Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i helpu byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer gweithredu'r mesurau diogelu newydd.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Ar 5 Ebrill 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai'r cyfreithiau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cael eu cyflwyno. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig yn nodi siomedigaeth â'r penderfyniad hwn. Mae'r Datganiad Ysgrifenedig yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni'r penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU.

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar weithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (5 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella gwasanaethau i'r bobl hynny sydd â diffyg galluedd meddyliol. Bydd hyn yn helpu i baratoi ar gyfer unrhyw benderfyniad gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol i wneud y diwygiadau sydd eu hangen a nodwyd yn Neddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019.

Buom yn ymgynghori'n ddiweddar ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Bydd y rhain yn helpu i amddiffyn hawliau pobl heb y gallu meddyliol i gytuno i'w gofal, eu cefnogaeth a'u triniaeth. Bydd yr wybodaeth yn helpu rhanddeiliaid i baratoi ar gyfer gweithredu'r mesurau diogelu.