Gall camau syml, gan gynnwys cael tri brechlyn gwahanol, helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu y gaeaf hwn.
- mae unigolion cymwys yn cael eu hannog i ddod ymlaen i gael eu pigiad rhag y ffliw, eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 a'u brechlyn rhag y feirws syncytiol anadlol (RSV)
- mae'r brechlyn RSV ar wahân ac mae'n hawdd ei anghofio
- mae RSV yn feirws cyffredin sy'n cylchredeg bob gaeaf ac sy'n gallu arwain at salwch difrifol
Gall camau syml, gan gynnwys cael 3 brechlyn gwahanol, helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu y gaeaf hwn.
Mae rhaglenni brechu rhag y ffliw eisoes ar y gweill ledled Cymru, ac mae llawer o bobl wedi arfer dod ymlaen i gael eu pigiad rhag y ffliw neu eu pigiad atgyfnerthu COVID-19.
Ond mae'r brechlyn RSV ar wahân ac mae'n hawdd ei anghofio, yn enwedig gan y rhai sy'n tybio bod eu pigiad rhag y ffliw hefyd yn eu diogelu rhag RSV. Nid yw hynny'n wir, ac mae'r ddau frechlyn yn bwysig.
I Joanne, sy'n ymwelydd iechyd o Sir Benfro, mae peryglon RSV yn real iawn.
Cafodd ei merch ei derbyn i'r ysbyty ar Noswyl Nadolig ar ôl cael prawf positif am RSV. Roedd ei hysgyfaint dde wedi llenwi â mwcws a chafodd ei rhoi ar beiriant CPAP i'w helpu i anadlu.
Dywedodd Joanne:
Mae gweld eich babi'n cael trafferth anadlu yn beth dychrynllyd. Bu bron iddi orfod cael tiwb anadlu, a threuliodd dair wythnos mewn uned dibyniaeth uchel.
Hyd yn oed ar ôl inni ddod â hi adref, roeddwn i mor ofnus y byddai'n mynd yn sâl eto nes i hynny newid y ffordd roedden ni'n byw ein bywydau a pha mor aml roedden ni'n gweld teulu a ffrindiau. Drwy gydol ei blwyddyn gyntaf, roedd pob annwyd yn golygu taith arall at y meddyg teulu, defnyddio anadlwyr, neu fynd yn ôl i'r ysbyty er mwyn iddi allu anadlu'n iawn.
Rwyf am i rieni eraill ddeall nad annwyd drwg yn unig yw RSV. Os byddwch chi'n cael cynnig y brechlyn, boed hynny yn ystod beichiogrwydd neu ar gyfer rhywun hŷn sy'n agos atoch chi, manteisiwch ar y cynnig. Gallai achub eich teulu rhag mynd drwy'r hyn aethon ni drwyddo.
Mae'r feirws syncytiol anadlol, neu RSV, yn feirws cyffredin sy'n cylchredeg bob gaeaf.
Fel arfer mae'n achosi symptomau ysgafn, ond i fabanod, pobl hŷn a'r rhai sydd â system imiwnedd wan, gall arwain at salwch difrifol, gan gynnwys bronciolitis a niwmonia. Ymhlith pobl dros 75 oed yng Nghymru, mae'n arwain at hyd at 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a 9,000 o apwyntiadau meddyg teulu bob blwyddyn.
Mae'r brechlyn RSV yn cael ei gynnig fel mater o drefn drwy gydol y flwyddyn i bob oedolyn 75 oed a throsodd, ac i fenywod beichiog i helpu i ddiogelu babanod newydd-anedig rhag y feirws. Dim ond unwaith y mae angen i bobl hŷn gael y brechlyn, ond dylai menywod beichiog gael y brechlyn yn ystod pob beichiogrwydd.
Ym mis Medi eleni, fel rhan o strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y gaeaf a chanolbwyntio ar atal, cafodd y cynnig ei ehangu hefyd i oedolion rhwng 65 a 74 oed sydd mewn mwy o berygl, gan gynnwys y rhai sydd ag imiwnedd isel neu glefyd anadlol cronig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:
Mae stori Joanne yn ein hatgoffa'n gryf pa mor ddifrifol y gall RSV fod, nid yn unig i bobl hŷn ond hefyd i'n babanod lleiaf a mwyaf agored i niwed. Ni ddylai unrhyw riant orfod treulio'r Nadolig wrth ochr gwely ysbyty ei fabi.
Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i ddod ymlaen i gael eu pigiad rhag y ffliw, eu pigiad atgyfnerthu COVID-19 a'u brechlyn RSV. Maen nhw'n diogelu rhag gwahanol feirysau, a gall hynny wneud y gwahaniaeth rhwng salwch ysgafn ac arhosiad difrifol yn yr ysbyty.
