae angen hefyd ei chefnogi fel iaith gymunedol. Mewn ardaloedd sy’n wynebu shifft iaith i’r Saesneg, dylid bod yn barod i ganiatáu amrywio polisi cyhoeddus mewn meysydd sosioeconomaidd a sosioieithyddol er mwyn sefydlogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Meysydd fel cynllunio gwlad a thref, defnydd tir, tai, addysg, datblygu cymunedol, cynllunio ieithyddol a pholisïau economaidd yw’r rhain. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y cynaliadwyedd cymunedol a ystyriwn yn hollbwysig ar gyfer cynaliadwyedd ieithyddol cymunedau Cymraeg.

Er mwyn gallu amrywio polisi cyhoeddus mewn cymunedau o’r fath, dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol. Dylid cyfeirio at yr ardaloedd hyn fel ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’. Byddai hyn yn cydnabod realiti demograffeg iaith gan amlygu hefyd bod y Gymraeg yn arwyddocaol ymhob rhan o Gymru.

Mantais dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fyddai:

  1. caniatáu amrywiaeth polisi a phwyslais polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol
  2. sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol amrywiol yr ardaloedd hyn
  3. dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi
  4. caniatáu ymyraethau o blaid y Gymraeg er mwyn ei sefydlogi a’i chryfhau fel iaith gymunedol
  5. rhoi grymoedd angenrheidiol i rymuso cymunedau i wrthdroi shifft iaith

Ni fyddai’n rhaid amrywio pob polisi. Creu’r gallu i amrywio polisi a wna dynodiad ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Byddai dynodi ardaloedd o’r fath yn gallu hwyluso hefyd ddefnyddio adnoddau yn y dull mwyaf effeithiol, hybu cydweithio ar draws ffiniau siroedd, a chynnig fframwaith ar gyfer gweithredu lleol yng nghyd-destun Safonau Hybu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yn rhan o’r gwaith o ddynodi’r ardaloedd hyn, gallai Llywodraeth Cymru osod trothwy ystadegol er mwyn adnabod cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn ystyried a ddylai hyn fod yn ofyniad statudol. Fodd bynnag, nid dyma fyddai’r unig ffordd, nac o bosib y ffordd bennaf, o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Ceir yng Nghymru lawer o gymunedau â phroffeil ieithyddol canolig. Dylid ystyried yn ofalus a ddylid eu dynodi. Mae’r Comisiwn o’r farn y dylai awdurdodau lleol wneud y penderfyniad hwn. Ni fyddai penderfyniad o’r fath yn seiliedig ar ystadegau yn unig: gall fod elfen o hunan-ddiffinio a allai fod yn gysylltiedig ag awydd i weithredu polisïau penodol. Trwy ymateb i ddemocratiaeth leol, lleiheir y posibiliad y byddai ardaloedd yn cael eu heithrio’n groes i ddymuniadau eu trigolion. Un posibilrwydd fyddai pennu dwy haen oddi mewn i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) er mwyn adlewyrchu anghenion cymunedau gwahanol. Bydd y Comisiwn yn ystyried hyn eto ar ôl trafod â rhanddeiliaid.

Yn ogystal ag ystyried ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), mae’r Comisiwn wedi dechrau ar y gwaith o graffu ar feysydd polisi penodol. Nid argymhellion a geir yn ein trafodaethau hyd yma ond safbwyntiau a sylwadau cychwynnol. Gan ein bod yn gweithio yn ôl amserlen sy’n anelu at wneud argymhellion erbyn Awst 2024, nid ydym wedi trafod pob maes eto.

Mae’r Comisiwn yn argyhoeddedig y gall datblygu cymunedol hyrwyddo cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg. Dylid rhoi grym cyfreithiol, ariannol a gwleidyddol i gymunedau mewn ffordd ystyrlon. Er enghraifft, cred y Comisiwn ei bod yn bwysig i gymunedau allu perchnogi asedau. Mae hefyd yn nodi pwysigrwydd yr economi sylfaenol a mentrau cymdeithasol.

Mae’r economi yn bwysig i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol. Felly dylid gwneud mwy o waith ymchwil ynghylch y berthynas rhwng datblygu economaidd a’r iaith. Mae’r Comisiwn yn croesawu cyfraniad ARFOR. Dylai ARFOR fod yn barhaol, meddu ar ei weithrediaeth ei hun, a chynnwys ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) sydd y tu allan i bedair sir bresennol y rhaglen. Dylid sicrhau hefyd fod y Gymraeg yn cael chwarae teg oddi mewn i strwythurau datblygu economaidd sydd wedi’u llunio ar hyd echel dwyrain-gorllewin. Yng ngham nesaf ei waith, bydd y Comisiwn yn trafod, ymysg pethau eraill, swyddi sector cyhoeddus, twristiaeth, amaethyddiaeth a defnydd tir.

Mae addysg yn hanfodol i barhad y Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw. Cred y Comisiwn y dylai pob plentyn mewn ardaloedd Cymraeg orffen eu haddysg yn 16 oed yn rhugl eu Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn lles y plentyn, cynhwysiant cymdeithasol ac er mwyn gwrthdroi shifft iaith.

Mae’r Comisiwn yn croesawu Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg a’i ymrwymiad i lesiant cymunedau Cymraeg. Mae’n cytuno y dylai fod disgwyliadau ieithyddol uwch ar gyfer ysgolion mewn awdurdodau neu gymunedau lle mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn uchel. Yn y cyd-destun hwn, mae cynyddu’r niferoedd sy’n astudio ystod o gymwysterau ôl-14 ac ôl-16 drwy’r Gymraeg yn bwysig. Mae angen hefyd Gymreigio gweithgareddau allgyrsiol ysgolion er mwyn cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol pobl ifanc. Mae canolfannau trochi yn hanfodol, o safbwynt cynllunio ieithyddol ac hefyd fel rhan o agenda cydraddoldeb. Mae’r Comisiwn yn nodi hefyd fod trosglwyddo ieithyddol yn y teulu yn gwbl allweddol i iaith leiafrifedig fel y Gymraeg.

Mae mynd i’r afael ag anghenion cymunedau Cymraeg ym maes tai yn bwysig. Mae’r Comisiwn yn cefnogi’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a Pheilot Dwyfor. Mewn egwyddor, gellid ehangu gwaith y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg er mwyn creu cerbyd strategol ‘system gyfan’ i weithredu ac amrywio polisi tai mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Dylai Landlordiaid Cymunedol fod â rôl ganolog wrth ymateb i anghenion tai yn yr ardaloedd hyn. Dylid cefnogi mentrau tai dan arweiniad y gymuned. Dylid defnyddio’r stoc dai bresennol yn well. Bydd y Comisiwn yn ystyried cynnwys y Papur Gwyrdd ar yr Hawl i Dai Digonol pan gaiff ei gyhoeddi. Mae’r Comisiwn yn nodi yn ogystal ddatblygiad polisïau newydd ym maes ail gartrefi.

O safbwynt y Gymraeg, mae angen ymyraethau ehangach na’r rhai cyfredol ym maes cynllunio gwlad a thref. Bydd y Comisiwn yn cynnal gweithdy yn yr hydref er mwyn dechrau datblygu argymhellion polisi yn y maes. Bydd y gweithdy yn ystyried a ddylid darparu mwy o gyfarwyddyd i awdurdodau cynllunio am bolisi cynllunio a’r Gymraeg, a ddylid cryfhau polisïau o blaid y Gymraeg, a bydd yn trafod cynllunio cymunedol lleol. Bydd hefyd yn ystyried beth ddylai fod union swyddogaeth ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) mewn perthynas â pholisi cynllunio.

Mae cydraddoldeb a chynwysoldeb wrth wraidd gwaith y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn gwneud argymhellion mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig a’r Gymraeg, ac hefyd o ran dosbarth cymdeithasol.

Ceir atodiad sy’n cynnwys dadansoddiad cryno o ddata cyntaf Cyfrifiad 2021. Bydd dadansoddiad llawn o’r cyfrifiad mewn cymunedau Cymraeg yn cael ei baratoi pan mae’r ystadegau i gyd ar gael.

1 Cyflwyniad: gwaith y Comisiwn

Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 gyda’r nod o wneud argymhellion er mwyn cryfhau polisi cyhoeddus o ran cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau Cymraeg.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi gofyn i’r Comisiwn gynnig dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 fel rhan o’r gwaith o gynnull tystiolaeth ar gyfer gweithredu pellach. Yn ogystal â hyn, gofynnodd y Llywodraeth i’r Comisiwn gynnig barn ar bolisi cyhoeddus sy’n cael ei ddatblygu, ac yn benodol o ran datblygiad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg ac yng nghyd-destun datblygu papur gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg.

O ran cynnig cyngor am ddatblygiad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg ac yng nghyd-destun y Bil Addysg Gymraeg, mae’r Comisiwn wedi cyflwyno awgrymiadau i Weinidogion Cymru.

Disgwyliad y Llywodraeth yw y bydd argymhellion terfynol y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi ar ffurf adroddiad erbyn mis Awst 2024. Bwriedir y rhain ar gyfer cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif, neu lle mae hyn wedi bod yn wir tan yn gymharol ddiweddar. Cynhelir wedyn ail gam i waith y Comisiwn a fydd yn craffu ar y Gymraeg fel iaith gymdeithasol mewn rhannau eraill o Gymru. Bydd y cam hwn wedi cael ei gwblhau erbyn 2026.

Mae’r Comisiwn yn awyddus fod ei argymhellion yn seiliedig ar arbenigedd priodol, a bod y broses o gynnull tystiolaeth yn un agored a thryloyw; yn broses y gall pawb gyfrannu iddi.

Gyda hynny mewn golwg, lansiodd y Comisiwn alwad am dystiolaeth ym mis Tachwedd 2022. Daeth yr alwad i ben ym mis Ionawr eleni. Daeth 179 o ymatebion i law, a chyhoeddwyd crynodeb ohonynt ym mis Mai. Bu’r ymatebion hyn yn amhrisiadwy i ni fel Comisiwn, ac rydym yn diolch i bawb gyflwynodd dystiolaeth.

Yn sgil yr alwad hon am dystiolaeth, ac yn dilyn cyfarfodydd y Comisiwn a gynhelid yn rheolaidd ers mis Awst y llynedd, cyhoeddir yn awr Bapur Safbwynt yn archwilio rhai o’n casgliadau cychwynnol.

Nid nod y Papur Safbwynt hwn yw gwneud argymhellion polisi. Bydd hynny’n digwydd yn yr adroddiad terfynol. Ei nod yw trafod egwyddorion a syniadau mewn gwahanol feysydd polisi a allai fod yn sail i argymhellion llawn a manwl.

2 Egwyddorion cynllunio ieithyddol

Cred y Comisiwn mai ffenomen gymdeithasol yw iaith gan mai ei diben yw caniatáu i bobl gyfathrebu â’i gilydd. Digwydd hyn mewn cyd-destun cymdeithasol. Gall y cyd-destun cymdeithasol lle defnyddir y Gymraeg fod yn dra amrywiol. Gall fod yn wledig, yn drefol neu’n ddinesig; gall ddigwydd mewn cymuned lle mae’r mwyafrif yn medru ei siarad, neu mewn cymuned lle mae hi’n iaith y lleiafrif. Gall fod mai’r cyd-destun cymdeithasol yw cymuned ddaearyddol, neu mewn rhai mannau gall fod yn rhwydwaith mewn cymuned ehangach. Gall fod yn gymuned ar-lein, neu’n gymuned brint. Mae ystyriaethau eraill yn bwysig. Gall defnydd o’r Gymraeg amrywio yn ôl iaith aelwyd, iaith cymdogaeth, iaith addysg, iaith sector economaidd ac mae ffactorau eraill megis oedran a dosbarth cymdeithasol yn hollbwysig.

Cred y Comisiwn fod pob un cyd-destun cymdeithasol lle defnyddir y Gymraeg yn werthfawr, a bod siaradwyr Cymraeg gyfwerth â’i gilydd lle bynnag maen nhw’n byw, a beth bynnag yw eu nodweddion. Mae’r Comisiwn yn ymrwymedig i’r egwyddor sylfaenol fod y Gymraeg yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i bawb yng Nghymru, ac mae’n eiddo i’w siaradwyr yng ngweddill y byd hefyd.

Ond beth bynnag y cyd-destun lle caiff y Gymraeg ei harfer, mae’r defnydd ohoni’n cael ei siapio gan amodau cymdeithasol. Dyna sy’n esbonio pam fod patrymau defnydd iaith yn amrywio cymaint yng Nghymru rhwng gwahanol gymunedau, yn ogystal ag oddi mewn iddynt.

Mae patrymau defnydd iaith wedi newid hefyd dros amser. Yn fras, y patrwm fu shifft iaith graddol (a sydyn ar adegau) o’r Gymraeg i’r Saesneg dros nifer o ddegawdau. Yn 1891, y cyfrifiad cyntaf lle holwyd am y gallu i siarad Cymraeg, roedd gan fwyafrif pobl Cymru allu yn y Gymraeg, ac mewn rhannau helaeth o Gymru, roedd pawb bron yn medru’r iaith, ac mewn sawl ardal roedd y mwyafrif yn uniaith Gymraeg. Rhwng 1891 a’r Ail Ryfel Byd, daeth y boblogaeth mewn ardaloedd Cymraeg yn gynyddol ddwyieithog er i’r Gymraeg aros yn iaith arferedig mwyafrif mawr. O’r 1940au ymlaen, cynyddai’r boblogaeth ddi-Gymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg, gyda Seisnigo ar gyrion, ac yna ym mherfeddwlad, yr ardaloedd hyn. O ganlyniad i’r prosesau hirdymor hyn, mae’r Gymraeg heddiw yn wannach fel iaith gymunedol diriogaethol nag y bu erioed. Pe bai tueddiadau presennol yn parhau, nid yw’n amhosib y gall maes o law ddiflannu fel iaith gymunedol a arferir dros diriogaeth eang.

Mae hanes ymwneud y Gymraeg â gwahanol grwpiau cymdeithasol yn gymhleth. Mewn rhai mannau yng Nghymru, ac yn enwedig efallai yn rhai o’n cymunedau mwy Cymraeg, mae modd adnabod rhai tueddiadau cymdeithasegol sydd yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â siaradwyr Cymraeg, patrymau neilltuol o ran yr economi, cyflogaeth, defnydd tir, a pherthynas â rhai meysydd sosioeconomaidd. Dangoswyd hyn mewn astudiaethau academaidd o siaradwyr Cymraeg sydd yn ceisio eu hadnabod fel grŵp cymdeithasol megis 'Language Planning and Language Use: Welsh in a Global Age' (2000).

Er mai dim ond hyn a hyn o dystiolaeth empeiraidd sydd gennym yn y maes, ceir ymdeimlad o hyd ymysg llawer o siaradwyr Cymraeg fod y grŵp sy’n siarad Cymraeg (o’i gymryd yn ei gyfanrwydd) yn profi anfantais cymharol mewn rhai o’r meysydd sosioeconomaidd hyn mewn rhai ardaloedd o Gymru. Yn sicr, dyna fu’r canfyddiad wrth gefn rhai trafodaethau cyhoeddus diweddar, megis dadleuon am fynediad teg i rai adnoddau hanfodol, megis tai mewn cymunedau lle ceir nifer uchel o ail gartrefi.

O ystyried lleoliad daearyddol y cymunedau Cymraeg yn bell o ganolfannau grym a phrif farchnadoedd economaidd Prydain, ac hefyd hanes siaradwyr Cymraeg fel grŵp lleiafrifedig dros ganrifoedd lawer, go brin y dylai canfyddiad o’r fath fod yn annisgwyl. Mae’r dystiolaeth o ran cyswllt uniongyrchol rhwng anfantais o’r fath a’r gallu i siarad Cymraeg heddiw yn aneglur serch hynny, ac mewn meysydd fel datblygu economaidd a pholisi tai, nid yw’n hollol glir ychwaith beth yw union natur y berthynas rhwng datblygiadau a’u heffaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn rhannol oherwydd prinder ymchwil yn y maes, ac yn rhannol am fod olrhain cysylltiadau o’r fath yn eu holl gymhlethdod yn eithriadol o anodd.

Fodd bynnag, canlyniad yr holl brosesau hyn yw fod y drafodaeth ynghylch cymunedau Cymraeg yn ymwneud yn aml â thegwch cymdeithasol mewn meysydd fel y farchnad dai, yr economi ac yn y blaen. Er nad yw’r dystiolaeth am gyswllt uniongyrchol rhwng camau polisi penodol a’r Gymraeg ar gael bob tro, mae’n ymddangos yn rhesymol i’r Comisiwn y gallwn ddod i rai casgliadau cyffredinol.

2.1 Rhai casgliadau cyffredinol cychwynnol

Ffenomen yw iaith a arferir rhwng pobl, yn ogystal â bod yn nodwedd sy’n perthyn i unigolyn ar ei ben ei hun, ac mae arferion ieithyddol yn gysylltiedig felly â chyd-ymwneud grŵp o siaradwyr, yn hytrach na bod yn nodwedd yn unig ar siaradwyr fel endidau ar eu pennau eu hunain.

I’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg felly, craidd cynllunio ieithyddol yw cyfnerthu cyd-destunau ac amodau o blaid caffael a defnyddio’r iaith. I sicrhau hynny, mae angen adnabod ffactorau sy’n dadsefydlogi’r grŵp iaith Cymraeg, ac ymateb iddynt drwy bolisi cyhoeddus. Dyna fydd yn greiddiol i’r argymhellion a wneir yn yr adroddiad terfynol.

Bydd ein gwaith yn seiliedig ar rai casgliadau cyffredinol:

  1. mae cynaliadwyedd mewn ardaloedd lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn hanfodol er mwyn cynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol
  2. mae hyrwyddo caffael a defnydd iaith yn effeithiol yn hollbwysig
  3. mae hyrwyddo tegwch cymdeithasol mewn meysydd sosioeconomaidd yn debyg o fod yn llesol o safbwynt ieithyddol
  4. mae dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn polisi cyhoeddus yn angenrheidiol er mwyn ei sefydlogi a’i chryfhau fel iaith gymunedol

Bydd llawer o argymhellion y Comisiwn yn tarddu o’r casgliadau cyffredinol hyn. Cred y Comisiwn fod cytundeb cyffredinol mai dyma’r ffordd ymlaen. Roedd bron y cwbl o’r ymatebion i alwad y Comisiwn am dystiolaeth yn codi fel eu man cychwyn dybiaethau mai peth da fyddai cryfhau cymunedau Cymraeg. Wedyn, roedden nhw’n mynd ymlaen i awgrymu gwahanol syniadau ar gyfer hyrwyddo eu budd sosioeconomaidd a chymdeithasol, a thegwch cymdeithasol hefyd, yn ogystal â gwahanol ffyrdd i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy ddysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn y gyfundrefn addysg.

2.2 Hawliau cyfanfydol siaradwyr Cymraeg: datblygu’r Gymraeg fel iaith genedlaethol

Iaith genedlaethol yw’r Gymraeg a chadarnheir mewn deddfwriaeth bod statws swyddogol iddi ymhob rhan o Gymru. Trwy ddadlau dros gryfhau cymunedau Cymraeg, mae’n bwysig nodi nad ydym o blaid gwanhau’r Gymraeg mewn unrhyw ran arall o Gymru. Ac oherwydd rhwydweithiau mewnol oddi mewn i Gymru, nodwn hefyd y byddai cryfhau’r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg yn debyg o gael effaith bositif hirdymor ymhob rhan o Gymru.

Mewn termau athronyddol, cred y Comisiwn fod i’r Gymraeg yng Nghymru rai priodoleddau cyfanfydol a dylai polisi cyhoeddus adlewyrchu hyn. Er enghraifft, dylai hawliau iaith fod yn gyfanfydol, maen nhw’n perthyn i bob un o ddinasyddion Cymru lle bynnag maen nhw’n byw yn y wlad. Mae’r Comisiwn yn dymuno gweld hyn yn cael ei wireddu’n ymarferol yn ogystal ag o safbwynt athronyddol. Yn ystod ail gam gwaith y Comisiwn, a fydd yn craffu ar y Gymraeg fel iaith gymdeithasol mewn rhannau eraill o Gymru, byddwn yn gwneud argymhellion er mwyn hwyluso hyn.

Felly, wrth inni drafod yn yr adran nesaf ein cefnogaeth i’r cysyniad o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), mae’n bwysig nodi nad ydym yn credu y bydd hyn yn mynd yn groes i hawliau cyfanfydol siaradwyr Cymraeg. Nod dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yw gallu amrywio polisi cyhoeddus mewn meysydd sosioeconomaidd a sosioieithyddol mewn ardaloedd sy’n wynebu shifft iaith i’r Saesneg. Meysydd fel cynllunio gwlad a thref, defnydd tir, tai, addysg, datblygu cymunedol a pholisi economaidd yw’r rhain yn bennaf.

Y meysydd hyn yw’r dylanwad pennaf ar ddefnydd o’r Gymraeg fel iaith lafar mewn bywyd bob dydd mewn cymunedau Cymraeg.

3 Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Cwestiwn amlwg sy’n codi yng nghyswllt gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw beth yn union yw ‘cymuned Gymraeg’, a beth yw goblygiadau hyn o safbwynt cynllunio ieithyddol. Mae cylch gorchwyl y Comisiwn yn disgrifio cymuned Gymraeg fel cymuned ‘lle mae [y Gymraeg] yn iaith mwyafrif y boblogaeth, neu lle mae hyn wedi bod yn wir tan yn gymharol ddiweddar.’ Fodd bynnag, geiriad yw hwn er mwyn gosod maes gwaith y Comisiwn, nid diffiniad ar gyfer polisi cyhoeddus.

3.1 Pwysigrwydd dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau neilltuol

Mae dwysedd siaradwyr Cymraeg yn lleol yn bwysig o safbwynt cynllunio ieithyddol. Mae modd byw bywyd helaeth a llawn trwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyd-destunau lle mae hi’n iaith lleiafrif cymharol fychan, fel y dengys hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, er enghraifft, a chyn hynny yn Lerpwl. Dibynna hynny ar natur rhwydweithiau cymdeithasol sydd weithiau’n ieithyddol eu natur. Ond mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol diriogaethol, mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i rwydweithiau penodol o’r fath, neu gall fod mwy o rwydweithiau ar gael. Yn aml hefyd, mae tebygolrwydd uwch y bydd y Gymraeg yn cael ei throsglwyddo rhwng cenedlaethau. Mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf iawn, y Gymraeg yn aml yw iaith ddiofyn cyfathrebu cymdeithasol y gymuned.

O safbwynt polisi cyhoeddus, mae’n bwysig nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn 'Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr' fod ‘canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013 i 2015) i 20 y cant erbyn 2050.’

Barn y Comisiwn yw fod dwysedd siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau Cymraeg yn gysylltiedig ag amlder y defnydd ohoni yno, a bod i hyn oblygiadau cenedlaethol o ran cwrdd â thargedau o ran defnydd o’r Gymraeg. O ganlyniad, mae meithrin cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn ganolog i strategaeth iaith y llywodraeth ac i gynllunio ieithyddol yn gyffredinol.

3.2 Ardaloedd o arwyddocâd neu sensitifrwydd ieithyddol: hanes cysyniad

Bu’r cysyniad o ardaloedd o arwyddocâd neu sensitifrwydd ieithyddol yn rhan o’r drafodaeth am gynllunio ieithyddol holistaidd ers dyddiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mewn dogfen o 2005, er enghraifft, 'Cynllunio a’r Iaith Gymraeg: Y Ffordd Ymlaen', a oedd yn grynodeb o waith a wnaed gan gonsortiwm o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cynulliad Cymru (fel y’i gelwid bryd hynny), trafodir ‘Ardaloedd Ieithyddol Sensitif diffiniedig’ yng nghyd-destun gweithredu polisïau cynllunio ym maes y Gymraeg.

Fe’i ceir hefyd ar dechrau’r 2010au er mwyn hyrwyddo cynllunio ieithyddol mewn ardaloedd a oedd yn wynebu shifft iaith. Er enghraifft, bu Bwrdd yr Iaith Gymraeg tua diwedd ei oes yn cyfeirio at ardal Aman-Tawe fel ‘ardal o sensitifrwydd ieithyddol’ ac roedd am ddefnyddio’r cysyniad er mwyn hyrwyddo cynllunio ieithyddol yn yr ardal ar draws ffiniau sirol.

Weithiau, ymddengys mewn dogfennau polisi gan awdurdodau lleol. Er enghraifft, bu i Gyngor Gwynedd ddefnyddio’r term ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol’ yn ddiweddar wrth ymdrin â buddsoddi Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer gwella adnoddau ac isadeiledd rhai o’i hysgolion.

Yn bennaf, fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at ardaloedd o sensitifrwydd neu arwyddocâd ieithyddol mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Ond yn ei ddogfen, 'Cynllunio a’r Gymraeg: arolwg o weithdrefnau awdurdodau cynllunio Cymru' (2019), awgrymodd Comisiynydd y Gymraeg fod dryswch, neu o leiaf ansicrwydd, o ran sut y defnyddir y cysyniad hwn. Mae’r Comisiynydd yn dyfynnu awdurdod cynllunio nas enwir:

Rydym yn deall nad oes diffiniad o ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol ar gael ar hyn o bryd, er bod gan awdurdodau y rhyddid i ddiffinio ardaloedd o’r fath yn ôl eu dymuniad. Ond mae hyn yn gallu arwain at anghysondebau a methiant i weld fod rhai ardaloedd yn ieithyddol sensitif, ble y dylen nhw fod wedi cael eu cydnabod felly, neu vice versa.

Wrth ymateb i alwad y Comisiwn am dystiolaeth, roedd rhai cyrff yn gofyn am arweiniad pellach oddi wrth Lywodraeth Cymru. Dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, er enghraifft, y byddai’n ddymunol ‘cael arweiniad cliriach ar beth olygir o ran ardaloedd o sensitifrwydd neu arwyddocâd ieithyddol.’

Mae’r cysyniad o ardaloedd o arwyddocâd neu sensitifrwydd ieithyddol yn rhan o’r drafodaeth am bolisi, ac i ryw raddau bolisi ei hun, ers ymron i ugain mlynedd. Ond bu’r defnydd o’r term yn dameidiog ac anghyson. Cred y Comisiwn y dylid yn awr roi trefn ar y cysyniad hwn, a’i gyflwyno i fyd polisi iaith yng Nghymru mewn modd cynlluniedig.

3.3 Derbyn yr egwyddor o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol

Mae’r Comisiwn o blaid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol er mwyn cefnogi’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Heb ymyrraeth o’r fath, y tebygolrwydd yw mai parhau i ddirywio a wna’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

3.4 Terminoleg cynhwysol

Mae cylch gorchwyl y Comisiwn yn gofyn iddo ‘adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol lle y gall fod angen ymyrraeth bolisi er mwyn cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol’. Yn rhan o’r broses honno, bu’r Comisiwn yn ystyried pa derminoleg y dylid ei ddefnyddio wrth gyfeirio at ardaloedd o’r fath.

Mae’n well gan y Comisiwn y term ‘arwyddocâd ieithyddol’ na ‘sensitifrwydd ieithyddol’.

Mae’r Comisiwn hefyd yn nodi fod pob cymuned lle siaredir y Gymraeg o arwyddocâd neu sensitifrwydd ieithyddol i’r sawl sy’n byw yno. Nid yw cadarnleoedd y Gymraeg yn unigryw am eu bod yn ‘arwyddocaol’ neu ‘sensitif’ ond am eu bod yn ‘arwyddocaol’ neu ‘sensitif’ mewn ffordd benodol.

Mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol rwydweithiol ymhob rhan o Gymru. Ond nid yw’n iaith gymunedol ymhob man yng Nghymru mewn cyd-destun lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr fel canran o’r boblogaeth yn lleol.

Er mwyn cyfeirio at yr ardaloedd a drafodir yn y Papur Safbwynt hwn mewn modd gwrthrychol a chynhwysol, ac er mwyn pwysleisio fod y Gymraeg o arwyddocâd ymhob man lle caiff ei siarad, mae’r Comisiwn yn ffafrio defnyddio term sy’n gwneud hyn yn eglur. Y term mae’r Comisiwn am ei ddefnyddio er mwyn cyfeirio at yr ardaloedd hyn yw ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’.

Byddai hyn yn caniatáu cyfeirio at ardaloedd eraill o Gymru fel ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd is)’. Nid yw ystyried priodoldeb hynny yn rhan o gylch gorchwyl y Comisiwn yn ei waith presennol, ond wrth arddel terminoleg cynhwysol, mae’r Comisiwn yn creu gofod a fyddai’n caniatáu i hynny ddigwydd.

Y pwynt sylfaenol yw bod ardaloedd ‘dwysedd is’ hefyd yn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn arwyddocaol. Termau technegol yw ‘dwysedd uwch’ a ‘dwysedd is’ ar gyfer adnabod y posibilrwydd o amrywio polisi cyhoeddus mewn modd sy’n ymateb i amgylchiadau sosioieithyddol perthnasol. Nid datganiadau ydynt am ddilysrwydd y Gymraeg mewn unrhyw ardal benodol.

3.5 Pwrpas ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer:

  1. caniatáu amrywiaeth polisi a phwyslais polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol
  2. sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol amrywiol yr ardaloedd hyn
  3. dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi
  4. caniatáu ymyraethau o blaid y Gymraeg er mwyn ei sefydlogi a’i chryfhau fel iaith gymunedol
  5. rhoi grymoedd angenrheidiol i rymuso cymunedau i wrthdroi shifft iaith

Er mwyn rhoi blas o sut y gellid defnyddio dynodiad o’r fath, mae’r Comisiwn yn nodi isod rai syniadau posib o fewn meysydd penodol. Nid rhestr derfynol yw hon, ac mae’n bosib y gellid yn ein hadroddiad terfynol hepgor rai o’r awgrymiadau, neu ychwanegu atynt. Ei brif amcan yw rhoi enghreifftiau o fuddion posib dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

  • Darparu adnoddau: gallai ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) greu cyd-destun ar gyfer darparu adnoddau mewn modd strategol i wrthdroi shifft iaith. Byddai hefyd yn hwyluso defnyddio adnoddau presennol oddi mewn i’r ardaloedd hyn yn y dull mwyaf effeithiol posib.
  • Addysg: gellid defnyddio ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) er mwyn asesu a gosod targedau amrywiol ym maes polisi iaith addysg. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun continwwm categori o ran cyfrwng iaith ysgolion.
  • Economi: gellid defnyddio ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yng nghyd-destun polisi economaidd er mwyn cydio mewn cyfleoedd sy’n cael eu cynnig. Gall hyn fod ar lefel clwstwr o siroedd (er enghraifft, ARFOR), lefel sir, neu ardaloedd oddi mewn i sir.
  • Cydweithio: byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn medru cynnig cyd-destun ar gyfer gweithio strategol a rhannu adnoddau ac arbenigedd ar draws ffiniau sirol mewn modd a fyddai’n llesol i’r Gymraeg.
  • Cynllunio ieithyddol cymunedol: mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), byddai’n fanteisiol i gynllunio ieithyddol ddigwydd ar seiliau gweithredu cymunedol holistaidd yn bennaf. O ddynodi ardaloedd, gellid rhoi hyn ar waith yn fwy effeithiol.
  • Tai: gallai adnabod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) hwyluso defnyddio polisi tai mewn modd strategol. Gallai fod yn berthnasol yng nghyswllt y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, er enghraifft, er mwyn sicrhau fod ymyraethau polisi yn cael eu targedu.
  • Safonau Hybu: byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn gallu adnabod ardaloedd lle byddai modd defnyddio Safonau Hybu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mewn dull penodol i ddwysáu’r ymdrechion i wrthdroi shifft.
  • Cynllunio gwlad a thref: er bod y syniad o ardaloedd o arwyddocâd neu sensitifrwydd ieithyddol yn cael ei arddel eisoes, mae cryn ansicrwydd ac anghysondeb ynglŷn â’r defnydd ohono. Byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) mewn dull mwy systemataidd yn gallu cynnig mwy o sicrwydd a chysondeb ym maes cynllunio.

3.6 Polisïau cenedlaethol heb amrywiadau

Er y gallai fod yn fuddiol gweithredu amrywiadau lleol mewn meysydd polisi sy’n debyg o gael impact sosioieithyddol, nid ydym yn rhagweld y bydd pob pwnc polisi sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y cymunedau hyn yn destun amrywiadau o’r fath. Mewn sawl maes, gall fod yn ddymunol cael polisi cenedlaethol heb weithredu amrywiadau lleol. Oddi mewn i feysydd polisi ag impact sosioieithyddol hefyd, bydd rhai polisïau’n cael eu gweithredu heb amrywiadau.

Nid yw hyn yn ddadl yn erbyn dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) gan mai diben y polisi yw creu’r gallu i amrywio polisi. Mae’r Comisiwn yn credu hefyd y byddai’r weithred o ddynodi’n effeithio ar yr hinsawdd ar gyfer polisi a gweithredu’n gyffredinol. Byddai dynodiad o’r fath yn ddefnyddiol hyd yn oed pe na châi ei ddefnyddio ymhob maes polisi.

3.7 Sut i ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch): rhai ystyriaethau cychwynnol

Un ffordd o ddiffinio ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fyddai trwy lunio diffiniad oddi uchod a fyddai’n seiliedig ar dystiolaeth ystadegol. Gallai tystiolaeth o’r fath gynnwys ystadegau iaith Cyfrifiad 2021, ond gellid defnyddio ffynonellau eraill hefyd. Byddai diffiniad o’r fath yn ceisio adnabod ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg ar sail rhagdybiaeth y gallai fod gan ardaloedd o’r fath rai nodweddion cyffredin sy’n berthnasol i bolisi cyhoeddus.

Fodd bynnag, er mwyn bod yn ystyrlon o safbwynt polisi cyhoeddus byddai’n rhaid gwreiddio’r dehongliad o arwyddocâd ystadegau mewn dealltwriaeth o amgylchiadau’r grŵp iaith Cymraeg yn lleol. Mae hyn yn awgrymu y byddai angen mecanwaith polisi â mesur o awtonomi lleol wrth ddehongli’r ystadegau.

Felly, ni fyddai’r Comisiwn yn bleidiol i fodel sy’n ystyried ystadegau fel yr unig feincnod ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Pe bai meincnod yn cyfeirio at y ganran benodol o’r boblogaeth leol sy’n siarad Cymraeg, ni fyddem o blaid eithrio cymuned am fod canran ychydig yn is yn medru Cymraeg, ac am y rheswm hwnnw’n unig.

Mae gan y Comisiwn gryn gydymdeimlad â’r ddadl fod symudoledd poblogaeth mewn bywyd bob dydd yn gwneud diffinio ardaloedd Cymraeg ar sail ystyriaethau daearyddol rhy gyfyng yn anodd ac o bosib yn wrthgynhyrchiol. Ni fyddwn yn dymuno gweld ‘ynysoedd’ heb y dynodiad oddi mewn i ardaloedd cymharol eang o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch. O safbwynt ymarferoldeb, gallai sefyllfa o’r fath fod yn broblematig.

Mae’n rhaid i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fod yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon, ac er mwyn hynny bydd yn rhaid fod ganddynt y gallu i gynnwys cymunedau o’u mewn sy’n syrthio o dan drothwy neilltuol, ond sy’n bwysig eu cynnwys oherwydd eu lleoliad daearyddol, neu hwyrach am eu bod yn ganolfannau lleol (o ran lleoliad ysgolion uwchradd, er enghraifft), neu am reswm dilys arall.

3.8 Gosod trothwy cenedlaethol ar gyfer dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Nodweddir pob cymuned yng Nghymru lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg gan shifft iaith i ryw raddau neu’i gilydd, ac mae gwyddor cynllunio ieithyddol yn awgrymu ei fod yn well gweithredu’n gynt na hwyrach. Felly, byddai’r Comisiwn o blaid dynodi’r cymunedau â’r dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn ogystal â chymunedau Cymraeg lle mae arwyddion o shifft iaith yn fwy amlwg.

Er mwyn hynny, mae’r Comisiwn o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru osod trothwy ystadegol a fyddai’n adnabod cymunedau sydd â dwysedd uchel iawn o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn ystyried a ddylai hyn fod yn ofyniad statudol.

Nid dyma fyddai’r unig ffordd o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), ond mae’r Comisiwn o’r farn y byddai trothwy cenedlaethol yn osgoi sefyllfa lle gallai awdurdod lleol (pe dirprwywyd y cyfrifoldeb iddynt) beidio dynodi rhai lleoedd yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), hyd yn oed pe bai’n gwbl amlwg y dylid eu dynodi.

Ar gyfer y trothwy cenedlaethol hwn, rydym yn cynnig defnyddio Cyfrifiad 2021, er y gallem adolygu ein penderfyniad yn sgil canlyniadau’r gwaith ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ynghylch sut orau i ddehongli ffynonellau ystadegol am y Gymraeg. Byddai defnyddio’r cyfrifiad yn ddull syml, hawdd-ei-ddeall a thryloyw o ran adnabod ardaloedd. Byddwn yn dymuno clywed barn rhanddeiliaid am drothwy priodol ar gyfer dynodiad cenedlaethol o’r fath. Y rheswm am ddefnyddio ffigyrau cyfrifiad wrth osod trothwy cenedlaethol yw mai unig nod y ffigyrau hyn fyddai adnabod isafswm o gymunedau lle byddai dynodiad. O ganlyniad, ni fyddai cymhlethdodau defnyddio un ffynhonnell ystadegol yn unig yn codi, er enghraifft, hollti ardal am fod un rhan ohoni ychydig o dan drothwy, a rhan ohoni fymryn uwchben y trothwy hwnnw. Mae hyn oherwydd ein bod yn awgrymu mabwysiadu ail ddull o adnabod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) a fyddai’n medru mynd i’r afael â sefyllfaoedd o’r fath.

3.9 Gosod trothwy neu ddiffiniadau lleol ar gyfer ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Dim ond isafswm o leoedd a ddynodid fel ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) drwy gyfrwng trothwy cenedlaethol. Mae’r Comisiwn yn rhagdybio y bydd llawer o leoedd eraill, ac o bosib nifer sylweddol ohonynt, yn cael eu dynodi hefyd. Yn yr achosion hyn, bydd angen defnyddio ystod o ffigyrau ystadegol o wahanol ffynonellau, yn ogystal hefyd ag ystyriaethau nad ydynt yn seiliedig ar ystadegau iaith yn unig, er mwyn gwneud dynodiad.

Ceir yng Nghymru lawer o gymunedau sydd â phroffeil ieithyddol canolig, hynny yw, er nad yw’r Gymraeg yn ddominyddol, mae’r iaith yn rhan bwysig o’r gwead cymdeithasol. Mae cymunedau o’r fath yn sensitif o safbwynt ieithyddol i newidiadau cymdeithasol neu sosioeconomaidd. Bydd angen ystyriaeth ofalus a ddylid eu dynodi’n ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) ai peidio.

Mae’r Comisiwn o’r farn na ddylai llywodraeth ganolog wneud y penderfyniad a ddylid dynodi ardaloedd sydd yn disgyn o dan y trothwy cenedlaethol, ond sydd â dwysedd sylweddol o siaradwyr Cymraeg, yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Rydym yn rhagweld mai awdurdodau lleol fyddai’n gwneud hyn.

Y rheswm am hyn yw y byddai dynodiad o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn dod â rhai cyfrifoldebau yn ei sgil. Dylai fod cefnogaeth i hyn yn lleol. Er mwyn bod yn effeithiol, mae’n rhaid fod cynllunio ieithyddol wedi’i wreiddio yn y gymuned. Byddai gwneud y penderfyniad yn lleol hefyd yn caniatáu cynnwys rhai cymunedau sy’n wannach yn ieithyddol pe dymunid. Pe bai cymuned wannach yn barod i dderbyn y cyfrifoldebau a fyddai’n dod yn sgil dynodiad o’r fath, nid yw’r Comisiwn yn gweld pam na ddylid ei chynnwys.

Byddai hyn oll yn medru dod â hyblygrwydd i ddynodiad. Byddai’n sicrhau fod cynllunio ieithyddol yn digwydd ar sail ‘gwaelod i fyny’ yn hytrach nag ‘o’r brig i lawr’. Trwy ymateb i ddemocratiaeth leol, gall leihau’r posibiliad y byddai ardaloedd yn cael eu heithrio’n groes i ddymuniadau eu trigolion. I ryw raddau felly, mae’r Comisiwn o’r farn y gall hunan-ddiffiniad fod yn ystyriaeth yn y broses o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Er y gellid sicrhau atebolrwydd lleol mewn sawl ffordd, gan ddwyn i ystyriaeth farn grwpiau cymunedol, ynghyd â barn cynghorau tref a chymuned, y corff mwyaf addas i lunio’r dynodiad terfynol fyddai’r awdurdod lleol. Mae hyn i ryw raddau yn digwydd eisoes drwy fod cyfle i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol o fewn eu Cynlluniau Datblygu Lleol.

Mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn fuddiol i sir gyfan fod yn ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) ac mewn amgylchiadau eraill gellid dadlau na fyddai’n synhwyrol i ddynodi’r holl sir yn ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

O ystyried yr uchod, trwy ganiatáu diffiniad eithaf eang o ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) gellid galluogi awdurdodau lleol sydd â chanrannau is o siaradwyr i fabwysiadu’r cysyniad pe dymunent. Ymhellach, gallai gofyniad ar awdurdodau lleol i ddynodi ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) greu ewyllys genedlaethol i warchod a chryfhau ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Rydym yn ymwybodol y gallai fod yn briodol darparu cyngor er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol yn eu gwaith o adnabod ardaloedd o’r fath.

3.10 Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) mewn awdurdodau lleol gyda dwysedd is o siaradwyr Cymraeg

Un fantais bendant a fyddai’n deillio o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yw y gallai rymuso’r Gymraeg mewn cymunedau gyda dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg mewn awdurdodau lleol lle nad yw canran y siaradwyr Cymraeg ar draws y sir mor uchel. Ceir cymunedau Cymraeg mwyafrifol yn Sir Benfro, Castell Nedd-Port Talbot, Powys, Sir Gonwy a Sir Ddinbych, er enghraifft.

Mae’r mwyafrif o’r cymunedau hyn yn ffinio ar ‘bedair sir graidd’ yr ardaloedd Cymraeg:

  • Gwynedd
  • Ynys Môn
  • Ceredigion
  • Sir Gaerfyrddin

Felly byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn hwyluso pontio strategol ar draws ffiniau awdurdodau lleol ac yn cryfhau cymunedau Cymraeg oddi allan i’r siroedd hyn yn ogystal ag oddi mewn iddynt.

3.11 Diffiniad posib o ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Yn y diffiniad a geir isod, mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi ceisio crynhoi ei drafodaethau hyd yma ar ffurf cynnig. Cynnig drafft yw hwn, ac mae’n bosib y byddwn yn ei fireinio cyn cyhoeddi’r adroddiad terfynol:

Diffiniad posib o ‘ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’:

  1. Petai ardal sydd â:
    1. chanran sylweddol o’r boblogaeth yn medru’r Gymraeg
    2. neu’n ffinio’n agos ag ardal a ddiffinnir yn ‘(a)’ uchod

Gall Awdurdod Lleol ei hadnabod fel ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

  1. Gall ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) gwmpasu yr holl sir neu ran(nau) ohoni.
  2. Ni fyddai modd i Awdurdodau Lleol beidio â dynodi ardal yn ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) pan fo canran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal honno dros X%.
  3. Rhaid i Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth ddwys iawn i hyfywedd y Gymraeg o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).
  4. Gall Awdurdodau Lleol gydweithio drwy rannu arbenigedd ar hyd ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).
  5. Gall Llywodraeth Cymru lunio cyfarwyddyd neu gwneud gorchmynion er mwyn amrywio polisi cyhoeddus a fyddai o arwyddocâd ieithyddol ar gyfer ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Yn ein hadroddiad terfynol, byddwn yn amlinellu sut y credwn y gellid cyflawni’r egwyddorion hyn yn ymarferol – er enghraifft, a fyddai angen camau deddfwriaethol er mwyn cyflawni’r nod, ac os felly, pa fath o gamau deddfwriaethol.

3.12 Safonau Hybu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mae ymdeimlad ymysg aelodau’r Comisiwn fod angen edrych ar botensial strategaethau hybu’r Gymraeg o’r newydd o safbwynt dyfodol cymunedau Cymraeg. Yn benodol, mae’r Comisiwn am graffu ar wahanol bosibiliadau i weld a oes gan safonau hybu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 botensial nad yw ar hyn o bryd yn cael ei wireddu mewn perthynas ag ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Mae’r Comisiwn am ystyried a ellir cryfhau’r cysylltiad rhwng amcanion a thaflwybr strategol 'Cymraeg 2050' a’r safonau hybu yn yr ardaloedd hyn.

I’r perwyl hwnnw, bydd y Comisiwn yn ystyried, ar y cyd â rhanddeiliaid, a ddylid fel un opsiwn gryfhau’r safonau hybu sydd mewn bodolaeth eisoes er mwyn cryfhau polisi ieithyddol mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Yn ogystal â hynny, bydd y Comisiwn yn ystyried, ar y cyd eto â rhanddeiliaid, ai un ffordd ymlaen fyddai i Weinidogion Cymru bennu, drwy reoliadau, safonau newydd. Byddai’r rhain yn gosod dyletswydd ar gyrff y mae’r safonau hybu’n berthnasol iddynt, awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a chyd-bwyllgorau corfforedig, i hybu’r Gymraeg mewn modd neilltuol yn yr ardaloedd hyn.

Gellid adnabod y safonau hyn fel ‘safonau hybu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’ a fyddai’n hwyluso amrywio polisi cenedlaethol er mwyn cwrdd â tharged i gynyddu neu gynnal dwysedd siaradwyr Cymraeg. Gellid ystyried hefyd a fyddai modd gosod safonau hybu ar gyrff perthnasol eraill sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt alluogi amrywio polisi a gweithdrefnau ar gyfer yr ardaloedd hyn.

Pe dilynid y llwybr hwn, mae’r Comisiwn o’r farn y dylid creu fframwaith adrodd cenedlaethol er mwyn sicrhau y cyrhaeddir targedau ieithyddol yn yr ardaloedd hyn. Gellid gwneud darpariaethau drwy reoliadau a fyddai’n rhoi cyfrifoldeb ar Gomisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth cyrff sydd o dan y safonau hybu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) â’r safonau hyn, ac hefyd i arolygu’r graddau y mae’r amrywio polisi a wneir yn sgil y safonau hybu hyn yn cael yr effaith y bwriedir iddynt eu cael.

Gallai Comisiynydd y Gymraeg orfodi cydymffurfiaeth â’r safonau hybu gan arfer ei ddyletswyddau yn Adran 4 Mesur y Gymraeg drwy sicrhau bod y strategaethau hybu yn gweithredu er budd yr ardaloedd hyn. Hanfod llwyddiant fframwaith o’r math hwn fyddai bod y safonau a’r rheoliadau yn gryf, yn ddiamwys ac yn orfodadwy gan alluogi Comisiynydd y Gymraeg i weithredu cyfundrefn orfodi a monitro. Mae’r Comisiwn yn nodi y byddai angen adnoddau ar Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn cyd-fynd â’r gwaith hwn.

3.13 Ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch): un haen neu ddwy

Ceir cwestiwn pellach sydd ym marn y Comisiwn o bwysigrwydd mawr. Mae’n amlwg fod cryn amrywiaeth yn ieithyddol oddi mewn i gymunedau Cymraeg. Mae natur ieithyddol cymuned lle mae mwy na 70% yn siarad Cymraeg yn wahanol iawn i un lle mae 40% yn ei siarad, er enghraifft.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn a oes angen mabwysiadu strategaethau gwahanol yn y cymunedau hyn, ac a oes felly angen mwy nag un dosbarth neu haen o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Yn yr ymatebion i alwad y Comisiwn am dystiolaeth, roedd rhai ymatebwyr o blaid sefydlu dwy haen o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol mewn ardaloedd Cymraeg, sef un ar gyfer ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn gryf iawn fel iaith gymunedol, ac un lle mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o wead cymdeithasol y gymuned leol, ond nid yw’n ddominyddol.

Mae gan y Comisiwn gydymdeimlad â’r safbwynt y byddai cael mwy nag un haen yn medru hwyluso creu amrywiadau polisi cyhoeddus a fyddai’n cyfateb i amodau lleol. Ond mae’r Comisiwn hefyd o’r farn y gallai cael mwy nag un haen gymhlethu’r gwaith o ddynodi’r ardaloedd hyn, a byddai’n cymhlethu hefyd y gwaith o lunio amrywiadau polisi.

Fodd bynnag, mae’r Comisiwn yn dal i ystyried a ddylid dynodi dwy haen mewn cymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg. Byddai hyn yn golygu cael dynodiad ar gyfer ardaloedd â dwysedd uchel iawn o siaradwyr Cymraeg, a dynodiad arall ar gyfer ardaloedd â dwysedd uchel (ond is) o siaradwyr Cymraeg.

Nid yw’r Comisiwn wedi dod i gasgliad terfynol ynghylch y mater hwn. Byddwn yn dymuno clywed barn rhanddeiliaid ac eraill ynglŷn â hyn, a byddwn yn cyhoeddi ein casgliad yn ein hadroddiad terfynol.

3.14 Cysondeb polisi mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Roedd y Comisiwn hefyd yn ymwybodol o’r ddadl y gallai fod budd mewn rhoi i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) ffiniau gwahanol mewn meysydd polisi gwahanol er mwyn ateb gofynion gwahanol elfennau neilltuol o bolisi cyhoeddus. Er enghraifft, gellid dadlau y gallai ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) o safbwynt polisi amaethyddol fod yn wahanol i ardal o’r fath mewn polisi addysg.

O ganlyniad i hyn, trafododd y Comisiwn yn fanwl a ddylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol ‘yn ôl y gofyn’, hynny yw, mewn ffordd hyblyg gan ganiatáu i ffiniau ardaloedd gael eu hamrywio mewn gwahanol offerynnau statudol neu gyfarwyddyd yn ôl anghenion y polisi dan sylw. Ar ôl ystyriaeth, daeth y Comisiwn i’r casgliad y byddai hyn yn medru arwain at ddryswch mewn polisi cyhoeddus, yn ogystal â chymhlethdodau ymarferol megis gorfod dynodi ardaloedd o’r newydd ymhob darn o waith polisi.

3.15 Trefniadau gweinyddol

Derbyniodd y Comisiwn sawl awgrym yn yr ymateb i’w alwad am dystiolaeth ynghylch trefniadau gweinyddol er mwyn cydlynu’r gwaith o gyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau Cymraeg. Ymysg y cynigion yr oedd uned oddi mewn i Lywodraeth Cymru, corff hyd braich, ac asiantaeth cynllunio iaith rhanbarthol. Byddwn yn ystyried materion o’r fath yn ein hadroddiad terfynol.

Meysydd polisi penodol

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Comisiwn wneud argymhellion polisi cyhoeddus yn ei adroddiad terfynol a gyhoeddir yn 2024. Felly mae’n bwysig nodi nad nod y Papur Safbwynt hwn yw gwneud yr argymhellion hynny. Yn hytrach, rydym yn cyhoeddi ein syniadau o safbwynt egwyddorion cyffredinol a chasgliadau cychwynnol. Mae natur ein hystyriaethau o safbwynt polisi yn amrywio o bwnc i bwnc. Gan mai’r nod yw cyhoeddi argymhellion erbyn Awst 2024, rydym yn gweithredu yn ôl yr amserlen honno.

4 Datblygu cymunedol

4.1 Cynnig atebion lleol a chyfannol

Mae dyfodol y Gymraeg fel iaith fyw yn dibynnu ar greu sylfaen economaidd a chymdeithasol gynaliadwy. Mae’r Comisiwn felly’n awgrymu fod angen i unrhyw ymgais i gryfhau cymunedau Cymraeg fynd i’r afael â hwy fel broydd sydd ag anghenion gwahanol o ran tai, economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol. Nid oes un ateb sy’n gweithio i bawb o ran hyrwyddo datblygiad cymunedol. Mae hyn yn golygu hefyd na fydd yr hyn sy’n gweithio o ran cynllunio iaith mewn un ardal o reidrwydd yn gweithio mewn un arall.

Serch hynny, mae’r Comisiwn o’r farn na ddylid edrych ar yr anghenion hyn ar wahân ond yn hytrach fel ffordd o ddod o hyd i ateb cyfannol i nifer o’r materion sy’n wynebu cymunedau cadarnleoedd Cymraeg yn fwy cyffredinol. Felly, dylai polisi cyhoeddus ystyried cyd-destunau economaidd-gymdeithasol unigol yn ogystal â’r hyn sydd gan yr ardaloedd hyn yn gyffredin.

4.2 Cyd-destun

Ers pandemig COVID-19, mae rhai cymunedau wedi dangos eu gallu i’w cefnogi eu hunain mewn amgylchiadau heriol. Mae enghreifftiau llwyddiannus o fodelau integredig a chyfannol o ddatblygu cymunedol mewn rhannau o Wynedd (yn enwedig yn y cymunedau llechi), a hefyd ym Môn a Sir Benfro. Barn y Comisiwn yw bod angen i Lywodraeth Cymru ddyfeisio a chefnogi rhaglen i ledaenu’r modelau llwyddiannus hyn ar draws Cymru.

Mae ymddiried mewn cymunedau a’u grymuso i ddarparu eu hatebion eu hunain, gyda chefnogaeth ychwanegol drwy bolisi cyhoeddus, yn allweddol. Mae ymgysylltu ac ymgynghori â’r cymunedau eu hunain hefyd yn allweddol. Er mwyn hyn, mae’r Comisiwn yn gweld gwerth mewn defnyddio arbenigedd sydd eisoes yn bodoli’n lleol er mwyn gwireddu gweledigaeth ieithyddol genedlaethol.

Mae sefydliadau, mudiadau a grwpiau sydd eisoes yn gweithio o fewn y cymunedau hyn mewn ffyrdd sy’n cefnogi’r Gymraeg a’r gymuned yn gyffredinol yn y sefyllfa orau i weithredu’n lleol mewn sawl maes. Byddai mapio’r sefydliadau cymunedol hyn yn ogystal â’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn gam cychwynnol. Yn ogystal, dylid rhoi cyfle iddynt rannu syniadau â’i gilydd. Fodd bynnag, nid oes gan bob cymuned y gallu i gyflawni rhai o’u syniadau, ac mae hyn yn golygu darparu cefnogaeth fwy effeithiol a phenodol gan lywodraeth leol a chanolog.

4.3 Cynllunio hirdymor

Mae angen cynyddu capasiti, adnoddau a nawdd i’r mudiadau, sefydliadau a’r grwpiau hyn. Un peth sydd angen ei wneud yw gwella’r drefn bresennol o sicrhau nawdd. Nid yw’r system grantiau presennol yn caniatáu cynllunio hirdymor, sy’n hanfodol o safbwynt yr iaith. Er enghraifft, mae’r Mentrau Iaith ar hyn o bryd yn cael eu cyllido ar sail cytundeb grant blynyddol. Gall cyllido o’r fath fod yn rhwystr i gynllunio ieithyddol hirdymor ynghyd â’r gallu i ddenu neu gadw staff o ran hyd a lled eu cytundebau.

4.4 Asedau cymunedol

Dylid rhoi grym cyfreithiol, ariannol a gwleidyddol i gymunedau mewn ffordd ystyrlon. Yn ogystal, mae angen meddwl am ffyrdd y gall pobl o fewn cymunedau gael rheolaeth gymunedol ar asedau. Yn ei hanfod, ymyrraeth ar lawr gwlad sy’n cael ei hawgrymu yma.

Gellir dadlau fod grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a chynghorau cymuned yn aml ar flaen y gad yn cynnal ac yn achub gwasanaethau a chyfleusterau er budd y gymuned leol. Mae llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol yn enghreifftiau o wasanaethau a chyfleusterau sydd wedi cael eu trosglwyddo i ddwylo’r gymuned. Mae’r Comisiwn yn rhagweld y gall hyn hefyd fod yn sylfaen effeithiol i warchod cymunedau Cymraeg. Mae enghreifftiau diweddar o sefydlu tafarndai cymunedol mewn broydd Cymraeg, er enghraifft, ynghyd â chanolfannau cymunedol eraill, yn galonogol. Fel rhan o hyn, dylid annog grwpiau cymunedol i fabwysiadau polisïau iaith sy’n gwarchod defnydd y Gymraeg. Mae hyn yn golygu hefyd amddiffyn hawl cynghorau tref a chymuned, fel yr haen fwyaf lleol a chymunedol o ddemocratiaeth, i weithredu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae perchnogaeth gymunedol yn antithesis i anghydraddoldeb. Ni fydd yn disodli’r cyfan sy’n gyhoeddus a’r cyfan sy’n breifat, ond dylai chwarae rôl fwy blaenllaw mewn unrhyw fodel datblygiad economaidd, cymdeithasol ac ieithyddol o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

Byddai ymdrechion polisi sy’n annog perchnogaeth gymunedol yn gefnogol i’r Gymraeg yn y cymunedau lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Cred y Comisiwn ei bod yn gynyddol bwysig i gymunedau allu perchnogi asedau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y cymunedau hyn a’u hiaith. Gall ased cymunedol gynnwys yr amgylchedd adeiledig (er enghraifft, defnydd o adeiladau a chyfleusterau); tir, gan gynnwys mannau gwyrdd a pharciau; a hefyd y bobl sy’n byw yn y gymuned (er enghraifft, eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u rhwydweithiau cymdeithasol).

Mae’r Comisiwn yn cytuno gyda chynsail adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Asedau Cymunedol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022 fod angen newidiadau deddfwriaethol i rymuso cymunedau, ac rydym yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 15 o’r 16 argymhelliad. Bydd hefyd angen i Lywodraeth Cymru wneud buddsoddiad ariannol er mwyn i fentrau cymunedol lwyddo, drwy grantiau datblygu a/neu fenthyciadau hirdymor ar gyfer grwpiau cymunedol.

Er hynny, mae’r Comisiwn yn nodi’r angen i sicrhau nad yw’r broses o drosglwyddo asedau i’r gymuned yn tanseilio’r Gymraeg. Er enghraifft, wrth ystyried a ddylid caniatáu i ymgeisydd gyflwyno achos busnes llawn ar gyfer trosglwyddo ased, dylai’r meini prawf gynnwys y gallu i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i greu cyfalaf cymdeithasol drwy’r Gymraeg.

4.5 Cyswllt polisi datblygu cymunedol â pholisi economaidd

Trafodir polisi economaidd a’r Gymraeg yn fanylach yn yr adran nesaf, ond mae’r Comisiwn yn nodi’r cyswllt rhwng polisi economaidd a pholisi datblygu cymunedol. Nid ‘gwneud i’r economi weithio’ yw’r orchwyl economaidd sydd ei hangen bob tro. Mae parthau economaidd heterogenaidd yn gofyn am ymyraethau polisi gwahanol. Yn yr un modd â chynllunio ieithyddol, mae angen i unrhyw ddatblygiad economaidd ystyried anghenion a nodweddion unigryw yr ardaloedd o dan sylw. Byddai hyn yn golygu gwireddu eu dyhead economaidd, gan gydnabod beth sy’n bosib gan nodi eu hamrywiaeth yn hytrach na’u hystyried drwy fodelau datblygu economaidd traddodiadol yn unig.

Mae dadl gref o blaid datblygu model yr economi sylfaenol mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch), sef model sydd yn ceisio gwrthdroi’r dirywiad mewn amodau cyflogaeth a lleihau faint o arian sy’n gadael cymunedau Cymru. Model ydyw sy’n seiliedig ar y gweithgareddau sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau hanfodol a ddefnyddir yn ddyddiol, ni waeth beth yw statws cymdeithasol y defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, isadeiledd, cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, ac iechyd, addysg a lles.

4.6 Dull sylfaenol o ddatblygu cymunedol ac ieithyddol

Mae’r dull sylfaenol o ddatblygu cymunedol ac ieithyddol yn un eithaf syml ac mae’n seiliedig ar un egwyddor gymdeithasol. Os yw unigolion yn perthyn i ardal benodol, yna rôl polisi cyhoeddus, yn gyffredinol, yw eu galluogi i barhau i fyw yno ar y rhagdybiaeth fod ganddynt y dychymyg a’r gallu i ailddyfeisio’r lle yn barhaus, ac ar yr amod bod y gwasanaethau sylfaenol hanfodol ar gael iddynt.

5 Economi

Un o’r rhesymau hirdymor dros ddirywiad y Gymraeg yn ei chadarnleoedd yw ailstrwythuro economaidd dros gyfnod o ganrif. Bu gan gymunedau Cymraeg rôl flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol, er enghraifft yn y meysydd glo, o ran llechi ac ithfaen, mewn diwydiannau yn gysylltiedig â thun, copr, plwm, manganîs a mwynau eraill, ac ym maes morwriaeth. Daeth hyn â chyflogaeth i ardaloedd a oedd ar gyrion Prydain, ac na fyddent efallai wedi gallu cynnal poblogaeth fawr fel arall. At hyn, cyflogid yn y diwydiant amaethyddol weithlu sylweddol er mwyn gweithio ar y tir.

Fel llawer o’r byd gorllewinol, aeth y broydd hyn drwy broses o ddad-ddiwydiannu yn ystod Dirwasgiad y 1930au, ac yna o’r Ail Ryfel Byd (ac yn enwedig o’r 1960au) ymlaen. Bu hyn yn niweidiol i’r Gymraeg. Roedd ardaloedd a fuasai gynt yn bwerdai economaidd yn llai ffyniannus a gosodwyd sail ar gyfer patrwm hirdymor o allfudo. Gwelwyd gwrth-drefoli hefyd gyda rhai yn gadael ardaloedd trefol a dinesig er mwyn symud i fyw i’r wlad. O ganlyniad, bu prosesau cymhleth o allfudo a mewnfudo yn mynd rhagddynt mewn ardaloedd Cymraeg, a newidiodd eu demograffeg ieithyddol o ganlyniad.

Mae prosesau hirdymor wedi esgor ar nifer o wendidau economaidd strwythurol yn yr ardaloedd Cymraeg, megis sylfaen economaidd gymharol fach, isadeiledd gwan, cyflogau isel, poblogaeth hŷn, ac yn gyffredinol mae tuedd gan gymunedau Cymraeg i fod yn economaidd wannach nag ardaloedd eraill ym Mhrydain. Ceir cryfderau wrth gwrs, er enghraifft yn y sector amaeth, twristiaeth ac i raddau efallai yn y sector cyhoeddus. Ond mae perthynas y Gymraeg â thwristiaeth, er enghraifft, yn amwys, ac mae’r sector amaeth, sy’n hanfodol o safbwynt y Gymraeg, yn wynebu heriau yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac am resymau eraill. Ym maes yr economi a’r Gymraeg, yn fwy nag unrhyw faes arall o bolisi cyhoeddus, nid oes atebion hawdd.

5.1 Paradocs ieithyddol ffyniant economaidd

Mae gwendid economaidd cymharol yr ardaloedd Cymraeg yn golygu bod angen meddwl am economi’r ardaloedd hyn mewn modd strategol at yr hirdymor. Ond yn gyntaf, mae angen cydnabod y paradocs ieithyddol a all fod ynghlwm wrth y cwestiwn hwn. Er mwyn i gymunedau Cymraeg oroesi yn yr hirdymor, mae angen economi sy’n cymell pobl i fyw yno. Ond gan ei fod yn ailstrwythuro cymunedau, gall rhai mathau o ddatblygu economaidd arwain at ddadsefydlogi ieithyddol. Nid oes ateb hawdd i’r broblem hon ychwaith. Mae’n gyfyng-gyngor parhaus y bydd rhaid ymdopi ag ef, ond un o hanfodion polisi fydd meithrin gwytnwch y gymuned Gymraeg fel ei bod yn gallu ymdopi â chyfnewidiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, ac ymelwa arnynt.

Yn y tymor hir, mae’n bosib y bydd economi’r ardaloedd Cymraeg yn ymgryfhau. Gan ei bod yn meddu ar lawer o adnoddau naturiol perthnasol, hwyrach y gall rhanbarth orllewinol Cymru fanteisio ar gyfleoedd economaidd trawsnewidiad ‘gwyrdd’. Ac hwyrach y daw trawsnewidiad arall trwy fod datblygiadau ym maes technoleg yn caniatáu mwy o bobl i weithio o’r cartref, ac felly y tu allan i ganolfannau dinesig. Gan fod amgylchfyd naturiol llawer o’r ardaloedd Cymraeg yn eu gwneud yn llefydd dymunol i fyw, gallai hyn arwain at fewnlif o boblogaeth a chyfalaf yn ogystal â chadw mwy o’r boblogaeth leol yn y cylch. Mewn economi wybodaeth sy’n defnyddio’r we, ni fydd y pellter daearyddol rhwng yr ardaloedd Cymraeg a phrif farchnadoedd Prydain mor bwysig ag y bu. Mae’n anodd rhagweld ar hyn o bryd beth fydd effaith hyn oll ar yr iaith.

5.2 Yr angen am ymchwil am y cyswllt rhwng y Gymraeg a’r economi

Wrth drafod y paradocs hwn, nododd y Comisiwn fod prinder ymchwil cyfredol i’r cyswllt rhwng yr economi a’r Gymraeg. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, nid yw’n glir i ba raddau, ac o dan ba amodau, y gall fod datblygiadau economaidd o fathau neilltuol yn llesol i’r Gymraeg ac i ba raddau y gallan nhw fod yn niweidiol. Nodwyd hyn mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Y Gymraeg a’r economi: adolygiad o’r dystiolaeth a’r dulliau' (2021). Mae ymchwil ar gael am effaith ffactorau ieithyddol ar newidynnau economaidd megis canlyniadau’r farchnad lafur, agweddau tuag at fenter, gwariant busnes a throsiant. Ond mae llai o dystiolaeth empeiraidd am effaith polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg, ac mae hyn yn fwlch amlwg yn y dystiolaeth.

Mae’r Comisiwn yn llawn sylweddoli pa mor hanfodol yw datblygu economaidd i hyfywedd cymunedau Cymraeg. Mae angen galluogi pobl i fyw yn y broydd hyn. Ond mae’n fater o ofid i’r Comisiwn na wyddom fwy am y cyswllt rhwng datblygu economaidd a’r Gymraeg oherwydd mae’n hollbwysig fod polisi yn seiliedig ar dystiolaeth neu, os nad yw hynny’n bosib, ar ganfyddiad o leiaf o debygolrwydd uchel. Mae angen mwy o waith ymchwil ynghylch y cyswllt rhwng datblygiad economaidd a’r Gymraeg, ac mae’r Comisiwn yn ystyried hyn yn flaenoriaeth.

5.3 Modelau dwyrain-gorllewin o ddatblygu economaidd

Mae’r strwythurau rhanbarthol ym maes datblygu economaidd yng Nghymru wedi’u llunio ar hyd echel dwyrain-gorllewin. Ac eithrio yn rhaglen ARFOR, nid yw’r ardaloedd Cymraeg yn cael eu cydnabod fel rhanbarth economaidd.

Bu trafodaeth yn y Comisiwn am addasrwydd rhanbarthau dwyrain-gorllewin o safbwynt cymunedau Cymraeg. Roedd rhai’n dadlau fod y model yn ail-greu oddi mewn i Gymru y gwahaniad rhwng ‘craidd’ a ‘chyrion’, gyda’r ardaloedd Cymraeg gorllewinol ar y cyrion, sydd wedi llyffetheirio eu datblygiad yn y gorffennol. Roedd rhai ymatebion i’r alwad am dystiolaeth, megis oddi wrth Brifysgol Aberystwyth, hefyd yn tynnu sylw at y perygl hwn. O ganlyniad i’r gofid hwn, roedd rhai aelodau o’r Comisiwn o’r farn y dylid aildrefnu’r rhanbarthau dwyrain-gorllewin hyn fel y gall yr ardaloedd Cymraeg ffurfio uned gydlynus. Roedd rhai aelodau ar y llaw arall yn credu nad yw’r ardaloedd Cymraeg, er eu bod yn debyg i’w gilydd yn ieithyddol, yn ffurfio uned economaidd naturiol.

Roedd cytundeb o ran un peth pwysig, fodd bynnag, sef os yw strwythurau presennol yn parhau, mae’n hanfodol fod yr ardaloedd Cymraeg yn cael chwarae teg oddi mewn iddynt. Cyllideb fechan iawn sydd gan raglen ARFOR mewn cymhariaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru, Tyfu Canolbarth Cymru a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

5.4 Rhaglen ARFOR

Cafwyd sawl trafodaeth yn y Comisiwn am Raglen ARFOR, y partneriaeth cydweithio ym maes yr economi rhwng Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Trwy’r rhaglen hon, gobeithir cefnogi cymunedau Cymraeg.

Gan fod rhaglen ARFOR 2 newydd gychwyn, ni theimlodd y Comisiwn mai ei swydd oedd cynnig sylwadau ar gynlluniau presennol penodol. Yn hytrach, penderfynwyd canolbwyntio ar drafodaeth strategol ynglŷn â’r syniad o ddatblygu ARFOR ymhellach.

Barn y Comisiwn yw fod rhaglen ARFOR yn bwysig i gynaliadwyedd ieithyddol cymunedau Cymraeg. Nid yn unig y mae’n hwyluso buddsoddiad yn yr ardaloedd hyn, ond mae hefyd yn caniatáu trafodaethau strategol ar hyd echel gogledd-de, ac yn cynnig gofod ar gyfer canolbwyntio ar yr economi a’r Gymraeg, ac i graffu a dod i ddeall y berthynas rhyngddynt.

Mae’r Comisiwn o’r farn y dylai ARFOR fod yn barhaol, ac yn sicr dylai fod rhagdybiaeth fod ARFOR yn parhau y tu hwnt i ddiwedd y cynllun cyfredol sy’n dod i ben ym mis Mawrth 2025.

I’r perwyl hwnnw, er nad yw’r Comisiwn wedi ffurfio barn a ddylai ARFOR fod yn endid gorfforedig yn hytrach nag yn strategaeth gydweithio rhwng awdurdodau lleol, mae’r Comisiwn o’r farn y dylai ARFOR o leiaf feddu ar ei gweithrediaeth ei hun.

Gan fod y Comisiwn wedi nodi ei bryder fod cyn lleied o ymchwil am y cyswllt rhwng y Gymraeg a’r economi, mae hefyd am ystyried a ddylai ARFOR feddu ar swyddogaeth ymchwil er mwyn ymgymryd â gwaith o’r fath. Mae’r Comisiwn yn nodi mai un o argymhellion adroddiad interim gwerthuso ARFOR 1 oedd y dylid sefydlu grŵp ymchwil i ddatblygu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng yr economi a’r iaith.

Mae’n bwysig cryfhau rhaglen ARFOR trwy gynnwys ynddi gymunedau Cymraeg sydd y tu allan i bedair sir y rhaglen, er enghraifft, ardaloedd yn Sir Benfro, Castell Nedd-Port Talbot, Powys, Sir Gonwy a Sir Ddinbych. Byddai eu cynnwys nid yn unig yn llesol i’r cymunedau hynny eu hunain, ond hefyd i bedair sir bresennol y rhaglen gan eu bod yn rhan o gontinwwm ieithyddol y rhanbarth gyfan.

A bwrw fod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn cael eu dynodi, dylai fod modd sicrhau fod y cymunedau hyn yn cael eu cynnwys oddi mewn i raglenni ARFOR yn y dyfodol ar sail y dynodiad hwnnw. Dylai fod ganddynt gynrychiolaeth ar fwrdd ARFOR. Byddai cam o’r fath hefyd yn cryfhau’r ddadl dros barhad ARFOR ar ôl mis Mawrth 2025.

5.5 Cyfraniad y sector cyhoeddus wrth gefnogi cymunedau Cymraeg

Mae’r Comisiwn yn cydnabod rôl hollbwysig y sector cyhoeddus fel cyflogwr mewn cymunedau Cymraeg. Mae’n bosib y gall cyflenwad priodol o swyddi sector cyhoeddus fod yn rhan ystyrlon o bolisi economaidd sy’n cyd-fynd ag amcanion ieithyddol. Integreiddio’r Gymraeg oddi mewn i economi’r sector cyhoeddus lleol yw un rheswm pam fod gan Gaernarfon a’r pentrefi o’i hamgylch y dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ond hyd yn oed yn y maes yma, oherwydd diffyg ymchwil, nid oes tystiolaeth gadarn, ac mae perygl y gall y sector dyfu’n gynt na gallu’r farchnad lafur sy’n siarad Cymraeg i’w wasanaethu.

Bydd y Comisiwn yn ystyried dau fater yn benodol cyn cyflwyno ei adroddiad terfynol. Yn gyntaf, bydd yn gofyn a ddylid symud mwy o swyddi sector cyhoeddus ar hyd continwwm ieithyddol, gan gynyddu defnydd o’r Gymraeg fel iaith fewnol sefydliadau, mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Yn ail, bydd yn gofyn beth fyddai effaith debygol adleoli rhai swyddi cyfrwng Cymraeg i’r ardaloedd hyn.

5.6 Mentrau cymdeithasol

Mae mentrau cymdeithasol yn sefydliadau sy’n gweithredu rhwng y sector cyhoeddus a phreifat ac sy’n defnyddio strategaethau masnachol i greu a chadw cyfoeth yn lleol. Fel unrhyw fusnes, bwriad mentrau cymdeithasol yw creu elw ond nid yw’r elw hwnnw’n echdynnol. Golyga hyn fod y gwerth y maent yn ei gynnig i gymunedau yn ehangach na gwerth y farchnad gan eu bod yn dueddol o greu swyddi a chyflogi’n lleol, cyfrannu at ddatblygiad economaidd ardaloedd difreintiedig, a chynnal gwasanaethau allweddol. Yng nghyd-destun y Gymraeg ac ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn benodol, gall mentrau cymdeithasol gryfhau’r economi lleol mewn ffordd gyfrifol gan ganolbwyntio ar greu swyddi a chynnal gwasanaethau i bobl leol. Yn 2020, roedd y sector menter gymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys mwy na 2,000 o fentrau cymdeithasol yn cyflogi 55,000 o bobl ac yn cyfrannu dros £3bn i’r economi.

5.7 Twristiaeth

Mae gan dwristiaeth werth cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gymru. Mae hefyd yn gallu bod yn faes sensitif, yn enwedig mewn achosion o or-dwristiaeth fel y gwelwyd yn ystod pandemig COVID-19. O safbwynt y Gymraeg, dylai datblygiad twristiaeth o fewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) anelu at gefnogi cyd-destun positif i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymreig. Dylai twristiaeth iach a chyfrifol sicrhau fod mwy o’r elw yn parhau yn y gymuned i raddau helaeth, er enghraifft trwy berchnogaeth gymunedol ar rai asedau ac hefyd drwy ddefnydd o gadwyni cyflenwi busnes sy’n cefnogi’r economi leol. Bydd y Comisiwn yn ystyried y mater hwn yn ofalus yng ngham nesaf ei waith ac yn gwneud unrhyw argymhellion yn ei adroddiad terfynol.

5.8 Amaethyddiaeth a defnydd tir

Mae dyfodol amaethyddiaeth o bwys i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol. Yng Nghyfrifiad 2011, roedd 43% o weithlu’r sector amaethyddol yn medru Cymraeg, y ganran uchaf o unrhyw ddiwydiant. Mae’r diwydiant a’i diwylliant yn rhan greiddiol o wead cymdeithasol ardaloedd gwledig sy’n Gymraeg eu hiaith. Yn y cymunedau hyn, mae canran y sawl yn y diwydiant amaethyddol sy’n medru Cymraeg fel arfer yn uwch na’r ganran yn y gymuned ar gyfartaledd, ac weithiau mae’n sylweddol uwch. Dadleuodd Undeb Amaethwyr Cymru yn ei ymateb i alwad y Comisiwn am dystiolaeth fod hyn yn fwyaf amlwg mewn cymunedau lle mae canran y siaradwyr Cymraeg yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ond lle nad yw’r Gymraeg yn ddominyddol.

Am fod rhwydwaith cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant amaethyddol yn cynnig troedle iddi, mae’n bosib fod gan y Gymraeg swyddogaeth gymunedol bwysig mewn rhai cymunedau er nad yw’r Gymraeg yn iaith y mwyafrif yno. Mae hyn yn codi’r cwestiwn a ddylid dynodi ardaloedd o’r fath yn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) er bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y gymuned yn ei chyfanrwydd yn is na 50%, ac weithiau gryn dipyn yn is.

Oherwydd bod Bil Amaeth (Cymru) yn mynd drwy broses graffu gan y Senedd ar hyn o bryd, mae’n gwneud mwy o synnwyr i’r Comisiwn drafod y sector amaethyddol mewn manylder yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i’r Comisiwn gynnal sesiwn yn Sioe Frenhinol Cymru cyn ffurfio casgliadau.

Ymysg y materion sydd angen sylw fydd pwysigrwydd cyd-gysylltedd meysydd polisi perthnasol. Mae’r materion hyn yn cynnwys perthynas amaethyddiaeth a datblygu cefn gwlad, a gwarchod byd natur ochr-yn-ochr â gosod sylfaen gadarn ar gyfer ffyniant y Gymraeg fel iaith gymunedol.

Roedd llawer o ymatebion i alwad y Comisiwn am dystiolaeth yn pwysleisio pwysigrwydd y fferm deuluol o safbwynt ieithyddol a chymunedol. Bydd y Comisiwn yn cadw hyn mewn cof wrth lunio argymhellion.

6 Addysg

Hyd at draean ola’r ugeinfed ganrif, nodweddid llawer o gymunedau Cymraeg gan ddwysedd uchel iawn o siaradwyr Cymraeg a olygai fod trosglwyddo ieithyddol o genhedlaeth i genhedlaeth yn digwydd yn weddol ddidrafferth. O ganlyniad, nid oedd yr angen am addysg cyfrwng Cymraeg mor amlwg ag ydoedd mewn rhannau mwy Saesneg o Gymru lle eid ati i sefydlu rhwydwaith o ysgolion penodedig Cymraeg. Yn wir, gan mai angen plant yn yr ardaloedd Cymraeg oedd meistroli Saesneg, addysg gyfrwng Saesneg oedd yn ymgynnig fel dull o wneud hynny. Mae patrwm ieithyddol cymysg darpariaeth addysg mewn cymunedau Cymraeg heddiw, yn enwedig mewn addysg uwchradd, yn waddol hanesyddol y sefyllfa hon.

Erbyn heddiw, mae cyfansoddiad ieithyddol yr ardaloedd Cymraeg wedi newid yn llwyr. Dim ond mewn ychydig o gymunedau y byddai modd i blant o aelwydydd di-Gymraeg godi’r iaith heb gefnogaeth y gyfundrefn addysg. Yn ogystal mae yna blant o fewn cymunedau Cymraeg sydd o aelwydydd Cymraeg nad ydynt yn dod yn rhugl ynddi. Hyd yn oed yn y cymunedau gyda’r dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg, mae Saesneg yn ymdreiddio i fywyd pob plentyn, er enghraifft trwy’r cyfryngau ar-lein. Mewn sawl cymuned, mae’r newidiadau cymdeithasol hyn yn peri nad yw modelau ieithyddol hanesyddol y ddarpariaeth addysg yn addas mwyach.

6.1 Rhuglder yn y Gymraeg

Cred y Comisiwn y dylai pob plentyn mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) orffen eu haddysg yn 16 oed yn rhugl eu Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid yw hyn yn digwydd yn ddieithriad.

6.2 Cynhwysiant cymunedol

Mae safbwynt y Comisiwn y dylai pob plentyn mewn ardaloedd Cymraeg ddod yn gwbl rugl eu Cymraeg yn seiliedig ar les y plentyn. Mae’r Comisiwn yn cytuno â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei ragair i Bapur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg fod ‘pob disgybl yng Nghymru yn haeddu dod yn siaradwr Cymraeg’, ac yn cytuno hefyd â’r rhesymau cenedlaethol pam fod hyn yn gyfiawn. Yng nghyd-destun hynny, mae’r Comisiwn yn nodi amgylchiadau arbennig cymunedau Cymraeg, a’r angen neilltuol i sicrhau fod pob plentyn yn caffael y Gymraeg yno hyd at ruglder llawn.

Mewn ardaloedd gyda dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, y Gymraeg yw iaith nifer helaeth o weithgareddau’r gymuned, ac hi yn aml yw iaith bywyd sifig yn lleol. Mae’r Gymraeg hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y farchnad lafur leol, ac yn bwysig yn yr economi. Mewn cymunedau gyda dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, mae’n fwy tebygol mai hi yw’r iaith gyhoeddus gyffredin.

Ymddengys i’r Comisiwn ei bod yn hanfodol o safbwynt cydraddoldeb fod pob plentyn sy’n byw yn y cymunedau hyn yn dod yn rhugl yn y Gymraeg. Mater ydyw o gynhwysiant cymunedol, ac o degwch ieithyddol a chymdeithasol.

6.3 Gwrthdroi shifft iaith

Mae’r Comisiwn hefyd o’r farn nad yw darpariaeth Gymraeg sawl ardal y gellid ei dynodi fel ardal o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) yn ddigon cryf i fedru gwrthdroi shifft iaith. Mae pwyslais cyffredinol y Papur Safbwynt hwn ar gryfhau cynaliadwyedd cymunedol fel y dull sydd fwyaf tebygol o sefydlogi, ac yna wella, ragolygon hirdymor y Gymraeg fel iaith gymunedol. Fodd bynnag, mae hyn yn rhagdybio y ceir yn y cymunedau hyn ddwysedd arwyddocaol o siaradwyr Cymraeg.

Yn wyneb y shifft iaith sydd wedi bod eisoes, mae gan y gyfundrefn addysg rôl ganolog wrth sicrhau fod y dwysedd hwnnw ar gael. Er mwyn cyrraedd y nod, bydd angen Cymreigio darpariaeth addysg sawl ardal; yn wir, bydd angen gwelliannau trawsnewidiol.

6.4 Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg

Mae’r Comisiwn yn croesawu Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg a gyhoeddwyd ddiwedd mis Mawrth. Mae’n croesawu’n frwd safbwynt canolog y Papur, sef bod angen symud cyfrwng dysgu ysgolion yng Nghymru ar hyd continwwm ieithyddol a fydd yn golygu mwy o ddisgyblion yn cael mwy o gyswllt â’r Gymraeg gyda’r nod o gyflawni nodau polisi cyhoeddus o ran caffael iaith.

6.5 Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg: ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)

Mae’r Comisiwn yn croesawu’n frwd yr ymrwymiadau i lesiant ieithyddol cymunedau Cymraeg sydd yn y Papur Gwyn.

Mae’r Comisiwn yn cytuno â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei ragair i’r Papur Gwyn fod angen i bolisi addysg gynorthwyo yn y gwaith o ‘warchod cymunedau Cymraeg sydd â chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg ond sy’n dangos gostyngiad.’

Yn benodol, mae’r Comisiwn yn croesawu cymalau 59 ac 89 y Papur Gwyn:

Fel rhan o ystyriaethau’r awdurdod [lleol] wrth bennu ym mha ddalgylchoedd y mae am weld cynnydd mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cynigiwn y bydd yn rhaid i’r awdurdod ystyried demograffeg y Gymraeg yn y dalgylchoedd hynny. Yn ymarferol, bydd tystiolaeth gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, sydd â’r dasg o wneud argymhellion ynghylch ardaloedd o sensitifrwydd y Gymraeg, yn rhan o ystyriaeth Gweinidogion wrth osod targedau ar awdurdodau lleol. (cymal 59)

Mewn rhai awdurdodau lleol, lle mae’r dwysedd siaradwyr Cymraeg yn uchel yn gyffredinol a’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithasol yr ardal, yr her yw gwarchod yr ardaloedd rhag shifft iaith a sefydlogi dwysedd y siaradwyr fel eu bod yn parhau yn gymunedau o siaradwyr Cymraeg. Bydd y dystiolaeth gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ynghylch ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol yn rhoi sail i osod disgwyliadau uwch mewn ardaloedd o’r fath. (cymal 89)

Mae’r Comisiwn yn croesawu’r cynigion hyn, ac yn cadarnhau y bydd yn ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn.

6.6 Papur Gwyn y Bil Addysg Gymraeg: ymateb llawn y Comisiwn

Mewn unrhyw bapur gwyn ceir nifer o ystyriaethau sy’n hanfodol eu trafod er mwyn sicrhau llwyddiant polisi, ond nid ydynt, oherwydd eu natur fwy technegol, yn bethau y byddid fel arfer yn eu gwyntyllu mewn papur safbwynt mwy cyffredinol ei natur fel hwn. Mae ystyriaethau o’r fath yn cynnwys deilliannau ieithyddol yng nghyd-destun Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR), materion technegol ynghylch natur continwwm ieithyddol, trefniadau monitro cynnydd ac yn y blaen. Gan fod cylch gorchwyl y Comisiwn yn gofyn inni gynnig cyngor i Lywodraeth Cymru ‘yng nghyd-destun datblygu papur gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg’, byddwn yn ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac yn ein barn ni, dyna’r adeg gorau i drafod materion o’r fath.

6.7 Trosglwyddo iaith yn y teulu

Er nad yw’n perthyn i faes addysg fel y cyfryw, rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd caffael iaith drwy ei throsglwyddo yn y teulu. Mae’r Comisiwn yn ystyried trosglwyddo ieithyddol llwyddiannus rhwng y cenedlaethau’n gwbl allweddol i ieithoedd lleiafrifedig fel y Gymraeg. Mae’r Comisiwn yn nodi polisi Llywodraeth Cymru yn y maes, 'Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd' (2021). Bydd y Comisiwn yn trafod mater trosglwyddo fel blaenoriaeth yn ystod cam nesaf ei waith, gan ddwyn i ystyriaeth ffigyrau Cyfrifiad 2021 ynghylch trosglwyddo iaith yn y teulu.

6.8 Darpariaeth newydd: ysgolion newydd a’r Cynnig Gofal Plant

Mae’r Comisiwn o’r farn y dylai unrhyw ysgol newydd a sefydlir mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg. Wrth i’r Cynnig Gofal Plant i blant dwy oed gael ei ymestyn, dylid sicrhau rhagdybiaeth y bydd y ddarpariaeth gofal honno ar gael yn uniaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

6.9 Defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg

Cred y Comisiwn fod gan weithgareddau allgyrsiol neu allgwricwlaidd sy’n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg rôl hollbwysig yn atgyfnerthu’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol, ac felly byddai cynyddu’r ddarpariaeth yn fanteisiol. Cydnabyddir fod Siarter Iaith ysgolion wedi cyflawni llwyddiannau amrywiol yn cynyddu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Er hynny mae’r Comisiwn o’r farn nad yw effeithiolrwydd Siarter Iaith ysgolion yn cael ei fonitro’n ddigonol ac y dylid ei fonitro’n well drwy ei reoleiddio, boed hynny trwy ddulliau megis offerynnau statudol neu drwy bolisi cyhoeddus sy’n cynnwys meini prawf i fonitro llwyddiant. Mantais hefyd fyddai ymestyn swyddogaethau Estyn i arolygu llwyddiant a gweithrediad y Siarter o fewn ysgolion.

Mae’r Comisiwn hefyd yn nodi fod gweithgareddau Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn rhan bwysig o gynllunio ieithyddol, mewn cymunedau Cymraeg yn ogystal ag mewn rhannau eraill o Gymru. Yn benodol, rydym yn nodi pwysigrwydd iaith a gweithgarwch chwaraeon yn y gymuned, clybiau a mudiadau ieuenctid a gweithgareddau trefnedig ar gyfer pobl ifanc, a diwylliant ieuenctid yn gyffredinol.

6.10 Canolfannau trochi

Mae’r Comisiwn o’r farn bod canolfannau trochi yn hanfodol ar gyfer cynnal a chefnogi is-adeiledd addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Heb rwydwaith o ganolfannau, mae potensial i hwyrddyfodiaid newid iaith ffurfiol ac anffurfiol ysgolion. Mae canolfannau trochi hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymunedol, sef cynnwys hwyrddyfodiaid oddi mewn i’w cymunedau newydd. Mae hyn yn bwysig o safbwynt cydraddoldeb.

Tra bod cydnabyddiaeth bod y grant penodol a ddarperir i bob awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer darpariaeth trochi yn hynod fanteisiol, mae hefyd angen cydnabod bod y ddarpariaeth y mae angen ei chefnogi mewn cymunedau Cymraeg yn sylweddol, ac o’r herwydd yn fwy costus.

6.11 Addysg ôl-14 ac ôl-16

Mae’r Comisiwn o’r farn bod cynyddu’r niferoedd sy’n astudio ystod o gymwysterau ôl-14 ac ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn allweddol er mwyn sicrhau gweithlu i’r dyfodol a fydd yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg. Ymddengys bod canran o ddisgyblion ysgolion uwchradd mewn cymunedau Cymraeg yn derbyn darpariaeth ddwyieithog ei natur, sef defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg gyda gwahanol ddisgyblion oddi mewn i’r un wers, sydd yn her i’r athro ac i’r disgybl fel ei gilydd. Dylid sicrhau bod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) â thargedau pendant, ac adnoddau i’w cynorthwyo i gyrraedd y targedau hynny, ar gyfer cynyddu’n sylweddol y ganran o ddisgyblion sydd yn astudio ystod o gymwysterau ôl-14 ac ôl-16 drwy gyfrwng y Gymraeg.

6.12 Categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith

Mae’r Comisiwn yn croesawu cynnig y Papur Gwyn i roi i Weinidogion Cymru bwerau i bennu disgrifiadau statudol ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl cyfrwng iaith. Yn benodol, mae’n croesawu cymal 48 y Papur Gwyn sy’n dweud mai’r ffordd orau o wneud hyn fyddai trwy is-ddeddfwriaeth: byddai hyn hefyd yn rhoi rhyddid i Weinidogion newid y disgrifiadau, pe bai angen yn y dyfodol. Ym marn y Comisiwn, mae rhyddid o’r fath yn hanfodol er mwyn cael yr hyblygrwydd angenrheidiol i ateb anghenion ieithyddol ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Heb fanylu ar hyn o bryd, rydym am nodi pwysigrwydd datblygu ysgolion yn gymunedau sefydliadol Cymraeg, â’r Gymraeg yn gyfrwng gweinyddiaeth a holl weithgarwch allgyrsiol yr ysgol. Bydd y Comisiwn yn gwneud unrhyw argymhellion ynghylch disgrifiadau o’r categorïau hyn, a allai yn ei farn ef fod yn briodol, yn ei adroddiad terfynol.

7 Tai

Mewn cymunedau Cymraeg, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder yn aml fod trigolion yn wynebu anawsterau wrth geisio cael mynediad i’r farchnad dai. Mynegwyd y rhwystredigaeth yn y drafodaeth am ail gartrefi, ond mae’n ymwneud yn ogystal â’r farchnad dai yn ehangach. I ryw raddau, mae’r broblem yn debyg i’r sefyllfa mewn rhannau eraill o wledydd Prydain lle mae twf hirdymor prisiau tai wedi arwain at ganran sylweddol o’r boblogaeth yn cael ei phrisio allan o’r farchnad dai. Mewn cymunedau Cymraeg, fodd bynnag, mae’r sefyllfa yn cael ei chymhlethu gan yr angen i sicrhau cynaliadwyedd ieithyddol. Mae hyn yn llawer anos os nad oes modd i bobl brynu eiddo yn eu cymunedau eu hunain. O ganlyniad, mae’r drafodaeth am dai yn bwysig o safbwynt dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol.

7.1 Dyfodol y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Nod y Cynllun yw dwyn ynghyd ymyraethau o fewn y meysydd polisi tai, economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol er mwyn ymateb i heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg sydd hefyd â dwysedd uchel o ail gartrefi. Ym mis Mehefin 2022 sefydlwyd Cynllun Peilot yn ardal Dwyfor, er mwyn treialu nifer o ymyraethau sy’n gysylltiedig â fforddiadwyedd ac ail gartrefi.

Mae’r Comisiwn yn falch fod y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a’r Cynllun Peilot yn Nwyfor ar waith ac yn eu cefnogi. Mae’n debyg bydd angen cefnogaeth barhaus ar gymunedau Cymraeg yn y maes hwn, a chred y Comisiwn fod achos dros wneud y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn barhaol.

Mae’r Comisiwn o’r farn y gellid mewn egwyddor ehangu gwaith y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg er mwyn creu cerbyd strategol ‘system gyfan’ i weithredu ac amrywio polisi tai mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch).

7.2 Tai cymdeithasol

Mae’r Comisiwn yn cydnabod rôl bwysig tai cymdeithasol sy’n cael eu gosod ar renti cymdeithasol gan Landlordiaid Cymunedol (gall Landlordiaid Cymunedol fod yn Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig). Yn 2020, roedd stoc tai Landlordiaid Cymunedol yn cyfateb i 18% o holl aelwydydd Cymru. Mae 63% ym mherchnogaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a 37% ym mherchnogaeth yr 11 awdurdod lleol sydd wedi cadw eu stoc. Mae’r Landlordiaid Cymunedol hefyd yn berchen neu’n rhannol berchen ar fathau eraill o dai, yn cynnwys tai marchnad canolraddol a thai marchnad agored. 

Mae’r Comisiwn yn cydnabod fod gan Landlordiad Cymunedol hanes hir o ymateb i anghenion tai cymunedau Cymraeg, gan gynnwys cyflogi a chydweithio â Hwyluswyr Tai Gwledig i adnabod anghenion leol, a thrwy fanteisio ar bolisi eithriad gwledig yr awdurdodau cynllunio lleol a gweithredu polisïau gosod lleol. 

Yn eu tystiolaeth i’r Comisiwn esboniodd nifer o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau cynllunio ei bod hi ‘bron yn amhosib’ i ddatblygu tai ar raddfa llai mewn cymunedau Cymraeg sydd wir angen cartrefi newydd. Mae’r rhesymau yn debygol o fod yn gyfuniad o brisiau ac argaeledd tir, polisi cynllunio a gofynion y gyfundrefn Grant Tai Cymdeithasol (safonau datblygu, canllawiau cost derbyniol, cyfraddau grant, rhenti fforddiadwy). Cred y Comisiwn y dylai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fod â rôl ganolog wrth ymateb i anghenion tai mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch). Mae angen felly cynnal gwaith pellach i ystyried sut mae ymateb i rai o’u pryderon. Bydd y Comisiwn yn ystyried y mater hwn yn ofalus ac yn gwneud unrhyw argymhellion yn ei adroddiad terfynol.

7.3 Tai dan arweiniad y gymuned

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau i ddatblygu opsiynau tai sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion lleol, gan gynnwys tai cydweithredol a thai ym mherchnogaeth y gymuned. Sefydlwyd nifer o gymdeithasau tai cymunedol yn y gogledd a’r de-orllewin yn ystod yr 1970au a’r 1980au. Serch hyn, prin yw’r esiamplau cyfredol o fentrau tai dan arweiniad y gymuned mewn cymunedau Cymraeg.

Roedd gweledigaeth sylfaenwyr cymdeithasau tai y 1970au a’r 1980au yn debyg, sef i gynnal cymunedau Cymraeg. Roeddent yn sefydliadau cydfuddiannol gyda’r aelodau a’r pwyllgorau rheoli gwirfoddol yn dod o’r gymuned leol: yr union fodel a gynigiwyd ar gyfer mentrau tai dan arweiniad y gymuned yn y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Mae’r Comisiwn o’r farn y dylid dysgu gwersi o’r ffactorau a arweiniodd at ddiflaniad y cymdeithasau tai cymunedol gwreiddiol. Yn bennaf, dylid gofalu bod uchelgais y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg i ddatblygu mentrau tai dan arweiniad y gymuned yn cael ei gefnogi gan system ariannu a chymorth sy’n eu galluogi i gynnig ystod o opsiynau tai ac sy’n sicrhau rheolaeth barhaus gan y cymunedau sy’n eu sefydlu.

Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a Chynllun Peilot Dwyfor yn ceisio cefnogi cymunedau i ddatblygu datrysiadau tai a arweinir gan y gymuned. Mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg wedi sefydlu cronfa grant refeniw i gefnogi grwpiau cymunedol i baratoi astudiaethau dichonoldeb a chynlluniau busnes, prisiadau ac arolygon. Cred y Comisiwn y byddai’n fanteisiol pe bai cyllid cyfalaf hefyd ar gael i gynorthwyo cymunedau i brynu tir neu eiddo.

7.4 Defnyddio’r stoc dai bresennol yn well

Yn aml mewn cymunedau Cymraeg gwledig, ceir diffyg cyfleoedd i ddatblygu stoc o dai newydd ar raddfa fechan sy’n hyfyw i’w datblygu. Mewn rhai sefyllfaoedd hefyd, gall fod yn fanteisiol defnyddio’r stoc dai bresennol os oes risg y byddai ehangu’r stoc dai yn ormodol yn niweidio’r Gymraeg yn lleol.

Felly, mae’r Comisiwn o’r farn y byddai’n fanteisiol gwneud defnydd gwell o’r stoc dai bresennol, ynghyd ag adeiladau eraill, megis er enghraifft addoldai y bydd nifer cynyddol ohonynt yn dod ar y farchnad dros y blynyddoedd nesaf, wrth fynd ati i ymateb i’r anghenion tai lleol. Bydd y Comisiwn yn ystyried ymhellach yr egwyddor hon, ynghyd â chynlluniau cymorth prynu eiddo, yn yr hydref.

7.5 Sector rhentu preifat

Mae’r sector rhentu preifat yn cyfrif am 14% o gyfanswm y stoc tai, sef tua 200,000 o gartrefi yng Nghymru. Mae rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd bod nifer o landlordiaid preifat wedi gadael y sector yn ddiweddar, neu’n bwriadu gwneud hynny. Daeth eu hamgylchedd gweithredu yn fwy heriol yn dilyn cyflwyno’r Ddeddf Rhentu Cartrefi yn 2022, y pwysau economaidd diweddar a chostau benthyca uwch. Gallai hyn greu cyfleoedd i Landlordiaid Cymunedol neu fentrau cydweithredol brynu a rheoli tai sy’n cael eu gwerthu gan landlordiaid preifat.

Rhaid hefyd cydnabod nad yw’r sector hwn yn cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd bob tro i nifer o denantiaid. Er mwyn iddo ddod yn opsiwn tai o ddewis, bydd angen newidiadau polisi sy’n rhoi mwy o reolaeth dros renti a llawer gwell sicrwydd deiliadaeth i denantiaid.

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi Papur Gwyrdd ar yr Hawl i Dai Digonol gan gynnwys rhenti teg a bydd y Comisiwn yn ystyried cynnwys y Papur pan gaiff ei gyhoeddi.

7.6 Ail gartrefi

Yn ddiweddar, cyflwynwyd polisïau newydd gan lywodraeth ganolog a lleol ym maes ail gartrefi. Mae hyn yn cynnwys gwneud newidiadau i drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, gwneud newidiadau i’r fframwaith gynllunio, datblygu newidiadau i’r dreth trafodiadau tir a chyhoeddi grant cartrefi gwag gwerth £50m. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgynghori ar gyfer sefydlu cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd y Comisiwn yn cadw golwg ar ddatblygiadau yn y maes, ac os oes angen bydd yn gwneud argymhellion yn ei adroddiad terfynol.

8 Cynllunio gwlad a thref

Mae cynllunio gwlad a thref yn hollbwysig i ddyfodol cymunedau Cymraeg. Bu’r berthynas rhwng cynllunio a buddiannau’r Gymraeg yn faes trafod cyson ers cyfnod hir ond ni fu cymaint o gynnydd, efallai, yn y maes hwn ag mewn meysydd polisi eraill.

Mae’r Comisiwn o’r farn y bydd angen ymyraethau ehangach ym maes cynllunio na’r rhai cyfredol er mwyn helpu sefydlogi cymunedau Cymraeg. Gall ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) fod yn gerbyd pwrpasol ar gyfer gwneud hynny trwy ganiatáu, ac yn wir annog, amrywio polisïau.

Ym marn y Comisiwn, mae angen rhagor o waith er mwyn ystyried ymhellach sut y gellid gwneud hyn orau. Wrth ymateb i alwad y Comisiwn am dystiolaeth, er enghraifft, cyfeiriodd awdurdodau cynllunio at eu canfyddiad y gellid cael cyfarwyddyd cliriach o ran polisïau yn ymwneud â’r Gymraeg a chynllunio.

Mae gan y Comisiwn ddiddordeb yn ogystal ym mhotensial cynllunio cymunedol lleol. Mae cynllunio cymunedol yn helpu cymunedau i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer eu cymdogaeth a siapio datblygiad a thwf eu hardal leol.

Oherwydd y gwaith sydd angen ei wneud yn y maes, mae’r Comisiwn wedi penderfynu cynnal gweithdy yn yr hydref gyda rhanddeiliaid. Bydd y gweithdy yn dwyn arbenigwyr ynghyd er mwyn trafod camau polisi posib gan gyfrannu’n uniongyrchol at ystyriaethau’r Comisiwn yng nghyd-destun ei adroddiad terfynol.

Bydd y gweithdy yn ystyried a ddylid darparu mwy o gyfarwyddyd i awdurdodau cynllunio, a ddylid cryfhau polisïau o ran y Gymraeg, a bydd yn trafod cynllunio cymunedol lleol. Bydd hefyd yn ystyried beth ddylai fod swyddogaeth ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch) mewn perthynas â pholisi cynllunio.

9 Cydraddoldeb a chynhwysiant

Mae’r Comisiwn yn ymrwymedig i’r egwyddor fod pob siaradwr Cymraeg gyfwerth â’i gilydd, ac y dylai’r Gymraeg fod ar gael i bawb. I’r perwyl hwnnw, mae’r Comisiwn am ystyried cydraddoldeb a chynhwysiant mewn cymunedau Cymraeg o ddau safbwynt: nodweddion gwarchodedig a dosbarth cymdeithasol.

9.1 Nodweddion gwarchodedig

Yng ngalwad y Comisiwn am dystiolaeth, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion a ddaeth i law ym maes cydraddoldeb yn ymwneud â hil ac â hawliau LHDT+. Roedd pwyslais ar yr angen i gysylltu egwyddorion 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Cynllun Gweithredu LHDTC+' Cymru â chamau polisi mewn ardaloedd Cymraeg, er enghraifft trwy gynlluniau cydraddoldeb strategol awdurdodau lleol. Mae’r Comisiwn yn cytuno â’r pwyslais hwn.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd rhai ystadegau o Gyfrifiad 2021 am iaith ac ethnigrwydd. Mae’r ystadegau yn dangos fod unigolion o bob cefndir ethnig yn medru Cymraeg. Maen nhw’n dangos yn ogystal fod canran y boblogaeth sy’n medru Cymraeg yn amrywio yn ôl cefndir ethnig, a bod amrywiaeth o ran y patrymau hyn oddi mewn i Gymru hefyd. Er mwyn deall hyn yn llawn, bydd y Comisiwn yn craffu ar yr ystadegau hyn yn ei ddadansoddiad o Gyfrifiad 2021.

Mae ymchwil flaenorol wedi awgrymu fod modelau o addysg ddwyieithog mewn ardaloedd Cymraeg sy’n golygu mai rhai disgyblion yn unig sy’n derbyn addysg Gymraeg wedi arwain at ymdeimlad o eithrio cymdeithasol ymysg rhai, ac weithiau bu tuedd i ymrannu ieithyddol yn y gyfundrefn addysg ddigwydd ar sail cefndir y plentyn. Mae’r Comisiwn o’r farn fod galluogi plant i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn fater o gydraddoldeb. Gall hon fod yn ddadl bwysig dros fabwysiadu modelau amgen o ddarpariaeth ieithyddol sy’n sicrhau fod plant yn gadael yr ysgol yn 16 oed yn rhugl eu Cymraeg. Mae canolfannau trochi ar gyfer hwyr-ddyfodiaid hefyd yn bwysig o safbwynt cydraddoldeb.

Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn flaenoriaeth gan y Comisiwn. Bydd y Comisiwn yn trafod y mater â rhanddeiliaid ac eraill yn ystod cyfnod nesaf ei waith, a bydd yn cyhoeddi ei gasgliadau yn ei adroddiad terfynol.

9.2 Dosbarth cymdeithasol

Mae tystiolaeth o ran defnydd o’r Gymraeg yn ôl dosbarth cymdeithasol yn weddol brin. Yn wir, mae bwlch amlwg yma mewn gwaith ymchwil. Mae’r term dosbarth cymdeithasol yn un cymhleth hefyd ac mae diffiniadau yn newid yn barhaus. Mewn un ymateb i Alwad y Comisiwn am dystiolaeth, awgrymwyd fod ‘arwyddion bod y grŵp iaith yn ymrannu ar hyd llinellau dosbarth’, gyda shifft iaith yn digwydd yn fwy cyflym yn y dosbarth gweithiol nag yn y dosbarth canol mewn nifer o gymunedau Cymraeg. Byddai cael tystiolaeth er mwyn gwirio sylw o’r fath yn fuddiol. Mae ardaloedd Cymraeg yn cynnwys nifer o gymunedau a fyddai’n draddodiadol yn cael eu hystyried fel rhai dosbarth gweithiol, ac mae rhai o’r rhain ymysg y rhai lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf (er enghraifft, yn ardaloedd chwarelyddol Gwynedd ac mewn rhai trefi yng Ngwynedd a Môn). Gall canlyniadau ymchwil o’r fath fod yn bwysig o safbwynt polisi cyhoeddus. Mae angen gwreiddio gweithgarwch yn y gymuned, a sicrhau fod camau o blaid y Gymraeg yn adlewyrchu anghenion a delfrydau pawb, o bob cefndir cymdeithasol. Bydd y Comisiwn yn trafod hyn yng ngham nesaf ei waith.

Atodiad: Cyfrifiad 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg gynnig dadansoddiad o ganlyniadau Cyfrifiad 2021, yn ogystal â chraffu ar ffynonellau perthnasol eraill, er mwyn archwilio i sefyllfa gyfredol y Gymraeg.

Dadansoddiad o ddata cychwynnol Cyfrifiad 2021

Yn yr atodiad yma, cynigir dadansoddiad cryno o’r data cyntaf o’r cyfrifiad sydd ar gael ar y Gymraeg: fe’i rhyddhawyd ar 6 Rhagfyr 2022 gan y Llywodraeth, gan gydweithio’n agos â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar 21 Mawrth 2021. Roedd hyn yn dilyn cyfnodau o gyfyngiadau symud, dysgu o bell ar gyfer llawer o blant ac roedd llawer o bobl yn gweithio gartref. Nid ydym yn gwybod sut effeithiodd y pandemig ar y ffordd roedd pobl yn adrodd am eu sgiliau Cymraeg (neu ar ganfyddiadau o sgiliau Cymraeg pobl eraill).

Mae’n rhaid cofio bod adrodd ar allu yn y Gymraeg, ac unrhyw iaith arall, yn oddrychol o’i hanfod. Yr hyn a geir yn y cyfrifiad, ac arolygon eraill, ydy asesiad unigolyn o’i allu yn y Gymraeg. Gall hyn amrywio o berson i berson. Mewn rhai achosion, yn enwedig ar gyfer plant, adroddwyd ar sgiliau Cymraeg gan rywun arall, gan riant neu warcheidwad, er enghraifft.

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 538,300 o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg yng Nghymru, neu 17.8% o’r boblogaeth. Dyma’r ganran isaf erioed sydd wedi’i chofnodi mewn cyfrifiad.

Nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1921 i 2021

Image
Nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 1921 i 2021

Ffynhonnell: cyfrifiadau o’r boblogaeth

Roedd hyn yn ostyngiad o oddeutu 24,000 o bobl ers Cyfrifiad 2011 (neu ostyngiad o 1.2 pwynt canran), pan oedd yna 562,000 o bobl yn gallu siarad Cymraeg (neu 19.0% o’r boblogaeth).

Y Gymraeg yn ôl oedran

Mae'r gostyngiad yn nifer a chanran y bobl tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn bennaf o ganlyniad i ostyngiad yn nifer a chanran y plant a phobl ifanc y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Er i’r ganran ostwng yn gyffredinol, bu cynnydd bach yn y ganran o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn y grwpiau oedolion ifanc (pobl 16 i 19 oed a phobl 20 i 44 oed), gyda gostyngiadau yn y grwpiau hŷn.

Canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl grwpiau oedran, 2011 a 2021

Image
Canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl grwpiau oedran, 2011 a 2021

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021

Y Gymraeg yn ôl ardal

Mae data’r cyfrifiad yn caniatáu i ni edrych ar sut mae’r gallu i siarad Cymraeg yn amrywio ar draws awdurdodau lleol ac hefyd o fewn awdurdodau lleol, gan gynnwys ar lefel ardaloedd bach. At ddibenion ystadegol, rydym yn defnyddio data ar sail ardaloedd cynnyrch ehangach haen is (ACEHIau). Mae’r ardaloedd hyn yn weddol gyson o ran maint, ac yn gymharol gyson dros amser, sydd yn hwyluso cymariaethau ystadegol. Mae data ar lefel wardiau etholiadol hefyd ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’r map isod yn dangos canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl ardaloedd bychain.

Canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2021

Image
Canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2021

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2021

Mae’r map isod yn dangos y newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl ardaloedd bychain. Mae’r ardaloedd sydd wedi gweld gostyngiad wedi eu lliwio’n frown a’r ardaloedd sydd wedi gweld cynnydd wedi eu lliwio’n las.

Newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2011 i 2021

Image
Newid yng nghanran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, yn ôl ACEHIau, 2011 i 2021

Ffynhonnell: Cyfrifiad o’r boblogaeth, 2011 a 2021

Noder: mae’r data yn y map uchod yn seiliedig ar ACEHIau nad oeddynt wedi newid neu a oedd wedi eu hollti rhwng 2011 a 2021 yn unig. Nid oedd modd cyfrifo newidiadau ar gyfer ACEHIau a gafodd eu cyfuno rhwng 2011 a 2021. Mae’r ardaloedd hyn mewn gwyn ar y map.

Gostyngodd canran y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021 ym mhob awdurdod lleol ac eithrio yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran a nifer y bobl tair oed neu’n hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, o 43.9% yn 2011 i 39.9% yn 2021, gostyngiad o 4.1 pwynt canran. Mae hwn bron ddwywaith cymaint â’r gostyngiad mwyaf nesaf, sef gostyngiad o 2.1 pwynt canran yn Sir Ddinbych, Powys a Sir Benfro. Yn Sir Gaerfyrddin hefyd y gwelwyd y gostyngiad mwyaf rhwng Cyfrifiad 2001 a Chyfrifiad 2011.

Roedd y patrymau hyn yn amrywio o fewn awdurdodau lleol. O edrych ar yr ardaloedd bychain dros Gymru a welodd ostyngiadau yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, roedd y mwyafrif o’r gostyngiadau mwyaf mewn ardaloedd bychain yn yr awdurdodau lleol â’r canrannau uchaf o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg.

Canran o ardaloedd bychain o fewn awdurdod lleol a welodd leihad yng nghanran y bobl dair oed neu'n hŷn sy'n gallu siarad Cymraeg rhwng Cyfrifiad 2011 a 2021 ar gyfer awdurdodau lleol sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg
  Lleihad rhwng 0 a 2 pwynt canran Lleihad rhwng 2 a 5 pwynt canran Lleihad o dros 5 pwynt canran
Ynys Môn 29% 37% 11%
Gwynedd 30% 33% 13%
Ceredigion 23% 39% 20%
Sir Gaerfyrddin 14% 45% 35%

Ffynhonnell: Cyfrifiad o'r boblogaeth, 2011 a 2021

Sir Gaerfyrddin oedd â’r ganran uchaf o ardaloedd bychain a oedd â lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, dim ond 8 ardal fach yno a welodd gynnydd. Ardaloedd bychain o gwmpas Cwmaman a Llanybydder oedd â’r gostyngiadau mwyaf gyda gostyngiadau yn amrywio o 11.8 i 10.8 pwynt canran.

Gwelwyd gostyngiadau yn y mwyafrif o ardaloedd bychain yng Ngheredigion, Gwynedd ac Ynys Môn hefyd.

Yng Ngheredigion bu’r gostyngiadau mwyaf o 8.5 pwynt canran mewn ardal fach ger Aberteifi, 8.2 pwynt canran o amgylch Tregaron a 7.5 pwynt canran o amgylch Llanddewi Brefi.

Yng Ngwynedd, ardaloedd bychain ger Bangor, Corris, Blaenau Ffestiniog a’r Bala (gostyngiadau o rhwng 6 a 7 pwynt canran) a welodd y gostyngiadau mwyaf.

Ar Ynys Môn, ardaloedd bychain ger Llangefni ac Amlwch oedd â’r gostyngiadau mwyaf (gostyngiad o 7.9 pwynt canran a 6.3 pwynt canran yn y drefn honno).

Wrth edrych ar yr ardaloedd bychain a welodd gynnydd yng nghanran y bobl dair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021, roedd dros dwy ran o dair o’r holl ardaloedd bach â chynnydd o dros 5 pwynt canran yng Nghaerdydd. Ardal Treganna oedd â’r cynnydd mwyaf, cynnydd o 9.2 pwynt canran (o 25.5% yn 2011 i 34.7% yn 2021).

Cynlluniau ar gyfer cyflwyno dadansoddiad llawn o Gyfrifiad 2021

Wrth i’r Papur Safbwynt hwn gael ei lunio, nid oedd ystadegau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â’r Gymraeg wedi eu cyhoeddi’n llawn. Nid oes modd cynnig dadansoddiad trylwyr o’r cyfrifiad nes i’r ystadegau weld golau dydd.

Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi dadansoddiad llawn o Gyfrifiad 2021 unwaith fod y canlyniadau i gyd ar gael. Byddwn yn trafod gydag ystadegwyr Llywodraeth Cymru ac ymchwilwyr yr 'Arolwg Sosioieithyddol o Gymunedau Cymraeg Dwysedd Uchel' y ffordd orau o wneud hyn.

Mae’r Comisiwn hefyd yn nodi’r gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella eu dealltwriaeth o’r prif ffynonellau data gweinyddol ac arolygon a ddefnyddir i lunio ystadegau ar y Gymraeg.