Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n bosibl y bydd plant ieuengaf Cymru yn dechrau mynd yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau hanner tymor Chwefror, os bydd cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Dyna mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi’i gyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd cyfyngiadau clo lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru dros y tair wythnos nesaf, yn dilyn adolygiad o’r mesurau. Bydd hefyd yn darparu mwy o fanylion am becyn gwerth £200m i ychwanegu at y cymorth i fusnesau.

Mae cyfraddau’r coronafeirws ledled Cymru wedi gostwng yn is na 200 o achosion fesul 100,000 o bobl am y tro cyntaf ers dechrau Tachwedd. A bob dydd, mae miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu dos gyntaf o frechlyn Covid-19 – mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 11% o’r boblogaeth wedi’u brechu.

Bydd y cynllun i ailagor ysgolion cynradd yn un graddol a hyblyg o 22 Chwefror, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella. Caiff myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol eu blaenoriaethu hefyd wrth ailagor colegau yn raddol.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Rydyn ni’n gwneud cynnydd cyson o ran rheoli’r coronafeirws unwaith eto. Bob dydd, mae’r rhaglen frechu yn cyflymu wrth i fwy o bobl gael eu brechu ac wrth i fwy o glinigau agor. Mae pob brechlyn yn fuddugoliaeth fach arall yn erbyn y feirws.

“Rydyn ni wedi gweld gostyngiad yn achosion y feirws ledled Cymru, gostyngiad rydyn ni’n ei groesawu’n fawr, ond maen nhw’n dal i fod yn rhy uchel, ac mae’r GIG yn parhau i fod o dan bwysau aruthrol.

“Mae angen inni gadw’r cyfyngiadau clo yn eu lle am ychydig yn hirach er mwyn dod â chyfraddau’r feirws i lawr ymhellach. Os gallwn ni wneud hyn, fe wnawn ni greu’r hyblygrwydd sydd ei angen arnon ni i allu anfon plant yn ôl i’r ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor – gan ddechrau gyda’r ieuengaf mewn ysgolion cynradd.

“Fe wnawn ni weithio gydag athrawon, colegau ac awdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer ailagor ysgolion yn ddiogel i blant dros yr wythnosau nesaf a rhoi gwybodaeth reolaidd i rieni.”

Bydd dau newid bach i’r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar sydd mewn grym ar hyn o bryd:

  • Caiff dim mwy na dau berson o wahanol aelwydydd wneud ymarfer corff yn yr awyr agored gyda’i gilydd, ond rhaid iddynt gadw pellter cymdeithasol. Rhaid i’r ymarfer corff ddechrau a gorffen wrth y cartref – ni chaniateir gyrru i fannau prydferth i wneud ymarfer corff o hyd.
  • Os yw swigen gefnogaeth wedi dod i ben, ceir ffurfio un newydd, ond rhaid aros 10 diwrnod cyn gwneud hynny.

Daw’r newidiadau hyn i rym ddydd Sadwrn, 30 Ionawr 2021.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Dw i’n gobeithio mai’r ddau gam bach iawn a gofalus hyn fydd y camau cyntaf ar y llwybr tuag at gyfnod pan allwn ni i gyd fyw o dan lai o gyfyngiadau ar ein bywydau, heb ofni’r feirws ofnadwy hwn.”

Bydd y £200m pellach ar gyfer busnesau twristiaeth, hamdden, lletygarwch a siopau nad ydynt yn hanfodol yn helpu cwmnïau gyda’u costau gweithredu, ac yn dod â’r pecyn cymorth busnes a ddarparwyd drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd ers mis Rhagfyr i £650m.

Caiff busnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 daliadau cymorth o rhwng £3,000 a £5,000. Bydd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn darparu mwy o fanylion yn nes ymlaen heddiw.

Mae clo lefel rhybudd pedwar yn golygu:

  • Aros gartref
  • Gweithio gartref os yw’n bosibl
  • Cadw pellter o 2m oddi wrth eraill
  • Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob ardal gyhoeddus dan do
  • Peidio â chwrdd ag unrhyw un nad yw’n perthyn i’ch aelwyd neu eich swigen gefnogaeth