Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cynghori ceidwaid da byw i fod yn gwbl barod erbyn i Unedau Cwarantin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ddydd Llun 11 Medi bydd modd i geidwaid da byw yng Nghymru ddewis rhwng defnyddio Uned Gwarantin gymeradwy ar gyfer rheoli symudiadau da byw neu barhau i gadw at y rheol ar wahardd symud am chwe diwrnod ar eu daliad cyfan. Bydd y trefniadau newydd yn symleiddio'r drefn o ran gwahardd symud ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i geidwaid da byw, wrth gadw rheolaeth ar symudiadau anifeiliaid er mwyn helpu i atal clefydau rhag lledaenu.

Dywedodd Lesley Griffiths:

"Rydym wedi datblygu Unedau Cwarantin er mwyn cynnig dewis arall i geidwaid da byw. O ddydd Llun nesaf ymlaen bydd gan bob ceidwad da byw unigol fwy o hyblygrwydd a bodd modd dewis pa drefn - Unedau Cwarantin neu'r Gwaharddiad ar Symud am chwe diwrnod - sy'n diwallu eu gofynion. Byddwn yn cynghori ceidwaid da byw i ymgyfarwyddo â rheolau gweithredol a gofynion yr Unedau Cwarantin, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny."

Ychwanegodd Christianne Glossop:

"Cafodd yr Unedau Cwarantin eu creu ar gais y diwydiant ac ymgynghorwyd â'r diwydiant gydol y broses ddatblygu. Rwy'n hyderus y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol a fydd ar gael o ddydd Llun nesa yn helpu i leddfu'r pryderon y mae'r diwydiant wedi'u codi ynghylch y rheol ar wahardd symud am chwe diwrnod ac y bydd yn helpu i sicrhau na fydd clefydau'n lledu."

Mae rhagor o wybodaeth am Unedau Cwarantin a chanllawiau manwl ynghylch eu rheolau gweithredol a'u gofynion ar tudalennau iechyd a lles anifeiliaid