Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynwyd y gwerthusiad hwn i asesu gweithrediad ac effaith Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru. Mae ychydig o dan £2m wedi’i ddarparu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig (2014–2020) fel cyllid grant uniongyrchol o 100 y cant i gyflawni 46 o brosiectau fferm a choedwigaeth o dan gynllun EIP Cymru dros chwe blynedd o 1 Awst 2016 i 30 Mehefin 2023. Mae’r prosiectau hyn yn cael eu cyflawni gan Grwpiau Gweithredol, sy’n cael eu harwain gan ffermwyr neu goedwigwyr ar y cyd â rhanddeiliaid eraill fel sefydliadau ymchwil neu gyrff anllywodraethol, ac maent wedi’u dylunio i brofi technolegau neu syniadau arloesol o fewn busnesau ffermio a choedwigaeth er mwyn meithrin arloesedd a gwella arferion. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Menter a Busnes, mewn partneriaeth â Chyswllt Ffermio, a chaiff ei gynorthwyo gan y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth a Broceriaid Arloesi.

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud yn bennaf â gwerthuso’r broses weithredu, ac rydym hefyd yn ystyried effaith y prosiectau a gwblhawyd hyd yma. Fe'i llywiwyd gan arolwg o 84 o aelodau’r Grwpiau Gweithredol a 30 o bobl nad ydynt yn fuddiolwyr, cyfweliadau ag 17 o staff cyflawni, Broceriaid Arloesi, a rhanddeiliaid allanol, ac adolygiad cynhwysfawr o wybodaeth fonitro'r cynllun. Bydd yr adroddiad gwerthuso terfynol yn cael ei gwblhau yn 2023 ac yn bennaf bydd yn ceisio darparu asesiad effaith o brosiectau’r EIP a'r cynllun yn ei gyfanrwydd o ran y nodau cyffredinol, y dangosyddion perfformiad, a'r canlyniadau.

Defnyddiwyd wyth cwestiwn gwerthuso i arwain y cam gwerthuso interim. Yn y crynodeb gweithredol hwn rydym yn mynd i'r afael â phob cwestiwn ac yn trafod y canfyddiadau a'r argymhellion allweddol.

Beth yw lefel yr ymgysylltiad â’r cynllun?

Mae dosbarthiad daearyddol y ffermydd sy’n rhan o’r cynllun yn adlewyrchu'n fras ddosbarthiad y ffermydd ledled Cymru. Mae’r cynllun wedi cynnwys ffermwyr a choedwigwyr o bob rhan o Gymru, er bod rhai ardaloedd wedi’u tangynrychioli, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Gwynedd, tra bod 10 sir sy’n llai adnabyddus am amaethyddiaeth ond sydd gyda’i gilydd yn cyfrif am 13 y cant o holl ffermydd Cymru heb gynrychiolaeth yn y cynllun.

Cig coch yw un o’r prif sectorau a gwmpaswyd yn y cynllun, gan adlewyrchu mor gyffredin yw ym myd amaethyddiaeth yng Nghymru, tra bod ffermwyr llaeth wedi’u gorgynrychioli’n sylweddol, efallai’n arwydd o’r heriau a wynebodd y sector yn y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi cynyddu’r angen i arloesi.

Mae’r busnesau ffermio a gymerodd ran yn y cynllun wedi bod yn fwy nag sy’n arferol o ran eu maint a’u trosiant, gan adlewyrchu ei fod yn gynllun sydd wedi’i ddylunio ar gyfer sefydliadau mwy masnachol sydd â diddordeb mewn gwella eu gweithrediadau busnes. Yn yr un modd, maent hefyd yn bennaf wedi bod yn fusnesau sydd yn rhan o'r seilwaith cymorth ehangach, sy'n cofleidio sgiliau, gwybodaeth a thechnoleg newydd. Felly, yn gyffredinol gellir disgrifio aelodau'r Grwpiau Gweithredol fel y ‘wynebau cyfarwydd’ gan fwyaf, er bod busnesau ffermio eraill wedi ymgysylltu hefyd; er enghraifft, dywedodd 26 y cant nad oeddent wedi cael grantiau eraill na chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru na chyrff cyhoeddus eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Heblaw am darged o ymgysylltu ag o leiaf dri phrosiect coedwigaeth, roedd y broses recriwtio’n agored iawn heb unrhyw sectorau penodol, mathau o fusnesau/prosiectau, na meysydd wedi'u targedu'n benodol. Y cyfan a wnaeth y tîm cyflawni oedd ceisio sicrhau bod trawstoriad eang o brosiectau a busnesau’n ymwneud â’r cynllun. Er bod hyn yn cyd-fynd â natur anrhagnodol, o'r gwaelod i fyny, y cynllun, mae hefyd yn golygu bod gan y cynllun lai o reolaeth i sicrhau bod y prosiectau a gefnogir yn cyfateb i'r meysydd sydd â'r angen mwyaf am arloesi ac i'r amcanion strategol perthnasol.

Argymhelliad 1

Mae cynlluniau’r EIP ledled Ewrop wedi amrywio o ran pa mor ragnodol ydynt, o ymagwedd o'r brig i lawr i'r dull o'r gwaelod i fyny a ffefrir yng Nghymru. Er bod manteision clir i’r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru, efallai y bydd cynlluniau yn y dyfodol am ystyried mabwysiadu rhyw lefel o dargedu er mwyn sicrhau bod prosiectau’n cyfateb i amcanion strategol a’r meysydd sydd â’r angen mwyaf. Yn sail i hyn, dylid cael dadansoddiad i nodi'r prif feysydd o fewn amaethyddiaeth a choedwigaeth y mae angen arloesi ynddynt.

Roedd yr arbenigedd a gynigiwyd gan y cynllun yn ysgogiad pwysicach er mwyn i fusnesau ymwneud ag ef nag oedd y cymorth ariannol i gyflawni'r prosiectau. Mae hwn yn bwynt pwysig i'w ystyried wrth feddwl am sut y dylai cynlluniau edrych yn y dyfodol ac a ddylai fod elfen hwyluso.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi mwy o bwyslais ar ddarparu arbenigedd a chymorth hwyluso a llai o bwyslais o bosibl ar gymorth grant mewn cynlluniau yn y dyfodol sy’n canolbwyntio ar dreialu dulliau arloesol o weithio yn y sectorau ffermio a choedwigaeth.

Mae’r llwybrau i mewn i'r cynllun wedi cynnwys cymysgedd o gyfathrebu rhagweithiol trwy amryw sianeli Cyswllt Ffermio, er bod hynny’n bennaf yn golygu’r Swyddogion Datblygu, ac ar lafar, yn enwedig gan gymheiriaid. Mae pryder, fodd bynnag, y bydd ffermwyr nad ydynt eisoes yn rhan o’r seilwaith cymorth yn llawer llai tebygol o fod wedi cael gwybod am y cynllun, o ystyried y ddibyniaeth ar sianeli Cyswllt Ffermio

Argymhelliad 3

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried ffyrdd i ymgysylltu â'r ffermwyr 'anodd eu cyrraedd' nad ydynt yn rhan o'r seilwaith cymorth ehangach. Y brif ffordd y daeth y busnesau hynny i wybod am EIP Cymru oedd trwy gymheiriaid (e.e. ffermwyr cyfagos). Gallai cynlluniau yn y dyfodol ystyried annog aelodau i wahodd cymheiriaid ar wahân i’r 'wynebau cyfarwydd' yn fwy penodol.

Pa mor effeithiol yw'r broses ymgeisio, asesu a gwneud penderfyniadau?

Mae’r gwerthusiad wedi canfod bod y prosesau ymgeisio ac arfarnu yn gadarn, sydd wedi caniatáu i’r prosiectau gael eu hasesu yn ôl eu teilyngdod gwyddonol. Er ei fod yn gynhwysfawr ac yn debygol o gymryd gormod o amser ac o fod yn rhy yn anodd i'r rhan fwyaf o ffermwyr ei gwblhau, lliniarwyd hyn gan y ffaith y rhoddwyd rhyddid i’r Broceriaid Arloesi arwain y broses. Roedd y ffermwyr a’r coedwigwyr yn fodlon â’r cyfaddawd hwn ar y cyfan, er bod rhai rhanddeiliaid allanol yn pryderu ei fod yn rhoi gormod o ddylanwad i’r Broceriaid Arloesi ar ddyluniad y prosiectau, gan effeithio felly ar y dull o’r gwaelod i fyny.

Gwnaethom ganfod hefyd bod diffyg detholusrwydd yn y prosesau, a bod y grantiau’n cael eu dyfarnu bron ar sail y cyntaf i’r felin (cyhyd â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd). Byddai bod yn fwy detholus yn cyd-fynd yn well ag egwyddorion cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig, a gallai sicrhau grŵp ehangach o brosiectau i ddewis o’u plith fod wedi arwain at ddethol prosiectau gwahanol neu well o bosibl.

Argymhelliad 4

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried mabwysiadu ffenestri ariannu fel y gellir sgorio prosiectau yn erbyn ei gilydd, a thrwy hynny sicrhau mwy o ddetholusrwydd o ran y prosiectau y dyfernir cyllid iddynt.

Pa mor effeithiol yw rôl y Brocer Arloesi?

Mae’r Broceriaid Arloesi wedi chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni prosiectau EIP Cymru. Mewn gwirionedd, ychydig iawn fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth y Broceriaid Arloesi, o ystyried cymhlethdodau rheoli’r prosesau ymgeisio cychwynnol a’r angen i reoli prosiectau a all gynhyrchu canlyniadau cadarn. Y prif werth fu'r cymorth hwyluso — y cymorth i gydlynu gweithgarwch a threfnu'r gwahanol agweddau, e.e. cyrchu deunyddiau, amserlenni samplu, casglu data ac ati. Roedd rhai rhanddeiliaid yn teimlo y gellid cyflawni’r rôl hon am gost is drwy ddefnyddio tîm mawr o staff craidd, tra bod eraill yn credu y dylai gael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan ffermwyr i aros yn driw i’r dull o’r gwaelod i fyny yn y ffurf buraf. Mae'n debygol y byddai anfanteision sylweddol i'r ddau ddull hynny, gan effeithio ar y trylwyredd gwyddonol ac, felly, ar werth y prosiectau sy'n cael eu cyflawni. Yn yr un modd, mae'n debygol nad oes angen cymorth arbenigwr ar bob prosiect; gellid eu cyflawni gyda chymorth hwyluso mwy elfennol gan aelod o'r tîm cyflawni.

Argymhelliad 5

Dylid cadw elfen o rôl y Broceriaid Arloesi mewn cynlluniau yn y dyfodol lle mae ar brosiectau angen yr arbenigedd neu'r profiad y gallant eu darparu. Fodd bynnag, gallai cynlluniau'r dyfodol hefyd ystyried cael tîm mwy o staff craidd a allai gymryd cyfrifoldeb am reoli'r prosiectau 'symlach'.

Pa mor effeithiol yw'r agweddau allweddol eraill ar ddyluniad y cynllun?

Roedd consensws cyffredinol bod maint y grant yn briodol, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ffermwyr. Yn gysylltiedig â hyn, mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn credu bod eu prosiectau wedi’u seilio ar eu syniadau hwy. Cafwyd rhai enghreifftiau lle y gwnaeth rhanddeiliad arall (e.e. milfeddyg) gyflwyno’r syniad, neu lle y mae Llywodraeth Cymru wedi annog prosiect strategol, er ei bod yn ymddangos mai lleiafrif yw'r rhain. Fodd bynnag, o ran cyflawni prosiectau’n wirioneddol, mae'n ymddangos ei fod wedi bod yn fwy cymysg, gyda Broceriaid Arloesi’n arwain ar lawer o'r gweithgarwch.

Er bod maint y grantiau'n briodol i dreialu syniadau newydd a meithrin arloesedd, roedd rhai rhanddeiliaid yn pryderu am effaith strategol buddsoddiadau o'r fath, gan nad oedd mecanwaith ar waith i sicrhau y byddai'r effaith yn cael ei theimlo'n ehangach ar draws y sector.

Argymhelliad 6

Dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried ymgorffori cronfa ddilynol ar wahân y gellid ei chlustnodi ar gyfer y prosiectau mwyaf llwyddiannus a hawsaf i’w cyflwyno ar raddfa fwy a chaniatáu iddynt gynyddu’r gweithgarwch drwy ddenu mwy o ffermwyr.

Mae lefel y cydweithio o fewn Grwpiau Gweithredol wedi amrywio o brosiect i brosiect, er ei fod wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Roedd rhai’n teimlo mai dyma oedd y rhan orau o'r prosiect, ac yn gwerthfawrogi'r cyfle i gyfnewid gwybodaeth gydag aelodau eraill o’r Grŵp Gweithredol. Bu enghreifftiau hefyd o fusnesau’n gweithio gyda sefydliadau o sectorau eraill am y tro cyntaf, tra bod y mwyafrif helaeth yn nodi eu bod yn bwriadu cynnal y perthnasoedd hyn y tu hwnt i gyfnod cyflawni’r prosiect. Fodd bynnag, bu llai o gydweithio â Grwpiau Gweithredol eraill, er bod uchelgais cychwynnol i’r Grwpiau Gweithredol ddod i gyswllt â grwpiau eraill ar draws yr Undeb Ewropeaidd sy’n gweithio ar themâu tebyg. 

Argymhelliad 7

Dylai'r tîm cyflawni ystyried a oes cyfleoedd ar gyfer mwy o rwydweithio i rannu’r hyn a ddysgir / lledaenu gwybodaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Pa mor effeithiol fu gweithgareddau i ledaenu canfyddiadau prosiectau?

Mae lledaenu canfyddiadau'r prosiectau wedi dibynnu ar gyfuniad o ddull cyfathrebu profedig Cyswllt Ffermio (e.e. gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, cylchgrawn Cyswllt Ffermio, a diwrnodau agored) ynghyd â rhwydweithio rhwng cymheiriaid. Ceir enghreifftiau lle mae’r dull hwn yn dwyn ffrwyth, yn enwedig o ran rhai o’r digwyddiadau diwrnod agored llwyddiannus sydd wedi denu nifer fawr o ffermwyr. Ceir tystiolaeth anecdotaidd hefyd i awgrymu bod ymholiadau wedi’u gwneud ynghylch mabwysiadu arferion newydd. Fodd bynnag, bydd angen profi effeithiolrwydd y dull hwn ymhellach yn ystod y cam gwerthuso terfynol, gan fod llai na hanner y prosiectau wedi'u cwblhau yn y cyfnod yn arwain at yr adroddiad hwn. Yn unol â hynny, mae'n llawer rhy gynnar i lunio unrhyw farn bendant ynghylch lledaenu, a dim ond rhai canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg y gallwn eu cynnig ar hyn o bryd.

Mae’r dystiolaeth hyd yma yn dangos y bu’r lledaenu rhwng cymheiriaid yn gymysg, gydag ychydig dros hanner aelodau’r Grwpiau Gweithredol mewn prosiectau a gwblhawyd yn nodi eu bod wedi trafod canfyddiadau gyda’u cymheiriaid. O ystyried pwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth rhwng cymheiriaid yn y sector amaethyddiaeth, gallai hyn fod yn elfen bwysig iawn o'r dull lledaenu a llwyddiant cyffredinol y cynllun.

Argymhelliad 8

Dylai’r tîm cyflawni gynnal sesiynau gydag aelodau’r Grwpiau Gweithredol i bwysleisio pwysigrwydd rhannu canfyddiadau â ffermwyr a choedwigwyr o’r tu allan i’r grŵp. Lle bo modd, dylid sicrhau bod gan aelodau’r Grwpiau Gweithredol ddeunyddiau lledaenu y gellir eu defnyddio i rannu canfyddiadau allweddol eu prosiectau.

Pa mor arloesol fu'r prosiectau?

Bu'r prosiectau’n amrywiol iawn, gan gynrychioli cymysgedd sydd fel arfer wedi canolbwyntio ar weithgareddau ymarferol y mae modd eu cyflwyno ar raddfa fwy, tra bo nifer llai wedi bod yn fwy anghonfensiynol a gellir eu disgrifio fel rhai mwy arloesol. Yn gyffredinol, mae’n ymddangos bod cynllun EIP Cymru wedi canfod cydbwysedd rhwng y gwahanol ystyriaethau hyn, gan ddefnyddio diffiniad eang o arloesi er mwyn sicrhau y gall y diwydiant elwa cymaint â phosibl.

Beth fu eu heffaith?

Mae mwyafrif helaeth aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn credu bod eu prosiect wedi bod yn llwyddiant. Mae’r rhan fwyaf wedi cyflwyno newidiadau, mae’r rhan fwyaf yn dweud eu bod wedi derbyn y buddion yr oeddent yn gobeithio y byddai’r prosiectau’n eu cynhyrchu, ac roedd rhai yn gallu dangos arbedion cost neu incwm newydd a gynhyrchwyd o ganlyniad i’w prosiect. Mae'n werth nodi hefyd, mewn rhai achosion lle nad oedd prosiectau wedi cyflawni'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, gallai'r dysgu hwn ynddo'i hun o'r hyn nad yw'n gweithio gael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol o hyd. Ymhellach, mae'n ymddangos bod y cynllun wedi meithrin arloesedd, gydag aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn nodi eu bod yn fwy hyderus a gwybodus, ac yn debygol o arloesi yn y dyfodol o ganlyniad i gymorth yr EIP. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu lefel uchel o ychwanegedd mewn perthynas â’r effeithiau hyn, lle mae’n debygol na fyddai’r rhan fwyaf o’r prosiectau wedi mynd rhagddynt o gwbl heb gymorth EIP Cymru.

A yw’r cynllun wedi mynd i’r afael â’r themâu trawsbynciol a’r amcanion trawsbynciol?

Mae’r dystiolaeth yn datgelu bod y themâu trawsbynciol (h.y. Cyfle Cyfartal, Prif Ffrydio Rhywedd a’r Iaith Gymraeg (thema drawsbynciol 1), Datblygu Cynaliadwy (thema drawsbynciol 2), a Threchu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol (thema drawsbynciol 3)) yn cael sylw drwy EIP Cymru, yn enwedig o ran datblygu cynaliadwy a threchu tlodi, lle mae’r ymdrechion i greu buddion amgylcheddol ac economaidd cadarnhaol wedi’u cysylltu’n gynhenid â’r prosiectau. 

Yn wir, gofynnwyd i’r ymgeiswyr ddangos hyn yn ystod y broses ymgeisio gychwynnol, ac mae ein hadolygiad yn dangos bod 45 o’r 46 o geisiadau’n honni y byddent yn mynd i’r afael â thema drawsbynciol 1 trwy gael cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y Grwpiau Gweithredol, neu na fyddai unrhyw un yn cael eu heithrio ar sail eu rhywedd neu grŵp cymdeithasol. Siaradodd llawer hefyd am gynnwys y “genhedlaeth nesaf” a sut roedd y prosiectau’n ceisio darparu gwell cyfleoedd i bobl ifanc, e.e. trwy weithio gyda cholegau amaethyddol. Ymhellach, roedd 43 o'r dogfennau cais yn honni eu bod yn cyflawni yn erbyn thema drawsbynciol 2, gan amlygu'r effeithiau uniongyrchol ar yr amgylchedd pe bai'r arferion newydd yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Roedd 43 o’r dogfennau cais hefyd yn honni eu bod yn mynd i’r afael â thema drawsbynciol 3 trwy wella sgiliau, creu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth a rhai gwell, cynyddu proffidioldeb ariannol, a chaniatáu i ffermwyr, a allai wynebu arwahanrwydd cymdeithasol, ddatrys problemau gyda’i gilydd.

Yn ogystal, mae'r cynllun wedi cyfrannu at dri amcan trawsbynciol y Cynllun Datblygu Gwledig (sef arloesi, yr amgylchedd, a lliniaru ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd) am lawer o'r un rhesymau. Mae cysylltiad cynhenid ag arloesi oherwydd prif fyrdwn y cynllun yw helpu ffermwyr a choedwigwyr i ddatblygu arferion newydd a gwell, tra bod effaith amgylcheddol bosibl yr arferion newydd hyn yn cyd-fynd â’r ddau amcan arall.

Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn awgrymu bod cynllun EIP Cymru wedi’i gyflawni’n effeithiol hyd yma. Roedd cytundeb cyffredinol bod yr ystod o brosiectau a gefnogwyd wedi bod yn briodol a bod ganddynt y potensial i’w cyflwyno ar raddfa fwy a, thrwy hynny, greu effeithiau cadarnhaol ar lefel ehangach y diwydiant. Cynorthwywyd hyn gan broses ymgeisio ac arfarnu gadarn a chymorth hwyluso effeithiol gan Fenter a Busnes a Broceriaid Arloesi. Er y bu cryn amrywiaeth o ran y graddau y mae ffermwyr a choedwigwyr wedi perchnogi’r prosiectau, ymgysylltiad aelodau’r Grwpiau Gweithredol yn ehangach, a’r gweithgarwch cydweithredol, canfuwyd y bu’r rhain yn gadarnhaol ar y cyfan. Y prif gwestiwn ynglŷn ag effaith y cynllun hwn yn y pen draw yw a all godi ymwybyddiaeth yn ddigonol ac annog busnesau eraill yn y sector i fabwysiadu arferion newydd er mwyn ehangu'r buddion ymhellach. Dechrau archwilio’r cwestiwn hwn yn unig yr ydym yn yr adroddiad gwerthuso hwn gan ganfod yn sicr fod enghreifftiau lle mae hyn yn dechrau digwydd. Fodd bynnag, bydd angen rhoi mwy o ffocws i hyn ar gam y gwerthusiad terfynol. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad, mae’r adroddiad gwerthuso terfynol wedi’i amserlennu ar gyfer 2023 a bydd yn canolbwyntio’n benodol ar asesu effaith y cynllun.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Ioan Teifi, Endaf Griffiths (Wavehill)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm ymchwil, monitro a gwerthuso
Ebost: gwerthuso.ymchwil@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 2/2023
ISBN digidol 978-1-80535-246-4

Image
European agricultural fund for rural development

 

 

 

 

Image
GSR logo