Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates wedi neilltuo £1.2m i barhau i ariannu'r "Cytundeb Tridarn' rhwng Llywodraeth Cymru, Trenau Arriva Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y bartneriaeth ei chreu ym mis Mawrth 2006 gydag arian ar y cyd i recriwtio 21 o Swyddogion Cymorth Cymunedol i wneud teithwyr ar y rheilffyrdd yn fwy diogel.
Bydd y grant refeniw yn parhau, gyda £265,000 yn cael ei neilltuo yn 2018-29, £273,000 yn 2019-20 a £281,000 yn 2020-21 i Heddlu Trafnidiaeth Prydain dalu am bersonel gweithredol ychwanegol yn Is-adran Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo hefyd £194,000 o arian ychwanegol ar gyfer blwyddyn gyntaf (20181-19) a £196,000 ar gyfer ail flwyddyn (2029-20) cynllun peilot i ehangu'r gwasanaeth plismona cymdogaeth yn y Rhyl, Dinbych-y-pysgod a Machynlleth ac ar reilffyrdd yr ardal. 

Yn Ninbych-y-pysgod a Machynlleth, bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yn cydweithio â heddlu'r Swyddfa Gartref. Yn y Rhyl, bydd rhingyll ag iwnifform yn ogystal â Swyddogion Cymorth Cymunedol yn rhan o'r cynllun peilot.  Caiff y cynllun ei arfarnu a gallai gael ei adnewyddu. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:  

"Mae'n rheilffyrdd yn hanfodol i gadw pethau i symud, boed i'n cario i'r gwaith, i gymdeithasu neu i'n helpu i leihau nifer y ceir yn ein trefi a'n dinasoedd. 

"Mae'n bwysig bod teithwyr ar ein trenau'n teimlo'n sâff ac mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain ran bwysig iawn yn hynny o beth. 

"Trwy gynyddu'r gwasanaeth plismona cymdogaeth yn y Rhyl, Dinbych-y-pysgod a Machynlleth, byddwn yn gofalu am deithwyr ar hyd yn oed mwy o leiniau Trenau Arriva Cymru. 

"Mae'n harian wedi helpu Heddlu Trafnidiaeth Prydain, sydd wedi rhagori ar eu targed lleihau troseddau dros y tair blynedd diwethaf, a gwneud yn well na Heddluoedd Trafnidiaeth ardaloedd eraill a heddluoedd y Swyddfa Gartref, ac ennill sawl gwobr. Bydd disgwyl i enillydd masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau barhau i gyfrannu, fel ag y mae Trenau Arriva Cymru heddiw, at y cynllun tridarn.