Neidio i'r prif gynnwy

Diolchiadau

Braint fawr fu cael cyfle i weithio fel tîm gyda chydweithwyr ledled Cymru ar ddatblygu dealltwriaeth o’r cyfleoedd, manteision, heriau, a’r risgiau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer datganoli plismona i Gymru.

Cydnabu'r tîm adolygu yn gynnar ei bod yn bwysig ymgymryd â'r gwaith hwn yng nghyd-destun adroddiadau academaidd blaenorol a rhai a gomisiynwyd yn flaenorol. Mae'r rhain wedi bod yn hynod werthfawr wrth bennu cyd-destun a galluogi myfyrio ar rai ystyriaethau allweddol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cael eu cyfweld, sydd wedi rhoi eu barn ac sydd wedi cwblhau'r arolygon. Mae cydweithwyr o bob rhan o Gymru a'r DU wedi bod yn hynod hael gyda'u hamser, yn agored gyda'u barn ac yn ystyriol gyda'u hymatebion. Mae wedi bod yn anrhydedd ymgysylltu â rhai o'r ffigurau uchaf yn y byd plismona a chyfiawnder troseddol ar draws Cymru a Lloegr. Heb lefel yr ymgysylltu a'r gefnogaeth a gawsom ni allem fod wedi casglu'r wybodaeth bwysig yr oedd ei hangen arnom i lywio a chefnogi datblygiad yr adroddiad hwn.

Yn anochel, tîm bach oeddem yn cynnal y gwaith hwn, ond rydym wedi cael cefnogaeth aruthrol gan dîm ymchwil a dadansoddi Llywodraeth Cymru a'r grŵp rhanddeiliaid proffesiynol sydd wedi rhoi o’u hamser, eu profiad a'u her hollbwysig i helpu i sicrhau bod y darn hwn o waith yn ychwanegu gwerth at drafodaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ynghylch datganoli plismona yng Nghymru.

Hoffem ddiolch hefyd i Jo Hopkins o Iechyd Cyhoeddus Cymru am arbenigedd a chefnogaeth drwyddi draw. Mae ei chefnogaeth a'i hystyriaethau meddylgar wedi ein galluogi i gyflwyno'r adroddiad gorau posibl.

Adran 1: Cyflwyniad

Mae datganoli plismona a chyfiawnder i Lywodraeth Cymru yn gwestiwn cyfansoddiadol sydd, ers sefydlu'r Senedd yn 1999, wedi'i nodweddu i raddau helaeth gan waith Comisiynau i archwilio'r model llywodraeth, a thrafodaeth academaidd ar sut mae'r berthynas rhwng llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio. Yn achos plismona a chyfiawnder mae hyn yn aml wedi cael ei ddisgrifio yn ‘rhwyg’ (System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg, 2022).

Argymhellodd Comisiwn Silk (2014) a Chomisiwn Thomas (2019) ddatganoli plismona pellach i Gymru. Er nad yw pawb o blaid datganoli, dechreuodd Comisiwn Thomas, a'u safbwynt o edrych ar awdurdodaeth gyfreithiol yng Nghymru i wella gweithrediad a pherfformiad y system gyfiawnder yng Nghymru, newid nodedig mewn polisi a thrafodaeth wleidyddol yng Nghymru ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn.

Mae mynd ati i ddatganoli plismona a chyfiawnder yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2021 - 2026. Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Sicrhau Cyfiawnder i Gymru yn ailadrodd ei hymrwymiad i fynd ar drywydd datganoli cyfiawnder, a nodi bwriad i ganolbwyntio i ddechrau ar ddatganoli posibl plismona, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf.

Yn ystod y gwaith hwn sy'n cael ei gwblhau, cyhoeddwyd adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru hefyd, ym mis Ionawr 2024. Ailadroddodd yr adroddiad hwnnw gefnogaeth gynharach y Comisiwn i ddatganoli'r system gyfiawnder yn gyffredinol, ac yn benodol roedd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru bod plismona yn un o'r gwasanaethau a oedd yn addas ar gyfer datganoli cynnar yn rhan o ddull graddol o weithredu.

Comisiynwyd y darn annibynnol penodol hwn o waith ym mis Tachwedd 2023, a'i gyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig: Ymchwil i baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2023). Ei ddiben yw datblygu'r gwaith ar blismona a datblygu dealltwriaeth o’r cyfleoedd, y manteision, yr heriau a'r risgiau a ddeuai yn sgil model plismona datganoledig i Gymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn glir bod y ffocws, ar hyn o bryd, ar baratoi ar ddatganoli plismona, ac nid ar newidiadau ym model plismona'r pedwar heddlu presennol, a oedd, felly, y tu allan i gwmpas y gwaith hwn.

Yn gynrychiolwyr etholedig, mae'r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu presennol yng Nghymru wedi datgan yn gyhoeddus eu bod yn cefnogi datganoli plismona a chyfiawnder troseddol oherwydd y buddion y credant y byddai'n eu cynnig. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod Prif Swyddogion yr Heddlu wedi'i gwneud yn glir bod penderfyniadau ynghylch a ddylid datganoli'r cyfrifoldebau hynny ai peidio yn benderfyniadau gwleidyddol ac y byddai gwneud sylwadau cyn y penderfyniadau gwleidyddol hynny yn creu perygl iddynt gael eu tynnu i ddadl wleidyddol amhriodol.

Bydd yr adroddiad hwn yn helpu i alluogi Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer datganoli ac, wrth wneud hynny, gwneud plismona y gorau y gall fod i Gymru. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu ystyriaethau ar gyfer yr elfennau hyn, gan ganolbwyntio'n benodol ar y canlynol:

  • Yr heriau a'r risgiau o fodel datganoledig o blismona i Gymru.
  • Yr ystyriaethau ymarferol, ariannol a gweithredol sy'n gysylltiedig â gweithredu datganoli plismona yng Nghymru.
  • Y cyfleoedd a gyflwynir drwy ddatganoli plismona i Gymru i gymunedau.
  • Model plismona datganoledig neu hybrid a'r buddion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â phob un.

Bydd y gwaith hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ei chamau gweithredu nesaf. Ni fydd yn gwneud unrhyw argymhellion, a hynny o fwriad, gan mai nod yw i’r ymchwil a’r adroddiad hwn yw creu sylfaen ar gyfer trafodaethau pellach. Cydnabyddir y bydd angen cynnal rhagor o waith. Nid adroddiad academaidd nac ariannol mo hwn ond yn un sy'n seiliedig ar wybodaeth, profiad a barn rhanddeiliaid allweddol.

Adran 2: Methodoleg

Mae'r adran hon yn rhoi manylion ynghylch y dull a ddefnyddiwyd wrth gyflawni'r prosiect hwn. Er mwyn casglu'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni amcanion yr adolygiad hwn, cynhaliwyd dull ansoddol a oedd yn cynnwys casglu data gydag ystod eang o arweinwyr strategol sefydliadau yng Nghymru a Lloegr. Nodwyd yr unigolion hyn o ystyried eu harbenigedd, eu gwybodaeth a'u profiad penodol mewn perthynas â phlismona a gwaith partneriaeth a'r canfyddiadau y gallent eu rhannu ynghylch pwnc datganoli plismona.

I ategu'r rhain, cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda Heddlu’r Alban a Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon gyda'r pwrpas penodol o ddeall y gwersi a ddysgwyd, manteision plismona sy'n gweithredu o fewn gweinyddiaeth ddatganoledig a deall unrhyw heriau rhyngweithrededd strategol a gweithredol cyfredol gyda phlismona yn y DU.

Felly, roedd y dull o samplu yn un pwrpasol, gyda'r ymatebwyr yn cael eu cysylltu oherwydd eu harbenigedd penodol. Felly, dylid dehongli'r canfyddiadau a drafodir yn yr adroddiad hwn yn rhai sy'n cynrychioli yn unig farn y rhai y siaradir â hwy yn rhan o'r gwaith hwn ac ni ellir dweud eu bod yn cynrychioli barn ehangach ynghylch datganoli plismona. Er nad yw'r sampl yn gynrychioliadol, o ystyried y gwaith a ymgysylltwyd â phob un o'r pedwar Prif Gwnstabl a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru, yn ogystal ag uwch swyddogion mewn asiantaethau a sefydliadau partner perthnasol, mae'r canfyddiadau a gynhyrchir fel rhan o'r gwaith hwn yn dal i gynrychioli mewnwelediadau pwysig ar gyfer trafodaethau ynghylch datganoli plismona.

Er mwyn gwneud y mwyaf o nifer y bobl a allai ymateb fel rhan o'r gwaith hwn, ac yng ngoleuni’r cyfyngiadau ar nifer y cyfweliadau y gellid eu cynnal o fewn yr amserlen cymerwyd ymagwedd gymysg at dderbyn ymatebion. Casglwyd y rhan fwyaf o'r data trwy 30 o gyfweliadau a gynhaliwyd ar-lein â 34 o unigolion (cynhaliwyd rhai cyfweliadau â dau berson ar y tro). Cynhaliwyd cyfweliadau rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024, ac fel arfer gwnaethant bara tua awr.

Ategwyd y cyfweliadau gydag opsiwn ymateb ysgrifenedig ar-lein a anfonwyd at 28 o unigolion, ac ymatebodd 7 unigolyn yn rhan o 6 ymateb ysgrifenedig (derbyniwyd 1 cyflwyniad yn ymwneud â 2 unigolyn). Roedd cyflwyniadau ar gyfer ymatebion ysgrifenedig ar agor, i ddechrau, rhwng dechrau mis Rhagfyr a chanol mis Ionawr. Estynnwyd hyn tan ddiwedd mis Ionawr, gydag negeseuon e-bost atgoffa yn cael eu hanfon mewn ymdrech i gynyddu nifer yr ymatebion a dderbyniwyd; fodd bynnag, roedd nifer yr ymatebion a dderbyniwyd yn rhan o'r dull hwn yn parhau’n isel.

Rhoddwyd yr un set o 17 o gwestiynau i'r cyfranogwyr a oedd yn cymryd rhan yn y cyfweliadau a'r rhai a oedd yn ymateb drwy'r cyflwyniad ysgrifenedig ar-lein i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ymateb i'r un cwestiynau. Cydnabuwyd y byddai gwahaniaeth rhwng y cyfweliadau a'r ymatebion ysgrifenedig yn y cyfweliadau, y byddai ymatebwyr y cyfweliad yn cael cyfle i ofyn am eglurhad neu ofyn cwestiynau dilynol nad oedd yn bosibl gyda'r cyflwyniadau ysgrifenedig.

Roedd y cwestiynau'n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys (mae Atodiad A yn nodi'r set lawn o gwestiynau):

  • Y cyfleoedd, buddion, heriau a'r risgiau canfyddedig a gyflwynir gan ddatganoli
  • Y swyddogaethau, y pwerau a'r seilwaith y byddai angen eu hystyried yn rhan o drafodaethau datganoli a chysylltiadau ag agweddau eraill ar y system gyfiawnder
  • Ystyriaethau ar gyfer gweithredu datganoli plismona pe bai'n cael ei ddilyn

Roedd y set gwestiynau yn fwriadol eang i ganiatáu ystod eang o drafodaethau a oedd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol. Roedd disgwyl na fyddai rhai ymatebwyr yn gallu ateb pob cwestiwn a chydnabuwyd hyn ar ddechrau'r cyfweliad ac ar ddechrau'r cwestiynau ysgrifenedig.

Cafodd y cyfweliadau eu cofnodi a'u trawsgrifio a'u trosglwyddo i MAXQDA i'w dadansoddi ochr yn ochr â'r ymatebion a gafwyd yn rhan o'r arolwg. Cafodd yr ymatebion eu codio i ddadansoddi'r themâu a'r negeseuon allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion ac a oedd yn cysylltu'n ôl ag amcanion trosfwaol y gwaith.

O ystyried nifer yr ymatebion a natur arbenigol rhai o'r ymatebwyr, penderfynwyd peidio â chynnwys rolau sefydliadol unigolion wrth gyflwyno'r canfyddiadau i sicrhau anhysbysrwydd ymatebwyr.

Fel y nodir yn yr adran nesaf, adolygwyd nifer sylweddol o ddogfennau hefyd, ynghyd â deunydd ar wefannau swyddogol a nifer o ddogfennau ffynhonnell agored yn rhan o'r ymchwil desg a gynhaliwyd hefyd.

Adran 3: Tirwedd Plismona Ar Hyn o Bryd

Datganoli plismona

Mae'r llenyddiaeth ynghylch datganoli plismona yng Nghymru wedi cael ei hadolygu mewn sawl cyhoeddiad sydd wedi'u nodi yn y llinell amser isod, ac o'r herwydd, teimlwyd nad oedd angen gwneud hynny eto. Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r llenyddiaeth allweddol sydd ar gael o 1998 ymlaen a Deddf gyntaf Llywodraeth Cymru, hyd heddiw. Mae'r llinell amser yn ffigur 1 yn nodi'r Comisiynau, y ddeddfwriaeth, a’r cyfraniadau academaidd allweddol, a dylid nodi gwaith helaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru. Nid ydym yn honni bod y llinell amser yn cofnodi pob papur ond mae'n seiliedig ar y crynodeb a ddarperir yng ngwaith Rob Jones a Richard Wyn Jones (System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg, 2022, tt. 1 - 54).

Heddiw - 2019

  • Canolbwyntio ar awdurdodaeth gyfreithiol Cymru yn fodd o wella perfformiad a gweithrediad y system gyfiawnder (Comisiwn Thomas 2019)
  • Llenyddiaeth yn trafod y buddion i Gymru o gadw 'Model San Steffan’; (Bryant 2020, Evans, 2020, cf Lewis 2019)
  • Mae peth data ONS yn dechrau cael eu dadgyfuno yn Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn 2019
  • Trafodaeth academaidd benodol ar effaith datganoli Cymru a‘r System Cyfiawnder Troseddol (Jones 202, Evans et al 2021)
  • Ffocws parhaus ar Gyfiawnder Ieuenctid (Deering ac Evans 2021. Dehaghani a Newman 2021)
  • Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru 2024

2017 - 2019

  • Ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru yn canolbwyntio ar y System Cyfiawnder Troseddol:
    • Y Prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth a sefydlwyd yn 2018
    • Adroddiadau a gomisiynwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru i lywio Comisiwn Thomas 2019 (Ifan 2019a, 2019b, Jones et al 2019, Jones a Wyn Jones 2019)
  • Beirniadu Deddf 2017 yn 'Stôl Dwy goes' a 'Rhwyg' Datganoli (Rawlings 2018 Jones a Wyn Jones 2019. Comisiwn Thomas)
  • Cyhoeddiadau ynghylch Carchardai (Jones 2018, 2019)
  • Comisiwn Thomas 2019

1998 - 2017

  • Beirniadaeth ar Gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer 'Model Cymru Newydd' (Rawlings 1998)
  • Deddfau Llywodraeth Cymru 1998, 2006
  • Llenyddiaeth ynghylch 'model San Steffan' (inter alia Lijphart 1999, Rhodes et al 2009) a model datganoli Cymru (Wyn Jones and Scully 2012)
  • Sefydlu Canolfan Llywodraethiant Cymru yn 1999
  • Llenyddiaeth ynghylch dyfodol y System Cyfiawnder yn un o is-gynhyrchion y cwestiwn a oedd angen awdurdodaeth Cymru ar gyfer setliad datganoli (inter alia: Jones 2008, Jones a Williams 2004, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2012, Comisiwn Silk 2014, Percival 2017, Canolfan Llywodraethiant Cymru, ac Uned y Cyfansoddiad 2015, 2016 Llywodraeth Cymru 2012a, 2016b)
  • Gwaith academaidd i lywio Comisiynau Richard (2004) a Silk (2012, 2014) a'u hadroddiadau
  • Gwaith academaidd ac astudiaethau i lywio Deddfau Cymru (Haines et al 2013)
  • Deddfau Cymru 2014, 2017
  • Gwaith academaidd ar Gyfiawnder Ieuenctid (Haines 2009, Drakeford 2010, Haines a Case 2015, Thomas 2015)

Mae'r Comisiynau hwythau, a’r dystiolaeth a ddarparwyd eu cyfer, yn rhoi sylfaen dystiolaeth i’w defnyddio, yn ogystal â'r cyflwyniadau i gefnogi datblygiad y Deddfau a'r sylwebaethau ar ôl eu deddfiad.

Daw'r themâu allweddol (Atodiad B) o archwiliad o rai o'r gwaith a restrir. Ni fwriedir iddo fod yn drosolwg cynhwysfawr, ond mae wedi gosod y cyd-destun ar gyfer y gwaith hwn. Mae Jones a Wyn Jones yn dadlau, er gwaethaf nifer o Ddeddfau sydd wedi eu rhoi ar waith ac sydd wedi diwygio'r setliad datganoli, mai ychydig iawn o ymgysylltiad sy’n parhau â'r ffyrdd y mae datganoli yng Nghymru wedi effeithio ar weithrediad y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.  Cyfeirir at eu gwaith yn ymgais i symud i ffwrdd o'r dulliau sy'n canolbwyntio ar Loegr o drafod y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac i archwilio System Cyfiawnder Troseddol Cymru ar wahân.

Mae'r adroddiad hwn yn parhau i ddatblygu gwybodaeth yn y maes hwn ac mae'n canolbwyntio'n fwriadol ar blismona. Fodd bynnag, mae'n dal yn ddefnyddiol myfyrio ar yr hyn y mae'r llenyddiaeth yn ei ddweud wrthym am y themâu a'r cwestiynau allweddol, gan eu bod yn barhau’n berthnasol i'w trafod heddiw.

Llywodraethu'r Heddlu

Mae 48 o heddluoedd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys 43 o heddluoedd tiriogaethol yng Nghymru a Lloegr, heddlu cenedlaethol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a thri heddlu arbenigol sef Heddlu Trafnidiaeth Prydain, yr Heddlu Niwclear Sifil, a Heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae plismona yn y DU gan Jennifer Brown yn helpu i esbonio'n fanylach y cysyniadau allweddol sy'n sail i'r model plismona ym Mhrydain. Nid yw'r gwaith hwn wedi archwilio rôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain na'u rôl arbenigol wrth blismona rheilffyrdd Cymru.

Nid yw plismona yng Nghymru wedi ei ddatganoli ar hyn o bryd. Mae pedwar heddlu yng Nghymru: Gogledd Cymru, De Cymru, Dyfed-Powys, a Gwent. Yn ogystal, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gweithredu ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru gan ddarparu plismona arbenigol i'r rheilffyrdd.

Cydnabyddir bod y trefniadau llywodraethu presennol ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr yn gymhleth, ac ers cyflwyno Deddf yr Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, maent wedi symud i fodel atebolrwydd sy'n seiliedig ar gomisiynwyr a etholwyd yn gyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Caiff pob heddlu ei arwain gan Brif Gwnstabl, neu Gomisiynydd Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain. Ers cael gwared ar Awdurdodau Heddlu a chyflwyno Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCC) yn 2012, mae llywodraethu'r heddlu yn dibynnu ar gydweithrediad strategol y Prif Gwnstabl a'r PCC.

Nod trosglwyddo pŵer o'r Llywodraeth i bobl leol, oedd gyrru angen yn seiliedig ar leoedd, ac i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu neu Faer, yn achos Dinas Llundain, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog, ddwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif am fod yn ymatebol i'r anghenion hynny. Yn dilyn diddymu'r Awdurdod Heddlu Metropolitanaidd, crëwyd Swyddfa'r Maer ar gyfer yr Heddlu a Throsedd (MOPAC) yn Ninas Llundain, lle trosglwyddwyd pwerau'r PCC i'r maer cyn etholiadau cyntaf y PCC. Mae hefyd ddinasoedd penodol lle'r Maer etholedig hefyd yw Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Mae gan rai Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn Lloegr gyfrifoldeb dros wasanaethau tân yn ogystal â phlismona, a chyfeirir atynt yn Gomisiynwyr Heddlu, Troseddau a Thân. Mae Llywodraeth y DU yn caniatáu trosglwyddo cyfrifoldebau lle gwneir achos lleol y byddai er budd economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, neu ddiogelwch y cyhoedd (Deddf y Gwasanaeth Tân ac Achub 2004).

Ceir trosolwg defnyddiol o sut mae pwerau datganoledig yn wahanol mewn rhanbarthau o Loegr oherwydd trefniadau datganoli a gellir dod o hyd i'r rhain yn y sesiwn friffio Mark Sandford yn ei Atodiad 1.

Nid oes PCC yn yr Alban a Gogledd Iwerddon am fod y naill a’r llall yn cael eu rhedeg ar fodel llywodraethu cenedlaethol. Yng Nghymru, mae'r pedwar PCC a'r pedwar Prif Gwnstabl wedi cydweithio i gysylltu â Llywodraeth Cymru a chyrff Cymru gyfan i gefnogi'r model llywodraethu lleol ar gyfer plismona a diogelwch cymunedol.

Mae dau gorfforaeth undyn ar gyfer pob un o'r 43 heddlu. Mae'r Prif Gwnstabl yn atebol am yr holl weithgarwch gweithredol a chydlynu ymateb plismona effeithiol. Mae'r PCC, neu'r maer, yn gyfrifol am recriwtio'r Prif Gwnstabl, maent yn rheoli'r holl drefniadau ariannu, ac yn atebol i'r bobl leol. Mae tynnu’r ffin rhwng y ddwy rôl wedi bod yn heriol a cheisiodd rhan un o'r adolygiad o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCs) gan y Swyddfa Gartref egluro'r berthynas hon.

Ar gyfer yr adroddiad hwn, defnyddir y term PCC i gyfeirio at bawb sy'n arfer swyddogaethau PCC fel yr nodir uchod.

Yng Nghymru a Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol (Ysgrifennydd Cartref) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am fusnes y Swyddfa Gartref. Maent yn atebol i'r Senedd a'r cyhoedd am ddarparu Gwasanaeth Heddlu effeithlon ac effeithiol.

Mae rôl yr Ysgrifennydd Cartref yn uniongyrchol gysylltiedig â phlismona llywodraethu oherwydd y cyfrifoldebau a'r pwerau sydd ar gael iddynt. Er enghraifft, mae Deddf yr Heddlu 1996 yn ymwneud â threfnu heddluoedd, goruchwyliaeth, cyfarwyddyd, sefydliadau sy'n cynrychioli'r heddlu, tâl a chyflogau, cwynion a disgyblaeth. Diwygiodd Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 Ddeddf yr Heddlu 1996, un o'r newidiadau oedd i'r Ysgrifennydd Cartref gyhoeddi Gofyniad Plismona Strategol (SPR) y mae'n rhaid i'r Prif Gwnstabl a'r Comisiynydd Heddlu roi sylw iddo.

I grynhoi, mae'r heddlu ar hyn o bryd yn gweithredu o fewn strwythur tair rhan o ran atebolrwydd a llywodraethu'r heddlu.

Cyfeiriad a Rheolaeth

Er ei bod yn beth prin i'r Ysgrifennydd Cartref ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt, y brif ystyriaeth ar gyfer yr adolygiad hwn yw'r realiti y gall Llywodraeth y DU gyfarwyddo a rheoli gweithgarwch plismona ledled Cymru, er bod gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddufandad lleol.

Mae hyn yn codi'r potensial i flaenoriaethu gweithgareddau plismona yn dibynnu ar gynlluniau a weithredir gan lywodraeth y DU. Mae'r gwahaniaeth polisi hwn rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn achosi tensiwn yn y system y mae'n rhaid i heddluoedd yng Nghymru ei reoli.

Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref hefyd sawl cyfrifoldeb yn y DU neu yng Nghymru a Lloegr dros blismona a thrwy'r rôl honno a'r pwerau sydd ganddo, gall gyfarwyddo, goruchwylio a dwyn i gyfrif rai agweddau ar blismona sydd wedyn yn dylanwadu ar sut y caiff plismona lleol ei ddatblygu.

Er enghraifft, y Bwrdd Plismona Cenedlaethol sy’n darparu'r gallu llywodraethu i'r Ysgrifennydd Cartref oruchwylio cynnydd a gyrru gweithgaredd.

Cafodd ei sefydlu er mwyn sicrhau bod pob rhan o'r system blismona yn cydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i'r cyhoedd (Cylch gorchwyl y Bwrdd Plismona Cenedlaethol). Y Gweinidog Gwladol (y Gweinidog Troseddau, Plismona a Thân) sy'n cadeirio'r Bwrdd Perfformiad Troseddau a Phlismona. Mae'r ddau gyfarfod yn gyrru gweithgaredd plismona ar draws Cymru a Lloegr.

Mae'r Gofyniad Plismona Strategol (SPR) yn nodi barn yr Ysgrifennydd Cartref am fygythiadau cenedlaethol sy'n ddyletswydd statudol ar y rôl.[1] Mae'r SPR hefyd yn nodi galluoedd plismona cenedlaethol priodol sydd eu hangen i wrthsefyll y bygythiadau hynny. O dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, mae'n rhaid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu “gyfrannu at y galluoedd plismona cenedlaethol a rhyngwladol a nodir gan yr Ysgrifennydd Cartref” (Rôl y PCC). Dylanwadir hefyd ar blismona lleol trwy gynnwys canllawiau sy'n ymwneud â chanlyniadau, capasiti, safonau cenedlaethol, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Gweithredu hyn yw rôl y Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr (PCCs).

Gall yr Ysgrifennydd Cartref hefyd gyflwyno deddfwriaeth newydd. Er enghraifft, mae Rheoliadau Deddf Trefn Gyhoeddus 1986 (Tarfu Difrifol ar Fywyd y Gymuned) 2023 yn nodi ystod o newidiadau, gan gynnwys pwerau a throseddau newydd. Roedd y newid hwn mewn deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r Coleg Plismona (CoP) sydd â chyfrifoldeb am hyfforddi ac achredu swyddogion, ddiwygio canllawiau a hyfforddiant.  Felly mae polisi newydd, wedi ei orchymyn gan yr Ysgrifennydd Cartref, yn cael ei weithredu, ac yn dylanwadu ar y ffordd y mae plismona'n cael ei gyflawni yn lleol.

Nodir enghreifftiau ymarferol o sut y gall llywodraethu, cyfeiriad a rheolaeth effeithio ar y dull plismona ac effeithio arnynt, ac felly cymunedau, yn yr astudiaethau achos canlynol.

Astudiaeth achos 1: Deddf Dedfrydu Troseddau a Llysoedd yr Heddlu

Ar 28 Ebrill 2022, derbyniodd Deddf Dedfrydu a Llysoedd Troseddau Heddlu Llywodraeth y DU Gydsyniad Brenhinol. Roedd gan y Ddeddf hon oblygiadau sylweddol yng Nghymru oherwydd nifer y meysydd cymhwysedd deddfwriaethol datganoledig yr effeithiwyd arnynt gan y darpariaethau yn y Ddeddf – er enghraifft:

  1. Y Darpariaethau Gwersylla Anawdurdodedig: roedd y ffocws ar orfodi a phennu troseddau yn wrthgyferbyniad uniongyrchol â dull Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu a buddsoddi ar gyfer darparu trefniadau safle digonol fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol.
  2. Cyfyngu ar yr hawl i brotestio: Mae safbwynt Llywodraeth Cymru o blaid yr hawl sifil hon ac ystyriwyd bod y cyfyngiadau newydd yn rhy llym ac nad oeddent mewn synergedd â'r dull gweithredu yng Nghymru.

O ganlyniad, roedd cyflwyno Dyletswydd Trais Difrifol Cymru a Lloegr, sy'n rhan allweddol o'r ddeddfwriaeth hon, yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion Llywodraeth Cymru dreulio amser ac ymdrech yn ymgysylltu ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddrafftio canllawiau statudol; cymryd gofal bod pob maes cydsynio yn cael ei ystyried yn briodol ac y gellid gweithredu'r Ddyletswydd Trais Difrifol yng Nghymru. Roedd ymgysylltu ag arweinwyr yr heddlu yn hollbwysig drwy gydol y broses hon i sicrhau bod y canllawiau'n cynnwys pennod benodol ar gyflawni'r Ddyletswydd yng Nghymru gan gydnabod natur ddatganoledig tirwedd polisi a chyfreithiol Cymru.

Astudiaeth achos 2: Trais yn erbyn menywod a merched

Mae gan Gymru a Lloegr ddeddfwriaeth ar wahân ynghylch Trais yn erbyn Menywod a Merched. Yng Nghymru, mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gyda strategaethau a chynlluniau ategol.

Mae gan Lywodraeth y DU ystod o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â gweithredoedd Trais yn erbyn Menywod a Merched gan gynnwys Deddf Cam-drin Domestig 2021. Mae pwerau a deddfwriaeth benodol yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder troseddol. Arweiniodd hyn at Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Coleg Plismona yn cyhoeddi Fframwaith ar gyfer plismona i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Gofynnwyd i bob heddlu ddatblygu cynlluniau lleol i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol.

Arweiniodd y gwahaniaeth hwn mewn polisi at yr angen i'r heddlu, a phartneriaid, adolygu cynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i benderfynu ar ffordd ymlaen. Cyfeirir at hyn fel y dull 'Glasbrint’, sef dull ‘pontio' o weithio sy'n dod â phartneriaid datganoledig ac annatganoledig at ei gilydd, gan gynnwys plismona, cyfiawnder troseddol, a Llywodraeth Cymru i fynd at ei mewn modd integredig a sicrhau bod y gwasanaeth gorau posibl yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl Cymru.

Seilwaith Cenedlaethol a Rhanbarthol

Mae nifer sylweddol o sefydliadau a systemau technoleg gwybodaeth sy'n galluogi ac yn cefnogi rhyngweithrededd a pherfformiad gweithredol ledled Cymru a Lloegr.

Soniwyd am lawer o'r rhain gan ymatebwyr a oedd yn cydnabod y rhyngddibyniaethau presennol ac yn rhagweld yr angen i fyfyrio ar sut byddai’r berthynas yn edrych yn y dyfodol o dan fodel datganoledig o blismona i Gymru.

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg byr o'r rhai a grybwyllwyd gan ymatebwyr, felly nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr ond mae wedi'i chynnwys i ddarparu rhywfaint o gyd-destun i'r rhai nad ydynt efallai mor gyfarwydd â phlismona. Mae'r safbwyntiau am y gwahanol swyddogaethau, a sut y gallant gysylltu â phlismona yng Nghymru pe bai plismona wedi'u datganoli, wedi'u cofnodi o fewn adran 4 (themâu allweddol) a/neu adran 5 (modelau).

Y Coleg Plismona

Ar ei wefan dywed y Coleg Plismona (CoP) mai ef yw’r ‘corff proffesiynol ar gyfer yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.’ Mae'r Coleg yn gwneud tri pheth:

  • Yn gosod safonau y dylai'r heddlu eu bodloni wrth gynnal gweithgareddau drwy ddatblygu Ymarfer Plismona Awdurdodedig, sef y ffynhonnell swyddogol o ganllawiau proffesiynol er enghraifft ar arfau tanio a threfn gyhoeddus.
  • Adeiladu sylfaen dystiolaeth i'r hyn sy'n gweithio i leihau trosedd
  • Datblygu staff a swyddogion

Mae'r Coleg yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn eiddo llwyr i'r Ysgrifennydd Cartref, sydd hefyd yn unig gyfranddaliwr. Sefydlodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 sail gyfreithiol pŵer yr Ysgrifennydd Cartref ynghylch y Coleg, tra bod pwerau corfforaethol yr Ysgrifennydd Cartref yn deillio o dan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn "dod ag arweinwyr heddlu'r DU at ei gilydd i osod cyfeiriad mewn plismona a gyrru cynnydd i'r cyhoedd".

Mae prif swyddogion yn cefnogi'r NPCC drwy gymryd cyfrifoldeb am feysydd portffolio penodol sy'n ymwneud â materion trosedd a phlismona. Mae'r gwaith yn cael ei reoli drwy Gyngor Prif Gwnstabliaid, y fforwm gwneud penderfyniadau allweddol.

Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Mae Cymdeithas Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (APCC) “yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Mae'n cael ei oruchwylio a'i gyfarwyddo gan Gadeirydd etholedig a Bwrdd Cyfarwyddwyr.” Mae aelodaeth y cwmni yn ymestyn i bob PCC, Comisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu, a sefydliadau a enwir sy'n ymwneud â phlismona.

Mae'r APCC yn cynnig gwasanaethau i aelodau sy'n cynnwys:

  • Darparu gwybodaeth am faterion polisi plismona cenedlaethol a deddfwriaeth.
  • Ymgynghori â Chomisiynwyr (PCCs) i'w galluogi i ddatblygu safbwyntiau polisi ac i ddylanwadu ar newid.
  • Hwyluso arweinyddiaeth Comisiynwyr (PCCs) ar strwythurau llywodraethu cenedlaethol megis y Coleg Plismona, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, cyrff proffesiynol eraill yr heddlu, a chyrff tân ac achub.
  • Darparu amrywiaeth o gyfleoedd i aelodau ddod at ei gilydd i drin a thrafod polisi plismona cenedlaethol a chyfiawnder troseddol ac ymgysylltu ag uwch randdeiliaid.
  • Cynorthwyo Comisiynwyr (PCCs) i rannu arfer a nodi ffyrdd o gyflawni effeithlonrwydd drwy gydweithio.
  • Cefnogi Comisiynwyr (PCCs) sy'n ceisio ymgymryd â chyfrifoldebau llywodraethu tân ac achub a'u cyflawni.

Unedau Plismona Cenedlaethol

Mae sawl uned a chorff sy'n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, er enghraifft Plismona Gwrthderfysgaeth a Gwasanaethau Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol. Mae'r NPCC yn rhestru pob un o’r rhain gyda'u meysydd cyfrifoldeb penodol ar eu gwefan. Mae pob un o'r rhain yn ategu llif deallusrwydd, gwybodaeth a neu'n darparu cymorth gweithredol arbenigol i weithgareddau plismona.

Canolfan Genedlaethol Cydlynu'r Heddlu

Mae Canolfan Genedlaethol Cydlynu'r Heddlu (NPoCC) yn darparu cymorth i heddluoedd ledled y DU, Dibyniaethau ar y Goron a Thiriogaethau Tramor Prydain.[1] Mae'n darparu swyddogaeth gydlynu ganolog ar gyfer plismona'r DU, er enghraifft cydlynu'r ymateb plismona cenedlaethol i bandemig Covid-19 (Ymgyrch Talla). Mae hefyd yn cefnogi Prif Swyddogion y Pwyllgor Argyfyngau Sifil (COBR) ac yn cynrychioli plismona'r DU mewn cyfarfodydd strategol ar lefel swyddogol neu weinidogol sy'n ymwneud â phrotest neu anhrefn.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Cenhadaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) “yw amddiffyn y cyhoedd rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol trwy dargedu a dilyn y troseddwyr hynny sy'n achosi'r risg fwyaf i'r DU.” Wedi'i sefydlu gan y Ddeddf Troseddu a'r Llysoedd yn 2013 mae'r asiantaeth yn adran gwasanaeth sifil anweinidogol; mae'n weithredol annibynnol ac yn atebol i'r Senedd drwy'r Ysgrifennydd Cartref. Mae'n gweithredu ar draws y DU, gan barchu datganoli plismona.

Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol

Mae deg Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) ledled Cymru a Lloegr sy'n sicrhau bod ystod o alluoedd arbenigol i ymchwilio i droseddau cymhleth a thrawsffiniol trefnus. O ddiddordeb uniongyrchol i'r adroddiad hwn yw bod dau ROCU yn cefnogi gweithgarwch gweithredol ledled Cymru. Mae ROCU Gogledd-orllewin Lloegr yn cynnwys Gogledd Cymru yn ogystal â lluoedd eraill yng Ngogledd Orllewin Lloegr, ac mae ROCU De Cymru (TARIAN) yn cynnwys tri llu Cymreig arall De Cymru, Gwent, a Dyfed-Powys.

Mae pob un o'r unedau ROCU yn gweithio'n agos gyda'r NCA, yr heddlu a phartneriaid.

Seilwaith a Chefnogaeth Benodol i Gymru

Mae amrywiaeth o drefniadau llywodraethu ac ymarferol yng Nghymru sy'n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac yn pennu’r trywydd ar gyfer darpariaeth leol ar draws tirwedd y bartneriaeth sy'n unigryw i Gymru. Er enghraifft, mae meysydd datganoledig megis diogelu a chamddefnyddio sylweddau, sydd hefyd yn flaenoriaethau ar gyfer plismona, yn rhyng-gysylltiedig trwy fyrddau rhanbarthol a lleol mewn gwahanol alluoedd strategol a gweithredol.

Mae hefyd drefniadau penodol sydd wedi'u crybwyll yn llywodraethu cenedlaethol allweddol sy'n dod â phartneriaid datganoledig a phartneriaid heb eu datganoli at ei gilydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau penodol i Gymru mewn ffyrdd a nodir yn neddfwriaeth allweddol Cymru.

Y tair prif enghraifft a roddwyd gan ymatebwyr oedd:

Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru

Cafodd Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ei gychwyn yn 2018 gan Fwrdd Plismona Cymru. Mae'r Bwrdd wedi aeddfedu ers yr amser hwnnw ac yn dwyn ynghyd bartneriaid datganoledig allweddol a phartneriaid nad ydynt wedi'u datganoli i drafod materion allweddol mewn perthynas â phlismona a diogelwch cymunedol. Mae'r cyfarfod chwarterol yn cael ei gynnull gan Blismona yng Nghymru ac fe'i cadeirir ar eu gwahoddiad naill ai gan y Prif Weinidog (unwaith y flwyddyn) neu Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Pan fydd y Prif Weinidog yn cadeirio, mae Gweinidog Plismona Llywodraeth y DU yn ymuno â'r cyfarfod, ond ceir cynrychiolaeth reolaidd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, swyddogion y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Mae'r cyfarfod yn fforwm dan arweiniad yr Heddlu sy'n trafod ac sy’n cynghori ar faterion plismona sy'n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Er nad oes iddo sail statudol, caiff ei ystyried yn hanfodol gan lawer o'r rhai y siaradwyd â nhw wrth bontio'r bwlch rhwng gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru. Am ei fod yn dod â Phrif Gwnstabliaid, Comisiynwyr, uwch swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, partneriaid CJS ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd, mae gan y Bwrdd agenda eang. Mae eitemau agenda blaenorol wedi cynnwys iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, trais yn erbyn menywod a merched a gwrth-hiliaeth. Mae'n darparu fforwm i drafod plismona a materion partneriaeth eraill ar draws agweddau datganoledig ac annatganoledig o ran darparu gwasanaethau ac yn mynd i'r afael â rhai o'r materion cyffredin sy'n effeithio ar bobl Cymru.

Mae'r bwrdd yn rhoi cyfle i ddeall sut i gynyddu effaith cydweithio mewn cyd-destun Cymreig i'r eithaf a sicrhau bod dull cefnogol a chydgysylltiedig o fynd i'r afael â heriau.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) statudol a disodlodd y Byrddau Gwasanaethau Lleol gwirfoddol ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae'n ofynnol i bob bwrdd asesu cyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal a gosod amcanion sydd wedi'u cynllunio i gynyddu ei gyfraniad i'r nodau llesiant cenedlaethol. Aelodau statudol pob BGC yw'r cyngor lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae BGCau yn gwahodd Gweinidogion Cymru, prif gwnstabliaid, y Comisiynydd Heddlu a Troseddu ar gyfer eu hardal, rhai gwasanaethau prawf, ac o leiaf un corff sy'n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol lleol perthnasol, i gymryd rhan.

Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Sefydlwyd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ym mis Ionawr 2021 a hwn yw'r llais strategol sy'n hyrwyddo ac sy’n cysylltu pawb sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol yng Nghymru fel y gallant greu cymunedau mwy diogel yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac yn llywio datblygiad polisi cenedlaethol ac arfer lleol. Mae'r aelodau yn bartneriaid allweddol sy'n ymwneud â darparu diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Leol, Plismona yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Tân ac Achub, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaeth Prawf a'r Trydydd Sector, ac maent yn gweithio'n agos gyda Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol lleol.

Cefnogaeth a Llesiant yr Heddlu

Cyfamod yr Heddlu

Mae Cyfamod yr Heddlu yn gydnabyddiaeth gan y llywodraeth, plismona a chymdeithas gyfan, sy’n nodi’r aberth a wnaed gan y rhai sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio yn y lluoedd heddlu o'r blaen. Y bwriad yw sicrhau nad yw swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a'u teuluoedd o dan anfantais o ganlyniad i'w gwasanaeth yn yr heddlu a cheisio lliniaru'r effaith y gallai hyn ei chael arnynt hwy a'u teuluoedd.

Mae'r Swyddfa Gartref yn darparu diweddariad blynyddol ar gynnydd o ran blaenoriaethau i'r Senedd, yn unol ag Adran 1(1) Deddf yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd 2022.

Yn ymarferol, bydd y cyfamod:

  • yn gosod gofyniad cyfreithiol ar y llywodraeth i adrodd yn flynyddol wrth y Senedd ar faterion sy'n ymwneud â lles, llesiant a chymorth yr heddlu
  • yn anelu at wella profiad gwaith pobl mewn plismona
  • yn helpu i hwyluso'r broses o drosglwyddo allan o’r heddlu i’r rhai sy’n gadael yr heddlu
  • darparu cefnogaeth i deuluoedd y rhai sy'n gweithio ym maes plismona

Oscar Kilo: Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu

Sefydlwyd Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS) i gydnabod yr angen i ddarparu cefnogaeth i unigolion, teuluoedd a sefydliadau. Mae gwefan Oscar Kilo yn cynnig arweiniad, mynediad at gymorth, hyfforddiant a phecynnau offer ac mae'r holl wasanaethau wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer plismona i wella lles a chefnogi camu i fyw'n iach.

Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu

Sefydlwyd Cymdeithas Staff Prif Swyddogion yr Heddlu (CPOSA) i wella uwch arweinyddiaeth gwasanaeth yr heddlu drwy rannu arfer gorau, cynghori ar faterion deddfwriaethol a rheoleiddiol a chynrychioli buddiannau prif swyddogion yr heddlu ac uwch staff yr heddlu mewn materion cenedlaethol. Daeth CPOSA yn gwmni cyfyngedig drwy warant ar 16 Ionawr 2015 a'i nod yw cefnogi a chynnig arweiniad i'w aelodau ar faterion sy'n ymwneud ag amodau gwasanaeth, camymddwyn, materion cyflogaeth a lles.

Cymdeithas Uwcharolygwyr yr Heddlu

Mae Cymdeithas Uwcharolygwyr yr Heddlu (PSA) yn cynrychioli Uwcharolygwyr a Phrif Uwcharolygwyr mewn 49 o luoedd, gan gynnwys y 43 o heddluoedd yn y Swyddfa Gartref. Mae pum ardal wedi'u grwpio ar sail daearyddiaeth ond hefyd wrth ystyried cymysgu grymoedd mwy a llai gyda'i gilydd. Mae lluoedd Cymru mewn Dosbarth sydd hefyd yn cynnwys heddluoedd De-orllewin Lloegr, sef cyfanswm o naw heddlu i gyd. Yn 2018 daeth y Gymdeithas yn gwmni cyfyngedig preifat.

Caiff aelodau eu hethol yn lleol ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd lleol gyda chyfarfodydd rhanbarthol yn cael eu cynnal mewn cylchdro ar draws yr ardal berthnasol. Mae swyddogion cenedlaethol, sydd hefyd yn cael eu hethol, yn mynychu pob un o'r cyfarfodydd ardal.

Mae Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol (NEC) sy'n cynnwys cynrychiolwyr ardal, aelodau a etholir yn genedlaethol, a phum aelod lle neilltuedig y mae un o'r lleoedd hyn ar gyfer aelodau o Gymru.

Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr

Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW) yw'r gymdeithas staff ar gyfer swyddogion rheng cwnstabl hyd at a chan gynnwys prif arolygwyr ac mae'n cynnwys cwnstabliaid arbennig. Nhw yw'r corff cenedlaethol a swyddogol sy'n cynrychioli staff yr heddlu, gan gynnig cymorth iddynt ar faterion megis tâl, lwfansau, telerau ac amodau. Maent yn lleisio barn yr aelodaeth ar lefel genedlaethol ac yn cymryd rhan ar lefel strategol mewn materion plismona a materion gweithredol.

Mae cynrychiolwyr Ffederasiwn ym mhob llu yng Nghymru a Lloegr sydd wedi'u hyfforddi'n benodol i gynnig cyngor a chefnogaeth. Gelwir yr unigolion hyn yn aelodau o'r gangen. Maent yn cael eu hethol gan aelodau o'r llu hwnnw ac mae cynrychiolwyr yn gwneud gwaith ochr yn ochr â'u dyletswyddau yn swyddog heddlu. Mae pob llu yn aelod o ranbarth, ac mae 8 ohonynt ar draws Cymru a Lloegr. Rhanbarth 7 yw Cymru ac mae'n cynnwys pob un o'r pedwar llu yng Nghymru.

Craffu ar yr Heddlu

Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi

Yr yn sydd i’w nodi ar gyfer yr adroddiad hwn yw bod y gwasanaeth tân wedi'i ddatganoli yng Nghymru ac felly mae gwaith yr Arolygiaeth yng Nghymru yn canolbwyntio ar graffu ar berfformiad y pedwar heddlu.

Wedi'i sefydlu ym 1856 mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) yn annibynnol ar y llywodraeth, yr heddlu a'r heddlu ac awdurdodau tân ac achub. Mae'n ofynnol iddynt ddarparu adroddiad blynyddol i'r Ysgrifennydd Cartref o dan adran 54(4A) o Ddeddf yr Heddlu.

Maent hefyd yn gyfrifol am gynnal arolygiadau o'r holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ac mae gan HMICFRS bwerau statudol i archwilio ac adrodd ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd pob heddlu.

Paneli Heddlu a Throseddu

Rôl Paneli'r Heddlu a Throseddu yw “craffu ar weithredoedd a phenderfyniadau eu PCC, gan ddarparu cefnogaeth a her, gan weithredu’n gyfaill beirniadol”. Maent ar waith i graffu ar weithgaredd y Cyngor a sicrhau gwell canlyniadau i'r cyhoedd.

Nid yw paneli yng Nghymru yn gyrff o awdurdod lleol fel y maent yn Lloegr oherwydd trefniadau llywodraeth leol datganoledig yng Nghymru. Yn hytrach, yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n eu sefydlu.

Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn disgrifio eu hunain "yn gorff gwarchod cwynion yr heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr". Mae’n ymchwilio i gwynion difrifol ac yn arwain materion sy’n ymwneud â'r heddlu. Maent hefyd yn pennu’r safonau y dylai'r heddlu ymdrin â chwynion danynt.

Mae trefniadau craffu lleol eraill hefyd ar waith mewn heddluoedd, er enghraifft mae gan rai grwpiau rhanddeiliaid annibynnol penodol i adolygu tactegau ac ystadegau stopio a chwilio.

Cyllid yr Heddlu

Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am ariannu 43 o heddluoedd tiriogaethol Cymru a Lloegr. At ddibenion yr adroddiad hwn ymdrinnir â rhywfaint o gyd-destun ar ariannu ffurfiol a llwybrau cyllido posibl. Ni fwriedir i hyn fod yn rhagnodol gan y cydnabyddir bod Llywodraeth Cymru maes o law yn disgwyl cynnal darn penodol o waith i ddeall holl oblygiadau ariannol model datganoledig o blismona i Gymru. Fodd bynnag, nododd mwyafrif y rhanddeiliaid fod cyllid yn un o'r prif risgiau i lwyddiant datganoli plismona. Yn y cyd-destun hwn y darperir trosolwg o rai o'r trefniadau ariannu presennol. Bydd angen ystyried trefniadau ariannu'r dyfodol, i gynnwys trafodaethau ar feysydd penodol megis cyflogau a phensiynau, i gyd er mwyn sicrhau bod unrhyw setliadau yn wydn ac nad ydynt yn arwain at unrhyw ddiffyg canlyniadol a fydd yn effeithio'n negyddol ar wasanaethau plismona'r dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU yn adolygu'n rheolaidd sut y bydd yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod mewn ymarferion a elwir yn Adolygiadau Gwariant. Amlinellir manylion y rhain a chytunir arnynt bob blwyddyn. Mae'r Ysgrifennydd Cartref o dan adran 46(3) o Ddeddf yr Heddlu 1996 yn paratoi adroddiad sy'n nodi manylion y grant at ddibenion yr heddlu a'r ystyriaethau a gaiff sylw. Gelwir yr adroddiad hwn yn Adroddiad Grant yr Heddlu y mae Senedd y DU yn pleidleisio arno. Ynghyd â chyhoeddi'r adroddiad hwn mae Datganiad Gweinidogol Ysgrifenedig sydd yn aml yn cynnwys gwybodaeth am drefniadau cyllido eraill sydd ar waith, megis cyllid uniongyrchol ar gyfer blaenoriaethau plismona cenedlaethol.

Cyfrifir cyllid y llywodraeth ganolog a dderbynnir gan bob heddlu gan ddefnyddio fformiwla dyrannu yr heddlu (PAF). Y consensws, gan uwch arweinwyr ym maes plismona, yw bod y dylid ystyried model dyrannu cyllid newydd am fod y dull cyfredol wedi dyddio a bod angen iddo newid. Mae'r rhesymeg sy'n cefnogi'r angen i adolygu'r dull hwn yn gysylltiedig â'r fformiwla hithau a'r dyraniad dilynol. Mae'r ffordd y cyfrifir y fformiwla wedi arwain at lefel uwch o doriadau yng nghyllidebau heddlu ar gyfer heddluoedd mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn yn dibynnu'n fwy helaeth ar gyllid grant canolog yn hytrach na phraesept y dreth gyngor oherwydd na all ardal sydd â thai cost is godi cymaint o’r dreth gyngor. Mae llywodraeth bresennol y DU wedi nodi bwriad i adolygu'r fformiwla ariannu.

Mae'r Comisiynwyr yn pennu praesept heddlu lleol sy'n ffurfio rhan o'r Dreth Gyngor. Yn Lloegr, diddymodd Deddf Lleoliaeth 2011 gapiau llywodraeth ganolog a gwnaeth ddarpariaeth ar gyfer cynnal refferenda rhwymol ar godiadau gormodol ar dreth gyngor.

Felly, mae'n rhaid cynnal refferendwm yn lleol lle mae treth gyngor awdurdod yn uwch nag egwyddorion y refferendwm a bennwyd gan Lywodraeth y DU.

Os bydd cyllid canolog yn cynyddu llai na chwyddiant, gall y rhan fwyaf o heddluoedd ddibynnu yn unig ar godi praesept y dreth gyngor i dalu costau cynyddol. Mae'r ardaloedd heddlu hynny a oedd â phraesept cymharol isel yn y dreth gyngor wedi canfod bod cyllid yn her gan ei fod wedi lleihau gallu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i godi refeniw ar gyfer plismona drwy’r dulliau hwn. Mae'r ddibyniaeth ar y dreth gyngor yn effeithio'n anghymesur ar rai heddluoedd.

Mae’r Dreth Gyngor yng Nghymru yn fater datganoledig ac nid yw awdudurdau lleol na Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn ddarostyngedig i'r egwyddorion refferendwm hyn. Yng Nghymru, caiff awdurdodau lleol bennu eu lefel eu hunain o ran codiadau treth gyngor ond mae Gweinidogion Cymru yn cadw’r hawl i gapio awdurdodau a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru wedi cael y cyfle i ddylanwadu ar gyllid ac mae niferoedd Swyddogion Heddlu Cymru wedi aros, o ganlyniad, yn uwch mewn cymhariaeth, fel y mae'r praeseptau. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at y rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru yn dod gan bobl Cymru yn hytrach na grantiau canolog.

Ar adegau, mae'r Swyddfa Gartref yn cynnig grantiau wedi'u neilltuo i ariannu ei blaenoriaethau cenedlaethol canfyddedig. Gall hyn fod yn ddarpariaeth a budd i blismona. Er enghraifft, ym mis Medi 2019 cyhoeddodd y Prif Weinidog ymrwymiad Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol yng Nghymru a Lloegr erbyn 31 Mawrth 2023. Sylwer: gallai heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddod o hyd i gyllid, a derbyniodd heddluoedd swm cyfrannol o gyllid i gynyddu nifer eu swyddogion. Ar ôl siarad â chydweithwyr yng Ngwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a Heddlu’r Alban ni wnaed y penderfyniad hwn eto gan eu llywodraethau priodol.

Mae hefyd allu mewn deddfwriaeth i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu adfer costau ar gyfer gwasanaethau plismona. Yn gyffredinol, mae'r gallu i godi tâl am wasanaethau'r heddlu yn cael ei bennu gan ddarpariaethau statudol. Mae dogfen a luniwyd gan y NPCC, National Police Guidelines on Charging for Police Services, am ganllawiau cenedlaethol yr heddlu ar godi tâl am wasanaethau'r heddlu yn rhoi arweiniad ar faterion o'r fath

Heriau plismona a nodwyd mewn llenyddiaeth

Mae'r trosolwg hwn yn tynnu ar rai cyhoeddiadau proffil uchel rhwng 2022 a 2024 ac yn ceisio datblygu gwerthfawrogiad o'r cyd-destun plismona ehangach y mae heddluoedd Cymru yn gweithredu ynddo.

Nododd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddu (CIPFA), mewn data perfformiad a gasglwyd yn 2023 fod 51% o bobl yn teimlo bod eu heddlu lleol yn gwneud gwaith da neu ardderchog. Mae hynny'n cyfateb i ostyngiad o 5 pwynt canran o’i gymharu â 2019/20 a'r gyfran isaf ers o leiaf 2009.

Mae Sefydliad yr Heddlu, wrth gynnal eu hadolygiad strategol diweddar o blismona a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn dechrau drwy ddweud bod "argyfwng hyder" mewn plismona. A'r adroddiad yn galw am:

ddiwygio gwreiddiau a changen i'n gwasanaeth heddlu fel ei fod yn gallu cwrdd â heriau'r dyfodol, darparu gwasanaeth gweddus a sicrhau hyder y bobl.

(Redesigning policing and public safety for the 21st century, p6)

Yn gryno, dyma'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.

  • Atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf a symud i ddull ataliol mwy rhagweithiol gyda chreu Asiantaeth Atal Troseddau newydd.
  • Gwella'r gallu i ddelio â throseddau cyfundrefnol trawsffiniol a difrifol trwy gryfhau gallu Cenedlaethol a Rhanbarthol gyda chyllid priodol.
  • Cryfhau plismona lleol a chymdogol.
  • Mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn arbennig o ran arbenigol a gallu ditectif.
  • Sicrhau bod technoleg yn cefnogi effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd plismona.
  • Rhagweld a nodi tueddiadau drwy greu Uned Strategaeth Troseddau a Phlismona newydd i alluogi'r Swyddfa Gartref i fod yn rhagweithiol nid yn unig yn adweithiol.
  • Dylai fod gan y Coleg Plismona bwerau i yrru safonau ac effeithlonrwydd.

Nododd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) y materion allweddol canlynol yn eu hasesiad blynyddol ar gyfer yr Ysgrifennydd Cartref.

  • Mae gostyngiad sylweddol mewn ymddiriedaeth a hyder.
  • Erbyn 2024 bydd gan 38% o'r holl swyddogion heddlu lai na phum mlynedd o wasanaeth.
  • Mae mwy na phedwar o bob deg swyddog sy'n cael eu recriwtio drwy'r rhaglen codi i fyny yn fenywod, ond mae amrywiaeth o ran recriwtio a chadw yn parhau’n broblem.
  • Nid yw'r system ariannu yn ateb y diben.
  • Mae'r system gyfan (yr heddlu, gwasanaeth erlyn y goron, carchardai, gwasanaeth prawf) yn gymhleth ac nid yw mor effeithlon nac effeithiol ag y mae angen iddo fod.
  • Mae materion cymdeithasol wedi cael effaith sylweddol ar rôl yr heddlu sydd angen ystyriaeth bellach o fewn y cyd-destun system gwasanaethau cyhoeddus ehangach.
  • Her i flaenoriaethu adnoddau a'r effaith ganlyniadol ar ddioddefwyr ac ymchwiliadau troseddol.
  • Diffyg adnoddau plismona cymdogaeth pwrpasol.
  • Defnyddio stopio a chwilio, ond yn fwy eang sut mae'r heddlu'n rhyngweithio â phobl a'r effaith ar gymunedau.
  • Absenoldeb consensws y cytunwyd arno ynghylch gwneud penderfyniadau ymhlith y 43 Prif Gwnstabl a 43 Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
  • Strwythur presennol heddluoedd a'r angen am leoliaeth, gyda chefnogaeth ranbarthol a chenedlaethol.
  • Pwysigrwydd arolygiadau annibynnol a'r angen i ymateb yn briodol i'r argymhellion a wnaed i weinidogion sy'n peryglu ac sy’n sbarduno gwelliant.
  • Yr angen i wella safonau a diwylliant, ffocws ar fetio trylwyr.
  • Cyflog, denu talent, recriwtio a chadw swyddogion.

Sylwer bod llawer o'r materion a godwyd wedi eu crybwyll gan ymatebwyr yn ystod y cyfweliad. Lle mae hyn wedi bod yn wir, amlygwyd ei fod yn helpu i ysgogi trafodaeth bellach gan fod cwestiwn sylfaenol, wrth gwrs, ynghylch sut y gallai model plismona datganoledig yng Nghymru helpu i ysgogi gwelliant.

Adran 4: Themâu allweddol

Mae'r adran hon yn rhoi trosolwg o'r heriau, y risgiau, y cyfleoedd a'r buddion sy'n gysylltiedig â datganoli plismona i Gymru a nodwyd drwy ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol yn rhan o'r prosiect hwn. Mae'n tynnu allan y themâu allweddol a nodwyd yn y dadansoddiad ac yn rhoi trosolwg o'r safbwyntiau a roddir gan ymatebwyr mewn perthynas â'r themâu hynny. Pan nodwyd heriau a risgiau, rydym wedi cynnig mesurau lliniaru posibl.

Thema allweddol: Cyfleoedd

Wrth drafod y cyfleoedd a gynigir gan ddatganoli plismona i Gymru, tueddai'r ymatebion i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol. Ymhlyg o fewn llawer o'r ymatebion oedd y gallu i wella'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i bobl yng Nghymru.

  • Y cyfle i alinio plismona â phartneriaid eraill a ffurfioli trefniadau partneriaeth yng Nghymru.
  • Y gallu i alinio plismona'n fwy effeithiol o fewn y dull gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru.
  • Y cyfle i ail-ddychmygu gweledigaeth, diwylliant ac ethos plismona yng Nghymru.

Yr Heddlu a Phartneriaethau

Un o'r themâu allweddol a oedd yn gyson ar draws ymatebion wrth drafod datganoli plismona oedd y cyfleoedd yr awgrymodd pobl y byddai'n eu cael ar gyfer trefniadau partneriaeth yng Nghymru, drwy hwyluso lefelau uwch o gydweithredu a gwell aliniad plismona â gwasanaethau datganoledig eraill yng Nghymru.

O ystyried y berthynas rhwng troseddoldeb ac achosion cymdeithasol troseddu, a'r pwyslais ar atal yng Nghymru, ystyrid yr angen am aliniad effeithiol rhwng yr heddlu a gwasanaethau datganoledig yng Nghymru yn fudd hanfodol i ddatganoli ymhlith yr ymatebwyr. Cyfeiriodd ymateb cyson gan gyfranogwyr at y ffaith fod y setliad datganoli presennol yn atal plismona rhag cael ei alinio'n llawn â phartneriaid eraill, oherwydd diffyg pwerau Llywodraeth Cymru i osod cyfeiriad strategol ar gyfer plismona, a'r potensial i bolisi'r Swyddfa Gartref roi plismona yng Nghymru mewn gwrthdaro â phartneriaid datganoledig.

Mae'n bwysig nodi bod bron pob ymatebydd yn tynnu sylw at y ffaith fod y trefniadau partneriaeth presennol yn effeithiol ac yn gweithio'n dda, er gwaethaf heriau'r amgylchedd datganoledig ac annatganoledig, a bod cryfder perthnasoedd proffesiynol wedi helpu i liniaru yn erbyn y mater hwn o alinio. Er enghraifft:

"Rwy'n credu o fy safbwynt i yng Nghymru bod sefydliadau datganoledig ac annatganoledig yn fy marn i yn fedrus iawn wrth weithio gyda'i gilydd i ddarparu'r gorau i'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwy'n credu ein bod ni'n parchu'r swyddi sydd gennym ni i gyd, ac rwy'n credu ein bod ni'n llywio o'u cwmpas, a bod yn onest. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod adroddiad Thomas yn sôn am y rhwyg rhwng cyrff datganoledig a chyrff annatganoledig, ac rwy'n credu os edrychwch chi ar rywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud, er enghraifft, fel rydych chi'n gwybod beth mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, does gennym ni ddim, mae gennym ni gyrff datganoledig ac annatganoledig o gwmpas y bwrdd sydd i gyd yn canolbwyntio'n wirioneddol ar y nod o gyflawni'r gorau y gallwn ni i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Mae'r heddlu wedi'u cysylltu'n dda â strwythurau partneriaeth lleol a rhanbarthol ac fe'u gwelwyd yn cydweithredu â mentrau a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru, ac yn eu cefnogi, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gwaith gwrth-hiliaeth ac agendâu ynghylch cyfiawnder ieuenctid, cyfiawnder benywaidd a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol (VAWDASV), er gwaethaf diffyg ysgogiadau statudol ffurfiol i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo'r heddlu.

Darparwyd sawl enghraifft o sut mae hyn yn gweithio'n dda yn ymarferol ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • Grŵp Cynghori Cymru rhwng HMICFRS, Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu sy'n creu cyfle i drafod trefniadau partneriaeth, a'r cyd-destun Cymreig i ehangu dealltwriaeth o sut mae plismona'n gweithredu yng Nghymru.
  • Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru sy'n dod â phartneriaid datganoledig a phartneriaid annatganoledig ynghyd i yrru camau yn erbyn meysydd blaenoriaeth o fewn y system gyfiawnder gyfan.
  • Uned Cyswllt yr Heddlu sy'n darparu'r rhyngwyneb rhwng plismona a Llywodraeth Cymru i wella cyfathrebu a chydlynu.
  • Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cyfiawnder Troseddol i Gymru: Mentrau cenedlaethol sy'n darparu ysgogiad ar gyfer cynwysoldeb sydd, o’u trafod yn un peth, yn dod â sefydliadau ynghyd, yn rhai datganoledig, ac annatganoledig, gan sicrhau ymrwymiad gan bawb i yrru cynnydd.
  • Fforwm Gwydnwch Cymru a Bwrdd CONTEST Cymru Cymru sy'n darparu strwythur llywodraethiant a phartneriaeth strategol ynghylch Argyfyngau Sifil Wrth Gefn a Gwrthderfysgaeth.

Ar draws yr ymatebion cafwyd consensws cyffredinol bod cydweithredu, ar lefelau strategol a gweithredol yng Nghymru, bod cydweithredu, perthnasoedd a phartneriaeth yn effeithiol. Nid oedd unrhyw arwydd clir bod y trefniadau presennol yn arwain at berthnasoedd gwaith anghynaladwy neu heriau anorchfygol.

Fodd bynnag, er yr ystyrid y trefniadau partneriaeth presennol yn gadarnhaol yn bennaf, nododd yr ymatebwyr eu natur fregus, o ystyried natur wirfoddol cyfranogiad ac absenoldeb pwerau statudol i orfodi'r heddlu i gymryd rhan mewn trefniadau partneriaeth o'r fath yng Nghymru (ac eithrio deddfwriaeth bresennol yng Nghymru a Lloegr sy'n gofyn am drefniadau partneriaeth megis Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998). Dywedodd un o'r ymatebwyr:

"Mae pethau fel Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol... Does dim rhwymedigaeth statudol i ni fod yn rhan o hynny. Ac wedyn mae'r rhain yn bethau lle dim ond ewyllys da sy’n gwneud i ni ymgysylltu ac yn cymryd rhan ynddyn nhw. Ac yna ychydig ymhellach i ffwrdd wedyn pethau fel wel, yn ehangach wedyn mae'n debyg ymhellach i ffwrdd, ond cyd-destun ehangach pethau fel y byrddau cyfiawnder troseddol eto lle rydyn ni'n dod at ein gilydd i Fwrdd Partneriaeth Plismona ar lefel Cymru gyfan, Plismona Cymru ac yn arbennig Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan. Unwaith eto, mae hynny wedi'i adeiladu ar ewyllys da yn y diwedd. Pe bai unrhyw un o'r partneriaid yn troi o gwmpas, dyweder, does dim rhaid i mi wneud hyn, rwy'n, dydw i ddim yn mynd i... allan nhw ddim cael eu gorfodi i mewn iddo, ond nid eich bod chi eisiau gorfodi unrhyw un. Ond does dim strwythur yno sydd mewn gwirionedd yn rhoi cyfrifoldeb statudol i unrhyw un fod yn rhan o'r holl weithgarwch hwnnw yng Nghymru."

Yn unol â hynny, er y nodwyd bod trefniadau llywodraethu megis Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn gweithio'n dda, roeddent yn agored i niwed i unigolion a oedd yn dewis peidio â chymryd rhan neu gydweithredu yn y cyfarfodydd partneriaeth hynny. Yn yr un modd, gallai cytundebau neu ymrwymiadau a wnaed yn rhan o'r strwythurau llywodraethu hyn gael eu tanseilio gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref yn y dyfodol os nad yw'r cyd-destun Cymreig yn cael ei ystyried yn llawn neu os bydd y Swyddfa Gartref am symud i gyfeiriad gwahanol i’r trafodaethau yng Nghymru. Fel y codwyd o'r blaen, mae'r gwahaniaeth polisi hwn yn her i'w llywio ac yn aml mae'n golygu adnoddau ychwanegol neu weithio mewn amgylcheddau sydd eisoes dan bwysau. Roedd enghreifftiau o hyn yn cynnwys strategaethau ynghylch plismona camddefnyddio sylweddau, yr ymagwedd at ymatebion iechyd meddwl gan yr heddlu, gwaith yn ymwneud â dioddefwyr mudol cam-drin domestig lle gwelwyd bod cyfyngiadau ar yr hyn a oedd yn bosibl oherwydd y gwahanol ddulliau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Codwyd hefyd fod y Swyddfa Gartref yn aml yn creu mentrau neu ddulliau newydd i ymdrin â phroblemau, ac o ganlyniad mae cynlluniau'n cael eu creu, neu grwpiau partneriaeth newydd wedi'u sefydlu, ond does dim ystyriaeth o'r ffaith fod trefniadau eisoes ar waith yng Nghymru. Mae hyn yn rhwystredig ac, fel y dywedodd un ymatebydd, yn wastraff amser ac ymdrech. Un enghraifft a ddarparwyd oedd Partneriaethau Trais Difrifol yng Nghymru, sydd â rhwydwaith Diogelwch Cymunedol gweithredol ac ymgysylltiedig o hyd a dulliau presennol i weithredu'r ddyletswydd. 

Gwelwyd bod hyn yr un fath ar lefel weithredol. Enghraifft a roddwyd oedd Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid, Cyfiawnder Menywod a Thrais yn erbyn Menywod Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i fenywod lle ystyriwyd bod penderfyniad i weithredu yn seiliedig ar gryfderau perthnasoedd a chydweithrediad gwirfoddol, yn hytrach na glynu wrth gynllun – ond gellid tanseilio hynny pe bai partneriaid strategol allweddol yn cymryd safbwynt gwahanol. Man gwan posibl arall ar y lefel weithredol, a allai effeithio ar y gwaith Glasbrintiau ond sydd hefyd yn darparu heriau o ddydd i ddydd yng nghymunedau Cymru, oedd y gellir gwneud penderfyniadau yn San Steffan weithiau nad ydynt yn cyd-fynd â'r dulliau y cytunwyd arnynt yng Nghymru; gall hyn greu heriau i bartneriaid eu llywio a’u trafod. Amlygwyd pa mor fregus yw'r trefniadau presennol a'r diffyg pwerau statudol i gyfarwyddo partneriaid plismona yn her o ran datblygu strategaethau a phartneriaethau tymor hir oherwydd yr ansicrwydd cysylltiedig ynghylch a ellid cynnal ymrwymiadau plismona yn y tymor hwy yn dibynnu ar newidiadau personél neu benderfyniadau y Swyddfa Gartref yn y dyfodol.

Byddai bywyd yn llawer symlach pe bai rhai o'r perthnasoedd allweddol hyn yn symlach oedd yn y lle datganoledig ac roeddem yn gallu dweud yn gwbl hyderus eich bod yn gwybod ein bod ni’n gweithio gyda chi rydym yn eich cydnabod fel partneriaid dibynadwy i ddeall o ble rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn dod a gallwn ni weithio ymlaen gyda'n gilydd yn hytrach na theimlo y gallai unrhyw ran o hyn gael ei herio o'r tu allan.

Pwysleisiwyd hefyd fod yr ystyriaethau ymarferol wrth ddatblygu strategaethau a chynigion i fynd i'r afael â heriau o fewn cymunedau Cymru ar lefelau strategol, rhanbarthol a lleol, yn cymryd mwy o amser ac yn fwy cymhleth oherwydd gorfod trafod a llywio beth oedd yn bosibl neu'n ganiataol i blismona ymgysylltu â hwy ac i ba lefel.

Soniodd yr ymatebwyr hefyd am amrywiol heriau a oedd yn ymwneud â gwneud penderfyniadau'r Swyddfa Gartref nad oeddent, o reidrwydd, yn rhoi ystyriaeth lawn nac yn ystyried trefniadau gwahanol yng Nghymru. Yna roedd materion o'r fath yn gofyn am amser ac ymdrech wrth bennu goblygiadau polisïau o'r fath i Gymru neu gysylltu â'r Swyddfa Gartref i godi ymwybyddiaeth o'r cyd-destun Cymreig mewn ymgais i brofi'r penderfyniadau hynny neu reoli perthynas â rhanddeiliaid eraill yn y gofod. Roedd enghreifftiau'n cynnwys canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar sut y dylai'r heddlu weithio gyda gwasanaethau cymdeithasol nad oedd yn cynnwys ystyriaeth o ddeddfwriaeth Cymru, neu ddarpariaeth iechyd meddwl neu nyrsio yn y ddalfa a threfniadau presennol o amgylch y glasbrintiau.

Felly, er bod yr ymatebwyr yn gadarnhaol ar y cyfan am y cydweithio a'r cydweithio presennol mewn partneriaeth, amlygwyd y mater o alinio rhwng yr heddlu a phartneriaid yng Nghymru fel rhywbeth y gallai datganoli plismona fynd i'r afael ag ef. Gwnaeth rhai ymatebwyr ddweud mai'r cam naturiol nesaf fyddai datganoli plismona gan y byddai budd o ffurfioli'r trefniadau hynny a galluogi'r bartneriaeth a'r cydweithrediad hwnnw i gael eu gwarantu trwy bwerau statudol. Wrth wneud hynny, roedd ymatebwyr o'r farn y byddai'n dileu ansicrwydd ynghylch yr hyn a oedd yn bosibl o ran ymgysylltu â'r heddlu, yn cynnig mwy o sicrwydd o ran ymrwymiadau'r heddlu i strategaethau partneriaeth, yn lleihau cymhlethdod wrth ddatblygu strategaethau Cymru ac o bosibl yn helpu i alinio ac egluro trefniadau cyllido.

Nododd rhai cyfranogwyr hefyd y byddai datganoli plismona hefyd yn cynnig cyfleoedd i gryfhau gweithio mewn partneriaeth ymhellach yng Nghymru, gan ymgorffori plismona yn well mewn strwythurau partneriaeth ehangach a datblygu strategaethau. Er enghraifft, ar hyn o bryd, Mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) wahodd pob corfforaeth undyn (y Prif Gwnstabl a'r PCC) i fod yn aelod llawn o'r Bwrdd ond ni ellir gofyn yn gyfreithiol eu bod yn derbyn y gwahoddiad. Yn ymarferol maent wedi derbyn ac yn aml yn chwarae rhan weithredol iawn yn y BGC ond byddai datganoli yn ymgorffori plismona mewn trefniadau llywodraeth leol ar sail statudol; Annog presenoldeb a dyfnhau'r cysylltiadau â phlismona y tu hwnt i ofod cyfiawnder troseddol i ystyried meysydd cysylltiedig ynghylch iechyd er enghraifft.

Un system gwasanaethau cyhoeddus

Thema gyson arall a ddaeth allan o'r ymatebion oedd y syniad bod dull ac agenda benodol o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru, ac er bod plismona yng Nghymru yn cyd-fynd â'r gwerthoedd hyn mae cyfyngiadau i ba raddau y mae hyn yn bosibl. Fel yn achos gwaith partneriaeth a nodwyd yn flaenorol, wrth drafod y gwahanol orgyffwrdd rhwng plismona a gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, roedd ymatebwyr yn aml yn tynnu sylw at y ffaith fod cefnogaeth dda gan heddluoedd Cymru i ddull gweithredu Cymru. Fodd bynnag, ac adleisio'r pwynt blaenorol, dywedodd yr ymatebwyr fod y gefnogaeth hon unwaith eto yn dibynnu ar drefniadau gwirfoddol ac anffurfiol rhwng yr heddlu a phartneriaid yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ei bod yn agored i amcanion y Swyddfa Gartref sy'n gwrthdaro, ac a all danseilio i ba raddau y gall plismona Cymru ddilyn agendâu neu ddulliau penodol.

Yn fwy sylfaenol, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei gyflawni drwy'r trefniadau presennol o ystyried mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gyllid, cyfeiriad polisi, atebolrwydd, hyfforddiant a safonau a sylfeini deddfwriaethol. Felly, mantais a chyfle sylweddol o ddatganoli plismona i Gymru, a nodwyd gan ymatebwyr oedd y gallai ganiatáu mwy o aliniad ac integreiddio plismona gyda'r dull gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Wrth drafod hyn, nododd y cyfranogwyr werth y dull un gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a'r angen i gydweithio i geisio sicrhau nod cyffredin ar gyfer gwella gwasanaethau i bobl Cymru a chydnabod cyfyngiadau'r gweithgaredd ynysig. Amlygodd rhai ymatebwyr fod yr heddlu eisoes wedi ymrwymo i'r dull un gwasanaeth cyhoeddus hwn, lle bo hynny'n bosibl, gyda chyfranogiad yr heddlu mewn strategaethau ar y cyd ynghylch gwrth-hiliaeth, VAWDASV, a diogelwch cymunedol yn cael ei roi fel enghreifftiau o'r ymrwymiad hwn. Fodd bynnag, fel y nodwyd o'r blaen, mae’r ymgysylltu hwn yn dibynnu ar ymgysylltiad parhaus ac yn fregus oherwydd diffyg cefnogaeth statudol. Nododd ymatebydd:

Gallai'r cyrff lefel strategol a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru a phlismona ar gynlluniau cyffredinol a meysydd polisi penodol fel trais yn erbyn menywod a merched, diogelwch cymunedol, a gwrth-hiliaeth, ddiflannu pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu nad oedd yn dymuno gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn y ffordd strwythuredig hon.

Ar ben hynny, er bod ymatebion yn awgrymu bod yr heddlu eisoes yn cymryd rhan o fewn yr un agenda gwasanaeth cyhoeddus, cydnabuwyd o hyd fod y setliad datganoli presennol yn ei gwneud hi'n anodd i Lywodraeth Cymru gynnwys yr heddlu wrth lunio ei strategaethau o ystyried y diffyg pwerau statudol wrth gyfarwyddo eu hymarfer neu gymryd rhan mewn strategaethau Cymreig. Nododd un ymatebydd:

Os ydyn ni’n yn anelu at weledigaeth strategol ar gyfer rhywbeth ar gyfer iechyd, maen nhw'n rhan ohono, plismona, rydyn ni'n gweithio gyda nhw, ond fydden nhw ddim yn rhan o'r strategaeth oherwydd dydyn nhw ddim yn gyfrifoldeb i ni ar un ystyr, ond rwy'n dyfalu y bydden nhw’r un fath ag y byddem ni ar hyn o bryd ar y strategaethau lle rydyn ni’n drafftio, gyda swyddogion yn y gwasanaethau cymdeithasol, felly byddan nhw’n cael eu drafftio'n gorfforol i'n dogfennau. Rydych chi'n gwybod, felly mae'n gyd-gysylltiedig ond fydden ni ddim yn gwneud hynny gyda'r heddlu.

Gweledigaeth Newydd ar gyfer Plismona

Soniodd llawer o'r ymatebwyr hefyd am sut y gallai datganoli plismona ganiatáu ail-lunio ac ailflaenoriaethu plismona yn unol â gweledigaeth, diwylliant a set newydd o werthoedd. O ran sut y dylai gweledigaeth, diwylliant a set o werthoedd ar gyfer plismona yng Nghymru edrych, tynnodd yr ymatebwyr sylw at ystod o syniadau ond roedd rhai themâu cyffredin, gan gynnwys mwy o bwyslais ar bartneriaeth, atal, cymuned, cyfiawnder cymdeithasol, dull sy'n seiliedig ar hawliau dynol a phwyslais cryf ar gydraddoldeb a chymunedau cydlynol.

Wrth fframio trafodaethau cyfeiriodd rhai cyfranogwyr at sail hanesyddol plismona modern drwy egwyddorion Peel, gan ddadlau y gallai datganoli plismona Cymru fod yn gyfle i ailsefydlu'r seiliau hynny. Roedd eraill yn cydnabod gwerth egwyddorion Peel ond yn dadlau bod angen i drafodaethau am werthoedd a gweledigaeth fod yn fwy uchelgeisiol a pheidio â chael eu cyfyngu i ddelfrydau Peelaidd ar gyfer plismona. Rhoddodd eraill enghreifftiau o'r cyfleoedd newydd hyn drwy dynnu sylw at y gwerthoedd presennol yr oeddent yn eu gweld yn treiddio ar draws tirwedd gwasanaeth cyhoeddus Cymru a gellid cael ysbrydoliaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (na ellir ei chymhwyso at blismona ar hyn o bryd) ac un agenda i’r gwasanaethau cyhoeddus. Meddai un ymatebydd:

Rwy'n credu o ran yr ethos yng Nghymru fod cyfle, yn enwedig gyda'r egwyddorion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cymdeithas decach, cymdeithas fwy cyfartal a chymunedau mwy cydlynol. Rwy'n credu bod yr egwyddorion sydd wedi'u cynnwys yno [y Ddeddf] yn rhai y gellir eu cymhwyso hefyd i wasanaeth yr heddlu.

O ran enghreifftiau o sut byddai hyn yn edrych, cyfeiriodd cyfranogwyr at y ffaith fod atal bod atal yn rhan allweddol o arferion presennol yng Nghymru a'u bod yn credu bod rôl plismona yng Nghymru yn wahanol i'r arferion a'r dulliau gweithredu yn Lloegr gan gyfeirio'n benodol at ddatblygiad y cynlluniau gwrth-hiliaeth yng Nghymru, VAWDASV, glasbrintiau cyfiawnder ieuenctid a menywod, y pwyslais ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, cyllid Llywodraeth Cymru i Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a pherthnasedd hynny i blismona cymdogaeth.

Roedd y pwyslais ar gymuned yn arbennig o gyffredin yn yr ymatebion a dderbyniwyd gyda llawer o ymatebwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltu plismona â chymunedau a phwysigrwydd cymunedau yn fwy cyffredinol yng Nghymru. Gwelwyd bod hyn o fantais arbennig i Gymru o ystyried ei gwleidyddiaeth a maint yr agosrwydd rhwng aelodau'r Senedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Nododd llawer o'r ymatebwyr y berthynas bwysig hon a sut roedd maint Cymru yn golygu bod mwy o gysylltiad rhwng cymunedau yng Nghymru, eu cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd ac felly Llywodraeth Cymru. Un o fanteision datganoli plismona i Gymru, yn ôl dadl rhai o’r ymatebwyr, yw y byddai'n dod â phenderfyniadau ynghylch plismona yn nes at gymunedau yng Nghymru ac felly yn unol â'r ethos cymunedol hwn. Awgrymodd un ymatebydd:

Pe bai'n cael ei ddatganoli, rwy'n credu y byddai'n galluogi plismona i ymateb i anghenion lleol mewn ffordd well oherwydd ar hyn o bryd y byddai'r Ysgrifennydd Cartref yn rhoi gwybod i chi am y blaenoriaethau a'r targedau cenedlaethol rydych chi'n eu nodi ar gyfer plismona sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr. Oherwydd bydd yn cael ei wneud ar raddfa lai gan Lywodraeth Cymru, mae’n yn mynd i fod yn agosach at gymunedau nag anghenion cymunedau, ac rydych chi'n gwybod beth yw dymuniadau cyhoedd Cymru. Felly gobeithio y byddai'n fath mwy ymatebol o blismona yng Nghymru, yn gyfrifol, yn ymatebol i gymunedau lleol a'r materion maen nhw'n eu hwynebu.

Nododd rhai cyfranogwyr hefyd y dylai dod â'r broses o wneud penderfyniadau i Gymru wella perthnasedd ac addasrwydd ymarfer plismona i'r cyd-destun Cymreig gan eu bod yn dadlau bod penderfyniadau dan y drefn bresennol yn llai tebygol o adlewyrchu anghenion a chyd-destun penodol Cymunedau Cymru o ystyried y nifer fwy o heddluoedd yn Lloegr a oedd yn sicrhau, honnent, mwy o ddylanwad ar y penderfyniadau a wnâi’r Swyddfa Gartref. Dylid nodi bod y ffocws hwn ar wneud penderfyniadau lleol ymhlith ymatebwyr hefyd ynghlwm wrth eu hystyriaethau ynghylch sut byddai plismona’n edrych pe bai wedi'i ddatganoli i Gymru gyda rhai yn tynnu sylw at bryderon y gallai plismona datganoledig yng Nghymru beri risg o ganolbwyntio'n ormodol ar Gaerdydd a De Cymru.

Ar fater diwylliant, thema reolaidd yn yr ymatebion oedd yr amrywiol heriau diwylliannol ac o ran eu henw da a wynebir wrth blismona yng Nghymru a Lloegr, megis diffyg ymddiriedaeth a hyder ynghylch arferion negyddol canfyddedig megis hiliaeth a gwreig-gasineb ac achosion o lygredd a nodwyd. Felly, tynnodd llawer o ymatebion sylw at y cyfle i ddatganoli wneud newid amlwg a chadarnhaol i ddiwylliant a chanfyddiad y cyhoedd o blismona yng Nghymru. Gan gysylltu â'r pwyntiau blaenorol am ddull Cymreig o blismona a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, trafododd llawer o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo y gallai dull mwy cymunedol fod o fudd i blismona Cymru drwy ddatblygu a chynnal perthnasoedd lleol â phobl a chymunedau, a allai yn ei dro feithrin ymddiriedaeth rhwng cymunedau a'r heddlu. Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y gallai datganoli alluogi Llywodraeth Cymru a heddluoedd Cymru i fynd i'r afael â heriau diwylliannol ac o ran eu henw da yn fwy uniongyrchol yng Nghymru ac yn dadlau y byddai'n haws ysgogi newid diwylliannol mewn nifer fach o heddluoedd yn rhan o strwythur datganoledig nag y byddai ar draws Cymru a Lloegr gyfan.

Mewn trafodaethau ar ddiwylliant yr heddlu, cyfeiriodd llawer o'r ymatebwyr at yr heriau penodol a wynebir gan yr Heddlu Metropolitanaidd gan ddadlau bod yr effeithiau’n gorlifo ar gyfer heriau o ran enw da i'r heddlu ledled Cymru a Lloegr gyfan. Nodwyd yr heriau hyn gan yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Farwnes Casey yn 2023, sy'n tynnu sylw at fethiannau mewn cynrychiolaeth, rheolaeth, arweinyddiaeth a blaenoriaethau gweithredol, ond hefyd diffyg tryloywder, goddefgarwch o wahaniaethu a risg o golli plismona trwy ganiatâd. Felly, dadleuodd rhai ymatebwyr y gallai datganoli model yr heddlu yng Nghymru alluogi’r heddlu yng Nghymru i gael eu hinswleiddio rhag yr heriau i enw da a achoswyd mewn mannau eraill, lle na chafwyd tystiolaeth o'r heriau hyn. Meddai un ymatebydd:

Pe baech wedi eich datganoli, pan fyddai’r MET yn peswch, ni fyddem ni o reidrwydd yn dal annwyd yn yr un modd.... Ac rwy'n credu bod hynny'n ffenomen go iawn ym maes plismona, oherwydd bod Heddlu'r Alban yn gallu ymbellhau oddi wrth blismona yng Nghymru a Lloegr mewn ffordd na all plismona yng Nghymru ei wneud... Gallai heddlu neu blismona Cymreig yng Nghymru sydd â’i hunaniaeth ffurfiol ei hun, ei frand ffurfiol ei hun, ei fecanwaith goruchwylio ffurfiol ei hun, ei drefn arolygu ei hun, ei bellhau oddi wrth yr hyn sy'n drefniant cymhleth iawn, iawn yn Llundain.

Er bod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ystyried datganoli yn gyfle i wella diwylliant a gwerthoedd plismona yng Nghymru, roedd nifer fach o gyfranogwyr yn fwy gofalus gan ddadlau nad oedd angen datganoli i fynd i'r afael â heriau diwylliannol ac roedd llwybrau eraill i fynd ar drywydd nad oedd angen newid mor sylweddol. Yn yr un modd, dadleuodd ymatebydd arall nad oedd heriau diwylliannol yn unigryw i heddluoedd Lloegr ac ni fyddai datganoli o reidrwydd yn datrys heriau diwylliannol wrth blismona.

Wrth ystyried y potensial i ddatganoli plismona ganiatáu gweledigaeth, diwylliant ac ethos newydd ar gyfer plismona, dadleuodd rhai ymatebwyr hefyd y byddai'n haws ysgogi newid mewn capasiti datganoledig yng Nghymru o ystyried y nifer llai o rymoedd a'r berthynas a'r trefniadau presennol yng Nghymru. Mae cyfleoedd go iawn i alinio'n fwy uniongyrchol â deddfwriaeth Cymru ar VAWDASV er enghraifft a'r ffocws ar weithluoedd gwasanaeth cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gwreig-gasineb a chyflawni troseddau o fewn y sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt i amddiffyn dioddefwyr a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Yn yr un modd, mae'r ffocws ar wahaniaethu a gweithlu sy'n fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn her y gellid mynd i'r afael â hi, mewn ffordd fwy cydgysylltiedig â phartneriaeth wedi'i halinio'n gryfach, gyda gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb.

Thema allweddol: Heriau

Yn yr ymchwil a gynhaliwyd, nodwyd heriau ac ystyriaethau amrywiol y byddai angen mynd i'r afael â nhw wrth baratoi ar gyfer datganoli plismona i Gymru a'u cyflawni.

Yn fras, roedd y rhain yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

  • Cyllid ac adnoddau
  • Seilwaith cenedlaethol a rhyngweithrededd
  • Llywodraethu ac atebolrwydd
  • Pwerau a deddfwriaeth

Dylid nodi, er bod mwyafrif y rhai a gyfwelwyd a'r ymatebwyr yn gefnogol i'r egwyddor o ddatganoli plismona i Gymru, mynegodd rhai o'r rhai a holwyd fod angen deall goblygiadau ariannol a gweithredol llawn datganoli yn fanylach cyn gwneud penderfyniad.

Adnoddau a chyllid

Roedd ymatebwyr o'r farn mai'r ddwy elfen hyn oedd y materion sylfaenol i'w datrys. Roedd llawer yn teimlo bod gan yr elfennau hyn, os nad ydynt yn cael ystyriaeth briodol, y potensial i atal y dyhead datganoli. Fe'u nodwyd gan ymatebwyr mai’r rhain oedd y meysydd a oedd yn achosi'r risg fwyaf i ddatganoli plismona wrth baratoi, darparu a gwreiddio model gwydn o blismona yng Nghymru. Roedd y pryderon a godwyd hefyd yn cydnabod bod angen ystyried gofynion adnoddau a chostau unrhyw gynlluniau ehangach ar gyfer datganoli cyfiawnder hefyd. Gwnaed y sylwadau canlynol gan ymatebwyr:

Mae'n fy mhoeni i ein bod ni'n siarad am ddatganoli plismona, a byddan nhw'n dweud, iawn, y flwyddyn nesaf rydyn ni'n mynd i ddatganoli’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a phrawf i Gymru.... beth yw'r strwythur y tu ôl iddo? Ac ydych chi’n gwybod pa mor sicr ydyn ni, ein bod ni'n mynd i'w gael yn iawn, oherwydd mae cael y pethau hynny'n anghywir yn cael effaith enfawr ar gymunedau. Ac wedyn pan ewch chi â'r cam hwnnw ymhellach ac ystyried datganoli plismona, allwch chi ddim gwneud hynny dros nos.

Mae'n hynod gymhleth, ac mae'n debyg mai'r peth arall y byddwn i'n ei ddweud yw peidiwch â rhuthro hyn..., rwy'n credu y byddai pawb, Gweinidogion, yn arbennig, yn hoffi cyflawni pethau'n gyflym, ond os ydych chi am gael yr arian yn iawn, cael y bobl yn iawn a darparu amserlen resymol i gyflawni'r datganoli, rwy'n credu ei fod yn gwbl hanfodol. Dyw ceisio ei wneud mewn blwyddyn neu 18 mis ddim yn debyg o sicrhau'r math o setliad gyda'r arian cywir.

Adnoddau

Cododd ymatebwyr ddwy her benodol a oedd yn ymwneud ag adnoddau.

Nododd un fuddsoddiad a recriwtio arbenigedd allweddol i helpu i baratoi ar gyfer pontio a gweithredu'r model newydd o blismona i Gymru.

Nododd yr ail yr angen i roi adnoddau i'r gofynion parhaus o gefnogi'r model newydd o fewn Llywodraeth Cymru.

Adnoddau ar gyfer Paratoi a Throsglwyddo

Mewn perthynas â hyn y neges gyffredin gan ymatebwyr oedd y byddai datganoli plismona yn gorff sylweddol o waith ac ni ddylid lleihau ei raddfa a'i gymhlethdod.

Wrth ystyried goblygiadau unrhyw gynlluniau ar gyfer datganoli cyfiawnder ehangach, roedd pryderon sylweddol ynghylch lefel capasiti, cost a gofynion adnoddau, gyda'r angen am arbenigedd penodol yn Llywodraeth Cymru i gynnal y gwaith paratoi angenrheidiol yn ddigonol i sicrhau datganoli plismona.

O ran arbenigedd yn benodol, nododd nifer o ymatebwyr, er bod rhywfaint o brofiad o bolisi plismona yn Llywodraeth Cymru, nad oes ganddi lefel sylweddol o arbenigedd ar hyn o bryd wrth reoli plismona gweithredol ar lefel y llywodraeth.

Amlygodd yr ymatebwyr y byddai galw sylweddol am adnoddau o ran gosod y sylfeini ar gyfer datganoli. Roedd enghreifftiau a roddwyd yn cynnwys yr angen i ddatblygu cynnig clir ac achos busnes dros ddatganoli gan ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid. Roedd angen i hyn ystyried dadansoddiad cost budd manwl sy'n gysylltiedig â chynigion penodol, gan ystyried yn drylwyr oblygiadau gweithredol, strwythurol, ariannol a deddfwriaethol datganoli. Dylai hyn ddigwydd cyn dechrau'r broses o ddatganoli mewn gwirionedd.

Pwysleisiodd llawer o'r ymatebwyr bwysigrwydd peidio â thanamcangyfrif cymhlethdod y gwaith hwn o ran adnoddau ac amser sydd eu hangen i gynllunio a gweithredu unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt yn effeithiol. Arweiniodd hyn at rai ymatebwyr yn codi pryderon ynghylch y pwysau a allai gael ei roi ar y nifer fach o unigolion a oedd ag arbenigedd penodol, gan gynnwys pwyllgorau'r Senedd a threfniadau craffu ynghylch cyflwyno deddfwriaeth a allai ddeillio naill ai o symud tuag at ddatganoli gan Lywodraeth Cymru, neu gadarnhau'r sefyllfa gan San Steffan a allai weld rhagor o ddeddfwriaeth y DU i'r perwyl hwnnw. Cydnabuwyd hefyd y gallai fod effaith bosibl ar berfformiad ar draws plismona a sefydliadau eraill o ystyried y pwysau parhaus o ran cyflawni eu swyddogaethau presennol.

Amlygodd ymatebwyr eraill wasgfeuon posibl hefyd ac effaith ar ofynion adnoddau ar gyfer partneriaid, megis awdurdodau lleol a'r lefelau amrywiol o fewnbwn neu weithgorau y gallai fod eu hangen i ddatblygu'r gwaith hwn. Cododd yr ymatebwyr yr angen am strwythurau paratoadol, megid bwrdd rhaglen amlasiantaeth, neu weithredwr cysgodol yng Nghymru i helpu i baratoi ar gyfer datganoli. Oherwydd yr heriau adnoddau canfyddedig hyn dywedodd rhai ymatebwyr y byddai angen penderfynu ar gynllun a chyllideb glir cyn y gallent wneud sylwadau ar rinweddau cymharol datganoli plismona yn fanylach.

Adnoddau a Gwydnwch yn y Dyfodol

Nododd nifer o ymatebwyr y byddai'n debygol y byddai angen creu adran newydd o fewn Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad i ddeall beth fyddai hynny'n ei olygu i eraill o ran capasiti, er enghraifft y Senedd.

Yn unol â hynny, roedd pryderon ynghylch sut y byddai Llywodraeth Cymru yn cydnabod y naws a'r cymhlethdod penodol wrth gyflawni datganoli. Amlygodd yr ymatebwyr hyn fel mater i staff y gwasanaeth sifil ac i aelodau ar gyfer y Senedd a dadleuodd y byddai angen dull rhagweithiol o weithredu i godi ymwybyddiaeth o'r materion penodol sy'n gysylltiedig â phlismona.

Yn berthnasol i'r pwynt hwn am gapasiti ac arbenigedd, nododd nifer o gyfranogwyr heriau posibl yn ymwneud â maint Cymru a materion sy'n ymwneud ag economïau graddfa wrth geisio cyflawni rhai o swyddogaethau llywodraeth y DU yng Nghymru. Ystyriwyd bod yr her hon yn arbennig o berthnasol i swyddogaethau mwy penodol sy'n cefnogi plismona fel y Swyddfa Gartref, y Coleg Plismona (CoP) neu Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS) lle cododd yr ymatebwyr gwestiynau ynghylch a fyddai cost datblygu cyrff neu strwythurau cyfatebol sy'n benodol i Gymru yn fuddsoddiad priodol o ystyried maint Cymru.

Gwelwyd hyn hefyd mewn perthynas â thrafodaethau ynghylch yr arbenigedd arbenigol sydd ei angen ar gyfer mathau mwy arbenigol o droseddau. Mynegodd sawl ymatebydd fod y dull presennol, trwy Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn galluogi denu cefnogaeth arbenigol yn dibynnu ar y bygythiad. Efallai na fydd rhai bygythiadau'n sylweddol yng Nghymru, ac nid ydynt o faint digonol i gyfiawnhau arbenigedd neu adnoddau penodol yng Nghymru, ond ar ryw adeg, gallai'r bygythiad ddod i'r amlwg. Mae peidio â bod â'r gallu a'r gallu yn cynyddu'r risg yn sylweddol fel y nodwyd gan yr ymatebydd canlynol.

Dwi'n meddwl beth byddwn i'n ei bwysleisio yw bod elfen o angen edrych ar ba fath o gyfaint byddai mewn rhai meysydd o droseddu o fewn Cymru, ac a fyddai digon o alw i gadw gwybodaeth, sgiliau, profiad, arbenigedd pobl i fyny yn y meysydd technegol iawn yna? P'un ai a yw hynny'n drosedd ariannol gymhleth, p'un ai a yw'n fath o ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â NCA. Ond rwy'n credu beth bynnag sy'n cael ei gyflwyno, pe bai'n newid, rwy'n credu bod yn rhaid adlewyrchu'r ffaith bod angen y bobl fedrus iawn arnoch yn y swydd, gyda'r gallu iawn i allu gwneud yr hyn sydd yn aml yn drosedd pen uwch.

Mae'r her hon yn cysylltu â'r adran ar ryngweithredu isod a chaiff ragor o sylw yno.

Cyllid

Nododd yr ymatebwyr bryderon ynghylch trafodaethau a chytundebau y setliad cyllido pe bai plismona yn cael ei ddatganoli. Nododd yr ymatebwyr gymhlethdod y trafodaethau hyn o ystyried y byddai angen i'r setliad cyllido fod yn wybyddus o oblygiadau system gyfan datganoli. Mae hyn yn cynnwys y strwythurau ffurfiol newydd sydd eu hangen yn Llywodraeth Cymru a'r ddarpariaeth ariannu ar gyfer swyddogaethau plismona cenedlaethol a swyddogaethau ategol yn y dyfodol. Nododd yr ymatebwyr rywfaint o ansicrwydd ar y pwynt hwn gan y byddai'n dibynnu ar fanylion trefniadau datganoli.

Yn unol â hynny, tynnodd yr ymatebwyr sylw at bryderon bod risg na fyddai Cymru'n derbyn yr un lefel o gyllid sy'n gymesur â'r swyddogaethau y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy. Mynegwyd pryder gan rai nad yw'r heddlu yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad i'r ffrydiau cyllido a gynigir gan y Swyddfa Gartref, er enghraifft y Rhaglen Operation Uplift, a chydnabyddiaeth na fyddai Llywodraeth Cymru, o ystyried maint ei chyllideb, yn gallu cynnig cyfleoedd tebyg. Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y llywodraeth gynlluniau i recriwtio 20,000 o heddweision ychwanegol yng Nghymru a Lloegr erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Sefydlodd y Swyddfa Gartref Raglen Uplift i helpu heddluoedd i gyflawni hyn.

Archwiliodd rhai ymatebwyr y goblygiadau a allai fod i ddatganoli ar fentrau hyfforddi, yn benodol, Fframwaith Cymwysterau Addysg yr Heddlu (PEQF). Fel y nodwyd gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, bu problem ers tro ynghylch sut mae cyllid ar gyfer y Fframwaith yn gweithio a sut mae hyn yn berthnasol i'r Ardoll Brentisiaethau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn 2017.

Ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mae'r Swyddfa Gartref wedi darparu cyllid ychwanegol i ardaloedd heddluoedd Cymru, ond mae anghydfod o hyd ynghylch i ba raddau y mae hyn yn datrys y mater ac mae'r trafodaethau'n parhau rhwng y Swyddfa Gartref a Phlismona yng Nghymru yn y maes hwn.

Mae hyn yn tynnu sylw at gymhlethdod y cyllid presennol a'r trefniadau cyfansoddiadol, a'r argraff y gallai heddluoedd Cymru dderbyn llai o gyllid na'u cymheiriaid yn Lloegr o ganlyniad i’r ‘rhwyg’ hwn. Mae hefyd yn tanlinellu'r angen i ystyried yn ofalus i sicrhau bod unrhyw ddatganoli plismona i Gymru yn gwneud y darlun cyllido yn symlach yn hytrach na mwy cymhleth. Gallai hyn fod yn heriol o ystyried y dirwedd gyllido gymhleth a grëwyd gan yr Ardoll.

Nodwyd hefyd gan rai ymatebwyr y byddai effaith hyn yn creu heriau o ran sicrwydd cyllidebau, argaeledd arian i ysgogi arloesedd a gwelliannau i'r system, ond hefyd o ran yr hyn y byddai heddluoedd yn ei ddarparu o safbwynt eu gweithrediadau. Felly, nododd yr ymatebwyr fod rhywfaint o risg ynghylch capasiti Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i reoli plismona yn wasanaeth datganoledig.

Ystyriodd rhai ymatebwyr yr effaith ar y gweithlu plismona ar ei ystyr ehangaf ac na ddylai datganoli gael fawr o effaith ar staff yr heddlu, fodd bynnag, nododd ymatebwyr rai meysydd lle gallai datganoli plismona effeithio ar staff yr heddlu ac felly ar adnoddau'r heddlu. Er enghraifft, pe bai tâl ac amodau yn ymwahanu'n anffafriol rhwng heddluoedd Cymru a Lloegr, neu os oedd swyddogion Cymru yn cael eu hystyried yn fwy cyfyngedig o ran cyfleoedd i symud ymlaen mewn gwasanaeth llai, efallai y bydd perygl y byddai heddluoedd Cymru yn cael eu hystyried yn llai deniadol i ddarpar swyddogion heddlu. Barn arall yw y gallai datganoli, mewn egwyddor, hefyd gynnig cyfle i gynnig gwell tâl ac amodau.

Nododd llawer o'r ymatebwyr y gallai fod perygl i gyllidebau plismona o fewn Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod y trefniant presennol, gyda phlismona yng Nghymru wedi'i ariannu yn rhan o gyllideb plismona'r Swyddfa Gartref fwy, yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad i heddluoedd Cymru rhag amgylchiadau economaidd ehangach, pwysau cyllidebol, a newidiadau blaenoriaethu. Roedd pryder, pe bai heriau economaidd neu ariannol ehangach, y byddai maint llai Llywodraeth Cymru yn sefydliad yn golygu y byddai llai o le i symud yng nghyllidebau Llywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau hyn a allai arwain at bwysau ar heddluoedd.

Wrth gydnabod hyn, amlygodd llawer o'r ymatebion y risg uwch o ailddyrannu cyllidebau plismona i feysydd eraill o Lywodraeth Cymru, ac ailddyrannu at wasanaethau iechyd yn cael ei defnyddio yn brif enghraifft o hyn. Nid oes unrhyw sicrwydd y byddai cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru drwy fformiwla Barnett sy'n gysylltiedig â phlismona, er enghraifft unrhyw gyllid a ddarperir gan y Swyddfa Gartref ar gyfer prentisiaethau plismona i Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio at y diben penodol hwn o ganlyniad i sut mae proses gyllidebu Llywodraeth Cymru yn gweithio. Mae'n werth tynnu sylw at y cyd-destun y cynhaliwyd y cyfweliadau hyn, yn enwedig yn ystod cyfnod lle'r oedd Llywodraeth Cymru dan bwysau cyllidebol sylweddol ac roedd arian yn cael ei ailddyrannu ar draws Llywodraeth Cymru.

Lliniaru posibl

  • Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i adolygu'r fformiwla ariannu. Gallai fod goblygiadau i hyn ar gyfer cyllido pedwar heddlu Cymru yn y dyfodol a bod yn rhan sylfaenol o drafodaethau cyllido yn y dyfodol. Er y dylid nodi bod adolygiad o'r fformiwla ariannu wedi'i gyhoeddi sawl gwaith dros y blynyddoedd blaenorol ac nad yw wedi'i gyflawni eto.
  • Y Swyddfa Gartref yw adran arweiniol y llywodraeth ar gyfer mewnfudo a phasbortau, polisi cyffuriau, trosedd, tân, gwrthderfysgaeth, a'r heddlu. Mae'r organogram o rolau a chyflogau staff a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Chwefror 2024 yn amlinellu cannoedd o swyddi staff hŷn ac iau. Nid yw'r adroddiad hwn yn awgrymu y byddai angen dyblygu hyn o fewn Llywodraeth Cymru ond bydd angen gwneud darn o waith i ddeall pa gyfrifoldebau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni, pa sgiliau ac arbenigedd y bydd eu hangen i gyflawni hyn (rolau a disgrifiadau swydd) a'r gost gysylltiedig.
  • Er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i redeg gwasanaeth plismona datganoledig, gallai Llywodraeth Cymru ystyried ymgymryd â'r gwaith canlynol:
    • Archwilio’r gefnogaeth (sgiliau, arbenigedd) a'r gyllideb sydd eu hangen mewn gwledydd eraill lle mae plismona (a/neu gyfiawnder) wedi'i ddatganoli.
    • Cynnal dadansoddiad bwlch sgiliau yng Nghymru i ddatblygu'r gofyniad adnoddau. Gallai hyn gynnwys asesiad effaith system gyfan o ddatganoli (paratoi, gweithredu a galluogi gwytnwch yn y dyfodol) byddai hyn yn modelu sgiliau sydd eu hangen, costau a helpu i adeiladu rhaglen datblygu sgiliau / recriwtio i gefnogi gofynion datganoli.
    • Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad ariannol penodol mewn perthynas â'r gost bresennol o blismona yng Nghymru, cost datganoli heddlu ac asesu costau yn y dyfodol i ddarparu a sicrhau digon o arian i’r heddlu.

Seilwaith cenedlaethol a rhyngweithrededd

Ail thema fawr a nodwyd drwy ddadansoddi ymatebion oedd yr angen i ystyried y seilwaith cenedlaethol ehangach sy'n cefnogi heddluoedd yn ogystal â'r berthynas angenrheidiol rhwng heddluoedd y naill ochr i ffin Cymru a Lloegr.

Mae'n werth nodi bod y materion hyn ynghylch rhyngweithrededd gweithredol wedi'u fframio'n fwy ar ystyr heriau i'w hystyried yn hytrach na'n sylfaenol broblematig ar gyfer potensial datganoli.

Er bod y gallu i alinio plismona â gwasanaethau datganoledig eraill yng Nghymru yn cael ei ystyried yn gyfle i ddatganoli roedd ymatebwyr yn awyddus i bwysleisio ei bod yn bwysig peidio â chreu set newydd o ‘rwygiadau’ o ran cydweithredu ac ymgysylltu â heddluoedd Lloegr, neu wasanaethau a swyddogaethau a fyddai'n cael eu cadw ar lefel Lloegr neu'r DU.

Wrth feddwl am y mater hwn o ryngweithrededd, roedd tair elfen, yn fras, i hyn: rhyngweithrededd â heddluoedd yn y DU, rhyngweithrededd â swyddogaethau ategol megis y coleg plismona a HMICFRS, a'r rhyngweithrededd â swyddogaethau megis yr NCA a Gwrthderfysgaeth.

O ran rhyngweithredu ag ymatebwyr eraill yr heddlu, yn enwedig y rhai â phrofiad o blismona, amlygodd natur problemau a daearyddiaeth trosedd penodol fod angen cysylltiadau agosach â heddluoedd yn Lloegr ar rai o'r heddluoedd yng Nghymru, weithiau yn fwy felly na heddluoedd eraill yng Nghymru. Er enghraifft, trafododd llawer o'r cyfranogwyr sut mae gan Heddlu Gogledd Cymru gysylltiadau cryf a phartneriaethau â heddluoedd yng ngogledd-orllewin Lloegr a ddangoswyd yn rhan o'u cyfranogiad yn Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol y Gogledd-orllewin.

Yn gysylltiedig â'r mater hwn, cododd ymatebwyr hefyd yr angen parhaus am gydweithio a chyd-gymorth. Roedd y rhan fwyaf yn bragmatig mewn perthynas â hyn ac yn awgrymu y gellid rheoli'r trefniadau hyn wrth gynllunio a thrafod datganoli. Thema gyffredinol yr ymatebion ynghylch hyn oedd nad oedd llawer o reswm i awgrymu y byddai effaith ymarferol ar gydweithio a chyd-gymorth a llawer o'r heriau y gellid eu goresgyn trwy rywfaint o bragmatiaeth a phartneriaeth. Amlygodd yr ymatebwyr PSNI a Heddlu'r Alban yn enghreifftiau o gydweithio sydd eisoes yn bodoli gyda heddluoedd datganoledig. Nododd un ymatebydd un risg nad oedd efallai'n broblem ar unwaith ond a allai godi dros amser, sef ymwneud â gwahaniaethau polisi. Maen nhw'n dadlau pe bai polisi plismona Cymru a Lloegr yn ymwahanu'n sylweddol dros amser, y gellid rhoi pwysau penodol ar weithgareddau trawsffiniol a chydweithredol.

Wrth ystyried y seilwaith cenedlaethol sy'n cefnogi plismona, roedd rhywfaint o gonsensws ar draws yr ymatebion y byddai cadw trefniadau heb eu datganoli yn well mewn rhai meysydd o weithgarwch gweithredol. Yn bennaf, roedd hyn yn ymwneud â meysydd a nodwyd yn faterion diogelwch cenedlaethol, neu'n rhyngwladol eu natur, megis gwaith yr NCA, seiberddiogelwch a gwrthderfysgaeth. Nodwyd bod eu swyddogaethau'n darparu arbenigedd, gallu a systemau arbenigol sy'n hanfodol wrth nodi, ymateb, a galluogi dull cydlynol o ymdrin â bygythiadau a materion diogelwch sylweddol.

Cytunai’r ymatebwyr ar y cyfan fod y gwasanaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithio’n agos a chydweithio fod yn effeithiol, ac y byddai ceisio creu rhywbeth cyfatebol yng Nghymru yn debygol o fod nid yn unig yn gostus, ond hefyd o bosibl yn niweidiol i ddiogelwch dinasyddion y DU. Fodd bynnag, cydnabuwyd, wrth ddatganoli plismona i Gymru, y byddai angen cryn ystyriaeth o sut y byddai'r swyddogaethau hyn yn cysylltu â phlismona lleol yng Nghymru. Yn enwedig byddai hyn yn cynnwys ystyried y cysylltiadau â strwythurau presennol megis y ROCUs, a'r amgylchiadau yng Ngogledd Cymru o ystyried natur y ROCU penodol hwnnw sy'n cynnwys lluoedd Cymru a Lloegr.

Cyfeiriodd yr ymatebwyr at arferion Heddlu’r Alban a PSNI yn llwybrau posibl i'w hystyried o ran sut y gallai gwasanaeth datganoledig yng Nghymru weithio gyda'r strwythurau plismona cenedlaethol hyn.

Er bod rhywfaint o gysondeb ymatebion mewn perthynas â'r NCA a gwrthderfysgaeth, roedd mwy o amrywiaeth ym marn yr ymatebwyr ar yr hyn yr oedd datganoli plismona yn ei olygu ar gyfer elfennau seilwaith plismona cenedlaethol a oedd yn darparu swyddogaeth cefnogi neu arolygu. Tynnodd ymatebwyr sylw at yr angen am ragor o waith i ddeall y berthynas rhwng Heddluoedd Cymru a chyrff eraill er enghraifft, CoP a HMICFRS, Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu.

Roedd ymatebion yn y maes hwn yn tueddu i ganolbwyntio ar y CoP a HMICFRS gan ddyfynnu yn benodol berthnasedd i hyfforddiant, diffinio gwerthoedd, a gosod safonau yr oedd rhai ymatebwyr yn credu a fyddai'n bwysig wrth ddatblygu gwasanaeth heddlu yng Nghymru gyda model penodol o Gymru. Roedd rhai ymatebwyr yn dadlau y byddai cael swyddogaeth hyfforddi neu arolygiaeth a gedwir o dan y Swyddfa Gartref yn atal neu'n cyfyngu ar y gallu i ddilyn agenda Gymreig nodedig. Yn yr achos hwn, nodwyd heriau o ran adnoddau ar gyfer fersiynau Cymraeg o'r cyrff hyn, yn ogystal â gallu corff Cymreig i efelychu'r amrywiaeth eang o swyddogaethau a gyflawnwyd gan y Coleg Plismona o ystyried materion ynghylch economïau graddfa a grybwyllwyd uchod. Roedd pryderon hefyd ynghylch a fyddai datblygu cyrff gwahanol yng Nghymru yn arwain at golli gallu ac arbenigedd polisi a chyfleoedd i rannu gwybodaeth, dysgu a chyfnewid gwybodaeth.

Roedd ymatebwyr eraill yn dadlau’r achos dros gadw'r cyrff hyn yn swyddogaethau sydd heb eu datganoli, roedd awgrymiadau bod yr achos ariannol dros sefydlu cyrff ar wahân yn broblemus ac y gellid cynnwys cydnabod gwahaniaethau Cymreig o dan fodel datganoledig o fewn y strwythurau presennol. Byddai manteision y dull hwn yn cynnwys mynediad a ddargedwir at swyddogaethau canolog cymorth a gallu polisi yn ogystal â chyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a rhannu arfer da.

Fodd bynnag, yn ogystal â'r cyfyngiadau posibl a godwyd uchod mewn perthynas â gwireddu dyheadau llawn ynghylch gweledigaeth, diwylliant ac ethos pwrpasol ar gyfer plismona yng Nghymru, byddai angen ystyried ymarferoldeb sut y byddai gwasanaeth heddlu datganoledig yng Nghymru yn ymgysylltu â'r strwythurau hyn. Unwaith eto, tynnodd ymatebwyr sylw at drefniadau yn PSNI a Heddlu’r Alban lle gallai fod cyfleoedd i ddysgu o'r arferion hynny. Er enghraifft comisiwn PSNI HMICFRS i gynnal ei arolygiadau ac wedyn eu bilio am y gwaith hwnnw.

Yn ogystal â'r strwythurau a'r seilwaith sy'n cefnogi plismona'n uniongyrchol, roedd rhai ymatebwyr hefyd yn ystyried sut y byddai datganoli plismona yn cyd-fynd â'r dirwedd cyfiawnder troseddol ehangach. Yn benodol, tynnodd sawl ymatebydd at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn her bosibl i blismona datganoledig o ystyried ei rôl wrth ddedfrydu a phrosesu achosion drwy'r system lysoedd. Gall fod yn anoddach sicrhau y byddai'r CPS yn cael adnodd ychwanegol yng Nghymru i brosesu cynnydd o'r fath. Gallai hyn fod yn broblem wrth ddatblygu achosion yn effeithlon ac yn effeithiol i ddioddefwyr.

Lliniaru posibl

  • Byddai eglurder ar weledigaeth model plismona datganoledig yn y dyfodol yn helpu i ddylunio'r swyddogaethau sydd eu hangen wedyn i gyflawni hyn (dylai'r strwythur ddilyn strategaeth)
  • Mae cost a chymhlethdod yn gysylltiedig â gwahanu oddi wrth strwythurau cenedlaethol ac felly mae angen ymgysylltu pellach i asesu pob un yn unigol. Ystyriwch sut i ddefnyddio dadansoddiad i bennu dull gweithredu, ynghyd â'r cyfle i ddylunio penderfyniadau ynghylch set o egwyddorion (gweler model hybrid adran 5).
  • Byddai'n ddefnyddiol cynnal nifer o ymarferion pen bwrdd ar gyfer pob swyddogaeth i sicrhau bod yr holl senarios posibl (er enghraifft goblygiadau gwleidyddol, rhyngweithrededd, adnoddau cyllido yn cael eu hystyried, er mwyn llywio penderfyniadau.
  • Gallai Llywodraeth Cymru ddysgu o sut mae'r Alban a PSNI yn rheoli cysylltedd a rhyngweithrededd â swyddogaethau cenedlaethol i lywio opsiynau a phenderfyniadau posibl.
  • Bydd cynnal cysylltiadau cryf â'r sefydliadau hynny sy'n cefnogi plismona'r DU yn helpu i liniaru'r risgiau a berir ac yn sicrhau bod materion sy'n codi yn cael eu datrys mewn ffordd gadarnhaol a chydweithredol.

Llywodraethu ac atebolrwydd

Roedd mater llywodraethu hefyd yn thema bwysig a ddaeth allan o'r ymatebion. Er bod llawer o ymatebwyr yn ystyried trosglwyddo cyfrifoldebau plismona i Lywodraeth Cymru yn gadarnhaol (mae'n werth nodi bod rhai ymatebwyr yn cadw safbwynt niwtraliaeth ar hyn) cydnabuwyd hefyd y gallai fod rhywfaint o gymhlethdod yn y trefniadau llywodraethu yn dibynnu ar y model datganoli arfaethedig.

Roedd cytundeb eang y byddai angen datblygu adran Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddarparu plismona yng Nghymru a datblygu cyfrifoldeb gweinidogol dros blismona yn y Senedd i ddarparu goruchwyliaeth wleidyddol a chyfrifoldeb dros blismona yng Nghymru.

Fodd bynnag, nodwyd y byddai angen ystyried sut y byddai cyfrifoldebau'r Senedd dros swyddogaethau plismona yng Nghymru yn rhyngweithio â chyfrifoldebau San Steffan am elfennau o blismona a gedwir ar lefel Cymru a Lloegr neu'r DU. Amlygodd rhai ymatebwyr y byddai risg o hyd y byddai angen i blismona gweithredol lywio dau gorff llywodraethu gwahanol mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os oedd gweithrediadau plismona ar y cyd rhwng heddluoedd Cymru a Lloegr neu pan fydd heddluoedd Cymru yn cefnogi asiantaethau cenedlaethol yn eu swyddogaethau.

Hefyd, cododd nifer o ymatebwyr rai goblygiadau posibl ynghylch cyflwyno Llywodraeth Cymru a'r Senedd i'r trefniadau llywodraethu plismona presennol a mater annibyniaeth weithredol yr heddlu. Er bod maint Cymru ac ymgysylltiad a chyfranogiad Gweinidogion o fewn cymunedau wedi'i amlygu yn un o gryfderau Llywodraeth Cymru a'i hethos cymunedol, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at yr heriau posibl y gallai hyn arwain atynt o ran diddordeb Gweinidogion mewn penderfyniadau plismona. Roedd pryder y gallai'r agosrwydd hwn at Weinidogion Cymru arwain at sefyllfaoedd a allai fygwth egwyddor annibyniaeth weithredol ac a fyddai'n gofyn am gynnal a chadw ffiniau rheolaidd rhwng gweinidogion a swyddogion plismona ond hefyd rhywfaint o ystyriaeth o sefydlu'r trefniadau llywodraethu i atal dylanwad gwleidyddol gormodol ar benderfyniadau plismona gweithredol. Roedd nifer yr achosion o'r mater hwn hefyd ynghlwm wrth drafodaethau ynghylch ystyriaethau yn y dyfodol ar gyfer plismona ar ôl datganoli ynghylch trefniadau a modelau atebolrwydd yr heddlu.

O ran ymwybyddiaeth y cyhoedd, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn credu, cyhyd â bod y cyhoedd yn parhau i dderbyn y gwasanaethau, eu bod yn disgwyl y byddai ychydig iawn o ddiddordeb cyhoeddus ym manylion plismona datganoli. Fodd bynnag, tynnodd nifer fach o ymatebwyr sylw at y ffaith fod posibilrwydd o fudd i'r cyhoedd o ystyried natur proffil uchel yr ardal, ac os oedd tarfu ar blismona yng Nghymru, efallai y bydd risg o ran enw da i aelodau'r Senedd ac i Lywodraeth Cymru yn sefydliad.

Lliniaru posibl

  • Potensial i Lywodraeth Cymru gytuno ar drefniadau llywodraethu gyda rhanddeiliaid a sicrhau bod rolau, cyfrifoldebau, cyfeiriad a rheolaeth dros blismona wedi'u hysgrifennu mewn statud i amddiffyn annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabl.
  • Os cytunir datganoli plismona bydd angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gyfathrebu ar blismona yn egluro pwrpas datganoli, y cynllun ar ei gyfer a beth fyddai'n wahanol o ganlyniad, yn ogystal â sut y gall swyddogion heddlu a staff gyfrannu at y broses.

Pwerau a deddfwriaeth

Codwyd mater pwerau a deddfwriaeth benodol gan ymatebwyr ar ystyr eang, gan y byddai angen i unrhyw ffordd o ddatblygu’r gwaith o ddatganoli plismona ystyried sylfeini deddfwriaethol presennol plismona yng Nghymru a Lloegr a pha newidiadau deddfwriaethol y byddai eu hangen i sicrhau datganoli plismona yng Nghymru.

Er bod yr ymatebwyr wedi codi hyn fel mater nid oedd yr un o'r ymatebwyr yn mynd i fanylion penodol ynghylch pa ddeddfwriaeth y dylid edrych arni ac am ba reswm. Roedd cydnabyddiaeth ymhlith yr ymatebwyr y byddai'r ddeddfwriaeth a'r pwerau penodol i'w hystyried yn ddibynnol ar y cynigion penodol ar gyfer datganoli a'r model a fabwysiadwyd. Roedd cydnabyddiaeth hefyd bod sylfeini deddfwriaethol plismona yn gymhleth ac y byddai angen eu hystyried yn ofalus.

Nodwyd hefyd y byddai angen ystyried deddfwriaeth yn y dyfodol a gofyniad i ddeddfwyr yn San Steffan a Chymru ystyried y goblygiadau pe bai'r model yn datganoli pwerau a swyddogaethau plismona heb ddatganoli cyfiawnder yn llawn ac un awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, gan y byddai hynny o bosibl yn gwneud deddfu yn fwy cymhleth mewn perthynas â phlismona yng Nghymru a Lloegr. Nodir hyn yn yr adran ar fodelau ac argymhellion penodol, yn enwedig Comisiwn Silk, y byddai angen ystyried datganoli cyfraith droseddol er mwyn datganoli pwerau sy'n ymwneud â diogelwch cenedlaethol. Efallai y bydd meysydd eraill na ellid eu dadgyfuno o'r gwaith ehangach hwnnw o ddatganoli’r System Cyfiawnder Troseddol.

Mae'r canlynol yn rhestr o ddeddfwriaeth y cyfeirir ati, neu a ddarganfuwyd, yn ystod y darn hwn o waith. Nid yw'n gynhwysfawr.

  • Deddf yr Heddlu 1964
  • Deddf Llywodraeth Leol 1972
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
  • Deddf yr Heddlu a Llysoedd yr Ynadon 1994
  • Deddf yr Heddlu 1996
  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Terfysgaeth 2000
  • Deddf Diwygio'r Heddlu 2002
  • Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004
  • Deddf Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005
  • Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006
  • Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011
  • Deddf Troseddu a’r Llysoedd 2013
  • Deddf Plismona a Throseddu 2017
  • Deddf Cymru 2017 a Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018
  • Rheoliadau’r Heddlu (Cwynion a Chamymddwyn) 2020
  • Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd 2022
  • Deddf Trefn Gyhoeddus 2023

Yn gysylltiedig â hyn, cododd rhai ymatebwyr bwyntiau ynghylch yr hyn a olygir wrth ddatganoli plismona a chyfyngiadau datganoli graddol. Er enghraifft, clymodd llawer o'r ymatebwyr drafodaethau ynghylch datganoli plismona wrth bwynt lletach o ran datganoli cyfiawnder yn ehangach, gan ddadlau mai dim ond os yw'r system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli y sylweddolir gwir fanteision datganoli ac y byddai cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gyflawni pe bai ond yn cyflawni rhai agweddau ar y system gyfiawnder.

Soniodd rhai ymatebwyr am ychydig o feysydd ymarfer penodol lle roedd y setliad datganoli presennol yn creu rhwystrau penodol i arferion gweithredol yng Nghymru. Y mwyaf nodedig oedd yr enghraifft yn ymwneud â darparu archwiliadau meddygol fforensig mewn canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol lle mae byrddau iechyd yng Nghymru wedi cael eu hatal rhag darparu archwiliadau meddygol fforensig yng Nghymru oherwydd y trefniadau deddfwriaethol penodol sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru. Enghraifft arall a godwyd oedd deddfwriaeth trosglwyddo swyddogaethau 2018 a drosglwyddodd bŵer i Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo gwasanaethau datganoledig mewn perthynas â rhan 1 o Ddeddf Argyfyngau Sifil Wrth Gefn 2004, nad oedd yn gallu cynnwys yr heddlu yn wasanaeth nad oedd wedi'i ddatganoli.

Yn yr un modd, nododd un ymatebydd sut roedd agendâu gwahanol rhwng y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru ynghylch sut i ymateb i fudwyr a'u trin yn golygu ei bod yn anodd sicrhau cydweithrediad yr heddlu ar gyfyngiadau rhannu data ynghylch dioddefwyr cam-drin mudol o ystyried pryderon y gallai eu manylion gael eu rhannu â'r Swyddfa Gartref. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys sut y gallai datganoli plismona agor llwybrau ar gyfer gwahanol ffyrdd o ymateb i'r problemau a gyflwynir gan gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.

Lliniaru posibl

  • Dylid gwneud rhagor o waith i ddeall y cysylltiad rhwng pwerau y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno eu datganoli a'r ddeddfwriaeth benodol sy'n sail i hyn er mwyn deall y newidiadau gofynnol a'r amserlenni cysylltiedig.
  • Archwiliad pellach o arbenigedd a chapasiti presennol Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau cyfreithiol wrth ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth, a'r Senedd (mewn pwyllgor a sesiwn lawn) wrth graffu arni a'i hystyried; a'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y pwyllgorau presennol ac unrhyw bwyllgorau newydd sydd eu hangen i fwrw ymlaen â hyn yng Nghymru. Nodir y byddai'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd gan y Senedd yn cynyddu ei maint i 96 aelod o'r 60 presennol.
  • Ar ben trosglwyddo pwerau, efallai y bydd angen newid deddfwriaethol sylweddol hefyd i sicrhau bod pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru yn meddu ar gyfatebiaethau deddfwriaethol priodol yng Nghyfraith Cymru. Efallai y bydd angen gwneud gwelliannau hefyd i ddeddfwriaeth bresennol Cymru a Lloegr i'w dadgyfuno. Bydd newid deddfwriaethol yn cymryd amser hir, felly dylid ystyried hyn fel pan gytunir ar drosglwyddiad pwerau, gallai’r gwaith o ddeddfu hyn yn llawn gymryd cryn amser.
  • Efallai y bydd cyfleoedd i wneud newidiadau sy'n cefnogi’r gwaith o drosglwyddo pwerau nad oes angen deddfwriaeth arnynt. Os cânt eu nodi, gellid ystyried y rhain yn gyntaf, ond bydd angen archwilio ymhellach i ymchwilio i beth gallai'r rhain fod.

Adran 5: Modelau

Wrth ystyried sut gallai model plismona datganoledig edrych yn y dyfodol, awgrymir bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch yr hyn y mae am ei gyflawni, beth yw'r weledigaeth ar gyfer plismona yng Nghymru, sut mae hyn yn cyd-fynd â System Gyfiawnder Cymru ehangach ac felly, beth bydd angen i Lywodraeth Cymru fod yn atebol amdano er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon.

Yn bennaeth y Swyddfa Gartref, mae'r Ysgrifennydd Cartref yn atebol yn gyfreithiol am ddiogelwch cenedlaethol ac am y rôl y mae plismona yn ei chwarae yn ei ymateb (Gorchymyn Protocol Plismona 2023, a30).

Er bod rhai pwerau wedi'u datganoli mewn amrywiaeth o setliadau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, nid yw diogelwch cenedlaethol yn eu plith. Wrth ystyried y system blismona sy’n bodoli ar hyn o bryd gan gynnwys swyddogaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, nid oedd yr un o'r ymatebwyr a holwyd yn credu y byddai unrhyw awydd gwleidyddol i ganiatáu unrhyw newid i'r dirwedd diogelwch cenedlaethol (rhyngwladol) bresennol.

Ar hyn o bryd mae'r Ysgrifennydd Cartref hefyd yn gyfrifol am y Gofyniad Plismona Strategol (SPR) sy'n nodi barn yr Ysgrifennydd Cartref ar y bygythiadau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r heddlu fynd i'r afael â nhw. Er bod yr SPR yn berthnasol i heddluoedd y Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr yn unig, mae llawer o'r bygythiadau a nodir yn y SPR yn effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ni fwriedir i unrhyw beth yn yr SPR effeithio ar y trefniadau presennol ar gyfer darparu cymorth ar y cyd rhwng heddluoedd y DU, gan gynnwys y rhai y tu allan i Gymru a Lloegr.

Mae'r SPR a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Chwefror 2023 yn nodi'n glir bod yr SPR ar gael i'w fabwysiadu gan heddluoedd nad ydynt yn y Swyddfa Gartref yng Nghymru a Lloegr, fel yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, a Heddlu Niwclear Sifil a Heddlu Milwrol Amddiffyn. Mae hefyd yn amlwg, er mwyn cwrdd â heriau rhyngweithredu ledled y DU, bod heddluoedd eraill yn cael eu hannog i roi sylw i fygythiadau asesu'r SPR i'r graddau eu bod yn berthnasol i'w hawdurdodaethau.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn gadarn ynghylch yr angen i gynnal cysylltedd i ddiogelu Cymru a'r DU. Mae rhoi dyledus sylw i'r SPR, neu ei gynnal yn ofyniad i Gymru a Lloegr, yn feysydd y byddai angen eu hystyried ymhellach ynghylch yr effaith ar ryngweithrededd. Pe bai plismona yn cael ei ddatganoli ac nad oedd y gofyniad hwnnw yn berthnasol bellach, credwyd yn ymarferol nad oedd modd cyflawni'r gallu i wahanu o'r trefniant hwn ar lefel ymarferol; ac felly dylai unrhyw swyddogaethau sy'n gysylltiedig â chylch gwaith trefniadau Diogelwch Cenedlaethol barhau i fod yn gyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Cartref. Mae'r cwestiwn yn parhau ynghylch a fyddai hynny'n synhwyrol pe na bai'r SPR yn berthnasol i Gymru yn y ffordd y mae ar hyn o bryd, neu a fyddai'r trefniadau'n parhau pe bai plismona yn cael ei ddatganoli (a'r gofynion cyfansoddiadol dilynol o wneud hynny ai peidio).

Pe bai plismona'n cael ei ddatganoli mae angen ymarferol, a gododd llawer o ymatebwyr, i barhau mewn cysylltiad rywsut â phlismona yn Lloegr oherwydd ei agosrwydd a'i gysylltiad â llawer o heddluoedd Lloegr, y troseddolrwydd trawsffiniol a'r gofynion cymorth cydfuddiannol. Gallai trefniadau deddfwriaethol reoli hyn, ac wrth gwrs mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban drefniadau o'r fath ar waith. Er enghraifft, mae gan PSNI a Heddlu’r Alban drefniadau hirsefydlog gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y mae'r rhai a gafodd eu cyfweld wedi datgan eu bod yn gweithio'n dda ond yn gofyn am yr ethos a'r agwedd gywir gan bob partner.

Mae'r angen i gynnal y berthynas a'r cysylltiad hefyd yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r DU ac yn cefnogi heriau trefniadau cudd-wybodaeth a gweithio gyda phlismona yn Ewrop er enghraifft, yn enwedig ynghylch meysydd troseddau cyfundrefnol, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl a bygythiadau a risgiau sy'n gysylltiedig â symudiad pobl. Pe bai plismona'n cael ei ddatganoli, efallai y bydd gofyn dyblygu rhai o'r trefniadau a'r perthnasoedd hyn yn uniongyrchol â phlismona Cymru.

At ddibenion yr adran hon, swyddogaethau yw'r rhai sy'n cefnogi plismona ar lefel sefydliadol a gweithredol genedlaethol a rhanbarthol, a'r holl swyddogaethau o fewn pedwar heddlu Cymru.

Gan y nodwyd yn flaenorol a'i gadarnhau drwy ddadansoddi'r gwaith hwn o fewn adran 3, y system plismona gyfredol sy'n peri anawsterau o ran cyfeiriad, rheolaeth a gweithredu polisi.

Fel y cydnabuwyd gan Dr Rob Jones:

mae trefniadau cyfansoddiadol unigryw sy'n bodoli yng Nghymru wedi arwain at ymddangosiad system hybrid: gofod polisi cyfiawnder troseddol wedi’i feddiannu gan ddwy lywodraeth wahanol, a phob un â'i mandad democrataidd, gweledigaeth polisi a blaenoriaethau ei hun.

O ganlyniad, mae plismona wedi ei "ddal" yn ceisio cysoni gwahanol ddulliau ar gyfer Llywodraethau'r DU a Chymru (The Hybrid System: Imprisonment and Devolution in Wales 2017).

Er mwyn helpu i benderfynu sut gallai model plismona edrych yn y dyfodol, awgrymir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y canlynol:

  • Pa swyddogaethau a phwerau y mae Llywodraeth Cymru am eu datganoli a sut y byddai hyn yn alinio strategaeth a gwella gwasanaethau plismona yng Nghymru?
  • Pa swyddogaethau a phwerau y bydd Llywodraeth y DU yn cytuno i'w datganoli?
  • Pa ddeddfwriaeth y mae angen ei hystyried?

Heb ddealltwriaeth lawn ac asesiad o'r uchod, mae'n anodd bod yn rhagnodol a/neu gynnig opsiynau ynghylch sut byddai model datganoledig o blismona yn edrych yn y papur hwn, gan fod cymaint o elfennau anhysbys. Fodd bynnag, credid y gallai fod yn ddefnyddiol ystyried y canlynol:

  1. (A) Model Datganoledig o Blismona: Yn ceisio datganoli'r holl swyddogaethau a phwerau priodol i Gymru (Swyddogaethau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol) ar unwaith o ran plismona lle nad yw'n ei gwneud yn ofynnol i bwerau cyfiawnder troseddol ehangach gael eu datganoli (neu gyda'r bwriad o drosglwyddo pwerau sy'n digwydd yn ddiweddarach i greu model cwbl ddatganoledig).
    (B) Model cynyddrannol o blismona datganoledig: Ceisio datganoli elfennau penodol o'r model llawn dros amser i gyrraedd pwynt datganoli llawn (p'un ai a yw hyn yn golygu plismona yn unig, neu blismona a chyfiawnder troseddol yn llawn neu'n rhannol). Byddai hyn yn galluogi profi swyddogaethau gweithredol a phenderfyniadau i gynyddu (dull iechyd y cyhoedd).
  2. Model hybrid o blismona: Datganoli rhai swyddogaethau plismona, neu ran o rai o'r swyddogaethau hynny, ochr yn ochr ag ystyriaeth bellach i ddatganoli cyfiawnder troseddol ehangach, ond nid yw'n dibynnu arno. Mae hyn yn galluogi model sy'n sefydlu bod plismona wedi'i "ddatganoli" gyda digon o allu gweithredol, pwerau a pherchnogaeth i Gymru ond o fewn fframwaith. Gallai hyn olygu nad yw agweddau ar blismona wedi'u datganoli ar sail penderfyniad cost ac effeithiolrwydd, neu'r dadansoddiad a wneir (gweler isod), neu oherwydd y byddai angen pwerau a deddfwriaeth ychwanegol ar y system cyfiawnder troseddol i wneud hynny.

Model datganoledig o blismona

Byddai'r model hwn yn datganoli'r holl swyddogaethau plismona cenedlaethol, rhanbarthol a lleol presennol heddluoedd, ac wedi hynny byddai atebolrwydd am y system blismona yn ei chyfanrwydd i Lywodraeth Cymru a'r Senedd (ac eithrio'r holl swyddogaethau hynny sy'n ymwneud yn benodol â Diogelwch Cenedlaethol).

Yn y pen draw, ni fydd yr amgylchedd plismona wedi ei ddatganoli yn llwyr nes y bydd y system cyfiawnder troseddol ehangach wedi'i datganoli'n llawn, oherwydd bod rhai swyddogaethau'n gofyn am ddatganoli cyfraith droseddol er enghraifft, i'w galluogi i weithredu yng Nghymru yn swyddogaethau datganoledig. Felly, bydd angen i'r model plismona datganoledig ystyried yr hyn sydd â chysylltiad cynhenid ac felly ni ellir ei ddatganoli ar wahân. Fodd bynnag, byddai'n dal i ddarparu model o blismona y gellid dweud ei fod wedi'i ddatganoli yng Nghymru.

Er mwyn cefnogi'r ddealltwriaeth o sut byddai’r model hwn yn edrych, byddai angen dadansoddi'r holl ddeddfwriaeth sy’n bodoli ac sy'n cefnogi'r trefniadau presennol, a beth byddai ei angen i effeithio ar y newid. Byddai hyn yn golygu bod amserlenni ar gyfer hyn yn ffactor i'w hystyried wrth benderfynu ar y pwynt lle gellir disgrifio plismona yn un sydd wedi'i ddatganoli yng Nghymru, ond hefyd rhywfaint o hyblygrwydd wrth gytuno ar fodel sy'n gweithio i dirwedd Cymru ac yn cydnabod y gwahanol drefniadau cyfansoddiadol sy'n sail i sut y byddai unrhyw ddatganoli yn digwydd.

Byddai angen datganoli plismona i Gymru yn wahanol i'r trefniant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon lle cychwynnodd y setliad o fan lle’r oedd plismona a chyfiawnder troseddol yn faterion datganoledig a chytunodd y Ddeddf ar yr hyn a gadwyd i lywodraeth y DU.

Er gwaethaf y gwahaniaeth hwnnw, , er mewn set wahanol iawn o amgylchiadau, gall hefyd fod yn ddefnyddiol tynnu unrhyw beth a ddysgwyd o'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae enghreifftiau o ble mae rhyngweithrededd a threfniadau wedi cael eu trafod, eu diwygio a'u newid fel y gallant barhau i weithredu mewn tirwedd lle mae rhai meysydd yn faterion datganoledig ac eraill ddim. Er enghraifft, trefniadau gyda HMICFRS ynghylch arolygiadau ar y cyd ag Arolygydd Cwnstabliaeth EF yn yr Alban (HMICS) gan gynnwys ‘Leading lights: sef arolygiad o drefniadau'r gwasanaeth heddlu ar gyfer dewis a datblygu prif swyddogion’ a gynhaliwyd yn 2019. Mae Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd yn gallu craffu ar yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA). Mae cynllun blynyddol yr NCA gyda Gweinidogion yr Alban a'r Adran Gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon i'r graddau y mae'n ymwneud â gweithgareddau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y drefn honno, er bod swyddogaethau'r NCA yn aros gyda San Steffan.

Byddai model hollol ddatganoledig ar gyfer holl swyddogaethau plismona yn ei gwneud yn ofynnol i'r System Cyfiawnder Troseddol gael ei datganoli hefyd. Fodd bynnag, gan fod y trefniadau cyfansoddiadol yn wahanol, a byddai angen datganoli plismona a chyfiawnder troseddol i Gymru gan Lywodraeth y DU i gyflawni hyn, efallai y bydd cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried cyflawni hyn fesul cam ar ôl datganoli plismona. Dyma'r model cynyddrannol a fyddai'n caniatáu datganoli plismona yn rhagflaenydd i waith ehangach o ddatganoli cyfiawnder a chreu un awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

Byddai gwaith datganoli ehangach yn achos yr holl swyddogaethau cyfiawnder troseddol ochr yn ochr â phlismona, yn cymryd mwy o amser ac adnoddau, yn enwedig ynghylch newid deddfwriaethol sylweddol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth eisoes i ddangos gallu llywodraethau Cymru i yrru pwerau newydd ymlaen sy'n datblygu ffordd wahanol o weinyddu swyddogaethau plismona a chyfiawnder troseddol - er enghraifft, deddfiad Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 nad yw'n bodoli yn Lloegr. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn diddymu'r amddiffyniad cyfraith gwlad o gosb resymol mewn perthynas â chosbi plentyn yng Nghymru yn gorfforol, sydd i bob pwrpas yn golygu bod pob math o gosbau corfforol i blant bellach yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys gan rieni, gofalwyr, neu unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis, mewn unrhyw leoliad.

Yn gyffredinol, gwnaeth uwch randdeiliaid yng Nghymru a Lloegr sylwadau ar yr angen i ddeall beth sy'n gweithio'n dda iddynt ar hyn o bryd yn y modelau presennol ledled y DU a'r hyn y gellid ei wella. Gallai hyn lywio'r trafodaethau ynghylch sut byddai’r fodel gorau i Gymru yn edrych (a pha un fyddai hynny) a dod â rhagor o ddyfnder dealltwriaeth o'r ystod o drefniadau gwahanol, o fewn y gwahanol setliadau, a'r profiad o'u gweithredu, i unrhyw drafodaethau angenrheidiol gyda Llywodraeth y DU am yr hyn sy'n gweithio, neu archwilio'r hyn a allai olygu newid yn y dyfodol i sicrhau bod unrhyw fodel wrth symud ymlaen yr un mor effeithiol â phosibl. fel y gall fod. Rhoddodd yr ymatebwyr eu meddyliau nawr ynghylch sut y gallai Modelau yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes wneud hyn sydd wedi eu nodi isod ar ffurf pwyntiau dysgu.

Yr Alban: Model plismona

Gwnaeth Deddf yr Alban 1998 ddarpariaeth ar gyfer llywodraeth yr Alban o weinidogion a Senedd yr Alban y byddent yn atebol iddi. Nid yw'r Ddeddf yn nodi pa faterion sydd wedi'u datganoli i Senedd yr Alban, yn hytrach mae'n nodi'r materion hynny sydd wedi'u cadw yn ôl i Senedd y DU. Mae'r materion hynny nad ydynt wedi'u cadw gan Ddeddf yr Alban wedi'u datganoli i Senedd yr Alban, gan gynnwys cyfiawnder a phlismona. Mae gan yr Alban un heddlu cenedlaethol ers 1 Ebrill 2013 (The Scottish Criminal Justice System: The Police 2013). Mae Deddf yr Heddlu a Diwygio Tân (Yr Alban) 2012 yn darparu ar gyfer y newid hwn.

Mae'r Ddeddf hefyd:

  • Yn sefydlu un Awdurdod Heddlu yn yr Alban (gan ysgwyddo nifer o'r tasgau a wnaed gynt ar lefel awdurdodau lleol gan awdurdodau heddlu a chydfyrddau heddlu)
  • Yn creu trefniadau llywodraethu ac ariannu newydd i’r heddlu.
  • Yn sefydlu swydd Comisiynydd Ymchwiliadau ac Adolygu'r Heddlu (gan gymryd drosodd o Gomisiynydd Cwynion yr Heddlu ar gyfer yr Alban) ac
  • Yn diddymu nifer o gyrff blaenorol gan gynnwys yr wyth heddlu tiriogaethol.
Pwyntiau i’w dysgu posibl o fodel yr Alban
  • Mae Deddf yr Heddlu a Diwygio Tân (Yr Alban) 2012 yn nodi'r egwyddorion plismona ar gyfer Heddlu’r Alban sy'n nodi mai prif bwrpas plismona yw gwella diogelwch a lles pobl, ardaloedd a chymunedau yn yr Alban. Mae nodi cenhadaeth plismona mewn statud yn arwydd o awydd bwriadol i annog cydweithredu ar draws gwasanaethau a meithrin cymunedau, ac eglurder a thryloywder yn y gyfraith ynghylch yr hyn y gall y cyhoedd yn yr Alban ei ddisgwyl gan eu heddlu. Gellir ystyried hyn wrth feddwl am y modd y bydd angen cyfleu unrhyw newid yn effeithiol yng Nghymru a pha fudd y mae nodi'r diben yn y Ddeddf wedi'i roi i ddealltwriaeth a hyder yn Heddlu’r Alban.
  • Mae Heddlu’r Alban wedi datblygu Cod Moeseg sy'n nodi'r hyn y gall y cyhoedd ei ddisgwyl a gwerthoedd craidd tegwch, uniondeb, parch a hawliau dynol. Ystyrir bod y dull hwn yn angori ei rwymedigaethau o dan y Ddeddf, ond hefyd yn ffordd o ddylanwadu ar ymddiriedaeth a hyder o ran y modd y caiff y polisi ei gyflawni. Caiff hyn ei gyflwyno ar wefan Heddlu'r Alban yn ddull a fydd yn darparu'r gwasanaeth gorau i gymunedau a gellid ei ystyried wrth fynd i'r afael â negeseuon a heriau sy'n ymwneud ag ymddiriedaeth a hyder mewn plismona yng Nghymru.
  • Roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod trefniadau trawsffiniol yn yr Alban yn parhau'n dda, gyda'r gallu i gael ymateb pragmatig o hyd pan fo angen gweithio yn y gwahanol asiantaethau datganoledig ac annatganoledig. Felly, mae enghreifftiau o ble y gall hyn weithio'n dda. Byddai'r maes lle teimlwyd y gallai fod rhai materion i'w hystyried ymhellach yn wahaniaeth o ran dull a achosir gan ddeddfwriaeth neu ddull a allai effeithio ar ryngweithrededd.
  • Nododd cyfranogwyr yr angen am allu dadansoddol da i fod yn rhagweithiol i wrthsefyll bygythiad, risg a niwed, fel y gwelir yn yr Alban. Gallai lle mae'r swyddogaethau hyn i’w cael ar hyn o bryd, a chryfder y gallu hwnnw, fod yn rhywbeth y mae angen ei ystyried.
  • Mae datganoli pwerau plismona hefyd yn gofyn am wasanaeth sifil sy'n gallu cefnogi'r model a'r trefniadau newydd, yn enwedig o ran datblygu polisi, gan gynnwys sut y gallai'r trefniant effeithio ar yr angen i ddatblygu polisïau newydd.
  • Ategir model yr Alban gan allu archwilio da, sy'n bwysig i'w ystyried.
  • Mae trefniant ariannu teg ar gyfer plismona, a'r ddealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae 'teg' yn ei olygu yn ystyriaeth allweddol o ddechrau model plismona datganoledig. Mae hyn yn cynnwys chwarae teg i Gymru ar lefel y DU ac wedyn trefniadau ar gyfer dosbarthiad teg oddi mewn i Gymru a rhwng heddluoedd.
  • Ystyried manteision ac anfanteision y pwerau newydd yn ofalus wrth iddynt gael eu cyflwyno i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn cael eu hosgoi. Enghraifft yn yr Alban a ddyfynnir oedd pŵer a dynnodd ymaith y gallu i'r heddlu ddal cronfeydd wrth gefn, a'r canlyniad ar gyfer plismona oedd ei bod yn anodd iawn cynllunio ar gyfer dyrannu cyfalaf.
  • Gallai aeddfedrwydd trefniadau newydd ac addasu i agosrwydd gwleidyddol gymryd cryn amser. Efallai na fydd modd gwireddu pob un o fuddion datganoli na’u gweld yn amlwg ar unwaith. Mae profiad yr Alban yn amlygu sut y byddai cyd-ddealltwriaeth o hyn yn fan cychwyn da, a bod amser i addasu i ffordd newydd o weithio gyda gwleidyddion yn bwysig.

Gogledd Iwerddon: Model plismona

Mae'r strwythur presennol yng Ngogledd Iwerddon yn ganlyniad i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith. Yn 1998, sefydlwyd comisiwn annibynnol ar blismona ar gyfer Gogledd Iwerddon (Policing in the UK 2021). Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad, A New Beginning: Policing in Northern Ireland, ym mis Medi 1999 ac fe wnaeth Llywodraeth y DU dderbyn yr holl argymhellion.

Yn dilyn hynny, sefydlodd Deddf yr Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 PSNI, Bwrdd Plismona Gogledd Iwerddon ac Ombwdsmon Heddlu Gogledd Iwerddon.

Rhai pwyntiau posibl i’w dysgu
  • Gallai datblygiad diwylliant proffesiynol, moesegol a pharchus, a chreu a meithrin gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus mewn trefniant newydd ar gyfer sefydliadau fod yn gysylltiedig â'r broses recriwtio a/neu bolisïau eraill mewn model plismona datganoledig. Mae cyfle i edrych yn fanwl ar sut mae hyn yn cael ei wneud i ddenu a chadw'r bobl gywir o gymunedau Cymru yn ogystal â’r doniau a phrofiad sydd eu hangen i siapio plismona, cynrychiolaeth a'r diwylliant ymhellach yn gadarnhaol o fewn y gweithlu.
  • Mae modelu costau yn bwysig er mwyn deall yr hyn sy'n ofynnol i ddatblygu model plismona datganoledig, ac unrhyw ganlyniadau neu ddigwyddiadau anfwriadol y gallai fod angen eu hystyried yn ariannol o ganlyniad i newidiadau a wnaed, gan dybio y bydd angen rhywfaint o arian i reoli hyn.
  • Mae'r cyfle i ddylanwadu a sicrhau cynrychiolaeth briodol ac amrywiol yn y bwrdd plismona yn rhoi cydbwysedd da o ran her a chraffu. Dylai hyn gael ei ymgorffori o'r dechrau.
  • Mae datganoli yn rhoi cyfle i ddarparu dull cyfiawnder cymdeithasol gwahanol sy'n ystyried effaith penderfyniadau a dulliau plismona ar fywydau pobl mewn partneriaeth â chymunedau a phartneriaid. Efallai y bydd lle i archwilio a phrofi gwahanol ddulliau sy’n fwy seiliedig ar gymunedau yng Nghymru yn hytrach na dull gweithredu ar draws 43 o heddluoedd sydd ag anghenion a phrofiadau cymunedol gwahanol iawn.
  • Nid oes rhaid i ddatganoli olygu datgysylltu. Mae'n bosibl parhau i gael perthynas â'r NCA a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd trosedd penodol eraill i wella gwasanaethau ac ymateb.
  • Mae gan blismona yng Ngogledd Iwerddon hefyd Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol yr Heddlu (PCSP) ar lefel Dosbarth a gefnogir gan gynghorau. Mae'r angen i barhau i ennyn gwaith craffu lleol da ar y lefel isaf yn parhau’n fodel datganoledig a byddai model Cymru o CSPs a'r rhwydwaith yn galluogi hyn.
  • Rhaid i gael unrhyw fodel newydd yn iawn gynnwys lleisiau'r bobl a fydd yn gweithio ynddo a'r cymunedau a wasanaethir ganddo i ddod ag ymddiriedaeth, hyder a hygrededd. Mae'r model cyflwyno yn un o gyd-gynhyrchu â phobl i sicrhau datblygiad diwylliant tosturiol o empathi sy'n gallu ymgysylltu, a datrys problemau.
  • Ystyrir cynnwys cynghorydd hawliau dynol sy'n eistedd ar y Bwrdd Plismona yn benderfyniad cadarnhaol a alluogir gan ddatganoli sy'n cefnogi dull sy'n seiliedig ar hawliau dynol ym maes plismona, yn ogystal â chyfranogiad cryf gan y trydydd sector yng Ngogledd Iwerddon; ystyrir bod rhyngweithio rheolaidd er enghraifft gyda'r Comisiynydd Hawliau Dynol yn fuddiol iawn wrth gyflawni'r nod hwn.
  • Y neges glir yw bod ymreolaeth yn gweithio, ond dim ond gyda'r isadeiledd cywir i'w chynnal.

O'r ymchwil a wnaed, a gwybodaeth a gafwyd yn ystod y gwaith hwn, nodir isod y prif gyfleoedd a risgiau ar gyfer model hollol ddatganoledig ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru:

Model hollol ddatganoledig

Y prif gyfleoedd a grëir gan fodel hollol ddatganoledig:

  • Y gallu i gael gwasanaethau cyhoeddus gwirioneddol integredig, sy'n ceisio atebion cyfannol i broblemau a heriau a datblygu canlyniadau sy'n ategu hyn.
  • Y gallu i bennu blaenoriaethau ar gyfer yr holl bartneriaid datganoledig er mwyn galluogi atebolrwydd ar y cyd dros gyflawni rhai materion allweddol e.e. trais yn erbyn menywod, a chryfhau'r trefniadau partneriaeth ymhellach i ddarparu polisïau ac ymyriadau sy'n gweithio ar draws amlasiantaethau, ac adlewyrchu anghenion cymunedau yng Nghymru.
  • Byddai mwy o uchelgais ar y cyd i wneud rhywbeth gwahanol gyda chymunedau pe bai pob sector yn cyd-fynd â'r un blaenoriaethau gan Lywodraeth Cymru.
  • Byddai llai o ddryswch ynghylch pwy sy'n gweithio i'r ba lywodraeth yn cynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd ac yn cynyddu atebolrwydd wrth iddynt ymddiddori’n fwy mewn materion y gallent deimlo eu bod yn agosach atynt pe bai plismona'n cael ei ddatganoli.
  • Daw datganoli â chyfleoedd i feithrin ymddiriedaeth a hyder a datgysylltu Cymru oddi wrth faterion sy'n canolbwyntio ar Lundain, megis y materion a ddatgelir gan Adolygiad y Farwnes Casey o'r Heddlu Metropolitan.
  • Cyfleoedd pellach i archwilio polisi a deddfwriaeth sy'n galluogi canlyniadau cadarnhaol i Gymru, gan adeiladu ar y ddeddfwriaeth arloesol sydd eisoes wedi archwilio hyn megis Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
  • Mae datganoli yn rhoi rhagor o gyfle i bobl Cymru fod yn rhan o ddiffinio’r weledigaeth ar gyfer Cyfiawnder a Phlismona Cymru sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion yn gweithio mewn ffordd sy'n eu bodloni orau, a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw.
  • Y gallu i ddatblygu partneriaethau agosach ymhellach a gweithio rhwng asiantaethau partner allweddol nad ydynt yn dibynnu ar berthnasau personol bregus ac sydd wedi’i ymgorffori a'i gynnal mewn fframwaith llywodraethu clir a dealledig a deddfwriaeth yn sail iddi. Byddai hyn hefyd yn galluogi camau i ddatblygu dulliau mwy arloesol o ymdrin â meysydd polisi y gellir eu teilwra ar gyfer tirwedd Cymru ac adeiladu ar y trefniadau presennol sy'n gweithio'n dda a'u cryfhau.
  • Y cyfle i ddiffinio diwylliant, hunaniaeth ac ymarfer plismona ar gyfer Cymru sy'n benodol i Gymru.

Risgiau allweddol a gyflwynir gan fodel hollol ddatganoledig:

  • Bydd dadgyfuno swyddogaethau Cymru a Lloegr yn costio arian, a gall gwahanu swyddogaethau hefyd gynyddu costau.
  • Efallai y bydd effaith ar argaeledd ffrydiau cyllido yn y dyfodol o'r Swyddfa Gartref i Gymru a allai rwystro cyflawni prosiectau ac ymyriadau rhag mynd i'r afael â phryderon a rennir. Er enghraifft, y rhaglen Operation Uplift.
  • Nid ydym yn deall yn llawn y gost o gyflawni a chynnal model hollol ddatganoledig ond mae'n debygol o fod yn sylweddol. Mae costau anhysbys hefyd mewn perthynas â chost datblygu a phrynu technoleg.
  • Byddai'r gallu i ganfod a chadw'r arbenigedd sydd ei angen i gefnogi'r model datganoledig yn Llywodraeth Cymru a swyddogaethau'r gwasanaeth sifil yn her yn y gweithlu presennol, ac o ran dod o hyd i'r arbenigedd cywir i Gymru neu ei ddenu, a allai olygu recriwtio a chost bellach adeg her ariannol. Mae costau hefyd ynghlwm wrth recriwtio a chadw talent ar gyfer rolau dethol a phenodol ym maes plismona a allai fod wedi cael eu cefnogi'n wahanol o'r blaen ac sy'n creu risg y gellir colli potensial i rannu cyfleoedd dysgu ar draws swyddogaethau plismona megis arolygu, hyfforddi a'r gyfraith.
  • Dylai dryswch posibl gael ei gyflawni mewn gwahanol ffyrdd neu fod cyfreithiau yn sylweddol wahanol, yn enwedig yn nhrefi ffin Cymru/Lloegr sy'n pontio'r ddwy wlad, a bod Plismona Cymru yn colli dylanwad ar draws tirwedd ehangach plismona'r DU gyda safle plismona Cymru ar wahân.

Model hybrid o blismona

Yn y model hwn gallai Llywodraeth Cymru asesu pa swyddogaethau y dylid eu datganoli i ffurfio'r model plismona newydd i Gymru.

Dylai'r asesiad ystyried a ddylid datganoli'r swyddogaeth gyfan, rhan ohono, neu ddim ohono. Y rheswm dros awgrymu'r dull hwn yw y byddai'n helpu adlewyrchu barn ymatebwyr yn adran 3. O fewn y dadansoddiad mae'n amlwg bod rhai ymatebwyr wedi ystyried cyfleoedd i ddatganoli elfennau penodol o fewn swyddogaeth.

Er enghraifft, o dan y model hwn, gallai plismona yng Nghymru gadw'r cysylltiad â'r Coleg Plismona ond archwilio a ellid cyflawni rhai o'r cyfrifoldebau penodol sydd ganddo yng Nghymru (er enghraifft, hyfforddiant yr heddlu). Roedd rhai ymatebwyr o'r farn y gallai creu academi arweinyddiaeth neu hyfforddiant yng Nghymru adlewyrchu'n well ethos a gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Gellid helpu'r asesiad yntau hefyd trwy gymhwyso set o egwyddorion y cytunwyd arnynt i bob swyddogaeth. Gallai Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol benderfynu ar y rhain. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  1. Alluogi Llywodraeth Cymru i alinio polisi plismona â strategaeth.
  2. Cyfrannu'n uniongyrchol at well canlyniadau o ran nodau strategol allweddol.
  3. Dylanwadu ar gysondeb y defnydd o bolisi ar draws Cymru.
  4. Effaith ar wella'r ymateb a'r gwasanaethau i blant bregus yng Nghymru.

Byddai hyn yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth ac achos dros newid ynghylch datganoli pob swyddogaeth, neu ddatganoli rhan ohoni. Gall hyn helpu i lywio’r penderfyniadau a wneir.

O'r ymchwil a wnaed, a'r wybodaeth a gafwyd yn ystod y gwaith hwn, nodir isod y prif gyfleoedd a risgiau ar gyfer model hybrid:

Prif gyfleoedd a grëir gan fodel hybrid:

  • Y gallu i fod yn benodol iawn ynghylch yr hyn y dylid ei ddatganoli a pham, a phrofi agweddau ar hyn cyn eu gweithredu'n llawn.
  • Y gallu i wahaniaethu a deddfu ar gyfer gwahanol ofynion gwasanaeth yn dibynnu ar angen a nodwyd (drwy'r broses asesu)
  • Y gallu i gryfhau a dylanwadu'n gadarnhaol ar berthnasoedd presennol i wella'r gwasanaeth a ddarperir gan bartneriaid i Gymru drwy lywodraethu gwleidyddol a rennir ond heb yr angen i ymgymryd â'r holl swyddogaethau nad ydynt efallai yn ymarferol nac yn angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn.
  • Cyfle i ddatblygu model datganoledig o blismona gyda dull graddol o ddatganoli y gellid ei ymestyn ymhellach dros amser ac osgoi canlyniadau anfwriadol neu gostau diangen, yn ogystal ag amser i ddatblygu galluoedd a dysgu o bob cam.
  • Y gallu i feithrin capasiti a gallu Llywodraeth Cymru mewn meysydd penodol a fydd yn cefnogi'r swyddogaethau newydd yn effeithiol heb eu gorlwytho, ac i sefydlu pa newidiadau y gallai fod eu hangen wrth blismona yng Nghymru.
  • Y gallu i osod dull Cymreig ar gyfer yr ardaloedd hynny sydd bwysicaf i bobl Cymru wrth gadw dull y DU ar gyfer meysydd eraill lle profwyd bod hynny'n gweithio'n well, neu lle mae ystyriaeth o ran cost neu effeithlonrwydd sy'n gorbwyso'r manteision.
  • Gall model cynyddrannol a mwy cyfyngedig fod yn gyraeddadwy o ran amser, cost a/neu fod yn ddull graddol sy'n arwain at fodel plismona hollol ddatganoledig sy'n cynnwys maes ehangach cyfiawnder troseddol
  • Y gallu i wneud penderfyniadau ar yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn seiliedig ar ddadansoddi effeithiolrwydd a chost i gefnogi sicrhau bod y canlyniadau gorau yn cael eu darparu ar gyfer pobl Cymru ac ar gyfer plismona.

Y prif risgiau a grëir gan fodel hybrid:

  • Nid yw model hybrid ond yn darparu'r gallu i reoli rhai agweddau plismona a allai barhau i achosi anawsterau wrth weithredu amcanion polisi tymor byr a thymor hir. Gellir creu dryswch hefyd mewn perthynas â gwasanaethau cyfiawnder troseddol eraill yng Nghymru a'r DU gydag agwedd dameidiog tuag at ddatganoli.
  • O safbwynt llywodraethu'r heddlu, mae cymhlethdod ychwanegol i'r trefniadau atebolrwydd deuol ffurfiol a fydd yn heriol i'w rheoli mewn fframwaith deddfwriaethol cynyddol gymhleth. A dryswch yng Nghymru nad yw swyddogaethau'r heddlu wedi'u datganoli mewn perthynas â hwy. Efallai y bydd gan Benaethiaid yr Heddlu swyddogaethau datganoledig a heb eu datganoli o dan eu gorchymyn.
  • Gall trefniadau cyllido a thryloywder ddod yn anoddach fyth eu llywio gyda photensial am ddiffyg eglurder ynghylch llinellau atebolrwydd a chyllid lle mae gan ymagweddau aml-ddimensiwn ôl troed Cymru a'r DU. Gall cyllid yn yr amgylchedd hwn ddod yn fwy cymhleth a gwir gost swyddogaethau, a’i gwneud yn anos penderfynu lle mae’r swyddogaethau hyn i’w cael.
  • Efallai y lleiheir y cyfleoedd go iawn i arloesi oherwydd y cyfyngiadau o amgylch rhai meysydd o ddatganoli.

Adran 6: Ystyriaethau'r dyfodol

Newid mewn strwythurau plismona a llywodraethu

Er bod strwythur yr Heddlu yn y dyfodol y tu hwnt i gwmpas y gwaith hwn, serch hynny, mynegodd llawer o'r ymatebwyr farn ynghylch y posibiliadau o newid y trefniadau presennol, ynghylch nifer y lluoedd neu rolau Comisiynwyr (PCCs).

Ar draws yr ymatebion roedd barn gref ar y naill ochr a'r llall ynghylch y materion hyn. Roedd y rhai o blaid cadw'r nifer bresennol o heddluoedd yn canolbwyntio ar werth cysylltu heddluoedd â'u hardaloedd lleol a chynnal perthnasoedd â phartneriaid ar lefel fwy lleol ac y gallai heddlu cenedlaethol beryglu hyn. Roedd pryderon hefyd y gallai un llu mwy o faint achosi problemau o ran atebolrwydd lleol, yn ogystal â phryderon y gallai symud i fodel un heddlu arwain at darfu tymor byr i ganolig ar yr heddlu a'r cymunedau.

Fodd bynnag, roedd nifer o ymatebion a oedd o blaid symud i model un heddlu oherwydd y cyfleoedd cydweithredol y gellid eu datblygu trwy gydweithio â swyddogaethau busnes a Thechnoleg Gwybodaeth. Pwysleisiodd y rhai o blaid y cyfleoedd ar gyfer canoli'r swyddogaethau hynny megis Adnoddau Dynol a galluogwyr busnes craidd eraill a allai leihau dyblygu a hyrwyddo dull cyson ledled Cymru o ran systemau a safonau.

Nododd ymatebwyr eraill y gallai symud i un model fod yn gyfle da i adnewyddu diwylliant neu ethos plismona yng Nghymru a allai fod yn anos pe bai'r model pedwar heddlu yn cael ei gadw.

Dadleuodd rhai y byddai cael un heddlu yn hwyluso ymgysylltiad a goruchwyliaeth haws rhwng yr heddlu a Llywodraeth Cymru gan y byddai un pwynt cyswllt, ond dadl yn erbyn y farn hon oedd y gallai cael un cyswllt ei gwneud hi'n anos i Weinidogion neu swyddogion ymgysylltu ar lefel fwy lleol.

Roedd lefel debyg o wahaniaeth ynghylch presenoldeb a rôl Comisiynwyr (PCCs) gyda safbwyntiau cymysg i gefnogi cadw neu newid. Mae'n werth nodi mai’r ymateb cyffredin oedd y byddai ceisio datganoli plismona a newid strwythurau plismona ar yr un pryd yn her sylweddol yn weithredol i'r heddlu ond hefyd Llywodraeth Cymru a phartneriaid. Ystyriwyd gan lawer y gallai gormod o newid ar unwaith ansefydlogi ac effeithio ar berfformiad a gwasanaeth.

Rhybuddiodd nifer o ymatebwyr yn erbyn y syniad y gallai datganoli plismona fod yn godiad a symudiad cymharol syml o gyfrifoldeb plismona o lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru. Awgrymodd rhai fod cyfle i arloesi a gyrru ymlaen gyda newid yn gyflym, awgrymodd eraill, gan nodi'r cymhlethdod hwn yn argymell dull graddol o weithredu, ddull cynyddrannol, gyda newidiadau mwy sylfaenol yn cael eu gohirio.

Roedd rhai ymatebwyr yn fwy gofalus ynghylch cyflymder y newid, gan ddadlau y dylai datganoli geisio gwneud y newidiadau lleiaf angenrheidiol i ddechrau, megis dod â goruchwyliaeth ac atebolrwydd am blismona o dan Lywodraeth Cymru a'r Senedd, er mwyn darparu rhywfaint o barhad a chynnal a chadw gwasanaethau heb geisio cyflawni gormod ar unwaith. Yn yr achosion hyn, roeddent yn cydnabod bod cyfle i ystyried newidiadau ehangach i strwythurau plismona yn y tymor hwy, ond roeddent yn meddwl y byddai’n well gwahanu’r ystyriaethau hyn oddi wrth broses gychwynnol o ddatganoli cyfrifoldeb dros blismona.

Cyfathrebu, ymgysylltu a chynllunio

Gwelwyd thema allweddol pwysigrwydd cyfathrebu clir ac amserol ym mron pob ymateb o ran sut y dylid datblygu cynnydd datganoli ochr yn ochr â phartneriaid gyda phwyslais ar ddatblygu'r achos dros ddatganoli ar y cyd.

Dangosodd llawer o'r ymatebwyr farn gref ar yr arferion gorau i'w cymryd cyn ac ar ôl datganoli, ond ymateb cyffredin oedd y byddai eu hymatebion yn gyfyngedig heb ragor o eglurder ynghylch sut byddai cynigion Llywodraeth Cymru yn edrych.

Roedd sawl ymatebydd, yn bennaf y rhai a oedd yn gweithio mewn cysylltiad uniongyrchol â swyddogion, yn pryderu am effaith datganoli ar staff plismona. Dywedon nhw y byddai angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cynlluniau clir ar bryderon allweddol megis cyflog a symudiad ar draws, gan fod rhai aelodau o heddluoedd eraill a'r swyddfa gartref wedi nodi o'r blaen bod staff heddlu Cymru yn fwy agored i wahaniaethau cyflog rhanbarthol, gan wneud swyddi yn heddluoedd Lloegr yn fwy deniadol. Nid yn unig y gallai hyn effeithio ar gadw a recriwtio, ond gallai hefyd beryglu gweledigaeth egwyddorion sy'n canolbwyntio’n fwy ar y gymuned yr oedd rhai ymatebwyr yn credu a allai fod o fudd a rhesymeg allweddol ar gyfer datblygu.

Roedd rhoi'r wybodaeth gywir i'r cyhoedd am y broses ddatganoli hefyd yn thema nodedig yn yr ymatebion. Trafododd yr ymatebwyr bryderon bod llawer o'r cyhoedd y mae plismona’n effeithio arnynt yn credu ei fod eisoes wedi'i ddatganoli. Byddai gwneud hyn yn helpu i egluro deddfau a hawliau pobl yng Nghymru yn ogystal â'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl y mae plismona yn effeithio arnynt.

Nododd llawer o'r ymatebwyr yr angen am ymgysylltiad pellach pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud i ddatganoli plismona.

Gwella ymddiriedaeth a hyder mewn plismona

Nodwyd hyn fel her i'r Heddlu fel yr amlinellwyd yn flaenorol yn yr adroddiad hwn. Cynigir y gallai model datganoledig o blismona i Gymru gael cyfle i ailgysylltu â phobl yng Nghymru. Gallai ystyriaeth bellach ganolbwyntio ar adeiladu sylfaen dystiolaeth i ddangos sut y gall yr heddlu wella ymddiriedaeth a hyder pobl sy’n agored i niwed a lleiafrifoedd ethnig pe bai plismona yn cael ei ddatganoli. Efallai y byddai'n ddefnyddiol meddwl sut y gallai ymchwil academaidd ganolbwyntio ar y maes hwn a/neu eu syniadau ar ddull a fyddai'n ddefnyddiol i sbarduno gwelliannau mewn plismona ac effeithio'n gadarnhaol ar gymunedau.

Fel y nododd yr ymatebwyr mae'n anodd priodoli gwelliant yn uniongyrchol mewn canlyniadau perfformiad a darparu gwasanaethau ar hyn o bryd. Mae cyfle, fel yr awgrymwyd yn gryf gan ymatebwyr, pe bai plismona’n cael ei ddatganoli bod cysylltiad â'r dirwedd gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn rhoi cyfle i wella gwasanaeth. Efallai y bydd gan hyn y potensial i addasu anghydbwysedd cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n gyfle, er enghraifft, i ddeall sut y gall y system gwasanaeth cyhoeddus gyfan flaenoriaethu sut i amddiffyn pobl ifanc rhag niwed, darparu'r "gofal cywir, person cywir," a chadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol.

Adran 7: Casgliadau

Comisiynodd Llywodraeth Cymru y darn hwn o waith i helpu Gweinidogion i ddeall y manteision, y cyfleoedd, yr heriau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer datganoli plismona i Gymru. Cydnabyddir bod y gwaith hwn yn rhan o ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i Ddarparu Cyfiawnder i Gymru, ac er mwyn datganoli plismona'n llawn, efallai y bydd angen datganoli pellach ar y system cyfiawnder troseddol ehangach, a sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

Mae tîm y prosiect wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid strategol allweddol sy'n ymwneud â phlismona ac sy’n gweithio mewn trefniadau partneriaeth ar draws y DU a Chymru. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod yr adroddiad yn cael ei lywio gan brofiad, barn a barn arweinwyr strategol credadwy sydd â dealltwriaeth wirioneddol o blismona, neu sydd yn ei hanfod yn gysylltiedig â phlismona.

Dylid nodi i rai ymatebwyr ymatal rhag gwneud sylwadau ar rinweddau neu broblemau cymharol gyda'r egwyddor o ddatganoli, gan ddymuno bod yn niwtral ar y pwnc. Cydnabuwyd yn briodol gan nifer o ymatebwyr mai penderfyniad gwleidyddol yn hytrach na gweithredol yw mater datganoli'r heddlu.

Canfu’r mwyafrif o’r ymatebwyr mai adnoddau a chyllid oedd y ddwy elfen hollbwysig i'w datrys. Nodwyd mai’r rhain oedd y meysydd a oedd yn achosi'r risg fwyaf i ddatganoli plismona wrth baratoi, cyflawni a gwreiddio model gwydn o blismona yng Nghymru. Roedd y pryderon a godwyd hefyd yn cydnabod bod angen ystyried gofynion adnoddau a chostau unrhyw gynlluniau ehangach ar gyfer datganoli cyfiawnder. Arweiniodd trafodaethau at awgrymu sawl opsiwn i liniaru'r risgiau hyn ac mae'n debygol y gallai atebion eraill gael eu nodi drwy ymgysylltiad pwrpasol pellach. Oherwydd cryfder barn a lefel risg bosibl mewn perthynas â'r ddau faes hyn, mae'n amlwg y byddai'n rhaid iddynt ffurfio ffocws gwaith sylweddol i ddeall y costau a'r gofynion adnoddau gwirioneddol mewn unrhyw waith yn y dyfodol.

Nododd yr ymatebwyr fod plismona yng Nghymru yn cael ei gefnogi a'i gysylltu'n dda iawn ar hyn o bryd. Roedd pobl yn cydnabod yr angen i ystyried yn fanylach yr isadeiledd gweithredol a sefydliadol cenedlaethol a rhanbarthol sy'n cefnogi plismona ar hyn o bryd. Mae'n bwysig nodi nad oedd yr un o'r ymatebwyr wedi codi unrhyw bryderon sylfaenol ynghylch y gallu i reoli hyn yn briodol ac, mewn trafodaethau, roedd y rhan fwyaf o'r farn bod ffyrdd pragmatig a deddfwriaethol o reoli hyn. Yr hyn y byddai angen ei ystyried yw pa feysydd y byddai angen cytundebau penodol megis memorandwm cyd-ddealltwriaeth arnynt a pha feysydd y gellid eu cyflawni drwy berthnasoedd effeithiol. Mae enghreifftiau o'r ddau ddull yn gweithio'n effeithiol mewn awdurdodaethau eraill.

Er bod mwyafrif y rhai a gyfwelwyd a'r ymatebwyr yn gefnogol mewn egwyddor i ddatganoli plismona i Gymru, mynegodd rhai o'r rhai a holwyd fod angen deall goblygiadau ariannol a gweithredol llawn datganoli yn fanylach cyn gwneud penderfyniad.

Fodd bynnag, roedd rhai cyfleoedd sylweddol i fodel newydd datganoledig o blismona. Roedd y rhain yn cynnwys y cyfle i alinio plismona â phartneriaid statudol ac, wrth wneud hynny, y gallu i ffurfioli trefniadau partneriaeth yng Nghymru, gyrru gweithgaredd o safbwynt gweledigaeth, ymrwymiad ac atebolrwydd cydgysylltiedig.

Roedd yr ymatebwyr o'r farn bod alinio plismona o fewn y dull gwasanaeth cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn cynnig y potensial i blismona gysylltu'n ffurfiol mewn gweithgaredd partneriaeth a allai feithrin gwelliannau system newydd sbon, gan effeithio'n gadarnhaol ar wasanaethau a gynigir i bobl Cymru.

Dywedodd llawer o bobl fod hwn yn amser da i ail-ddychmygu'r weledigaeth o blismona yng Nghymru a bod yn uchelgeisiol ynghylch yr hyn y mae plismona yn ei olygu i bobl Cymru. Cyfle gwirioneddol i ailddatgan pwysigrwydd plismona yn y gymuned, i gydnabod y gwahaniaethau daearyddol ledled Cymru, gyda phenderfyniadau lleol yn dylanwadu ar berthnasedd ac addasrwydd ymarfer plismona. Roedd yn ymddangos bod y chwydd barn yn awgrymu y byddai hyn yn gyfle i gynyddu ymddiriedaeth a hyder ym maes plismona.

Yn ogystal â'r ffocws dwys ar ddiwylliant plismona ledled y DU gallai datganoli plismona nawr roi cyfle i blismona yng Nghymru ailosod diwylliant ym maes plismona yng Nghymru sy'n gosod y safonau uchaf ac yn diffinio ei hun yn gryfach.

I gloi, mae'r ymchwil a gynhaliwyd hyd yn hyn wedi helpu i lunio modelau posibl ar gyfer gwasanaeth heddlu datganoledig yng Nghymru sy'n haeddu archwiliad pellach. Mae'r modelau cwbl ddatganoledig a hybrid, y mae'r ddau wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad hwn, yn rhoi tystiolaeth o'r hyn sy'n bosibl ar gyfer model plismona i Gymru. Y gobaith yw y bydd cynnwys yr adroddiad hwn yn helpu i lywio ac ysgogi trafodaeth bellach, ac, yn y pen draw, i fod yn fan cychwyn defnyddiol wrth baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru.

Atodiad A: Set y cwestiynau a ddefnyddiwyd mewn cyfweliadau a chyflwyniadau ysgrifenedig ar-lein

  1. Pa heriau sy'n bodoli yn y trefniant datganoli presennol rhwng plismona annatganoledig a phartneriaid datganoledig?
  2. Ym mha ffordd y gallai datganoli plismona ddatrys yr heriau hyn?
  3. A oes unrhyw feysydd lle credwch y gallai datganoli plismona wella'r arferion da presennol a ddatblygwyd yng Nghymru?
  4. Beth yw'r cyfleoedd a grëir yn sgil datganoli plismona yng Nghymru?
  5. Beth fyddai'r goblygiadau posibl i'ch rôl/sefydliad?
  6. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mynd ati i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli Cyfiawnder Ieuenctid a’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru. Sut y gallai datganoli plismona gyd-fynd â'r cynlluniau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith ehangach o ddatganoli Cyfiawnder Troseddol?
  7. Beth ydych chi'n meddwl yw'r heriau y mae angen eu hystyried wrth baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru?
  8. Beth ydych chi'n meddwl yw'r risgiau y mae angen eu hystyried wrth baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru
  9. A ydych yn credu bod cyfleoedd i wella'r cysylltiadau rhwng plismona a gwasanaethau cyfiawnder troseddol eraill os bydd plismona wedi'i ddatganoli? Os felly, beth yw'r cyfleoedd hynny?
  10. Beth yw'r meysydd busnes, swyddogaethau neu bwerau statudol allweddol y mae angen eu trosglwyddo, neu y gellid eu trosglwyddo, i Lywodraeth Cymru wrth ddatganoli plismona yng Nghymru?
  11. A ddylid cadw rhai elfennau o'r seilwaith cenedlaethol presennol sy'n cefnogi plismona? Er enghraifft, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Coleg Plismona, HMICFRS
  12. A oes unrhyw beth arall nad ydych wedi sôn amdano eto y credwch y dylid ei ystyried wrth baratoi ar gyfer datganoli plismona yng Nghymru?
  13. Ym mha ffyrdd y byddai egwyddorion, ethos, gweledigaeth a gwerthoedd craidd plismona yng Nghymru yn edrych yn wahanol pe bai plismona yn cael ei ddatganoli?
  14. A oes gennych unrhyw feddyliau ar sut y gellid gweithredu’r gwaith o ddatganoli plismona? Pam ydych chi'n credu hyn?
  15. Beth fyddai'r model a ffefrir gennych ar gyfer darparu plismona datganoledig yng Nghymru?
  16. Sut byddai plismona datganoli yng Nghymru yn cyd-fynd â thirwedd y gwasanaethau cyhoeddus cenedlaethol yng Nghymru?
  17. Hoffech chi rannu unrhyw farn arall am feddyliau rydych chi'n credu sy'n berthnasol i ddatganoli plismona yng Nghymru?

Atodiad B: themâu allweddol llenyddiaeth

Themâu allweddol a llenyddiaeth ategol

Mae datganoli yng Nghymru wedi cael ei ystyried yn gyfres o 'Arbrofion Cyfansoddiadol' yn ymgais i ysgaru oddi wrth 'Fodel San Steffan'

- Drakeford 2010, Jones a Wyn Jones 2019, 2022

  • Disgrifiadau o fodelau datganoli ôl-1998 a 2017 yn 'stôl un goes' (dim gwahaniad ffurfiol rhwng y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa yn y Cynulliad Cenedlaethol am yr 8 mlynedd gyntaf) wedyn 'stôl ddwy goes' (wedi'i rhannu rhwng deddfwrfa ac, yn awr, Llywodraeth Cymru):
    • Jones a Wyn Jones, 2019, 2022
    • Rawlings 2018.
  • Wrth i San Steffan gadw pŵer dros blismona a chyfiawnder yn cynnal rheolaeth gan ddefnyddio newidiadau deddfwriaethol 'bach' i roi rheolaeth fel yr 'asesiad effaith ar gyfiawnder gofynnol' yn Neddf 2006. Ond heb unrhyw drefniant deuochrog ar gyfer Llywodraeth y DU:
    • Rawlings 1998, 2018
    • Comisiwn Richard 2004
    • Wyn Jones a Scully 2012
    • McAllister 2005.
  • Cyfres o fethiannau oedd yr arbrofion dim ond i gyrraedd trefniant anuniongred sy'n anwybyddu egwyddorion cyfansoddiadol ym 1998, sy'n achosi rhwystredigaeth a'r angen am raniad mwy uniongred yn 2006, wedi'i lywio gan Gomisiwn Richard:
    • Jones a Wyn Jones 2022 inter alia
    • Lijphart 1999
    • Rhodes et al 2009
  • Mae peidio â chadw 'Model San Steffan' wedi achosi problemau posibl ynghylch chostau, o safbwynt ariannol a chyfle, sy'n deillio o gymhlethdod ychwanegol; problemau gyda 'chydlynu' lle nad oes gan y naill lywodraeth na'r llall reolaeth ar yr holl ysgogiadau polisi i sicrhau newid; atebolrwydd system lle rhennir y cyfrifoldeb rhwng gwahanol lefelau, a etholir ar wahanol seiliau a systemau:
    • Ifan 2019a, 2019b, 2019c
    • Jones et al 2019
    • Jones a Wyn Jones 2019

Mae’r llenyddiaeth yn llawn trafodaethau am ddatganoli'r system gyfiawnder yng Nghymru yn sgil-gynnyrch y cwestiwn a oedd angen awdurdodaeth gyfreithiol neu gyrraedd setliad datganoli. Mae trafodaethau am elfennau gwahanol o'r CJS yn fwy cyfyngedig

- Jones a Wyn Jones 2022, Haines 2009, Jones 2020c. Evans et al, 2021. inter alia: Jones 2008, Jones a Williams 2004, Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2012, Comisiwn Silk 2014, Percival 2017, Canolfan Llywodraethiant Cymru ac Uned y Cyfansoddiad 2015, 2016

  • Corff o lenyddiaeth ynghylch Cyfiawnder Ieuenctid, a ddisgrifir yn 'arbrawf Cymreig mewn datganoli' (Drakeford 2010) i ddatblygu dull unigryw a blaengar o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr:
    • Drakeford 2010
    • Evans et al 2021
    • Jones a Wyn Jones 2022
    • Thomas 2015
    • Deering a Evans 2021
    • Field 2015
    • Haines 2009
    • Haines a Case 2015
    • Thomas 2015
    • Dehaghani a Newman 2021
  • Trafodaethau ar amrywiadau rhwng Cymru a Lloegr mewn Cyfiawnder Ieuenctid
    • Evans et al 2021
    • Goldson a Briggs 2021
    • Smith a Gray 2019
    • Jones 2017
    • Jones 2018
    • Jones a Wyn Jones 2022
  • Trafodaethau ar garchardai
  • Mae data cyfyngedig ar gael i gefnogi data mwy penodol sydd ar gael gan Lywodraeth y DU
  • Y newid i ddeall bod y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn gweithredu'n wahanol – wedi’i nodweddu gan swydd Comisiwn Thomas i edrych ar awdurdodaeth gyfreithiol Cymru yn fodd o gyrraedd nod – o weithrediad a pherfformiad gwell y System Cyfiawnder yng Nghymru
    • Thomas 2019
    • Henderson a Wyn Jones 2021
    • Jones a Wyn Jones 2022

Bu llenyddiaeth ar ddatganoli Plismona yn bennaf er mwyn llywio'r comisiynau neu'r ddeddfwriaeth yn bennaf, ac i feirniadu gweithrediad y ddeddfwriaeth honno

- Ifan 2019a, 2019b, 2019c, Jones et al 2019, Jones a Wyn Jones 2019, Haines et al 2013, Changing Union and IWA 2014, Rogers a Gravelle 2013.

Byddai datganoli plismona yn gofyn am ymgynghori a chynllunio

- Changing Union and IWA 2014, Comisiwn Thomas 2004, Comisiwn Silk 2014, Comisiwn Thomas 2019.

  • Gallai plismona gael ei ddatganoli ond dim ond ar ôl ymgynghori'n drylwyr a gyda chefnogaeth ymarferwyr.
  • Cyn datganoli plismona, dylai Llywodraeth Cymru lunio strategaeth sy'n dangos sut y byddent yn integreiddio plismona yn well â'r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig presennol ac yn cyflawni gwaith cydlynol yn well

Mae'r dadleuon a gyflwynwyd dros fanteision datganoli plismona yn gyson ynghylch:

- Rogers a Gravelle 2013, Ifan 2019a, 2019b, 2019c, Jones et al 2019, Jones a Wyn Jones 2019.

  • Mwy o gydweithrediad
  • Cyfle i ailgynllunio gwasanaethau
  • Alinio Cyfiawnder Troseddol
  • Gwell cyfathrebu ac atebolrwydd
  • Gwell darpariaeth gwasanaeth sy'n adlewyrchu anghenion lleol

Mae'r meysydd a nodwyd i'w hystyried ymhellach neu faterion posibl ar gyfer datganoli yn ynghylch:

- Rogers a Gravelle 2013, Ifan 2019a, 2019b, 2019c, Jones et al 2019, Jones a Wyn Jones 2019.

  • Nid oes gan Lywodraeth Cymru "gapasiti" digonol ar hyn o bryd i ystyried yn llawn faterion plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru.
  • Mae gweithio mewn silos rhwng adrannau Llywodraeth Cymru a newidiadau rheolaidd i bortffolios Gweinidogol wedi cyfrannu at y trefniadau dryslyd ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru
  • Mae'r trefniadau cyllido ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol yng Nghymru yn ffynhonnell gymhlethdod i ymarferwyr.
  • Mae'r trefniadau ar gyfer plismona a chyfiawnder troseddol yn gymhleth ym mhob lleoliad ac awdurdodaeth. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd o Loegr sydd wedi elwa yn ddiweddar o ddatganoli dinas-ranbarthau.
  • Nid yw'r Swyddfa Gartref yn cymryd Cymru i ystyriaeth
  • Dylid penderfynu ar bolisi plismona a lleihau troseddau, gan gynnwys cam-drin cyffuriau a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, yng Nghymru fel ei fod yn cyd-fynd ac wedi’i integreiddio ag iechyd, addysg a pholisi cymdeithasol Cymru
  • Mae ymchwil ym maes y gyfraith, troseddeg a phlismona yn hanfodol ar gyfer datblygu strategaethau ar gyfer y system gyfiawnder yng Nghymru
  • Pe bai pwerau cyfiawnder a phlismona yn cael eu trosglwyddo i Gymru, byddai angen ystyried concordatau newydd y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Cyllid – yn enwedig mewn cyfnod o gyni a blaenoriaethu iechyd
  • Ymrwymiadau cenedlaethol a rhyngwladol
  • Effaith ar Brosesau Cyfiawnder Troseddol

Mae'r meysydd lle ceir safbwyntiau dargyfeiriol yn cynnwys:

- Changing Nation and IWA 2014, Comisiwn Thomas 2004, Comisiwn Silk 2014, Comisiwn Thomas 2019, Comisiwn Annibynnol 2024.

  • Dylid ystyried datganoli cyfiawnder troseddol ar wahân i ddatganoli plismona
  • Mae un heddlu i Gymru yn ystyriaeth ar gyfer y dyfodol.
  • Dylai datganoli cyfiawnder yn ddeddfwriaethol fod yn nod hirdymor
  • Dylid dileu cyfyngiadau a’r amheuon sy'n llywodraethu pŵer y Cynulliad i ddeddfu ar bob math o gyfiawnder, gan gynnwys plismona a rheoli troseddwyr ac adsefydlu, fel ei fod yn cyfateb yn nes â sefyllfa Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
  • byddai datganoli deddfwriaethol yn rhoi cyfle gwirioneddol i ailedrych ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer plismona, gan gydnabod y dulliau newidiol ar draws Lloegr ac adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan y model PCC cyfredol.
  • Mae pobl yng Nghymru yn meddwl yn anghywir mai materion datganoledig oedd plismona a darlledu
  • Y gwasanaethau mwyaf syml i ddechrau'r broses yw plismona, o ystyried ei strwythur ariannu a llywodraethu a'i pherthynas waith agos â gwasanaethau datganoledig ar lefel genedlaethol a lleol

Cyfeirnodau

Drakeford, M. (2010) ‘Devolution and Youth Justice’ Criminology and Criminal Justice: An International Journal 10(2) 137-54

Evans, J. Jones, R and Musgrove, N. (2021) ‘Dragonisation Revisited: A Progressive Criminal Justice Policy in Wales’ Criminology and Criminal Justice 22 (4) 636-53

Bryant, C (2020) During a Debate on the Commission on of Justice in Wales Vol 670, London House of Commons

Changing Union and the Institute of Welsh Affairs (2014) Submission to the Commission on Devolution in Wales The Devolution of Policing

Deghaghani, R. Newman ,D. (2021) ‘The Crisis in Legally Aided Criminal Defence in Wales: bringing Wales into discussions of England and Wales’ Legal Studies 41(2)

Field, S. (2015) ‘Developing local cultures in criminal justice policy-making: the case of Youth Justice in Wales’ in Wasik, M. and Santatzoglu (eds) The Management of Change in Criminal Justice: Who Knows Best? Basingstoke: Pallgrave Macmillan.

Goldson, B, and Briggs, B. (2021) Making Youth Justice: Local penal cultures and differential outcomes: lessons and prospects for policy and practice London: Howard League for Penal Reform

Haines, K (2009) ‘The Dragonisation of Youth Justice’ in Taylor, W, Earle, R and Hester, R. (ds) Youth Justice Handbook: Theory, Policy and Practice, Cullompton, Willan Publishing

Haines, K, Case, S (2015) Positive Youth Justice : Children First Offenders Second Bristol: Policy Press

Henderson, A. and Wyn Jones, R. (2021) Englishness: The Political Force Transforming Britain Oxford: Oxford University Press

Ifan, G. (2019a) The Legal Economy in Wales Cardiff: Wales Governance Centre

Ifan, G. (2019b) Fiscal Implication of Devolving Justice Cardiff, Wales Governance Centre

Ifan, G. (2019c) Public Spending on Justice System for Wales Cardiff: Wales Governance Centre

Independent Commission on the Constitutional Future of Wales (2024) Final Report of The Independent Commission on the Constitutional Future of Wales

Jones, R. (2017) The Hybrid System: Imprisonment and Devolution in Wales

Jones, R. (2018) Imprisonment in Wales. A Fact File Cardiff: Wales Governance Centre

Jones, R. and Wyn Jones, R. (2019) Justice at the Jagged Edge in Wales Cardiff: Wales Governance Centre

Jones, R, Wyn Jones R. (2022) The Welsh Criminal Justice System On the Jagged Edge Cardiff: University of Wales Press

Lijphart, A. (1999) Patterns of Democracy. Government Reform and Performance in Thirty Six Countries New Haven CT: Yale University Press

McAllister, L. (2005) ‘The Value of the Independent Commissions: An insiders’ Perspective on the Richard Commission’ Parliamentary Affairs 58 (1) 38-52

National Assembly for Wales Constitutional and Legislative Affairs Committee (2012) Inquiry into a Separate Welsh Jurisdiction Cardiff: National Assembly for Wales

Pritchard, H. (2016) Justice in Wales: Principles, Progress and Next Steps Cardiff: Wales Governance Centre

Rawlings, R. (1998) ‘The New Model Wales’ Journal of Law and Society 25(4() 461-509

Rawlings, R. (2018) ‘The Strange Reconstitution of Wales’ Public Law 1:62-83

Rhodes, R. A. W, Wanna, J. and Weller, P. (2009) Comparing Westminster Oxford: Oxford University Press

Rogers, C. and Gravelle, J. (2013). Policing Powers. In Working Group Capacity, Accountability and Powers: Police Powers Cardiff: Institute for Welsh Affairs.

Richard Commission (2004) Report of the Richard Commission Cardiff: National Assembly for Wales

Silk Commission (2014) Empowerment and Responsibility: Legislative Powers to Strengthen Wales

Smith R, and Gray, P (2019) ‘The Changing Shape of Youth Justice models of Practice ‘Criminology and Criminal Justice 19 (5) 554-71

Thomas Commission (2019) Commission on Justice in Wales report

Thomas, S. (2015) Children First, Offenders Second: An aspiration or reality for youth justice in Wales Luton: University of Bedfordshire.

Wyn Jones, R. and Scully, R. (2012) Wales Says Yes: Devolution and the 2011 Welsh Referendum, Cardiff: University of Wales Press