Neidio i'r prif gynnwy

Gall Parc Rhanbarthol newydd y Cymoedd gael yr un effaith â Llwybr Arfordir Cymru o ran denu ymwelwyr i Gymru a gwella llesiant cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Alun Davies yn nodi'r cynigion newydd ar gyfer manteisio i'r eithaf ar ddiwylliant naturiol a diwylliannol y Cymoedd, a fydd efallai yn trawsnewid yr economi yn lleol ac yn genedlaethol.

Yn y Gyllideb ddrafft yn gynharach y mis hwn, gwnaethom gyhoeddi cyllid cyfalaf gwerth £7 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd i sefydlu Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd Mr Davies, sy'n gadeirydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, yn nodi sut y bydd y buddsoddiad yn sbarduno'r gwaith o roi'r Cymoedd ar flaen y gad yn fyd-eang, gyda phroffil cenedlaethol a rhyngwladol. 

Byddwn yn:

  • datblygu rhwydwaith da o ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur a pharciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr a chamlesi, ynghyd ag atyniadau a safleoedd treftadaeth, ac yn eu cysylltu â'n trefi a'n pentrefi;
  • cysylltu'r Cymoedd â llwybrau cerdded a llwybrau beicio o ansawdd uchel;
  • buddsoddi mewn safleoedd presennol ar draws y Cymoedd i fod yn Byrth Darganfod, er mwyn annog ffyrdd mwy egnïol o fyw ac arddangos yr hyn sydd gan y Cymoedd i'w cynnig.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, a fu'n ymweld â pharciau rhanbarthol eraill ledled Ewrop i gasglu gwybodaeth ar gyfer y gwaith hwn, ddisgrifio'r cynlluniau fel datganiad uchelgais o ran yr hyn y gellir ei gyflenwi yn y Cymoedd.

Dywedodd,

"Nid un prosiect neu fenter yn unig yw Parc Rhanbarthol y Cymoedd, mae'n ganolog i'n huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae ein diwylliant naturiol a diwylliannol yn eu cynnig i sicrhau manteisio cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol.

“Mae'r Cymoedd yn gynefin i rai o'r tirweddau naturiol mwyaf nodweddiadol ac arbennig yng Nghymru a'r DU. Ond ers amser mae eu hapêl, eu prydferthwch a'u treftadaeth ddiwylliannol, eu gallu i ddenu ymwelwyr; ac i gael eu defnyddio'n llawn a'u cydnabod gan y cymunedau eu hunain, wedi cael eu hanwybyddu ac nid oes unrhyw werth wedi ei roi iddynt. Ni all hyn barhau!

"Er mwyn dechrau ar y gwaith, byddwn yn adeiladu ar y prosiectau arloesol sydd eisoes yn digwydd ac sy’n cael eu datblygu gan gymunedau ar draws y Cymoedd – rhoi rhan i ragor o gymunedau, a chreu rhwydwaith rhannu sgiliau rhwng cymheiriaid.

"Byddwn yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn y Cymoedd i nodi safleoedd presennol sydd â’r un huchelgais a byddwn yn cyhoeddi lleoliad cam cyntaf y Pyrth Darganfod erbyn diwedd y flwyddyn."