Arolwg sy’n archwilio faint mae'r cyhoedd yng Nghymru yn fodlon ei dalu am wahanol fathau o fagiau, eu rhesymau dros ailddefnyddio bagiau a newidiadau i'r defnydd o fagiau yn ystod y pandemig COVID-19.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r canfyddiadau a gafwyd mewn arolwg o 1,000 o gyfranogwyr o Gymru. Nod yr ymchwil oedd nodi'r swm uchaf roedd cwsmeriaid yn fodlon talu am fagiau siopa er mwyn ein helpu i ystyried pwyntiau pris posibl ar gyfer pob math o fagiau siopa yn y dyfodol.
Roedd y pris y nododd cyfranogwyr eu bod yn fodlon talu am wahanol fathau o fagiau siopa yn amrywio. Amrywiodd yr ymatebion fwyaf o ran y pris roedd y cyfranogwyr yn fodlon talu ar gyfer bagiau siopa cryf.
Roedd yr amgylchedd yn rheswm cyffredin y nodwyd dros ailddefnyddio bagiau.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys newidiadau i’r defnydd o fagiau siopa yn ystod pandemig COVID-19.
