Neidio i'r prif gynnwy

Mae nifer fawr o ffermwyr wedi bod yn mynychu sioeau teithiol ar hyd a lled Cymru i glywed am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiant ac am y cymorth sydd ar gael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod adborth gan y 4,000 o ffermwyr a mwy a aeth i un o ddigwyddiadau sioeau teithiol 'Ffermio ar gyfer y dyfodol' Cyswllt Ffermio wedi dangos pa mor bwysig yw siarad â ffermwyr ar lawr gwlad am ddyfodol eu diwydiant. 

Dywedodd Lesley Griffiths: 

"Mae cryn ansicrwydd ym myd amaeth wrth i ni baratoi i adael yr UE ac rwy'n awyddus i helpu ffermwyr i fod mor wydn â phosib i wynebu unrhyw newidiadau sydd i ddod. Mae'r digwyddiadau hyn wedi bod yn ffordd wych o gyfathrebu â'r diwydiant ac o dynnu sylw at y cymorth yr wyf yn ei ddarparu drwy Gyswllt Ffermio a'r Grant Busnes i Ffermydd."

Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, y cafwyd ymateb gwych i'r ymgyrch ranbarthol a bod nifer yr ymholiadau a nifer y ceisiadau am wasanaethau wedi cynyddu yn sgil y digwyddiadau. 

"Mae'r cymorth sydd ar gael drwy Gyswllt Ffermio yn gwella perfformiad technegol a pherfformiad ariannol ffermydd i’w helpu i bara’n hyfyw yn yr hirdymor yn yr adeg dyngedfennol hon."

Drwy ddod i un o ddigwyddiadau Ffermio ar gyfer y Dyfodol, caiff ffermwyr y cyngor technegol sydd bellach ar gael drwy'r gwasanaeth cynghori heb angen iddynt orfod paratoi cynllun busnes. Mae hefyd yn golygu bod modd i ffermwyr yng Nghymru wneud cais am Grant Busnes i Ffermydd sy'n rhoi grantiau untro rhwng £3,000 a £12,000. Bydd y ffenestr gyntaf yn cau ar 30 Mehefin a disgwylir i un arall agor ym mis Awst. Bydd Cyswllt Ffermio yn trefnu digwyddiadau ychwanegol dros yr haf er mwyn i fwy o ffermwyr allu dod iddynt. 

Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr blaenllaw ym maes busnesau amaethyddol ac ariannol yn siarad yn y digwyddiadau. Hefyd yn bresennol yn y digwyddiadau oedd ffermwyr sydd wedi manteisio ar gymorth Cyswllt Ffermio ac wedi gweld budd ohono. 

Roedd Wendy Jenkins, cyfarwyddwr y cwmni ymgynghorol CARA yn siarad mewn nifer o'r digwyddiadau.  

"Yn ogystal ag unrhyw gymhellion ariannol, daeth yn amlwg o'r digwyddiadau hyn fod yn rhaid i bob busnes weithredu i sicrhau ei fod yn cyrraedd y lefelau gorau posibl o berfformiad technegol a busnes a'i fod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau ym mhob un o'r meysydd hynny y mae modd eu rheoli ac y mae'n rhaid eu rheoli. 

"Mae gwneud mân newidiadau i nifer o feysydd dangosyddion perfformiad allweddol yn gallu talu ar ei ganfed yn yr hirdymor, ac mae'r llu o wasanaethau sydd ar gael gan Gyswllt Ffermio yn gallu cyfrannu'n fawr at hyn," 

dywedodd Ms Jenkins.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai, yn y misoedd i ddod, yn parhau i gymell ffermwyr yng Nghymru i ystyried eu hamcanion tymor hir ar gyfer eu busnesau, i ddefnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffermio ac i ystyried gwneud cais am Grant Busnes i Ffermydd i'w helpu i gyflawni hyn oll.  

"Mae'n hanfodol i sicrhau bod eich busnes yn barod ac yn y sefyllfa orau posib ar gyfer y dyfodol. Nawr yw'r adeg hollbwysig i ddysgu am yr hyn sydd ar gael i chi ac i wneud y mwyaf o'r holl gymorth a'r arweiniad." 

Ar ôl mynychu sioe deithiol Cyswllt Ffermio ar Faes y Sioe Frenhinol, dywedodd Lloyd Powell, sef ffermwr ifanc sy’n ffermio gyda’i deulu yn Glanmiheli, y Drenewydd:

“Gadewais y cyfarfod gyda gwell dealltwriaeth o’r hyn y gall fy nheulu ei wneud i baratoi ein busnes fferm ar gyfer Brexit. Rydym eisoes yn manteisio ar nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio sydd wedi ein helpu i wneud gwell defnydd o’n pridd a’n cnydau. Roedd cynllunio gwaith rheoli maethynnau’n fuddiol iawn ac mae wedi arwain at arbedion ariannol sylweddol drwy leihau costau gwrtaith a gwella ansawdd ein glaswelltir."