Mae cyn-gartref gofal yng nghanol Merthyr Tudful wedi cael ei ailddatblygu er mwyn darparu llety dros dro i bobl ifanc ac oedolion sydd mewn argyfwng.
Mae Marsh House yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i ddarparu 11 uned o lety â chymorth i bobl ifanc ddigartref, 22 uned o lety dros dro, a chyfleuster galw heibio cymunedol.
Mae’r nodweddion ychwanegol sydd ar gael yno yn cynnwys ceginau cymunedol, lolfeydd, ystafell gemau ac ystafell deledu, llety ar gyfer y staff, mannau lles yn yr awyr agored, a darpariaethau teithio llesol.
Bydd yn ganolfan asesu a brysbennu ar gyfer pobl ddigartref, gan ddarparu ymyriadau i bobl y bydd arnynt angen llety dros dro mewn argyfwng.
Mae'r gwaith arloesol i drawsnewid yr adeilad yn ganlyniad i waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cartrefi Cymoedd Merthyr, a Pobl.
Cafwyd mwy na £1 filiwn o gymorth ar gyfer y gwaith adnewyddu drwy Cyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer Trawsnewid Trefi, a chafwyd cymorth hefyd ar ffurf cyllid cyfalaf craidd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Bydd cyllid ychwanegol o’r Grant Cymorth Tai yn helpu Cartrefi Cymoedd Merthyr gyda’i waith.
Cafodd Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, y pleser yn ddiweddar o ymweld â Marsh House a chyfarfod â rhai o'i drigolion i drafod eu profiadau bywyd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae prosiect Marsh House yn hyrwyddo gwaith i adfer adeiladau allweddol yng nghanol ein trefi, yn ogystal â darparu llety dros dro hanfodol, llety byw â chymorth, a gwasanaethau mewnol sy’n cael eu teilwra ar gyfer trigolion lleol.
Mae'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn Marsh House yn dangos y gallwn ni, drwy weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth, helpu i gefnogi’n cymunedau pan fydd arnyn nhw ein hangen fwyaf.
Nid dim ond drwy ddarparu tai y gallwn ni atal digartrefedd, ac rydyn ni wedi cydnabod ers tro fod gan bob gwasanaeth cyhoeddus, a'r trydydd sector hefyd, ran i'w chwarae er mwyn rhoi diwedd arno.
Mae pawb yn haeddu cael rhywle i'w alw'n gartref, a hoffwn i weld y math hwn o brosiect mewn ardaloedd eraill sy'n wynebu heriau tebyg.
Dywedodd Lorraine Griffiths, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymorth) Grŵp Pobl:
Fel y darparwr gwasanaethau cymorth mwyaf yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, roedd Pobl yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Marsh House.
Mae ein gwasanaeth cymorth newydd, Marsh House, yn dangos sut rydym yn gweithio mewn ffordd amlasiantaeth mewn amgylchedd sy'n wybodus yn seicolegol i gefnogi'n gadarnhaol y rhai sydd ei angen fwyaf ar eu taith i greu cartref sefydlog a diogel.
Ym mis Hydref 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn trawsnewid profiad pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref drwy newid y system ddigartrefedd yn sylfaenol, a hefyd drwy newid rôl y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system honno ac sy’n gysylltiedig â hi.