Mae'r paratoadau terfynol ar y gweill ar gyfer lansio gwasanaethau newydd y GIG ym mhob rhan o Gymru i wella mynediad at wasanaethau gofal iechyd hanfodol i fenywod.
Bydd y ganolfan fraenaru gyntaf ar gyfer iechyd menywod yn agor cyn diwedd mis Ionawr, gyda chanolfannau ar gael ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn dechrau mis Mawrth.
Mae'r hybiau yn ymrwymiad allweddol yn y Cynllun Iechyd Menywod dan arweiniad y GIG. Byddant yn darparu gwasanaethau iechyd integredig i fenywod, gan ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth: iechyd mislif, atal cenhedlu, a'r menopos.
Bydd yr hybiau yn cael eu teilwra i anghenion lleol, ond bydd pob un yn seiliedig ar set graidd o werthoedd ac egwyddorion - bydd rhai yn gweithredu dros sawl safle a bydd eraill ar gael ar-lein. Er bod hyn yn golygu y bydd y canolfannau yn edrych yn wahanol ym mhob ardal, bydd pob canolfan yn cadw at yr un ymagwedd gyfannol at iechyd menywod a bydd yn bodloni rhestr wirio o ofynion.
Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i gynllunio'r canolfannau pwrpasol a hyfforddi clinigwyr. Mae'r Academi Gofal Sylfaenol wedi darparu hyfforddiant i staff am y menopos, iechyd rhywiol, a gosod dulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu modiwlau e-ddysgu, a fydd ar gael i holl staff y GIG o fis Mawrth ymlaen, gan ymdrin ag iechyd cyffredinol menywod a chyflyrau penodol fel endometriosis.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Mae'r canolfannau'n gam arall ymlaen ar gyfer iechyd menywod yng Nghymru. Mae'r wythnos hon yn nodi dechrau rhai o'r gwasanaethau newydd a fydd ar gael yn narpariaeth yr hybiau.
Bydd yr hybiau hyn yn gwella canlyniadau iechyd i fenywod ac yn cynnig gofal yn nes at y cartref.
Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu anghenion menywod a merched, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Mae pob Bwrdd Iechyd wedi cael £300,000 ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r hybiau braenaru. Byddant yn cael eu gwerthuso yn nes ymlaen eleni.
Mae gwerthusiad wedi'i gomisiynu i ddysgu o'r canolfannau braenaru, gan gynnwys adborth gan y menywod sy'n defnyddio’r gwasanaethau, a bydd adroddiad ar gael ym mis Mehefin 2026.
