Neidio i'r prif gynnwy

Mae ceidwaid adar yn cael eu hatgoffa i barhau i arfer mesurau hylendid a bioddiogelwch trylwyr, ac i barhau i gadw llygad am arwyddion o ffliw adar, wrth i'r gorchymyn i gadw dofednod ac adar caeth dan do gael ei godi heddiw (dydd Mawrth Ebrill 18).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Er bod lefel y risg ffliw adar i ddofednod ac adar caeth wedi lleihau, mae risg o hyd y byddwn yn gweld achosion o’r clefyd.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine:

Mesurau hylendid a bioddiogelwch trylwyr a gofalus yw'r ffordd orau o amddiffyn eich adar rhag ffliw adar. P'un a oes gan geidwaid ychydig o adar neu filoedd ohonyn nhw, mae'n hanfodol eu bod yn arfer y safonau bioddiogelwch uchaf posibl.

Mae’n hollbwysig hefyd eu bod yn cadw llygad ar eu hadar, ac yn rhoi gwybod i’r awdurdodau priodol ar unwaith os ydyn nhw’n gweld unrhyw arwyddion o ffliw adar neu’n amau bod y clefyd ar eu hadar.

Hoffwn i ddiolch i geidwaid adar ar draws Cymru am barhau â’u hymdrechion i gadw’u heidiau’n ddiogel.

Mae Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ), sy'n cynnwys Cymru gyfan, yn parhau i fod ar waith. Fel o'r blaen, mae hynny’n golygu bod gofyn i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gymryd camau priodol ac ymarferol i atal ffliw adar, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw adar a gedwir yn cael mynd ar dir y gwyddys, neu lle mae cryn risg, bod adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, yn mynd arno, neu sy’n cael ei halogi gan eu baw neu eu plu;
  • Sicrhau nad yw ardaloedd lle cedwir adar yn ddeniadol i adar gwyllt, yn enwedig adar y dŵr, er enghraifft, drwy roi rhwydi dros byllau a mannau cyfagos a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd ar gyfer adar gwyllt;
  • Bwydo a rhoi dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig er mwyn cadw adar gwyllt draw;
  • Sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosibl yn mynd i mewn ac allan o’r mannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i’r mannau lle cedwir dofednod, a chadw’r ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Sicrhau bod unrhyw sarn, offer, dillad ac unrhyw beth arall sy'n mynd i mewn i'r ardaloedd lle cedwir adar heb gael eu halogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan HPAI, sy'n cael ei ledaenu'n bennaf drwy faw adar.
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.

Mae'r holl gamau hyn yn bwysig er mwyn diogelu adar. Ochr yn ochr â'r rhain, gall gwblhau'r hunan-asesiad bioddiogelwch gorfodol hefyd helpu ceidwaid i nodi'r mesurau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod eu haid yn ddiogel.
Dylech barhau i gysylltu â llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i adar gwyllt marw, a dylai ceidwaid barhau i gysylltu ag APHA ar 0300 303 8268 ar unwaith os ydynt yn amau bod y clefyd ar eu hadar.