Heddiw, bu'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ar daith o amgylch safle Parc Iechyd newydd Llantrisant gwerth £120m. Bydd y parc yn cyflymu mynediad at brofion a thriniaeth i bobl ledled De-ddwyrain Cymru.
Bydd cam cyntaf y parc iechyd, sydd wedi'i leoli ger Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn sefydlu canolfan ddiagnostig gymunedol o'r radd flaenaf, gan ddarparu gwasanaethau sganio MRI a CT, uwchsain, pelydr-X ac endosgopi.
Ac yntau wedi'i ddatblygu i ddiwallu anghenion gofal iechyd cynyddol a mwyfwy gymhleth y boblogaeth leol, bydd yn cynnwys canolfan hyfforddi bwrpasol ar gyfer gweithlu'r GIG yn y dyfodol.
Dyma'r prosiect buddsoddi cyfalaf mawr cyntaf sydd wedi'i ddatblygu ar y cyd gan dri bwrdd iechyd - sef Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a'r Fro, ac Aneurin Bevan. Mae'r dull rhanbarthol yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu gweld ac y caiff staff ac offer arbenigol yn cael eu rhannu yn fwy effeithlon.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £120m tuag at y prosiect ac mae newydd gytuno ar gyllid i gynhyrchu achos busnes amlinellol ar gyfer y cam nesaf, a fydd yn creu canolfan orthopedig ranbarthol yn y parc iechyd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Mae Parc Iechyd Llantrisant yn fuddsoddiad mawr yn ein GIG, a fydd yn rhoi hwb i'r capasiti profi ac yn ei gwneud hi'n haws ac yn gyflymach i bobl gael asesiadau yn agosach at adref.
“Yn dilyn y buddsoddiad ychwanegol rydyn ni wedi'i ddarparu a gwaith caled staff y GIG, rydyn ni newydd weld y gostyngiad uchaf yn rhestrau aros y GIG, sydd bellach ar eu lefel isaf ers bron chwe blynedd.
“Bydd Parc Iechyd Llantrisant, ynghyd â buddsoddiadau eraill yn ein hystâd GIG, yn helpu i wella mynediad at ofal a lleihau amseroedd aros ymhellach.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
"Rwy'n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar y prosiect mawr hwn, sy'n dangos ein hymrwymiad i adeiladu GIG sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
“Gan ddod â thri bwrdd iechyd ynghyd, rydym yn cymryd camau ymarferol i leihau amseroedd aros a gwella gofal cleifion i bawb yn Ne-ddwyrain Cymru.
Bydd yr hwb hefyd yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o staff y GIG, gan sicrhau bod clinigwyr yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio offer o'r radd flaenaf a fydd yn gwneud ein GIG yn gryfach nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae Parc Iechyd Llantrisant yn gam cyffrous ymlaen i wasanaethau gofal iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru. Drwy ddod â gwasanaethau diagnostig, llawfeddygol ac arbenigol ynghyd mewn un cyfleuster pwrpasol, gallwn wella mynediad, lleihau oedi a darparu profiad gwell i gleifion ledled y rhanbarth.
